Cyflogi pobl: addasiadau gweithle

Wedi ei gyhoeddi: 18 Tachwedd 2019

Diweddarwyd diwethaf: 18 Tachwedd 2019

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae cyfraith cydraddoldeb yn cydnabod y gall sicrhau cydraddoldeb i bobl anabl olygu newid y ffordd y mae cyflogaeth wedi'i strwythuro, dileu rhwystrau corfforol a/neu ddarparu cymorth ychwanegol i weithiwr anabl.

Dyma'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol.

Nod y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yw sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol, bod gan weithiwr anabl yr un mynediad i bopeth sy’n ymwneud â gwneud a chadw swydd â pherson nad yw’n anabl.

Pan fydd y ddyletswydd yn codi, rydych o dan ddyletswydd gadarnhaol a rhagweithiol i gymryd camau i ddileu neu leihau neu atal y rhwystrau y mae gweithiwr anabl neu ymgeisydd am swydd yn eu hwynebu.

Mae'n rhaid i chi wneud addasiadau dim ond pan fyddwch chi'n ymwybodol – neu y dylech chi'n rhesymol fod yn ymwybodol – bod gan weithiwr anabledd.

Ni fydd llawer o’r addasiadau y gallwch eu gwneud yn arbennig o ddrud, ac nid oes gofyn i chi wneud mwy na’r hyn sy’n rhesymol i chi ei wneud. Mae'r hyn sy'n rhesymol i chi ei wneud yn dibynnu, ymhlith ffactorau eraill, ar faint a natur eich sefydliad.

Fodd bynnag, os na fyddwch yn gwneud dim, ac y gall gweithiwr anabl ddangos bod rhwystrau y dylech fod wedi’u nodi ac addasiadau rhesymol y gallech fod wedi’u gwneud, gallant ddwyn hawliad yn eich erbyn yn y Tribiwnlys Cyflogaeth, ac efallai y cewch orchymyn i dalu iawndal yn ogystal â gwneud yr addasiadau rhesymol.

Yn benodol, yr angen i wneud addasiadau ar gyfer gweithiwr unigol:

  • ni ddylai fod yn rheswm i beidio â dyrchafu gweithiwr os mai nhw yw’r person gorau ar gyfer y swydd gyda’r addasiadau yn eu lle
  • ni ddylai fod yn rheswm i ddiswyddo gweithiwr
  • rhaid ei ystyried mewn perthynas â phob agwedd ar swydd gweithiwr
  • ar yr amod bod yr addasiadau yn rhesymol i chi eu gwneud.

Bydd llawer o ffactorau ynghlwm wrth benderfynu pa addasiadau i'w gwneud a byddant yn dibynnu ar amgylchiadau unigol. Bydd angen newidiadau gwahanol ar wahanol bobl, hyd yn oed os yw'n ymddangos bod ganddynt namau tebyg.

Fe'ch cynghorir i drafod yr addasiadau gyda'r gweithiwr anabl, neu efallai na fydd yr addasiadau'n effeithiol.

Mae gweddill yr adran hon yn edrych ar fanylion y ddyletswydd ac yn rhoi enghreifftiau o'r mathau o addasiadau y gallech eu gwneud.

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082

Diweddariadau tudalennau