I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Mae’r ddyletswydd yn cynnwys tri gofyniad sy’n berthnasol mewn sefyllfaoedd lle byddai person anabl fel arall yn cael ei roi dan anfantais sylweddol o’i gymharu â phobl nad ydynt yn anabl.
Mae'r gofyniad cyntaf yn ymwneud â newid y ffordd y caiff pethau eu gwneud (mae cyfraith cydraddoldeb yn sôn am ble mae gweithiwr swydd anabl yn cael ei roi dan anfantais sylweddol gan ddarpariaeth, maen prawf neu arfer eu cyflogwr).
Mae'r ail ofyniad yn ymwneud â gwneud newidiadau i oresgyn rhwystrau a grëwyd gan nodweddion ffisegol eich gweithle.
Mae'r trydydd gofyniad yn ymwneud â darparu offer ychwanegol (y mae cyfraith cydraddoldeb yn ei alw'n gymorth ategol) neu gael rhywun i wneud rhywbeth i gynorthwyo'r person anabl (y mae cyfraith cydraddoldeb yn ei alw'n wasanaeth ategol).
Edrychir yn fanylach ar bob un o'r gofynion hyn yn ddiweddarach yn y rhan hon o'r canllaw.
Cyngor a chefnogaeth
Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .
Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Ffôn: 0808 800 0082
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
19 Chwefror 2019
Diweddarwyd diwethaf
19 Chwefror 2019