I bwy mae'r ddyletswydd addasiadau rhesymol yn berthnasol?

Wedi ei gyhoeddi: 19 Chwefror 2019

Diweddarwyd diwethaf: 19 Chwefror 2019

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae’r ddyletswydd yn berthnasol i unrhyw berson anabl sydd:

  • yn gweithio i chi, neu
  • yn gwneud cais am swydd gyda chi, neu
  • yn dweud wrthych eu bod yn ystyried gwneud cais am swydd gyda chi.

Mae'n berthnasol i bob cam ac agwedd ar gyflogaeth. Felly, er enghraifft, pan fo dyletswydd yn codi, rhaid i chi wneud addasiadau rhesymol i weithdrefnau a phenderfyniadau disgyblu neu ddiswyddo. Nid oes gwahaniaeth a oedd y gweithiwr yn berson anabl pan ddechreuodd weithio i chi, neu a yw wedi dod yn berson anabl tra'n gweithio i chi.

Gall y ddyletswydd fod yn berthnasol hefyd ar ôl i gyflogaeth ddod i ben.

Mae'r ddyletswydd hefyd yn berthnasol mewn perthynas â gwasanaethau cyflogaeth, gyda rhai gwahaniaethau a eglurir yn gynharach yn y canllaw hwn.

Efallai y bydd angen addasiadau rhesymol hefyd mewn perthynas â chynlluniau pensiwn galwedigaethol. Esbonnir hyn yn gynharach yn y canllaw hwn.

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082

Diweddariadau tudalennau