Darparu offer neu gymhorthion ychwanegol

Wedi ei gyhoeddi: 19 Chwefror 2019

Diweddarwyd diwethaf: 19 Chwefror 2019

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae trydydd gofyniad y ddyletswydd yn ymwneud â darparu offer ychwanegol – y mae cyfraith cydraddoldeb yn ei alw’n gymhorthion ategol – a gwasanaethau ategol, lle defnyddir rhywun arall i gynorthwyo’r person anabl, megis darllenydd, dehonglydd iaith arwyddion neu weithiwr cymorth.

Gall cymorth neu wasanaeth ategol ei gwneud yn haws i berson anabl wneud ei waith neu gymryd rhan mewn cyfweliad neu broses ddethol. Felly dylech ystyried a yw'n rhesymol darparu hyn.

Bydd y math o offer neu gymorth neu wasanaeth yn dibynnu'n fawr ar y person anabl unigol a'r swydd y mae neu y bydd yn ei gwneud neu'r hyn sydd ynghlwm wrth y broses recriwtio. Efallai y bydd gan y person anabl ei hun brofiad o'r hyn sydd ei angen arno.

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082

Diweddariadau tudalennau