Darganfod a yw rhywun yn berson anabl

Wedi ei gyhoeddi: 19 Chwefror 2019

Diweddarwyd diwethaf: 19 Chwefror 2019

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Beth sy'n rhesymol?

Mae'n rhaid i chi wneud y newidiadau hyn dim ond pan fyddwch yn gwybod neu y gellid disgwyl yn rhesymol i chi wybod bod gweithiwr yn berson anabl a'i fod - neu'n debygol o fod - o dan anfantais sylweddol o ganlyniad. Mae hyn yn golygu gwneud popeth y gellir yn rhesymol ddisgwyl i chi ei wneud i ddarganfod y ffeithiau.

Enghraifft -

Mae perfformiad gweithiwr wedi gwaethygu'n ddiweddar ac maent wedi dechrau bod yn hwyr i'r gwaith. Cyn hynny, roedd ganddynt record dda iawn o brydlondeb a pherfformiad. Yn hytrach na dweud wrthynt fod yn rhaid iddynt wella, mae eu cyflogwr yn siarad â nhw yn breifat. Mae hyn yn galluogi'r cyflogwr i wirio a allai'r newid mewn perfformiad fod am reswm yn ymwneud ag anabledd. Mae'r gweithiwr yn dweud ei fod yn dioddef o iselder sydd wedi dychwelyd ac nad yw'n cysgu'n dda sy'n ei  wneud yn hwyr.

Gyda'i gilydd, mae'r cyflogwr a'r gweithiwr yn cytuno i newid ychydig ar oriau'r gweithiwr tra eu bod yn y sefyllfa hon ac y gall y gweithiwr ofyn am help pryd bynnag y bydd yn ei chael hi'n anodd dechrau neu gwblhau tasg. Mae'r rhain yn addasiadau rhesymol.

Nid yw hyn, fodd bynnag, yn golygu gofyn cwestiynau ymwthiol neu rai sy'n torri urddas rhywun. Meddyliwch am breifatrwydd a chyfrinachedd yn yr hyn rydych chi'n ei ofyn a sut rydych chi'n gofyn.

Cyngor arfer da: byddwch yn barod ar gyfer gwneud addasiadau rhesymol

Mae cyfraith cydraddoldeb yn dweud bod yn rhaid i chi wneud addasiadau rhesymol os ydych yn gwybod bod gweithiwr yn berson anabl, bod angen addasiadau arno a bod yr addasiadau hynny’n rhesymol.

Nid oes rhaid i chi roi addasiadau rhesymol ar waith rhag ofn i un o'ch gweithwyr presennol ddod yn berson anabl.

Ond efallai y byddwch am fod yn barod drwy wneud y canlynol:

  • Meddyliwch ymlaen llaw am dasgau craidd swydd benodol a pha addasiadau allai fod yn bosibl (cyn dechrau ymarfer recriwtio neu ddyrchafiad, er enghraifft).
  • Rhowch proses ar waith ar gyfer gweithio allan addasiadau rhesymol os bydd gweithiwr presennol yn dod yn anabl neu berson anabl yn dechrau gweithio gyda’r sefydliad, cyn wynebu sefyllfa unigol.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ymlaen llaw pa gymorth sydd ar gael i bobl anabl gan Fynediad i Waith.
  • Os ydych yn gwneud gwaith adnewyddu neu addasiadau i'ch adeilad, bydd meddwl am sut y gallwch wneud y rhannau newydd o'ch adeilad yn fwy hygyrch i bobl anabl yn eich helpu os byddwch yn cyflogi person anabl yn ddiweddarach ac yn eich galluogi i ddenu mwy o ddarpar weithwyr.

Yn ogystal ag osgoi hawliad Tribiwnlys Cyflogaeth posibl, mae bod yn agored i wneud addasiadau rhesymol yn golygu efallai y byddwch yn gallu osgoi colli sgiliau gweithiwr sydd wedi dod yn berson anabl dim ond trwy wneud ychydig o newidiadau.

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082

Diweddariadau tudalennau