Cyflwyniad
11.1 Mae’r bennod hon yn esbonio sut mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (‘y Ddeddf’) yn berthnasol i ddarpariaeth nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau ac i gyflawniad gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n esbonio’r hyn a olygir gan wahaniaethu anghyfreithlon a’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn y meysydd hyn. Yn ymarferol, mae’r dyletswyddau o dan y Ddeddf ar bersonau sy’n darparu gwasanaeth ac ar y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yr un fath yn eu hanfod. Mae’r Ddeddf yn cymhwyso’n wahanol i gymdeithasau, ac fe esbonnir hyn ym Mhennod 12.
11.2 Mae’r darpariaethau ar wasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus yn berthnasol i bob nodwedd warchodedig heblaw am:
- priodas a phartneriaeth sifil
- cyn belled â bod person o dan 18 oed (a.28(1))
Beth yw ystyr gwahaniaethu yn y bennod hon?
11.3 Mae unrhyw gyfeiriad at ‘wahaniaethu’ yn y bennod hon yn gyfeiriad at unrhyw un neu bob un o’r ffurfiau hyn ar wahaniaethu, oni bai y nodir yn wahanol:
- gwahaniaethu uniongyrchol
- gwahaniaethu anuniongyrchol
- gwahaniaethu yn deillio o anabledd
- gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth
- methiant i wneud addasiad rhesymol
Gwasanaethau
Beth yw gwasanaeth?
11.4 Darparwr gwasanaethau yw unrhyw un sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau i’r cyhoedd, neu i adran o’r cyhoedd, bed hynny am dâl ai peidio (a.29(1)). Mae gwasanaethau yn cynnwys darpariaeth nwyddau a chyfleusterau (a.31(2)).
11.5 Cwmpesir ystod o wasanaethau gan y Ddeddf, yn cynnwys rhoi mynediad i a’r defnydd o unrhyw le lle caniateir mynediad i aelodau o’r cyhoedd. Ymysg y gwasanaethau a gwmpesir mae’r rhai a ddarperir i’r cyhoedd, neu adran o’r cyhoedd, gan:
- awdurdodau lleol, adrannau’r llywodraeth a’u hasiantaethau
- elusennau, sefydliadau gwirfoddol
- gwestai, bwytai, tafarndai
- swyddfeydd post, banciau, cymdeithasau adeiladu
- cyfreithwyr, cyfrifwyr, asiantaethau cynghori
- sefydliadau telegyfathrebu, cyfleustodau cyhoeddus (megis cyflenwyr nwy, trydan a dŵr)
- gwasanaethau a ddarperir gan weithredwyr bysys a threnau, gorsafoedd trenau, meysydd awyr
- parciau cyhoeddus, stadia chwaraeon, canolfannau hamdden
- theatrau, sinemâu, siopau trin gwallt, siopau, stondinau marchnad, gorsafoedd petrol, busnesau telewerthu
- ysbytai a chlinigau
Mae’r rhestr uchod yn darparu enghreifftiau yn unig ac nid yw’n cwmpasu yr holl wasanaethau a gwmpesir gan y Ddeddf.
11.6 Cwmpesir gwasanaethau waeth a ydynt wedi eu darparu gan gorff preifat, gwirfoddol neu gyhoeddus. Er enghraifft, bydd darpariaeth gofal meithrinfa a gofal dydd neu gynhaliaeth cartrefi preswyl a chyfleusterau canolfannau hamdden yn ddarostyngedig i’r darpariaethau hyn waeth a ydynt wedi eu darparu gan gorff cyhoeddus neu awdurdod lleol.
11.7 Mae hi’n bwysig cofio mai darpariaeth y gwasanaeth sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf. Mewn nifer o achosion, mae darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth mewn nifer o wahanol ffyrdd. Mewn rhai achosion, gallai’r ffyrdd hyn fod mor wahanol i’w gilydd fel bod pob un yn cael ei weld fel gwasanaeth ohono ei hun ac yn ddarostyngedig i’r Ddeddf [troednodyn 72].
Atebolrwydd am wahaniaethu lle darperir gwasanaethau i’r cyhoedd gan fwy nag un darparwr
11.10 Gallai ymddangos fel pe bai gwasanaeth i'r cyhoedd yn cael ei ddarparu gan fwy nag un darparwr gwasanaeth. Mewn achos o’r fath, gallai fod yn bwysig adnabod pwy sy’n gyfrifol am ddarparu pa bynnag agwedd o’r gwasanaeth a achosodd y gwahaniaethu honedig. Mewn rhai achosion, gall atebolrwydd o dan y Ddeddf gael ei rannu rhwng sawl darparwr gwasanaethau. Mae’n bosibl, er enghraifft, i ddau darparwr gwasanaeth fod yn gyfrifol a ddarparu gwasanaeth ac felly rhannu goblygiadau o dan y Ddeddf mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw.
Mae’n amherthnasol sut maent yn penderfynu rhyngddynt beth i’w wneud i gyflawni eu dyletswyddau, ond mae’n rhaid i’r rhwymedigaethau o dan y Ddeddf gael eu diwallu. Mae hyn yn annhebygol o fod o bwysigrwydd arbennig mewn perthynas â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i bobl anabl.
Swyddogaethau cyhoeddus
Beth yw swyddogaeth gyhoeddus?
11.13 At ddiben y Ddeddf, dim ond y swyddogaethau hynny o eiddo awdurdod cyhoeddus nad ydynt yn wasanaethau ac nad ydynt yn disgyn o fewn Rhan 4 (eiddo), Rhan 5 (gwaith) a Rhan 6 (addysg) y Ddeddf sydd wedi eu cwmpasu gan y darpariaethau swyddogaeth gyhoeddus. Yn aml bydd yr awdurdod cyhoeddus yn gweithredu o dan bŵer neu ddyletswydd pan yn cyflawni swyddogaeth o’r fath. Byddai gorfodi’r gyfraith neu gasglu trethi yn enghreifftiau o weithgareddau o’r fath.
11.14 Fodd bynnag, nid awdurdodau cyhoeddus yn unig sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus. Gallant gael eu cyflawni gan sefydliadau preifat neu wirfoddol hefyd, er enghraifft, pan fydd cwmni preifat yn rheoli carchar neu pan fydd sefydliad gwirfoddol yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am amddiffyn plant.
11.15 Mae’r Ddeddf yn nodi bod gan swyddogaeth gyhoeddus yr un ystyr â ‘swyddogaeth o natur gyhoeddus’ at ddiben Deddf Hawliau Dynol 1988 (a.31(4)). Mewn perthynas â sefydliadau preifat neu wirfoddol, byddai hyn yn cwmpasu gweithgareddau a gyflawnwyd ar ran y Wladwriaeth nad ydynt yn debyg i wasanaethau a allai gael eu perfformio gan bersonau preifat (a.6(3)(b) Deddf Hawliau Dynol 1998.
11.16 Gallai’r term ‘swyddogaeth gyhoeddus’ gwmpasu amrywiaeth eang o weithrediadau, megis:
- pennu fframweithiau ar gyfer yr hawl i fudd-daliadau neu wasanaethau
- gorfodi’r gyfraith
- derbyn rhywun i garchar neu gyfleuster dargadw mewnfudwyr
- rheoli cynllunio
- trwyddedu
- gorfodi rheoliadau parcio, safonau masnach, iechyd yr amgylchedd
- cyflawni pwerau statudol o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl ac amddiffyn plant
- swyddogaethau rheoleiddiol
- ymchwilio i gwynion
Enghraifft yn unig yw’r rhestr ac nid yw’n cynnwys pob swyddogaeth sy’n disgyn o dan y rhan hon o’r Ddeddf.
Rhyngweithio â darpariaethau’r gwasanaethau
11.17 Bydd pa un ai yw gweithgaredd yn wasanaeth i’r cyhoedd ai peidio, neu’n swyddogaeth gyhoeddus, yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos. Mae nifer o’r gweithgareddau a gyflawnir gan awdurdod cyhoeddus yn wasanaethau i’r cyhoedd, er enghraifft, darpariaeth gwasanaethau llyfrgell neu hamdden. Bydd gweithgareddau o’r fath yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf mewn perthynas â darpariaeth gwasanaeth i’r cyhoedd (a.31(3)).
Beth yw gwahaniaethu anghyfreithlon mewn perthynas â gwasanaethau?
11.20 Mae’r Ddeddf yn dweud ei bod yn anghyfreithlon i ddarparwr gwasanaethau wahaniaethu yn erbyn person sy’n dymuno (neu sy’n ceisio cael neu ddefnyddio) gwasanaeth trwy beidio â darparu’r gwasanaeth hwnnw i’r person.
11.21 Yn y cyd-destun hwn, mae cyfeiriad at ddarparwr gwasanaeth nad yw’n darparu gwasanaeth yn (a.29(1)) cynnwys:
- y darparwr gwasanaeth yn gwrthod darparu’r gwasanaeth i’r person
- y darparwr gwasanaeth yn peidio â darparu’r ansawdd o wasanaeth i’r person a ddarperir i’r cyhoedd fel arfer (neu’r adran o’r cyhoedd sy’n cynnwys y person hwnnw) (s.31(7)(a))
- y darparwr gwasanaeth yn peidio â darparu’r gwasanaeth i’r person yn y modd, neu ar y telerau, a ddarperir i’r cyhoedd fel arfer (neu’r adran o’r cyhoedd sy’n cynnwys y person hwnnw) (s.31(7)(b))
11.22 Mae hefyd yn anghyfreithlon i ddarparwr gwasanaeth wahaniaethu yn erbyn person:
- mewn perthynas â’r telerau y darperir y gwasanaeth i’r person hwnnw arnynt
- trwy ddod â’r gwasanaeth i ben i’r person hwnnw
- trwy wneud y person hwnnw yn destun unrhyw niwed arall (a.29(2))
11.23 Gallai’r darpariaethau hyn orgyffwrdd fel bod, er enghraifft, ymddygiad digywilydd neu dramgwyddol tuag at gwsmer neu gwsmer posibl gyfwerth a safon is o wasanaeth neu niwed. Gallai safon is o wasanaeth fod gyfwerth â pheidio â darparu’r gwasanaeth yn y modd a’r telerau y darperir y gwasanaeth arnynt fel arfer (a.31(7)).
11.24 Gallai gwahaniaethu yn nhermau gwasanaeth gynnwys codi mwy am nwyddau neu wasanaethau neu orfodi amodau ychwanegol ar gyfer defnyddio cyfleuster neu wasanaeth.
11.25 Ni ddiffinnir ‘niwed’ gan y Ddeddf ac mae’n derm eang iawn, a allai gymryd sawl ffurf. Am esboniad o ‘niwed’ darllener paragraffau 9.12 i 9.16.
11.30 Hyd yn oed os yw darparwr gwasanaeth yn credu eu bod yn gweithredu er lles pennaf defnyddiwr gwasanaeth, gallai eu gweithrediad barhau i achosi niwed i’r person hwnnw (a.29(2)).
11.32 Mae hi’n anghyfreithlon i ddarparwr gwasanaeth ddarparu gwasanaethau neu werthu nwyddau sydd yn ôl eu natur yn debygol o gael eu defnyddio neu brynu gan bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig, cyn belled nad yw’r darparwr gwasanaeth yn gwrthod darparu’r gwasanaeth i bersonau nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno. Er enghraifft, byddai’n wahaniaethu pe byddai cigydd Kosher â chwsmeriaid oedd yn bennaf yn Iddewon yn gwrthod gwerthu eu cig Kosher i bobl nad ydynt yn Iddewon.
Beth yw gwahaniaethu anghyfreithlon mewn perthynas ag arfer swyddogaethau cyhoeddus?
11.33 Mae’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu wrth gyflawni swyddogaeth gyhoeddus (a.29(6)). Byddai’r ddarpariaeth hon yn cwmpasu, er enghraifft, gwrthod caniatáu i rywun elwa o gyflawniad swyddogaeth neu drin rhywun mewn modd gwaeth wrth gyflawni swyddogaeth. Er enghraifft, gwrthod cais am drwydded neu stopio a chwilio unigolyn oherwydd nodwedd warchodedig.
Methiant i wneud addasiad rhesymol wrth ddarparu gwasanaeth ac wrth gyflawni swyddogaeth gyhoeddus
11.37 Mae gwahaniaethu hefyd yn digwydd pan fydd darparwr gwasanaeth neu berson sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. Mae’r ddyletswydd yn codi pan fo person anabl yn cael ei roi o dan anfantais sylweddol o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl gan ddarpariaeth, maen prawf, arfer, nodwedd ffisegol neu ddiffyg cymorth neu wasanaeth cynorthwyol. Esbonnir y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol mewn rhagor o fanylion ym Mhennod 7.
11.40 Mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth gyhoeddus, mae cael eich rhoi o dan anfantais sylweddol yn golygu (At. 2 para 2(5)):
- Os yw budd-dal yn neu’n debygol o gael ei roi wrth i’r swyddogaeth gael ei chyflawni, y person a roddir o dan anfantais sylweddol mewn perthynas â rhoi’r budd-dal.
- Os yw person yn neu y gallai fod yn destun niwed wrth i’r swyddogaeth gael ei chyflawni, gan ddioddef profiad afresymol o niweidiol o achosi’r niwed iddynt.
11.42 Ni ddiffinnir ‘afresymol o niweidiol’ yn y Ddeddf. Gallai cyflawniad rhai swyddogaethau gael effaith niweidiol mewn gwirionedd ar y person sy’n ddarostyngedig iddynt – er enghraifft, cael eu harestio. Mae’r rhain yn swyddogaethau ‘negyddol’. Nod y ddyletswydd addasiad rhesymol yn yr amgylchiadau hyn yw sicrhau nad yw pobl anabl, cyn belled ag sy’n rhesymol bosibl, yn cael profiad sylweddol gwaeth mewn perthynas â chyflawniad y swyddogaethau hyn na phobl eraill. Bwriadwyd ‘afresymol o niweidiol’ i gynrychioli yr un lefel o anhawster ag anfantais ‘sylweddol’. Darllener paragraffau 7.11 i 7.14 am ragor o fanylion.
11.44 Lle bo budd-dal yn cael ei roi, neu y gallai gael ei roi, gan gyflawniad swyddogaeth gyhoeddus, gall anfantais sylweddol godi, mewn perthynas â rhoi neu wrthod y budd-dal (y canlyniad) a’r broses o sicrhau neu geisio ei sicrhau. Golyga hyn, os yw unigolyn yn dioddef niwed yn y broses o sicrhau budd-dal, y gall hyn fod yn sail i honiad cyfreithiol, hyn yn oed os yw’r budd-dal yn cael ei roi [troednodyn 73].
Nodweddion ffisegol
11.46 Mewn perthyna â nodweddion ffisegol, mae’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol bod darparwyr gwasanaethau a’r sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn cymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol i orfod eu cymryd er mwyn osgoi’r anfantais, neu fabwysiadu dull amgen rhesymol o gyflawni’r swyddogaeth (a.20(4) a a.29(7)).
Cyfyngiadau ar y ddyletswydd i wneud addasiad rhesymol
11.47 Nid yw'n ofynnol i'r rhai sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus gymryd unrhyw gamau sydd y tu hwnt i'w pwerau i'w cymryd (At. 2 para 2(8)).
11.49 Mewn perthynas â gwasanaethau, ni fydd yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth gymryd unrhyw gamau a fyddai’n newid yn sylfaenol natur y gwasanaeth neu natur crefft neu broffesiwn y darparwr (At. 2 para 2(7)).
Ymddygiad gwaharddedig arall
Aflonyddu
11.51 Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i berson wneud unrhyw beth sydd gyfystyr ag aflonyddu pan yn darparu gwasanaeth neu’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus (a.29(3) a (6)).
Esbonnir aflonyddu mewn rhagor o fanylion ym Mhennod 8.
11.53 Mae’r gwaharddiad ar aflonyddu wrth ddarparu gwasanaeth neu wrth gyflawni swyddogaeth yn cwmpasu’r nodweddion gwarchodedig canlynol: oed (lle bo unigolyn yn 18 neu’n hŷn), anabledd, ailbennu rhywedd, hil a rhyw (a.26(5) ac a.28(1)). Nid yw aflonyddu unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig cyfeiriadaeth hiliol neu grefydd neu gred wedi eu hamddiffyn (a.212(5)). Fodd bynnag, gallai ymddygiad digroeso oherwydd naill ai cyfeiriadaeth rywiol neu grefydd neu gred, sy’n achosi niwed i rywun sydd gyfystyr â thriniaeth lai ffafriol, olygu gwahaniaethu uniongyrchol. Nid yw beichiogrwydd a mamolaeth wedi eu hamddiffyn o dan ddarpariaethau aflonyddu’r Ddeddf chwaith (a.26(5)). Fodd bynnag, byddai aflonyddu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth gyfystyr ag aflonyddu mewn perthynas â rhyw. Mae Pennod 8 yn esbonio’r darpariaethau aflonyddu mewn manylder.
Erledigaeth
11.55 Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn anghyfreithiol i berson erlid person tra’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu pan yn darparu gwasanaeth (a.29(4) a a.29(6)), trwy:
- beidio â darparu’r gwasanaeth i’r person hwnnw (a.29(4))
- darparu’r gwasanaeth i’r person hwnnw ar delerau llai ffafriol (a.29(5))
- dod â darpariaeth y gwasanaeth i’r person hwnnw i ben (a.29(5))
- gwneud y person hwnnw yn destun niwed arall (a.29(5))
11.57 Esbonnir erledigaeth ac ymddygiad gwaharddedig, megis cynorthwyo gweithred o wahaniaethu, ym Mhennod 9.
Perthynas Rhan 3 i Rannau eraill y Ddeddf
11.58 Fel esboniwyd ym Mhennod 3, ymdrinnir â defnydd a rheolaeth eiddo, cyflogaeth, addysg ac agweddau penodol o gludiant mewn Rhannau eraill o’r Ddeddf (Rhannau 4, 5, 6 a 12 yn y drefn honno) ac nid ydynt wedi eu cwmpasu gan y Cod hwn. Fodd bynnag, lle nad yw’r Rhannau hynny yn berthnasol, gallai gweithgareddau perthnasol gynnwys gwasanaethau neu swyddogaethau cyhoeddus ac felly gallent ddod o fewn i Ran 3. Er enghraifft, mae Rhan 4 yn berthnasol pan fo gwerthwr tai yn gosod neu werthu eiddo ar ran perchennog, ond nid lle bo gwerthwr tai yn hysbysebu neu ddarparu gwybodaeth am eiddo. Yn lle hynny, byddai’r gweithgareddau olaf hyn gyfystyr â gwasanaeth i’r cyhoedd.
Rhyngweithio â’r darpariaethau addysg
11.59 Mae Rhan 6 o’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu mewn perthynas ag addysg a ddarperir gan ‘gyrff cyfrifol’. Y cyrff hynny yw cyrff llywodraethu a pherchenogion ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac uwch.
11.60 Fodd bynnag, mae gweithgareddau a swyddogaethau penodol y cyrff cyfrifol hyn y tu allan i gwmpas Rhan 6. Gallai’r gweithgareddau hyn felly fod yn ddarostyngedig i’r darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus yn Rhan 3 o’r Ddeddf fel amlinellir yn y bennod hon. Gallai enghreifftiau gynnwys:
- gweithgareddau nad ydynt yn rhai addysgol a ddarperir gan ysgolion i bobl oni bai am ddisgyblion, megis darparu gwybodaeth i rieni
- gwasanaethau a ddarperir gan golegau neu brifysgolion i’r sawl nad ydynt yn fyfyrwyr
11.61 Yn gyffredinol, lle gwneir penderfyniad neu lle cyflawnir gweithrediad gan ysgol neu sefydliad addysg bellach neu uwch sy’n berthnasol i ddisgyblion neu fyfyrwyr, fe’i cwmpesir gan y darpariaethau addysg yn Rhan 6. Lle darperir y gwasanaeth gan neu lle gwneir y weithrediad neu’r penderfyniad gan awdurdod lleol neu awdurdod addysg, nad yw’n gweithredu yn ei gapasiti fel ‘corff cyfrifol’, bydd yn wasanaeth neu swyddogaeth gyhoeddus.
11.65 Mae Rhan 6 hefyd yn gwahardd gwahaniaethu gan gyrff cymwysterau cyffredinol ac mewn agweddau penodedig o’r ddarpariaeth o gyfleusterau hamdden a hyfforddi i blant gan awdurdodau lleol. Gallai’r darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus yn Rhan 3 fod yn berthnasol lle nad yw Rhan 6. Er enghraifft, byddai clybiau ieuenctid a gynhelir gan sefydliadau gwirfoddol yn wasanaeth.
Rhyngweithio â’r darpariaethau eiddo
11.66 Mae Rhan 4 o’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu mewn perthynas â defnyddio a rheoli eiddo. Mae hyn yn cwmpasu, er enghraifft, y sawl sy’n darparu eiddo i’w rhentu a’r sawl sy’n rheoli eiddo rhent. Nid yw’r Cod hwn yn ymdrin â Rhan 4 o’r Ddeddf.
11.67 Mae Rhannu 3 a 4 yn annibynnol ar ei gilydd: lle nad yw’r darpariaethau eiddo yn berthnasol, bydd y darpariaethau gwasanaethau neu swyddogaethau cyhoeddus yn berthnasol. Mae’r Ddeddf yn manylu ynghylch dwy sefyllfa a fydd yn disgyn y tu allan i Ran 4 a lle bydd y Cod hwn yn berthnasol:
- lle bo’r ddarpariaeth yn gyffredinol yn gyffredinol at ddiben arosiadau byr gan unigolion sy’n byw mewn mannau eraill, er enghraifft gosod fflat gwyliau (a.32(3)(a))
- lle darperir llety i’r diben o ddarparu gwasanaeth neu gyflawni swyddogaeth gyhoeddus yn unig, er enghraifft, gwesty neu gell carchar (a.32(3)(b))
11.68 Fel arall, bydd unrhyw beth sy’n berthnasol i werthu neu reoli eiddo (oni bai ei fod yn ymwneud â gwasanaeth megis hysbysebu eiddo) yn disgyn o dan y darpariaethau eiddo ac y tu allan i gwmpas y Cod hwn.
Rhyngweithio â’r darpariaethau gwaith
11.69 Mae Rhan 5 o’r Ddeddf yn ymwneud â gwaith. Lle bo Rhan 5 yn berthnasol, ni fydd darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus Rhan 3 yn berthnasol.
11.70 Fodd bynnag, mae’r Ddeddf yn nodi, lle bo cyflogwr yn trefnu i berson arall ddarparu gwasanaeth dim ond i gyflogeion y cyflogwr, ystyrir y cyflogeion hyn yn adran o’r cyhoedd (a.31(5)). Golyga hynny, os yw’r darparwr gwasanaeth yn gwahaniaethu yn erbyn aelodau o’r grŵp hwnnw, bydd y gwaharddiadau a ddisgrifir yn y bennod hon yn berthnasol. Ni ystyrir y cyflogwr yn ddarparwr gwasanaeth yn y sefyllfa hon. Yn lle hynny, byddai eu hymddygiad wrth hwyluso’r gwasanaeth yn cael ei lywodraethu gan y darpariaethau yn Rhan 5 o’r Ddeddf a’u cwmpasu yn y Cod Cyflogaeth.
11.71 Yr eithriad i hyn yw lle bo cyflogwr yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau ariannol i’w cyflogwyr o ganlyniad i’w cyflogaeth (At. 3 para 20) (darllener Pennod 13).
Gwasanaethau cludiant
11.73 Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn berthnasol i seilweithiau cludiant penodol (megis gorsafoedd a meysydd awyr), gwasanaethau (er enghraifft, tocynnau) a cherbydau.
Mae Rhan 12 o’r Ddeddf wedi cael ei diwygio gan Ddeddf Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Pobl Anabl) 2022. Mae’r ddeddf yn gwneud darpariaethau ar gyfer dyletswyddau penodol ar yrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat.
Fodd bynnag, nid yw’r Cod hwn yn cwmpasu’r darpariaethau hyn.
Darparu nwyddau a gwasanaethau o bell
11.74 Hyrwyddir rhai nwyddau a gwasanaethau o bell trwy gyfryngau megis gwefannau ac apiau, er enghraifft, lle maent yn darparu gwybodaeth, cynnyrch neu adloniant i’r cyhoedd.
Mae darparwr gwasanaeth o bell yn ddarostyngedig i reolau arferol awdurdodaeth tiriogaethol, felly bydd y Ddeddf yn berthnasol i ymddygiad ym Mhrydain Fawr (a.29(10)).
11.76 Fodd bynnag mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau clir parthed ei ehangder tiriogaethol mewn perthynas â ffurfiau penodol o wasanaethau o bell a ddarperir gan ‘ddarparwyr gwasanaethau cymdeithas wybodaeth’ (ISSPs) a sefydlwyd mewn gwladwriaeth Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) neu Brydain Fawr (a.206, At. 25 para 1).
11.77 Mae ISSP (At. 25 para 7(2)) yn unrhyw wasanaeth:
- a ddarperir fel arfer am dâl
- o bell
- trwy ddulliau electronig
- ar gais unigol derbynnydd gwasanaethau
Mae ‘a ddarperir fel arfer am dâl’ yn golygu bod y gwasanaeth fel arfer, ond nid o anghenraid, a, dâl.
Mae ‘o bell’ yn golygu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu heb i’r partïon fod yn bresennol ar yr un pryd.
Mae ‘trwy ddulliau electronig’ yn golygu bod y gwasanaeth yn cael ei anfon yn y lle cyntaf ac yn cael ei dderbyn ar ben ei daith trwy’r defnydd o offer electronig ar gyfer prosesu ( yn cynnwys cywasgiad digidol) a storio data, a’i drosglwyddo, ei gyfleu a’i dderbyn trwy wifren, trwy radio, trwy ddulliau gweledol neu drwy ddulliau electromagnetig eraill.
Mae ‘ar gais unigol derbynnydd gwasanaethau’ yn golygu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu trwy drosglwyddiad data ar gais unigol, hynny yw, gwneir cais am y gwasanaeth yn hytrach na’i dderbyn yn oddefol.
11.78 Gallai enghreifftiau o ISSP gynnwys gwasanaethau megis:
- gwasanaeth e-bost
- llwyfan digidol sy’n gwerthu eitemau ar-lein i bobl sy’n chwilio am yr eitemau hynny
- papur newydd a ddarperir ar-lein
11.79 Os sefydlir hynny ISSP ym Mhrydain Fawr, mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn berthnasol i’r ddarpariaeth o’r gwasanaeth cymdeithas wybodaeth. Golyga hyn bod yn rhaid i’r ISSP gydymffurfio â darpariaethau’r Ddeddf fel maent yn berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau, fel esbonnir yn y Bennod hon.
11.81 Lle bo’r ISSP wedi ei sefydlu mewn gwladwriaeth EEA, nid yw’r Ddeddf yn berthnasol i unrhyw beth a wneir wrth ddarparu’r gwasanaethau cymdeithas wybodaeth, hyd yn oed os yw’n digwydd ym Mhrydain Fawr (A 206 ac At. 25 para 2).
Yn dilyn ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd, gallai’r rheolau hyn ynglŷn ag ISSPs fod yn destun newidiadau pellach a dylai darparwyr gwasanaethau adolygu’r safle yn rheolaidd.
11.82 Mae Pennod 13 yn disgrifio eithriadau i’r Ddeddf sy’n berthnasol i ISSPs lle cant eu rheoleiddio gan y Ddeddf os ydynt yn fwy o sianeli, neu os ydynt yn darparu ‘dal’ neu ‘lletya’.
Eithriadau i’r darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus
11.83 Mae nifer o eithriadau sy’n berthnasol i ddarpariaethau gwasanaethau a/neu swyddogaethau cyhoeddus y Ddeddf, er enghraifft gwasanaethau un rhyw. Esbonnir y rhain ym Mhennod 13.
Arfer da wrth osgoi gwahaniaethu a gwella darpariaeth gwasanaethau a chyflawniad swyddogaethau cyhoeddus
Gweithredu cadarnhaol
11.84 Mae’r Ddeddf yn caniatáu darparwyr gwasanaethau a’r sawl sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus i gymryd mesurau gweithredu cadarnhaol a gynlluniwyd i oresgyn anfantais, i ddiwallu gwahanol anghenion neu i gynyddu cyfranogiad pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig. Mae Pennod 10 yn esbonio’r darpariaethau hyn ymhellach.
Trin pobl anabl yn fwy ffafriol
11.86 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd trin person anabl yn fwy ffafriol na pherson nad yw’n anabl mewn perthynas â gwahaniaethu uniongyrchol (a.13(3)). Mae’r eithriad hwn ond yn berthnasol i bobl anabl. Felly, nid yw’n wahaniaethu uniongyrchol i ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau drin person anabl yn fwy ffafriol na pherson nad yw’n anabl.
Pennod 11 troednodiadau
- RBS Group plc v Allen [2009] EWCA Civ 1213
- MM v Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau [2013] EWCA Civ 1565
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
2 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf
2 Hydref 2024