Arweiniad

Pennod 9 - Erledigaeth a gweithredoedd anghyfreithlon eraill

Wedi ei gyhoeddi: 2 Hydref 2024

Diweddarwyd diwethaf: 2 Hydref 2024

Dyma ein Cod ymarfer wedi’i ddiweddaru ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Rydym yn cynnal ymgynghoriad ar ein diweddariadau, ac rydym angen eich adborth.

Ewch i'n tudalen ymgynghoriad Cod Ymarfer i roi adborth.

Cyflwyniad

9.1 Mae’r bennod hon yn esbonio’r hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud ynglŷn â gweithredoedd anghyfreithlon:

  • erledigaeth
  • cyfarwyddo, achosi ac ysgogi gwahaniaethu
  • cynorthwyo tramgwyddau

Erledigaeth

9.2 Nid yw erledigaeth yn cwmpasu ymdriniaeth sy’n gysylltiedig â nodwedd warchodedig person ond fe’i bwriedir i amddiffyn y sawl sy’n defnyddio eu hawliau o dan y Ddeddf neu sy’n helpu eraill i wneud hynny.

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

9.3 Mae’r Ddeddf yn gwahardd erledigaeth. Fe’i hystyrir yn erledigaeth os yw darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn achosi niwed i berson oherwydd bod y person wedi gwneud ‘gweithred warchodedig’ neu oherwydd bod y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn credu bod y person wedi gwneud neu y gallai wneud gweithred warchodedig yn y dyfodol (a.27(1)).

9.4 Nid oes angen i unigolyn fod â nodwedd warchodedig benodol i gael ei warchod rhag erledigaeth o dan y Ddeddf. I fod yn anghyfreithlon, rhaid i erledigaeth fod yn gysylltiedig â ‘gweithred warchodedig’ (darllener paragraff 9.5). Dim ond unigolion (nid sefydliadau) sydd wedi eu gwarchod rhag erledigaeth.

Beth yw ‘gweithred warchodedig’?

9.5 Gweithred warchodedig yw unrhyw un o’r canlynol (a.27(2)):

  • dwyn achosion o dan y Ddeddf (a.27(2)(a))
  • darparu tystiolaeth neu wybodaeth mewn cysylltiad ag achosion sy’n cael eu dwyn o dan y Ddeddf (a.27(2)(b))
  • gwneud unrhyw beth sy’n gysylltiedig â darpariaethau’r Ddeddf (a.27(2)(c))
  • gwneud honiad (boed hynny’n gywir ai peidio) bod rhywun arall wedi gwneud rhywbeth sy’n torri’r Ddeddf (a.27(2)(d))

Enghraifft

9.6 Mae dyn hoyw yn erlyn tafarnwraig am wahaniaethu ar y sail ei bod hi’n gwneud sylwadau difrïol parhaus wrth gwsmeriaid eraill ynglŷn â’i rywioldeb. Mae’r dafarnwraig yn ei wahardd yn llwyr o’r dafarn oherwydd yr honiad hwn. Byddai hyn yn erledigaeth.

9.7 Yn yr enghraifft ym mharagraff 9.6, pe byddai cwsmer arall yn cwyno wrth y dafarn am yr ymdriniaeth annheg o’r cwsmer hoyw oherwydd ei rywioldeb a bod y dafarnwraig wedyn yn gwahardd yr ail gwsmer hwn, byddai hyn hefyd yn erledigaeth. Byddai cyfeiriadaeth rywiol yr ail gwsmer yn amherthnasol.

9.8 Gall gweithredoedd gwarchodedig ddigwydd mewn unrhyw faes a gwmpesir gan y Ddeddf ac mewn perthynas ag unrhyw ran o’r Ddeddf. Er enghraifft, rhaid i ddarparwr gwasanaeth beidio ag erlid person sydd wedi gwneud gweithred warchodedig ym maes cyflogaeth.

9.9 Nid oes rhaid bod dwyn honiad neu wneud rhywbeth mewn perthynas â’r Ddeddf yn ymwneud â chyfeiriadaeth bendant at y ddeddfwriaeth (a.27(2)(c) a (d)).

Enghraifft

9.10 Mae mam plentyn anabl dwy oed yn cwyno wrth y staff mewn canolfan blant nad yw gofynion corfforol a chymdeithasol ei merch yn cael eu diwallu yn iawn. Gan fod y ganolfan yn cael ei darparu gan adran gwasanaethau plant yr awdurdod lleol, mae’r fam hefyd yn cwyno wrth ei chynghorydd ac wrth y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant. Mae staff y ganolfan yn ei gwahodd i gyfarfod, ac mae’r gofal o’i merch yn gwella. 

Yr haf dilynol, mae hi’n gwneud cais i fynd ar drip i lan y môr i rieni a’u plant anabl a drefnir gan yr adran, ond fe’i gwrthodir. Mae hi o’r farn iddi gael ei herlid oherwydd ei chwyn ynglŷn â’r gofal o’i phlant. Er na chyfeiriodd yn bendant ar y Ddeddf pan wnaeth y gŵyn, fe fynnodd i’w merch gael ei thrin yn llai ffafriol oherwydd nodwedd warchodedig. Mae hynny’n ddigonol er mwyn i’w chwyn fod yn weithred warchodedig.

9.11 Yn yr achos uchod, pe na fyddai cwyn wedi cyfeirio at anabledd ei merch (er enghraifft, pe byddai hi wedi cwyno bod yr ystafelloedd yn frwnt neu fod y bwyd i’r plant yn cynnwys gormod o siwgr), ni fyddai hynny’n weithred warchodedig oherwydd nid oedd yr ymdriniaeth lai ffafriol y gwnaed cwyn amdani oherwydd nodwedd warchodedig ei merch.

Beth yw ‘niwed’?

9.12 Ni ddiffinnir ‘niwed’ yng nghyd-destun erledigaeth gan y Ddeddf a gallai ddigwydd ar sawl ffurf. Yn gyffredinol, mae niwed yn unrhyw beth y gall yr unigolyn o dan sylw ystyried yn rhesymol sydd wedi newid eu sefyllfa er gwaeth neu eu rhoi o dan anfantais o gymharu ag eraill.

9.13 Er enghraifft, gall amddifadu rhywun o gyfle fod yn niwed. Yn yr enghraifft uchod, mae’r fam yn profi’r niwed o gael ei hamddifadu o’r cyfle i fynd ar drip i lan y môr gyda’i merch.

9.14 Nid oes gwahaniaeth nad yw rhywun arall o bosibl yn ystyried yr un ymdriniaeth fel niwed, cyn belled a bod yr unigolyn o dan sylw yn gwneud ac y gallai o leiaf rhai pobl ystyried yn rhesymol yr ymdriniaeth fel niwed [troednodyn 66].

9.15 Gallai niwed hefyd gynnwys bygythiad a wnaed i’r unigolyn a gymerant o ddifri, ac sy’n rhesymol iddynt ei gymryd o ddifri. Nid oes angen arddangos unrhyw ganlyniadau corfforol neu economaidd. Fodd bynnag, rhaid i’r ymdriniaeth fod yn gymaint â bod yr unigolyn o dan sylw, ac o leiaf rhai unigolion rhesymol eraill (ond nid pawb) yn ei ystyried i fod yn niwed. Ni fyddai synnwyr digyfiawnhad o gwyno yn unig yn ddigon i sefydlu niwed [troednodyn 67].

Enghraifft

9.16 Mae menyw yn honni gwahaniaethu ar sail rhyw pan fo’i phlaid wleidyddol yn gwrthod ei henwebu fel cynghorydd. Mae hi’n colli’r achos, gan fod y llys yn derbyn esboniad y blaid ei bod hi’n anghymwys i sefyll, o dan ei rheolau, oherwydd ei hôl-ddyledion rhent. 

Mewn cyfarfod o’r blaid yn dilyn y dyfarniad hwn, mae hi’n mynnu unwaith eto na chafodd ei dewis oherwydd ei bod yn fenyw. Mae hi’n cynhyrfu pan mae pobl yn pwysleisio iddi golli ei hachos, a bod y mater drosodd. Nid yw ei chwyn gyfystyr â niwed.

‘Oherwydd’ gweithred warchodedig

9.17 Mae erledigaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i unrhyw ymdriniaeth niweidiol fod ‘oherwydd’ gweithred warchodedig [troednodyn 68] (darllenwch paragraffau 4.19 i 4.32) oni bai bod yn rhaid mai gweithred warchodedig yn hytrach na nodwedd warchodedig yw achos y niwed.

9.18 Nid yw erledigaeth yn gwneud cymharydd yn ofynnol. Does ond angen i’r unigolyn ddangos bod y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas wedi eu gwneud yn destun niwed oherwydd iddynt gyflawni gweithred warchodedig neu oherwydd bod y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn credu (yn gywir neu’n anghywir) eu bod wedi gwneud neu’n bwriadu gwneud gweithred warchodedig.

9.19 Mae angen i weithred warchodedig fod yn rheswm – ymwybodol neu anwybodol – dros yr ymdriniaeth niweidiol ond nid oes rhaid mai dyma’r unig reswm.

9.20 Nid oes cyfyngder amser pan mae’n rhaid i erledigaeth ddigwydd ar ôl i unigolyn wneud gweithred warchodedig. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r unigolyn fedru dangos bod y niwed oherwydd y weithred warchodedig.

Enghraifft

9.21 Dair blynedd yn ôl, fe helpodd cwsmer gyflogai mewn banc gyda honiad o wahaniaethu ar sail rhyw yn erbyn cangen leol y banc hwnnw. Yr wythnos diwethaf, gwrthodwyd cyfleuster gorddrafft i’r cwsmer hwnnw gan y rheolwr banc lleol, sy’n dweud na fydd fyth yn anghofio’r honiad tribiwnlys hwnnw. Gall y cwsmer honni erledigaeth er i’r weithred warchodedig (darparu gwybodaeth a ddefnyddiwyd mewn honiad o aflonyddu) ddigwydd dair blynedd yn ôl.

Anonestrwydd

9.22 Ni all unigolyn honni erledigaeth pan fyddant wedi ymddwyn yn anonest, megis rhoi tystiolaeth neu wybodaeth ffug yn faleisus, neu wneud honiad ffug. Ni fyddai unrhyw weithrediad o’r fath yn weithred warchodedig (a.27(3)).

Enghraifft

9.23 Fe ymosododd cwsmer ar dafarnwr mewn ymosodiad disymbyliad tra’r oedd wedi meddwi. Yn llys yr ynadon, gwnaeth honiad ffug bod y tafarnwr yn ceisio ei gwahardd am ei hymddygiad ac na fyddai’r landlord wedi gwneud hynny pe byddai hi’n ddyn. Fe’i bernir yn euog a chanfu’r ynad ei bod yn dyst annibynadwy a ffugiodd honiad o wahaniaethu ar sail rhyw er mwyn osgoi euogfarn.   

Yn dilyn yr achos llys mae hi’n ymweld â’r un dafarn, ond dywed y landlord wrthi ei bod wedi ei gwahardd am oes. Oherwydd bod ei honiadau hi yn rhai ffug ac wedi eu gwneud yn anonest, ni all honni erledigaeth.

9.24 Fodd bynnag, os yw unigolyn yn rhoi tystiolaeth, darparu gwybodaeth neu’n gwneud honiad gonest, ond daw i’r amlwg ei fod yn ffeithiol anghywir neu wedi ei ddarparu mewn perthynas â gwrandawiadau sy’n aflwyddiannus, byddant yn parhau i gael eu gwarchod rhag erledigaeth.

Enghraifft

9.25 Mae menyw fusnes ag amhariad ar y clyw sy’n defnyddio dolen sain yn cwyno iddi gael ei hamddifadu o fynediad i ystafelloedd gynadledda oherwydd na sicrhaodd perchenogion y lleoliad bod dolen sain symudol ar gael iddi yn syth pan wnaeth gais am un. Mae hi’n dwyn achos o wahaniaethu am fethiant i wneud addasiadau rhesymol, ac yn colli’r achos. Mae ei gonestrwydd wrth ddwyn yr honiad yn cael ei dderbyn gan bawb.  

Rai wythnosau yn ddiweddarach, mae’r fenyw fusnes yn ymweld â’r lleoliad eto ac yn ceisio archebu ystafell ond yn cael gwybod nad oes ystafelloedd ar gael. Wrth iddi adael, mae hi’n sylwi ar archeb arall yn cael ei gwneud, felly mae’n amlwg bod ystafelloedd gynadledda ar gael. Mae hi o’r farn ei bod hi’n cael ei herlid oherwydd ei chwyn am wahaniaethu ar sail anabledd. Er iddi golli ei honiad gwreiddiol o erledigaeth, byddai modd iddi wneud honiad o erledigaeth.

Cyfarwyddo, achosi neu ysgogi erledigaeth

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

9.26 Mae’n anghyfreithlon cyfarwyddo rhywun i wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu erlid person arall, neu gyfarwyddo person i helpu person arall i wneud gweithred anghyfreithlon (a.111(1)), cyn belled â bod perthynas berthnasol rhwng y person sy’n rhoi’r cyfarwyddyd a derbynnydd y cyfarwyddyd hwnnw (a.111(7)). Darllener paragraff 9.35 am ragor o fanylion am yr hyn sy’n cyfri fel ‘perthynas berthnasol’. Byddai cyfarwyddyd o’r fath yn anghyfreithlon hyd yn oed pe na weithredir arno.

Enghraifft

9.27 Mae cigydd yn llwyddiannus wrth ddwyn honiad o wahaniaethu ar sail hil yn erbyn aelod o’r gymdeithas fusnes leol. Mewn ymateb, mae pwyllgor trefnu’r gymdeithas yn gofyn i’w aelodau i beidio â gweini’r cigydd yn eu busnesau. Gallai’r bobl ar y pwyllgor trefnu fod yn gyfrifol am gyfarwyddiadau anghyfreithlon i erlid hyd yn oed os yw eu haelodau yn anwybyddu eu cyfarwyddyd.

9.28 Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i achosi (a.111(2)) neu ysgogi (a.111(3)), neu geisio achosi neu ysgogi (a.111(8)), rhywun i wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu, neu erlid trydydd person.

9.29 Gallai ysgogiad gynnwys y cynnig o ryw fath o fudd neu’r bygythiad o ryw fath o niwed, ond nid yw hynny’n ofynnol o anghenraid; ni ddylid dehongli’r term yn gyfyng. Os yw rhywun wedi ceisio perswadio person arall i wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu, neu erlid trydydd person, gallai hynny fod gyfystyr ag ysgogiad [troednodyn 69]. Nid oes angen cymhwyso’r ysgogiad yn uniongyrchol chwaith; gallai fod yn anuniongyrchol (a.111(4)).

Enghraifft

9.30 Mae rheolwr newydd clwb chwaraeon yn prynu offer i’r tîm pêl-droed iau mewn siop leol. Mae perchennog y siop yn cynnig gostyngiad i’r rheolwr os yw’n cadw’ ‘ceiswyr lloches yna sydd newydd symud i mewn i’r ardal’ allan o’r tîm. Mae’r rheolwr wedi ei demtio gan hyn ac felly’n ei wneud yn amod o aelodaeth y tîm bod yn rhaid i’r chwaraewyr fod wedi byw yn yr ardal am o leiaf bedair blynedd. Mae hyn yn rhoi pobl ifanc o genedligrwydd nad yw’n Brydeinig y gallai eu rhieni fod yn geiswyr lloches, ffoaduriaid neu weithwyr mudol.

Gallai unrhyw berson ifanc y gwrthodwyd aelodaeth iddo honni gwahaniaethu uniongyrchol mewn perthynas â chenedligrwydd yn erbyn rheolwr y clwb chwaraeon, ac am ysgogiad yn erbyn perchennog y siop.

9.31 Mewn amgylchiadau penodol, mae hefyd yn anghyfreithlon i berson gyfarwyddo, achosi neu ysgogi person arall i gyflawni gweithredu o wahaniaethu neu aflonyddu mewn perthynas â thrydydd person yng nghyd-destun perthynas rhwng yr ail a’r trydydd person sydd wedi dirwyn i ben.

Enghraifft

9.32 Mae grŵp chwarae wedi ei yswirio trwy’r cyngor lleol ac ni all ddod o hyd i yswiriwr arall. Dywed y cyngor lleol na fydd yn yswirio’r grŵp i blant anabl sy’n dymuno mynychu. Mae’r grŵp chwarae yn gwrthod nifer o blant anabl a arferai fynychu o ganlyniad. Mae’r awdurdod lleol wedi achosi i’r grŵp chwarae wahaniaethu’n uniongyrchol yn erbyn y plant anabl hyn.

9.33 Mae’r Ddeddf hefyd yn gwahardd person rhag achosi (a.111(2)) neu ysgogi (a.111(3)) rhywun i helpu person arall i wneud gweithred anghyfreithlon (a.112(1)).

9.34 At ddiben yr adran hon o’r Ddeddf, nid oes gwahaniaeth pa un ai yw’r person sy’n cael ei gyfarwyddo, achosi neu ysgogi i gyflawni gweithred anghyfreithlon yn ei chyflawni ai peidio (a.111(6)). Mae hyn oherwydd bod cyfarwyddo, achosi neu ysgogi gweithredu anghyfreithlon ohono’i hun yn anghyfreithlon.

Pryd mae’r Ddeddf yn berthnasol?

9.35 Er mwyn i’r Ddeddf fod yn berthnasol, mae’n rhaid i’r berthynas rhwng y person sy’n rhoi’r cyfarwyddyd neu’n achosi neu ysgogi’r weithred anghyfreithlon a derbynnydd y cyfarwyddyd neu ysgogiad fod yn un lle mae gwahaniaethu, aflonyddu neu erlid wedi ei wahardd (a.111(7)). Bydd hyn yn cynnwys perthnasau cyflogaeth, darpariaeth gwasanaethau neu gyflawni swyddogaethau cyhoeddus, a pherthnasau eraill a lywodraethir gan y Ddeddf.

Enghraifft

9.36 Mae awdurdod lleol yn cynnal gwasanaethau gofal plant yn ei ardal. Mae’n cyfarwyddo ei weithwyr cymdeithasol sy’n gweithio fel contractwyr annibynnol bod yn rhaid iddynt beidio ag argymell i’r panel maethu bod unrhyw deulu o Gristnogion ffwndamentalaidd yn addas i faethu. Mae’r berthynas rhwng yr awdurdod lleol a’r gweithwyr cymdeithasol yn un lle caiff gwahaniaethu ei wahardd, o dan ddarpariaethau Rhan 5 o’r Ddeddf mewn perthynas â gweithwyr contract. Felly, bydd y darpariaethau mewn perthynas â chyfarwyddo, achosi neu ysgogi gwahaniaethu yn berthnasol. Darllener paragraff 9.39 am ragor o fanylion ynglŷn â phwy allai ddwyn honiad yn y senario hon.

Pwy sy’n cael eu gwarchod?

9.37 Pa un ai bod y cyfarwyddyd yn cael ei gyflawni ai peidio, ond cyn belled â’u bod yn profi niwed o ganlyniad, mae’r Ddeddf yn darparu rhwymedi i:

  • y person sy’n derbyn y cyfarwyddyd, achos neu ysgogiad
  • testun bwriadedig y gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth (a.111(5) a a.111(6))

9.38 Yn ogystal, mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y pŵer i ddwyn achosion, waeth a oes unrhyw un wedi profi niwed mewn gwirionedd ai peidio.

9.39 Felly, yn yr enghraifft ym mharagraff 9.36 lle cyfarwyddir y gweithwyr cymdeithasol i wahaniaethu gan yr awdurdod lleol, gallai fod gan y gweithwyr cymdeithasol a’r teuluoedd a effeithiwyd rwymedi yn erbyn yr awdurdod lleol am roi’r cyfarwyddyd. Os yw’r gweithwyr cymdeithasol yn profi niwed o ganlyniad i’r cyfarwyddyd hwn (yn cynnwys niwed am beidio â chydymffurfio) fe allent ddwyn honiad yn erbyn yr awdurdod lleol. Os yw’r gweithwyr cymdeithasol yn cydymffurfio â chyfarwyddyd yr awdurdod lleol, gallai teuluoedd a amddifadir o gyfleoedd maethu o ganlyniad ddwyn honiadau yn erbyn yr awdurdod lleol yn ogystal ag yn erbyn y gweithwyr cymdeithasol

Cynorthwyo tramgwyddau

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

9.40 Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gynorthwyo rhywun yn ymwybodol i wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu erlid person arall (a.112).

9.41 Mae hefyd yn anghyfreithlon i helpu person i wahaniaethu yn erbyn, neu aflonyddu person arall ar ôl i berthynas a gwmpesir gan y Ddeddf ddirwyn i ben, lle bo’r gwahaniaethu neu’r aflonyddu yn deillio o ac wedi ei gysylltu’n agos â’r berthynas.

9.42 Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i helpu gyda chyfarwyddyd i wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu erlid person arall neu achosi neu ysgogi gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth.

Enghraifft

9.43 Mae meddygfa o feddygon teulu yn rhannu ei safle â phractis deintydd sy’n gweithredu o’r llawr cyntaf. Mae’r practis deintydd yn hapus i’r feddygfa o feddygon teulu argymell y deintyddion i gleifion ond mae’n gofyn i reolwr y feddygfa i beidio â chyfeirio unrhyw gleifion anabl oherwydd nad yw’r deintyddion eisiau’r gost na’r ymdrech o wneud unrhyw addasiadau rhesymol.

Mae rheolwr y feddygfa o feddygon teulu yn cydymffurfio â’r cais a phan fydd cleifion anabl yn gwneud ymholiadau ynglŷn â’r deintydd, dywedir wrthynt fod y practis yn llawn, sy’n gelwydd. Gallai claf anabl wneud honiad o ‘gyfarwyddyd i wahaniaethu’ yn erbyn y practis deintydd ac am ‘gynorthwyo gweithred anghyfreithlon’ yn erbyn y feddygfa meddygon teulu.

9.44 Mae’r gwaharddiad ar wahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth yn berthnasol i bob maes a gwmpesir gan y Cod hwn.

Beth mae’n ei olygu i gynorthwyo rhywun i gyflawni gweithred anghyfreithlon?

9.45 Dylid rhoi ei ystyr arferol i ‘helpu’. Nid oes iddo yr un ystyr â chaffael, ysgogi neu achosi gweithred anghyfreithlon. Bydd yr help a roddir i rywun i wahaniaethu, aflonyddu neu erlid yn anghyfreithlon hyd yn oed os nad yw’n sylweddol na chynhyrchiol, cyn belled â nad oes modd ei anwybyddu [troednodyn 70].

Beth sydd angen i’r helpwr ei wybod er mwyn bod yn atebol?

9.46 Er mwyn i’r help fod yn anghyfreithiol, mae’n rhaid i’r person sy’n rhoi’r help wybod wrth roi’r help bod gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth yn ganlyniad tebygol. Ond nid oes rhaid i’r helpwr fwriadu’r canlyniad hwn wrth helpu.

Dibyniaeth resymol ar ddatganiad rhywun arall

9.47 Os dywedir wrth yr helpwr eu bod yn cynorthwyo gyda gweithred gyfreithiol, a’i bod yn rhesymol iddynt ddibynnu ar y datganiad hwn (a.112(2)), yna ni fydd yr help a roddant yn anghyfreithlon, hyd yn oed os yw’n dod yn hysbys iddo eu cynorthwyo â thorri’r Ddeddf. Fodd bynnag, mae’n drosedd i wneud datganiad ffug neu gamarweiniol ynglŷn â chyfreithlonedd deddf trwy wybod neu yn fyrbwyll (a.112(3) a a.112(4)).

9.48 Mae ‘rhesymol’ yn golygu rhoi sylw i’r holl amgylchiadau yn cynnwys natur y ddeddf a pha mor amlwg wahaniaethol ydyw, awdurdod y person sy’n gwneud y datganiad, a’r wybodaeth sydd gan yr helpwr, neu a ddylai fod ganddo.

Pennod 9 troednodiadau

  1. Warburton v Chief Constable of Northamptonshire Police [2022] ICR 925
  2. Warburton v Chief Constable of Northamptonshire Police [2022] ICR 925 a Shamoon v Chief Constable of the Royal Ulster Constabulary [2003] ICR 337
  3. Page v Lord Chancellor [2021] EWCA Civ 254 per Underhill LJ, Reynolds v CLFIS(UK) Ltd [2015] ICR 1010
  4. Commission for Racial Equality v Imperial Society of Teachers of Dancing [1983] IRLR 473
  5. Anyanwu v South Bank Students’ Union [2001] IRLR 305

Diweddariadau tudalennau