Cyflwyniad
12.1 Mae’r bennod hon yn esbonio sut mae’r Ddeddf (Rhan 7) yn berthnasol i gymdeithasau. Mae’n amlinellu’r hyn sydd gyfwerth â chymdeithas a’r hyn sy’n anghyfreithlon o dan y Ddeddf mewn perthynas ag aelodau, aelodau cyswllt, a gwesteion cymdeithasau, y sawl sy’n ceisio dod yn aelodau neu westeion, yn ogystal â chyn-aelodau, cyn-gymdeithion a chyn-westeion cymdeithas, a dyletswydd cymdeithas i wneud addasiadau rhesymol.
Mae’r bennod yn esbonio pryd y gall gymdeithasau gyfyngu ar eu haelodaeth i bersonau sy’n rhannu nodwedd warchodedig ac yn amlinellu sut gall cymdeithasau ddefnyddio’r darpariaethau gweithredu cadarnhaol yn y Ddeddf, yn cynnwys mesurau y gall pleidiau gwleidyddol, a chymdeithasau, eu cymryd er mwyn lleihau anghydraddoldeb yn eu cynrychiolaeth yn y Senedd, llywodraeth leol, a chyrff eraill a etholwyd gan y cyhoedd.
Nid yw Rhan 7 y Ddeddf yn berthnasol i nodwedd warchodedig priodas a phartneriaeth sifil.
Beth yw cymdeithas?
12.2 Mae’r darpariaethau (a.107(2)) yn Rhan 7 o’r Ddeddf yn berthnasol i unrhyw gymdeithas o bobl os:
- oes gan y gymdeithas o leiaf 25 o aelodau
- rheoleiddir mynediad i aelodaeth gan reolau’r gymdeithas ac mae’n ymwneud â phroses ddewis, a
- nid yw’n sefydliad masnach, megis busnes neu sefydliad proffesiynol neu undeb llafur
Mae Rhan 5 o’r Ddeddf yn berthnasol i sefydliadau masnach, ac mae dyletswyddau sefydliadau masnach o dan y Ddeddf y tu allan i gwmpas y Cod hwn.
12.3 Nid oes gwahaniaeth os yw’r gymdeithas wedi ei hymgorffori neu fel arall, neu os yw unrhyw rai o’i gweithgareddau wedi eu cynnal i wneud elw ai peidio (a.107(4)).
12.4 Mae cymdeithasau sy’n elusennau yn ddarostyngedig i ddarpariaethau ychwanegol o dan y Ddeddf, yn gysylltiedig ag elusennau yn benodol, a drafodir ym mharagraffau 13.41 i 13.48 (a.193).
12.5 Nid yw’r gofyniad bod gan elusennau reolau i reoleiddio mynediad i aelodaeth yn golygu bod yn rhaid i bob cymdeithas gael set ffurfiol o reolau ysgrifenedig. Bydd fel arfer yn ddigonol os yw’r rheolau ar gyfer mynediad i aelodau newydd yn wybyddus i’r holl aelodau sydd ynghlwm â’r broses ddewis ac yn cael eu cymhwyso’n rheolaidd a chyson.
12.7 Nid yw sefydliad sydd ond yn gofyn i aelodau o’r cyhoedd dalu i ymuno ag ef heb unrhyw fath o broses ddewis, megis clwb nos neu gampfa, yn gymdeithas o dan y Ddeddf. Nid oes gwahaniaeth pa un ai yw’n disgrifio’i hun fel ‘clwb’ neu’n cyfeirio at gwsmeriaid fel ‘aelodau’. Mae cyrff o’r fath ynghlwm â darparu gwasanaethau i’r cyhoedd neu adran o’r cyhoedd, a thrafodir eu dyletswyddau ym Mhennod 11.
12.8 Mae yna sefydliadau hefyd y mae pobl yn ymaelodi â hwy er mwyn cefnogi gwrthrychau’r sefydliad, megis clwb cefnogwyr tîm pêl-droed neu sefydliad ymgyrchu. Os nad oes proses ddewis a bod aelodaeth yn agored i unrhyw un sy’n talu ffi, yna ni fyddai sefydliadau o’r fath yn dod o fewn diffiniad y Ddeddf o sefydliad.
12.9 Nid yw ‘clwb’ a redir gan grŵp o ffrindiau heb unrhyw strwythur ffurfiol neu broses ddewis, megis clwb llyfrau neu grŵp cerdded, yn gymdeithas o dan y Ddeddf.
12.10 Gall cymdeithasau o dan y Ddeddf gynnwys, er enghraifft:
- cymdeithasau a sefydlwyd i hyrwyddo buddiannau eu haelodau, megis cymdeithas o arddwyr rhandiroedd organig lleol neu gymdeithas o gymnastwyr amaturaidd
- pleidiau gwleidyddol
- clybiau preifat yn cynnwys clybiau chwaraeon, clybiau i gyn-aelodau o’r lluoedd arfog, clwb gweithwyr, clybiau i bobl â diddordebau penodol megis garddio neu bysgota neu gerddoriaeth
- sefydliadau i bobl ifanc megis y Sgowtiaid, y Guides, Gwerin y Coed neu Glybiau Ffermwyr Ifanc, neu
- sefydliadau fel y Rotari a’r Inner Wheel Clubs, neu’r Seiri Rhyddion
Enghreifftiau yn unig a geir yn y rhestr uchod, ac mae llawer mwy o fathau o sefydliadau wedi eu cwmpasu gan y Ddeddf.
12.11 Gall cymdeithas fod yn ddarparwr gwasanaethau, yn gyflogwr neu’n gorff hyfforddi hefyd. Gall cymdeithas fod yn gyfrifol am ddarparu addysg neu ddefnyddio neu reoli eiddo. Mae’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu yn yr holl feysydd hyn a phan fydd cymdeithas yn cynnal unrhyw rai o’r swyddogaethau ychwanegol hyn, bydd hefyd yn ddarostyngedig i rannau perthnasol eraill o’r Ddeddf.
Felly, mae Pennod 11 o’r Cod hwn yn berthnasol i unrhyw gymdeithas pan fo’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd neu adran o’r cyhoedd. Mae’r Cod Ymarfer Cyflogaeth ar wahân yn berthnasol i unrhyw gymdeithas fel cyflogwr.
Cymhwyso’r Ddeddf i gymdeithasau
12.13 Mae’r Ddeddf yn berthnasol i’r modd mae cymdeithas yn trin ei haelodau, y sawl sy’n ceisio dod yn aelodau, aelodau cyswllt neu westeion, neu’r sawl sy’n ceisio dod yn westeion.
12.14 Mae ‘aelod’ yn golygu unrhyw fath o aelod o gymdeithas (a.107(5)). Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, person sy’n aelod llawn, yn aelod dros dro, yn aelod cyswllt neu’n aelod fyfyriwr.
12.15 ‘Mae ‘aelod cyswllt’ yn golygu person nad yw’n aelod ond sydd, yn ôl rheolau’r gymdeithas, â rhai neu holl hawliau aelod llawn o ganlyniad i fod yn aelod o gymdeithas arall (a.107(6)).
12.17 Gallai gwestai fod yn unrhyw berson nad yw’n aelod ond a wahoddir gan y gymdeithas neu gan aelod o’r gymdeithas i fwynhau neu gymryd rhan yn un o fuddion, cyfleusterau neu wasanaethau’r gymdeithas.
Beth yw gwahaniaethu anghyfreithlon gan gymdeithas?
12.18 Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gymdeithas wahaniaethu yn erbyn ei haelodau, aelodau cyswllt, a gwesteion, y sawl sy’n ceisio bod yn aelodau, y sawl sy’n ceisio bod yn westeion, yn ogystal â chyn-aelodau, cyn-aelodau cyswllt a chyn-westeion.
Mae gwahaniaethu yn golygu:
- gwahaniaethu uniongyrchol
- gwahaniaethu anuniongyrchol
- gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd
- gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth
- methiant i wneud addasiad rhesymol
Esbonnir y darpariaethau hyn ym:
- Pennod 4 - Gwahaniaethu uniongyrchol
- Pennod 5 – Gwahaniaethu anuniongyrchol
- Pennod 6 - Gwahaniaethu yn deillio o anabledd
- Pennod 7 – Pobl anabl: addasiadau rhesymol
12.19 Mae unrhyw gyfeiriad at ‘gwahaniaethu’ ym mharagraffau dilynol y bennod hon yn gyfeiriad at yr holl ffurfiau hyn o wahaniaethu yn erbyn nodweddion gwarchodedig oed; anabledd; ailbennu rhywedd; beichiogrwydd a mamolaeth; hil; crefydd neu gred; rhyw; a chyfeiriadaeth rywiol, oni bai y nodir yn benodol fel arall.
Ymddygiad anghyfreithiol arall
12.20 Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn anghyfreithiol i gymdeithas aflonyddu neu erlid ei haelodau, pobl sy’n ceisio dod yn aelodau, ei haelodau cyswllt, gwesteion a phobl sy’n ceisio dod yn westeion. Mae hefyd yn anghyfreithlon i gymdeithas aflonyddu ei gyn-aelodau, cyn-aelodau cyswllt a chyn-westeion (a.108).
Esbonnir aflonyddu ym Mhennod 8 .
12.21 Nid yw’r gwaharddiad ar aflonyddu aelodau, aelodau cyswllt a gwesteion a drafodir isod yn berthnasol pan mai’r nodwedd warchodedig yw crefydd neu gred neu gyfeiriadaeth rywiol (a.103(2)). Mewn achosion o’r fath, gallai person sydd wedi dioddef niwed mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig crefydd neu gred neu gyfeiriadaeth rywiol ddwyn honiad o wahaniaethu uniongyrchol (darllener Pennod 4 a Phennod 8) (a.212(5)).
Gallai aelod, aelod cyswllt, neu westai ddwyn honiad o aflonyddu os yw’r aflonyddu yn gysylltiedig ag oed; anabledd; ailbennu rhywedd; hil; neu ryw. Yn yr un modd, gall cyn-aelodau; cyn-aelodau cyswllt a chyn-westeion ddwyn honiadau o aflonyddu os yw’r aflonyddu yn gysylltiedig ag oed; anabledd; ailbennu rhywedd, hil; neu ryw.
12.22 Mae amddiffyniad rhag erledigaeth yn codi o dan y Ddeddf lle bo rhywun wedi cyflawni ‘gweithred warchodedig’. Esbonnir erledigaeth ym Mhennod 9.
Beth sy’n anghyfreithlon mewn perthynas â phobl yn ceisio dod yn aelodau?
12.23 Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gymdeithas wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu, neu erlid person sy’n ceisio dod yn aelod (a.101).
12.24 Rhaid i gymdeithas beidio â gwahaniaethu (a.101(1)):
- yn y trefniadau a wna ar gyfer dewis aelodau newydd
- o ran telerau mynediad, neu
- trwy wrthod cais y person
12.25 Rhaid i gymdeithas beidio ag aflonyddu person sy’n ceisio dod yn aelod (a.101(4)(b)).
12.26 Rhaid i gymdeithas beidio ag erlid person sy’n ceisio dod yn aelod (a.101(5)):
- yn y trefniadau a wna ar gyfer dewis aelodau newydd
- o ran telerau mynediad, neu
- trwy wrthod cais y person
12.28 Gall ‘trefniadau’ gynnwys sut neu i bwy mae trefniadau aelodaeth yn cael eu cyhoeddi, neu beidio, dulliau cyfathrebu, gweithdrefnau ymgeisio, ffurflenni cais, ac amser y dydd, lleoliad a’r dull o gynnal unrhyw broses ddewis.
Gallai’r trefniadau a wna cymdeithas ar gyfer dewis aelodau newydd atal person â nodwedd warchodedig benodol rhag ymgeisio, neu hyd yn oed ystyried a ddylent ymgeisio.
12.29 Gall ‘telerau mynediad’ gynnwys lefel y ffi aelodaeth, amodau a phrosesau derbyn.
Beth sy’n anghyfreithlon mewn perthynas ag aelodau?
12.31 Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gymdeithas wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu, neu erlid aelod.
12.32 Rhaid i gymdeithas beidio â gwahaniaethu yn erbyn aelod (a.101(2)):
- yn y modd y mae’n caniatáu neu’n gwrthod mynediad iddynt i fudd, cyfleuster, neu wasanaeth
- trwy eu hamddifadu o aelodaeth, neu
- trwy amrywio eu telerau aelodaeth,
- trwy achosi unrhyw niwed arall iddynt
12.33 Mae ‘budd, cyfleuster, neu wasanaeth’ yn disgrifio’r ystod eang o fanteision materol ac anfaterol a fwynheir gan aelodau cymdeithas a gall gynnwys gwahoddiad neu fynediad i gyfarfodydd neu ddigwyddiadau, y defnydd o offer neu gyfleusterau, mynediad i gynlluniau gostyngiad, gwasanaethau bar neu fwytai, neu dderbyn cyfnodolion neu gylchlythyron.
12.34 Gall ‘telerau aelodaeth’ gynnwys ffioedd neu daliadau, hawliau pleidleisio, yr hawl i sefyll i gael eu hethol neu gynrychioli’r gymdeithas yn allanol, amodau defnyddio cyfleusterau neu gyfranogaeth mewn digwyddiadau.
12.35 Am esboniad o ‘Niwed’ darllener paragraffau 9.12 i 9.16.
12.36 Mae ‘achosi unrhyw niwed arall i aelod’ yn gweithredu fel categori diofyn i gwmpasu sefyllfa lle rhoddir yr aelod o dan anfantais mewn perthynas â’u haelodaeth, ond nid mewn unrhyw un o’r ffyrdd y manylir yn eu cylch ym mharagraff 12.32(1), (2) neu (3). Hyd yn oed os yw cymdeithas yn ystyried eu bod yn gweithredu er lles pennaf person, gallai hynny achosi niwed i’r person.
12.38 Rhaid i gymdeithas beidio ag aflonyddu unrhyw un o’i haelodau (a.101(4)(a)).
12.40 Rhaid i gymdeithas beidio ag erlid aelod (a.101(6)):
- yn y modd y mae’n caniatáu neu’n gwrthod mynediad iddynt i fudd, cyfleuster, neu wasanaeth
- trwy eu hamddifadu o aelodaeth
- trwy amrywio eu telerau aelodaeth, neu
- trwy achosi unrhyw niwed arall iddynt
12.41 Pan na chafodd menyw ei derbyn fel aelod o gymdeithas fusnes leol, gwnaeth gŵyn bod y ffaith iddi gael ei gwrthod yn wahaniaethu ar sail rhyw. Fe gefnogodd ei gŵr, oedd yn aelod o’r gymdeithas ers amser, hi yn ei chwyn. Rai misoedd yn ddiweddarach, dywedwyd wrtho na fyddai’n cynrychioli’r gymdeithas hon mewn digwyddiad cenedlaethol fel y gwnaeth cynt, heb gwyno, am y pum mlynedd diwethaf. Mae ei ymdriniaeth gan y gymdeithas yn debygol o fod yn erledigaeth pe byddai o ganlyniad i’w gefnogaeth i gŵyn ei wraig.
Beth sy’n anghyfreithlon mewn perthynas ag aelodau cyswllt?
12.42 Rhaid i gymdeithas beidio â gwahaniaethu yn erbyn aelod cyswllt (a.101(3)):
- yn y modd y mae’n caniatáu neu wrthod mynediad iddynt i fudd, cyfleuster neu wasanaeth
- trwy eu hamddifadu o’u hawliau fel aelod cyswllt
- trwy amrywio eu hawliau fel aelod cyswllt, neu
- trwy achosi unrhyw niwed arall iddynt
12.44 Rhaid i gymdeithas beidio ag aflonyddu aelod cyswllt (a.101(4)(c)).
12.46 Rhaid i gymdeithas beidio ag erlid aelod cyswllt (a.101(7)):
- yn y modd y mae’n caniatáu neu wrthod mynediad iddynt i fudd, cyfleuster neu wasanaeth
- trwy eu hamddifadu o’u hawliau fel aelod cyswllt
- trwy amrywio eu hawliau fel aelod cyswllt, neu
- trwy achosi unrhyw niwed arall iddynt
Gwesteion a phobl sy’n ceisio dod yn westeion
12.48 Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gymdeithas, mewn amgylchiadau penodol, i wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu, neu erlid gwestai neu berson sy’n ceisio dod yn westai (a.102).
Beth sy’n anghyfreithlon mewn perthynas â phobl sy’n ceisio dod yn westeion?
12.49 Rhaid i gymdeithas beidio â gwahaniaethu (a.102(1)):
- yn y trefniadau a wna ar gyfer penderfynu pwy i’w gwahodd neu bwy i ganiatáu i’w gwahodd, fel gwestai
- o ran y telerau a ddefnyddia er mwyn gwahodd person neu ganiatáu i’r person hwnnw gael ei wahodd, fel gwestai, neu
- trwy beidio â gwahodd, neu beidio â chaniatáu, gwahodd y person, fel gwestai
12.51 Rhaid i gymdeithas beidio ag aflonyddu gwestai arfaethedig (a.102(3)(b)).
12.53 Rhaid i gymdeithas beidio ag erlid person sy’n ceisio dod yn westai (a.102(4)):
- yn y trefniadau a wna er mwyn penderfynu pwy i’w gwahodd neu bwy i’w caniatáu i gael eu gwahodd, fel gwestai
- o ran y telerau a ddefnyddia er mwyn gwahodd person neu ganiatáu i’r person hwnnw gael ei wahodd, fel gwestai, neu
- trwy beidio â gwahodd, neu beidio â chaniatáu, i’r person gael ei wahodd, fel gwestai
Beth sy’n anghyfreithlon mewn perthynas â gwesteion?
12.55 Rhaid i gymdeithas beidio â gwahaniaethu yn erbyn gwestai (a.102(2)):
- yn y modd y mae’n caniatáu neu wrthod mynediad iddynt i fudd, cyfleuster neu wasanaeth
- trwy achosi unrhyw niwed arall iddynt
12.57 Rhaid i gymdeithas beidio ag aflonyddu gwestai (a.102(3)(a)).
12.59 Rhaid i gymdeithas beidio ag erlid gwestai (a.102(5)):
- yn y modd y mae’n caniatáu neu’n gwrthod mynediad iddynt i fudd, cyfleuster neu wasanaeth, neu
- trwy achosi unrhyw niwed arall iddynt
Addasiadau rhesymol
12.61 Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gymdeithas fethu â chydymffurfio â dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol (At. 15).
Mae’r ddyletswydd (a.103(1)), a esbonnir mewn rhagor o fanylion ym Mhennod 7, yn rhagddyfalus. Golyga hyn ei bod yn ofynnol i gymdeithasau ystyried a chymryd camau gweithredu mewn perthynas â rhwystrau sy’n rhwystro pobl anabl cyn i berson anabl geisio dod yn aelod neu yn westai, neu fel aelod, aelod cyswllt neu westai geisio mwynhau’r hawliau a’r buddion, cyfleusterau, neu wasanaethau a ddarperir gan y gymdeithas neu y mae disgwyl iddynt eu darparu (a.107(8)).
12.63 Ni fydd yn ofynnol i gymdeithas gymryd unrhyw gamau a fyddai’n newid yn sylfaenol natur y gymdeithas, neu natur y budd, cyfleuster neu wasanaeth o dan sylw (At. 15 para 2(7)).
12.65 Os yw cymdeithas yn cwrdd yn nhŷ aelod, nid oes dyletswydd ar yr aelod hwnnw i addasu nodweddion ffisegol eu tŷ (At. 15 para 2(8)).
Gall cymdeithasau gyfyngu ar aelodaeth i bersonau sy’n rhannu nodwedd warchodedig
12.66 Mae’r Ddeddf yn caniatáu cymdeithasau o unrhyw faint neu gymeriad, oni bai am bleidiau gwleidyddol, i gyfyngu ar eu haelodaeth i bersonau sy’n rhannu nodwedd warchodedig (At. 16). Yr unig eithriad yw na all aelodaeth fyth gael ei gyfyngu ar sail lliw (At. 16 para 1(4)).
12.68 Nid yw’r ddarpariaeth yn berthnasol i bleidiau gwleidyddol (At. 16 para 1(5)). Mae plaid wleidyddol gofrestredig yn blaid sydd wedi ei chofrestru yng nghofrestr Prydain Fawr o dan Rhan 2 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. O dan y Ddeddf Cydraddoldeb nid yw byth yn gyfreithiol i blaid wleidyddol gofrestredig gyfyngu ei haelodaeth i bersonau sy’n rhannu nodwedd warchodedig; er enghraifft, ni fyddai’n gyfreithiol i blaid wleidyddol ganiatáu pobl sy’n Albanwyr yn unig, neu Gristnogion yn unig, i fod yn aelodau o’r blaid.
12.69 Os yw cymdeithas yn cyfyngu ei haelodaeth i bersonau sy’n rhannu nodwedd warchodedig:
- gallai’r gymdeithas gyfyngu ar fynediad aelodau cyswllt i fudd, cyfleuster neu wasanaeth i aelodau cyswllt sy’n rhannu’r un nodwedd warchodedig (At. 16 para 1(2)), a
- gallai’r gymdeithas wahodd fel aelodau neu ganiatáu i gael eu gwahodd fel aelodau pobl sy’n rhannu’r un nodwedd warchodedig yn unig (At. 16 para 1(3))
12.71 Rhaid i gymdeithasau gyfyngu ar aelodaeth i bersonau sy’n rhannu nodwedd warchodedig benodol beidio â gwahaniaethu mewn perthynas ag unrhyw nodwedd warchodedig arall.
12.73 Trafodir eithriadau eraill sy’n berthnasol i gymdeithasau a’u hymdriniaeth o’u haelodau, aelodau cyswllt a gwesteion ym Mhennod 13.
12.74 Mae’r rhain yn cynnwys eithriadau mewn perthynas â nawdd cymdeithasol, elusennau, gwasanaethau un rhyw, gwasanaethau ac aelodaeth o sefydliadau crefyddol, ymdriniaeth wahanol yn sgil pryderon iechyd a diogelwch mewn perthynas â beichiogrwydd, a dewis pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol.
Gweithredu cadarnhaol gan gymdeithasau
12.75 Mae’r Ddeddf yn diffinio’r amgylchiadau pan gall gymdeithas gymryd cam gweithredu cadarnhaol er mwyn goresgyn anfantais, i ddiwallu gwahanol anghenion neu i gynyddu cyfranogaeth pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig (a.158). Mae Pennod 10 yn esbonio hyn yn llawnach.
12.76 Gallai cymdeithas ddymuno gweithredu’n gadarnhaol er mwyn galluogi pobl o fewn pob adran berthnasol o’r gymuned i gael eu derbyn fel aelodau neu gael eu gwahodd fel gwesteion â mynediad llawn i’r buddion, cyfleusterau a gwasanaethau a brofir gan aelodau neu westeion.
Pleidiau gwleidyddol: gweithredu cadarnhaol wrth ddewis ymgeiswyr
12.78 Mae’r Ddeddf yn caniatáu plaid wleidyddol gofrestredig (darllener paragraffau 12.85 i 12.88) i gymryd camau penodol wrth ddewis ymgeiswyr er mwyn lleihau anghydraddoldeb yng nghynrychiolaeth y blaid ar y corff etholedig perthnasol (a.104).
12.79 Mae hyn yn berthnasol i’r etholiadau canlynol:
- etholiadau i Senedd y DU
- etholiadau i Senedd yr Alban
- etholiadau i Senedd Cymru
- etholiadau llywodraeth leol
12.80 Mae’r Ddeddf yn darparu y gall plaid wleidyddol gofrestredig wneud trefniadau (a adwaenir fel trefniadau dewis) (a.104(2)) ar gyfer rheoleiddio’r dewis o’i ymgeiswyr ar gyfer etholiad berthnasol (a.104(3)):
- os mai pwrpas y trefniant yw lleihau anghydraddoldeb yng nghynrychiolaeth y blaid ar y corff etholedig o dan sylw (a.104(3)(b)), ac
- os yw’r trefniadau hyn yn ddull cymesur o gyflawni’r pwrpas hwnnw (darllener paragraffau 5.46 i 5.48 am esboniad o ‘cymesur’) (a.104(3)(c))
Nid yw’r gofyniad bod yn rhaid i drefniadau dewis fod yn gymesur yn berthnasol i restrau byrion menywod yn unig (darllener paragraff 12.89).
12.81 Mae anghydraddoldeb yng nghynrychiolaeth plaid ar gorff etholedig yn golygu anghydraddoldeb rhwng y nifer o ymgeiswyr y blaid a etholir fel aelodau o’r corff hwnnw sy’n rhannu nodwedd warchodedig o gymharu o ymgeiswyr etholedig y blaid nad ydynt yn rhannu’r nodwedd warchodedig honno (a.104(4)). Mae’r gymhareb sy’n ofynnol yn ôl a.104(4) yn ôl cyfansoddiad presennol y corff etholedig o dan sylw.
12.82 I’r diben hwn, mae personau’n rhannu nodwedd warchodedig anabledd os ydynt yn bersonau anabl yn gyffredinol. Ni chaniateir trefniadau dewis sy’n gyfyngedig i bersonau sydd ag anabledd penodol (er enghraifft, dallineb) (a.104(5)).
12.84 Mae’n annhebygol o fod yn gymesur i blaid wleidyddol fabwysiadu trefniadau dewis sy’n canolbwyntio’n unig ar wella’r gynrychiolaeth o un grŵp penodol sy’n rhannu nodwedd warchodedig a fyddai’n gostwng ymhellach y cyfleoedd o gael eu dewis i bobl mewn grwpiau eraill a dan-gynrychiolir.
Llefydd wedi eu cadw ar restrau aros pleidiau gwleidyddol
12.85 Lle ceir anghydraddoldeb yng nghynrychiolaeth plaid, mae’r Ddeddf yn caniatáu plaid wleidyddol i fabwysiadu trefniadau mabwysiadu a fyddai’n cadw nifer benodol o lefydd ar eu rhestrau byrion o ymgeiswyr i bersonau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig sydd wedi eu tangynrychioli yn ymgeiswyr etholedig y blaid ar y corff perthnasol (a.104(7)).
12.86 Fel rheol gyffredinol, ni all pleidiau gwleidyddol gadw’r holl lefydd ar restr fer etholiadol i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig benodol. Mae eithriadau i’r rheol hon ar gyfer nodwedd warchodedig rhyw (darllener paragraff 12.89 a pharagraff 12.90) ac anabledd (darllener paragraffau 12.91 i 12.95).
12.88 Os yw plaid yn sicrhau cydraddoldeb mewn perthynas â nodwedd warchodedig benodol yn ei chynrychiolaeth ar gorff etholedig, ni fydd modd iddi barhau i gadw llefydd ar restrau byrion i bobl sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig honno na chymryd unrhyw fesurau eraill o dan y ddarpariaeth hon, gan na fyddai bellach yn weithred gymesur.
Rhestrau byrion menywod yn unig
12.89 Mae’r Ddeddf yn cynnal y ddarpariaeth, a gyflwynwyd gyntaf yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw (Ymgeiswyr Etholiadol) 2002, sy’n caniatáu pleidiau gwleidyddol cofrestredig i ddewis menywod yn unig ar gyfer eu rhestr fer o ymgeiswyr i’w hethol i gorff, er mwyn lleihau anghydraddoldeb rhwng menywod a dynion yng nghynrychiolaeth y blaid honno ar y corff etholedig o dan sylw (a.105).
12.90 Mae’r Ddeddf yn ymestyn y cymhwysiad o’r ddarpariaeth hon hyd nes 31 Rhagfyr 2030. Ar ôl y dyddiad hwn bydd rhestrau byrion menywod yn unig yn anghyfreithlon, oni bai bod y llywodraeth yn gwneud gorchymyn i ymestyn y dyddiad hwn.
Rhestrau byrion anabledd yn unig
12.91 Gall pleidiau gwleidyddol gyfyngu rhestrau byrion i ymgeiswyr anabl. Mae hyn oherwydd mai dim ond y sawl sy’n diwallu’r disgrifiad o anabledd o dan y Ddeddf sydd wedi eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu ar sail anabledd ac mae’r Deddf yn dweud yn benodol nad yw’n wahaniaethu uniongyrchol i drin pobl anabl yn fwy ffafriol na rhywun nad yw’n anabl (a.13(3)).
12.92 Fodd bynnag, byddai’n wahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd pe byddai plaid yn cyfyngu rhestr fer i ymgeiswyr anabl ag amhariad penodol neu fath o amhariad. Byddai hyn yn trin rhai pobl anabl yn fwy ffafriol na phobl anabl eraill oherwydd eu hanabledd.
12.93 Ni fydd rhestr fer anabledd yn unig yn wahaniaethu uniongyrchol os gall y blaid wleidyddol arddangos bod y trefniant yn ddull cymesur o leihau’r anghydraddoldeb rhwng ei chynrychiolwyr nad ydynt yn anabl a’r sawl sydd yn anabl (a.104(3)(b), a.104(4) ac a.104(5)).
12.95 Y tu hwnt i’r darpariaethau penodol a ddisgrifir uchod sy’n caniatáu gweithredu cadarnhaol wrth ddewis neu greu rhestr fer o ymgeiswyr, mae darpariaethau gweithredu cadarnhaol cyffredinol y Ddeddf yn caniatáu i bleidiau gwleidyddol fynd i’r afael ag anfantais a thangynrychiolaeth yn eu haelodaeth a saernïaeth y blaid (a.158). Am ragor o wybodaeth, darllener Pennod 10.
Osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon
12.96 Mae rhai camau y gallai cymdeithasau eu cymryd er mwyn osgoi gwahaniaethu uniongyrchol yn cynnwys:
- adolygu amodau neu ofynion ar gyfer aelodaeth yn eu cyfansoddiad neu reolau, er mwyn sicrhau nad ydynt yn wahaniaethol
- gwneud unrhyw berson, yn cynnwys unrhyw swyddog, aelod neu gyflogai, sy’n gweithredu neu a allai gael ei bennu i weithredu ar ran y gymdeithas yn ymwybodol o’u dyletswyddau o dan y Ddeddf, gan ddarparu hyfforddiant fel bo’r angen
- ymateb ar fyrder ac yn effeithiol i unrhyw gŵyn yn ymwneud â gwahaniaethu, aflonyddu neu erlid a gwneud newidiadau priodol i ddarpariaethau, meini prawf neu arferion
- adnabod rhwystrau posibl i bobl anabl a gwneud addasiadau rhesymol (mae Pennod 7 yn esbonio hyn yn llawnach)
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
2 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf
2 Hydref 2024