Cyflwyniad
13.1 Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn cynnwys sawl eithriad sy’n caniatáu ymddygiad a fyddai fel arall yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf yn narpariaeth gwasanaethau, cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a gweithredoedd cymdeithasau.
13.2 Mae’r eithriadau yn y bennod hon yn wahanol i ddarpariaethau gweithredu cadarnhaol y Ddeddf, sy’n caniatáu gweithredoedd penodol i fod o fudd i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig. Trafodir y darpariaethau hyn ym Mhennod 10.
13.3 Mae’r bennod hon yn esbonio eithriadau sy’n berthnasol yn gyffredinol i ddarpariaeth gwasanaethau, cyflawni swyddogaethau a gweithredoedd cymdeithasau, ac eithriadau eraill sydd ond yn berthnasol i weithredoedd penodol. Trafodir rhai eithriadau ym Mhennod 11 (Gwasanaethau a Swyddogaethau Cyhoeddus) a Phennod 12 (Cymdeithasau) os ydynt ond yn berthnasol i’r gweithgareddau hynny.
13.4 Yn gyffredinol, mae gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth gan ddarparwr gwasanaethau, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf oni bai bod eithriad yn berthnasol. Dylid ystyried unrhyw eithriad fel arfer yn gyfyngol fel bod y geiriad a ddefnyddir yn yr eithriad yn cael ei ddarllen i roi ei ystyr mwyaf cul.
13.5 Nid yw aflonyddu mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig crefydd a chred a chyfeiriadaeth rywiol wedi ei wahardd o dan y Ddeddf yn y meysydd a gwmpesir gan y Cod hwn (a.29(8)). Fodd bynnag, lle bo ymddygiad di-ofyn mewn perthynas ag unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig hyn yn arwain at niwed i berson, gallai’r person hwnnw ddwyn honiad o wahaniaethu uniongyrchol (darllener Pennod 4).
Yn y bennod hon, defnyddir y term ‘aflonyddu’ i gyfeirio at aflonyddu mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig:
- oed (ar gyfer gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus, i’r sawl sydd dros 18 oed yn unig)
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- hil
- rhyw
Cyfeiriadau at fathau o wahaniaethu
13.6 Fel esboniwyd ym Mhennod 1, defnyddir y term ‘gwahaniaethu’ i gyfeirio at wahaniaethu uniongyrchol, gwahaniaethu anuniongyrchol a, lle bo’n berthnasol, gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd, methiant i wneud addasiad rhesymol (a.25), a gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth (a.17).
Eithriadau statudol
Mae’r canlynol i gyd yn eithriadau statudol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Awdurdod statudol
13.7 Nid yw’n doriad ar y Ddeddf, fel sy’n berthnasol i wasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau, i wneud unrhyw beth sy’n angenrheidiol oherwydd deddfwriaeth arall neu fesur arall mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig penodol (fel esbonnir ym mharagraff 13.8) (At. 22 para 1).
13.8 Ceir gwahanol eithriadau, yn dibynnu ar bwy sydd â’r rhwymedigaeth a’r nodwedd warchodedig berthnasol mewn sefyllfa benodol. Amlinellir y rhain yn y tabl isod.
Pwy sydd â'r rhwymedigaethau | Nodwedd warchodedig | Gofyniad |
---|---|---|
Darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau | Oed | Unrhyw beth sy’n ofynnol o dan ddeddfiad |
Darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau | Anabledd |
Unrhyw beth sy’n ofynnol o dan ddeddfiad Gofyniad neu amod |
Darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau | Crefydd neu gred |
Unrhyw beth sy’n ofynnol o dan ddeddfiad Gofyniad neu amod |
Y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau | Rhyw |
Unrhyw beth sy’n ofynnol o dan ddeddfiad |
Darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau | Cyfeiriadedd rhywiol |
Unrhyw beth sy’n ofynnol o dan ddeddfiad Gofyniad neu amod |
13.9 Mae deddfiad yn golygu:
- Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu gan Senedd yr Alban
- Deddf neu Fesur gan Senedd Cymru
- gorchmynion neu reoliadau a wneir o dan neu at ddiben Deddfau neu Fesurau o’r fath
- Mesurau Synod Cyffredinol Eglwys Loegr
13.11 Mae gofyniad neu amod yn y cyd-destun hwn yn un a wneir yn rhinwedd deddfiad gan:
- Gweinidog y Goron
- aelod o Weithrediaeth yr Alban
- Senedd Cymru neu Weinidogion Cymru
- Prif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru
13.13 Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i fesurau o’r fath waeth pryd y casânt eu pasio neu eu creu.
13.15 Pe byddai’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas wedi medru cydymffurfio o hyd â deddfiad, gofyniad neu amod heb drin rhywun mewn modd a fyddai’n torri’r Ddeddf, yna ni fyddai’r eithriad yn berthnasol.
Gwahaniaethu ar sail cenedligrwydd a awdurdodwyd gan statud neu’r weithrediaeth
13.16 Nid yw’r Ddeddf (At. 23 para 1) yn gwahardd y canlynol mewn perthynas â gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus os cânt eu cyflawni i gydymffurfio â deddfiad, offeryn a wneir o dan ddeddfiad, gofyniad a osodir o dan ddeddfiad, neu gytundeb neu amod Gweinidogol:
- gwahaniaethu ar sail cenedligrwydd
- gwahaniaethu anuniongyrchol, lle bo’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn cyfeirio at fan preswylio arferol person neu ba mor hir mae person wedi bod yn bresennol neu’n preswylio yn neu y tu allan i’r DU neu ardal o fewn y DU
13.17 Fel esbonnir ym mharagraff 13.14, dim ond lle bydd rhwymedigaeth o dan y mesuriadau a restrir ym mharagraff 13.16 yn gadael darparwr gwasanaeth neu berson sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus heb ddewis arall ond gweithredu mewn modd penodol [troednodyn 74] – mewn perthynas â chenedligrwydd person neu eu preswyliad yn y DU – y gellir trechu darpariaethau’r Ddeddf.
13.19 Ceir eithriadau ar wahân sy’n berthnasol i swyddogaethau mewnfudo, a thrafodir y rhain isod ym mharagraffau 13.177 i 13.195.
Y Senedd a’r broses ddeddfwriaethol
13.20 Nid yw darpariaethau wasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus y Ddeddf yn berthnasol i swyddogaeth y Senedd neu swyddogaeth sy’n ymarferadwy mewn cysylltiad â busnes swyddogol y Senedd (At. 3 paragraffau 1 a 2).
Mae’r eithriad hwn hefyd yn berthnasol i unrhyw gamau o fewn y broses ddeddfwriaethol yn Senedd y DU, Senedd yr Alban neu Senedd Cymru, yn cynnwys paratoi, gwneud neu ystyried Deddf, Bil ar gyfer Deddf (neu fesur yng Nghymru) neu baratoi, gwneud, cadarnhau, cymeradwyo neu ystyried offeryn o dan y Ddeddf. Mae’r eithriad hefyd yn cwmpasu unrhyw offeryn gan y Synod Cyffredinol, Ei Fawrhydi yn y Cyfrin Gyngor neu’r Cyfrin Gyngor.
Swyddogaethau barnwrol
13.21 Nid yw darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus y ddeddf yn berthnasol i swyddogaeth farnwrol, yn cynnwys unrhyw beth a wneir ar ran person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus (At. 3 para 3).
Mae hyn yn cynnwys swyddogaethau a gyflawnir gan berson oni bai am lys neu dribiwnlys, er enghraifft, swyddogaethau penodol y Bwrdd Parôl. Mae’r eithrio hefyd yn cwmpasu penderfyniad i beidio â chychwyn neu barhau ag achosion troseddol, ac unrhyw beth a wneir mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw.
Y lluoedd arfog
13.22 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail oed, anabledd, ailbennu rhywedd a rhyw wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus at ddiben sicrhau effeithlonrwydd y lluoedd arfog wrth frwydro (At. 3 para 4).
Gwasanaethau diogelwch
13.23 Nid yw darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus y Ddeddf (At. 3 para 5) yn berthnasol i:
- y Gwasanaeth Diogelwch
- y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth
- Pencadlys Cyfathrebiadau’r Llywodraeth
- rhan o’r lluoedd arfog sy’n cynorthwyo Pencadlys Cyfathrebiadau’r Llywodraeth lle bo hyn yn ofynnol gan yr Ysgrifenydd Gwladol
Diogelwch Gwladol
13.24 Nid yw’n doriad ar y Ddeddf i wneud unrhyw beth sy’n gymesur i’w wneud at ddiben diogelu diogelwch gwladol (a.192).
13.25 Mae’r eithriad hwn yn berthnasol ar sail achos-wrth-achos. I fod yn gyfreithiol, mae’n rhaid i’r ddeddf benodol fod yn ddull cymesur o ddiogelu diogelwch gwladol.
13.26 Dylai darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau fod yn ymwybodol y gallai gweithred sy’n gymesur mewn un sefyllfa neu ar un adeg beidio â bod yn gymesur mewn sefyllfa wahanol neu ar adeg wahanol.
13.27 Er enghraifft, mewn cyfnod o risgiau diogelwch gwladol dwysach, byddai gosod gwaharddiad diwahân ar bob person o genedligrwydd penodol rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn annhebygol o ddiwallu prawf cymesuredd. Fodd bynnag, ar adegau o’r fath, gallai cynnal gwyliadwriaeth wedi ei arwain gan wybodaeth o unigolion penodol â’r cenedligrwydd hwnnw fod yn gymesur. Pan fydd y sefyllfa ddiogelwch yn gwella, efallai na fydd bellach yn gymesur i gynnal gwyliadwriaeth o’r fath ar gyfer diogelu diogelwch gwladol.
Sefydliadau crefyddol neu gred
13.28 Nid yw’n doriad ar y Ddeddf, fel sy’n berthnasol i wasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau, os yw sefydliad crefyddol neu gred yn cyfyngu ar wasanaethau, aelodaeth a gweithgareddau eraill os yw amgylchiadau penodol yn cael eu diwallu (At. 23 para 2).
Mae’r eithriad hwn ond yn berthnasol i nodweddion gwarchodedig crefydd neu gred neu gyfeiriadaeth rywiol.
13.29 Fel esboniwyd ym mharagraff 13.5, nid yw’r gwaharddiad ar aflonyddu yn berthnasol lle bo’r ymddygiad yn berthnasol i nodweddion gwarchodedig cyfeiriadaeth rywiol neu grefydd neu gred (a.103(2)).
13.30 Mae sefydliad crefyddol neu gred yn sefydliad ag un o’r canlynol yn ddiben iddo (At. 23 para 2(1)):
- ymarfer neu hyrwyddo crefydd neu gred neu addysgu ei arferion neu egwyddorion
- galluogi pobl â chrefydd neu gred i dderbyn unrhyw fudd neu gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd o fewn fframwaith y grefydd neu’r gred honno, neu
- feithrin neu gynnal perthnasau da rhwng pobl o wahanol grefyddau neu gredoau
13.31 Nid yw’r eithriad hwn yn berthnasol i sefydliad â phrif neu unig ddiben masnachol (At. 23 para 2(2)).
13.33 Yn achos crefydd neu gred (At. 23 para 2(6)), caiff pob un o’r cyfyngiadau (darllener paragraff 13.31) ond eu caniatáu os cânt eu cyflwyno:
- oherwydd diben y sefydliad, neu
- er mwyn osgoi achosi tramgwydd, ar sail y grefydd neu’r gred y mae’r sefydliad yn gysylltiedig â hi, i bobl â’r grefydd neu’r gred honno
13.34 Yn achos cyfeiriadaeth rywiol (At. 23 para 2(7)), caiff pob un o’r cyfyngiadau (darllener paragraff 13.31) ond eu caniatáu os cânt eu cyflwyno:
- oherwydd ei bod yn angenrheidiol i gydymffurfio ag athroniaeth y sefydliad, neu
- er mwyn osgoi gwrthdaro â daliadau crefyddol cryf (neu ddaliadau sy’n gysylltiedig â chred) nifer sylweddol o ddilynwyr y grefydd neu’r gred
13.35 Mewn perthynas â chrefydd neu gred a chyfeiriadaeth rywiol (At. 23 para 2(3), cyn belled â bod un o’r amodau statudol ym mharagraff 13.29 neu baragraff 13.30 wedi eu diwallu, mae’r Ddeddf yn caniatáu bod sefydliad crefyddol neu gred yn cyfyngu ar:
- aelodaeth
- cyfranogaeth mewn gweithgareddau a gyflawnir gan neu ar ran y sefydliad neu o dan ei nawdd
- darpariaeth nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau yng nghwrs gweithgareddau o’r fath
- y defnydd neu reolaeth o eiddo sy’n berchen i neu a reolir gan y sefydliad
13.37 Mewn perthynas â chrefydd neu gred a chyfeiriadaeth rywiol, mae’r Ddeddf yn caniatáu i berson wneud unrhyw rai o’r gweithredoedd a amlinellir ym mharagraff 13.31 ar ran, neu o dan nawdd, sefydliad crefyddol neu gred, cyn belled â bod un o’r amodau statudol ym mharagraff 13.29 neu baragraff 13.30 yn cael eu diwallu (At. 23 para 2(4)).
13.38 Cyn belled â bod un o’r amodau statudol ym mharagraff 13.29 neu baragraff 13.30 yn cael eu diwallu, nid yw’n doriad ar y Ddeddf mewn perthynas â chrefydd neu gred a chyfeiriadaeth rywiol (At. 23 para 2(5)) os yw gweinidog yn cyfyngu ar:
- gyfranogiad mewn gweithgareddau a gyflawnir wrth gyflawni eu swyddogaethau fel gweinidog mewn perthynas â sefydliad crefyddol
- darpariaeth nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau wrth ddarparu gweithgareddau o’r fath
At ddiben yr eithriad hwn, mae’r Ddeddf (At. 23 para 2(8)) yn diffinio gweinidog fel gweinidog crefyddol neu berson arall sy’n:
- perfformio swyddogaethau sy’n gysylltiedig â chrefydd neu gred y sefydliad, ac
- yn dal swydd neu benodiad neu sydd wedi ei achredu, ei gymeradwyo neu ei gydnabod at ddiben y sefydliad
13.39 Mae gwahaniaethu ar sail cyfeiriadaeth rywiol yn parhau’n anghyfreithlon mewn perthynas â gwasanaeth neu swyddogaeth gyhoeddus a ddarperir gan sefydliad crefyddol neu gred ar ran un o’r awdurdodau cyhoeddus a restrir yn Atodlen 19 y Ddeddf, os yw’r ddarpariaeth honno o dan gytundeb â’r awdurdod hwnnw. Mae hyn yn cynnwys trefniadau lle bydd sefydliad yn cyflawni tasg y byddai gofyn fel arall i’r awdurdod cyhoeddus ei chyflawni (At. 23 para 2(10)). Nid oes angen i’r berthynas gontractiol fod yn un rhwng prif arferydd ac asiant [troednodyn 75].
13.41 Mae gwahaniaethu ar sail cyfeiriadaeth rywiol hefyd yn parhau’n anghyfreithlon mewn perthynas â sefydliad crefyddol neu gred sydd ond o bosibl o fewn cwmpas yr eithriad hwn oherwydd mai ei ddiben (fel disgrifir ym mharagraff 13.26) yw meithrin neu gynnal perthnasoedd da rhwng pobl o wahanol grefyddau neu gredoau yn unig (At. 23 para 2(11)).
Hyfforddiant a ddarperir i bobl nad ydynt yn breswylwyr
13.42 Mae’r Ddeddf yn cynnwys eithriad lle bydd person yn cyflogi neu’n cynnig gwaith contract i rywun nad yw fel arfer yn preswylio ym Mhrydain Fawr ac mai prif neu unig ddiben y gwaith hwnnw yw darparu hyfforddiant (At. 23 para 4(1)). Mae’r eithriad yn berthnasol lle bo’r person sy’n cyflogi neu’n cynnig gwaith contract i gyflogai neu gontractiwr yn meddwl nad ydynt yn bwriadu defnyddio sgiliau maen nhw’n eu caffael o ganlyniad i’w cyflogaeth neu waith contract ym Mhrydain Fawr.
13.43 O dan yr amgylchiadau hyn, nid yw’n doriad ar y Ddeddf os yw person yn darparu cyflogai neu gontractiwr â mynediad i gyfleusterau er mwyn cael budd hyfforddi neu ategol, pa un ai bod hynny yn gysylltiedig â chyflogaeth, gwaith contract neu unrhyw beth arall (At. 23 para 4(3)). Mae’r eithriad hwn ond yn berthnasol mewn perthynas â chenedligrwydd yr unigolyn.
Elusennau
13.45 Nid yw’r Ddeddf (a.193(1) i (2) ac a.194(1) a (4)) yn gwahardd person rhag darparu buddion i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn unig os yw hyn yn unol ag offeryn elusennol sy’n sefydlu neu’n llywodraethu elusen, ac sydd naill ai:
- yn fodd cymesur o gyflawni nod ddilys, neu
- at ddiben atal, neu wneud yn iawn am, anfantais sy’n gysylltiedig â’r nodwedd warchodedig honno
13.46 ‘Offeryn elusennol’ elusen yw ei dogfen lywodraethu neu, yn yr Alban, ei chyfansoddiad neu ei dogfen sefydlu. Mae’n amlinellu dibenion yr elusen, sut gellir gwario’i harian a sut bydd yr elusen yn gweithredu. Gan ddibynnu ar strwythur gyfreithiol yr elusen, gall hyn fod ar ffurf cyfansoddiad neu reolau, gweithred ymddiriedolaeth neu femorandwm ac erthyglau cymdeithasu. Gallai hefyd fod yn siarter, Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddogfen arall, neu gyfuniad o ddwy neu ragor o ddogfennau.
13.48 Nid yw’r eithriad hwn yn caniatáu elusen i gyfyngu ar grŵp o bobl sydd i dderbyn buddion yn ôl lliw (a.194(2) ac a.193(4)). Os yw’r offeryn elusennol yn ceisio galluogi bod buddion yn cael eu darparu i grŵp o bobl a ddiffinnir yn ôl lliw, yna caiff ei drin fel pe na bai’r diffiniad hwnnw wedi bodoli. Yn y sefyllfa hon:
- os yw’r grŵp o bobl sydd i dderbyn buddion yn cael ei ddiffinio yn ôl lliw yn unig, cymhwysir yr offeryn elusennol fel pe bai’n galluogi i fuddion gael eu darparu i bob person yn gyffredinol
- os yw’r grwp o bobl sydd i dderbyn buddion wedi ei ddiffinio yn rhannol yn ôl lliw, cymhwysir yr offeryn elusennol fel pe bai’n galluogi i fuddion gael eu darparu i’r grŵp o bobl heb gyfeiriadaeth at liw
13.51 Mae’n rhaid i’r elusen a’i ymddiriedolwyr ystyried i ddechrau a yw cyfyngu ar fuddion elusen i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn diwallu y naill neu’r llall o ddau brawf y Ddeddf ym mharagraff 13.41. Lle caiff yr elusen ei herio, yna byddai’r cwestiwn hwn yn cael ei benderfynu’n derfynol gan y llysoedd.
13.52 Gall y ‘prawf budd i’r cyhoedd’ y mae’n rhaid i bob elusen ei fodloni er mwyn ennill statws elusennol fod o gymorth, ond ni fydd yn gwarantu bod unrhyw gyfyngiad o’r fath yn diwallu yr un o’r ddau brawf y cyfeirir atynt yn y Ddeddf. Bydd Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr a Rheoleiddiwr Elusennol yr Alban yn ystyried effaith debygol unrhyw gyfyngiad mewn perthynas â buddiolwyr yn yr offeryn elusennol, a pha un ai y gellir cyfiawnhau cyfyngiad o’r fath, pan yn asesu a yw nodau elusen yn diwallu’r prawf ‘budd y cyhoedd’.
Diwallu’r prawf ar gyfer cyfyngu ar fuddion
Dulliau cymesur o gyflawni nod dilys
13.53 Trafodir y gofynion ar gyfer dangos bod cyfyngiad yn ddull cymesur o gyflawni nod dilys mewn termau cyffredinol ym mharagraffau 5.52 i 5.58.
Yn achos corff â statws elusennol, byddai angen i’r cyfyngiad hyrwyddo, neu mewn unrhyw achos beidio ag atal, gwireddu un o’i nodau a nodwyd. Caniateir i elusen gymhwyso rheol wedi’i diffinio’n glir i’r sawl a fydd ac na fydd yn derbyn ei fuddion, ac mae’r gostyngiad yn y gost weinyddol sy’n gysylltiedig â rheol o’r fath yn berthnasol pan yn ystyried cymesuredd y cyfyngiad [troednodyn 76].
13.54 I fod yn gymesur, dylid cydbwyso effaith y cyfyngiad ar symud y nod o dan sylw yn ei flaen yn erbyn ei effaith ar y sawl sydd wedi eu hatal rhag derbyn buddion [troednodyn 77]. Dylid asesu hyn ar sail grŵp yn hytrach nag ar sail unigolion, trwy gymharu’r manteision i grwpiau a gwmpesir gan y cyfyngiad a’r anfanteision i grwpiau sy’n disgyn y tu hwnt iddo [troednodyn 78].
Atal neu wneud yn iawn am anfantais sy’n gysylltiedig â’r nodwedd warchodedig
13.55 Er mwyn dangos bod cyfyngu ar ei fuddion i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig at ddiben atal neu wneud yn iawn am anfantais sy’n gysylltiedig â’r nodwedd warchodedig honno, bydd angen i’r elusen ddangos cysylltiad rhesymol rhwng yr anfantais a brofwyd yn y gorffennol neu a brofir ar hyn o bryd gan y grŵp hwn a’r buddion a ddarperir gan yr elusen.
Fel trafodwyd ym mharagraff 5.20, gall anfantais gynnwys:
- diffyg cyfle
- diffyg dewis
- allgau neu wrthod rhag, neu rwystrau i, fynediad i wasanaethau, addysg neu gyflogaeth
Gall yr anfantais hwn fod yn amlwg a gwybyddus neu gallai’r elusen wybod amdano trwy ei waith ymchwil wedi’i gyllido neu dystiolaeth o ffynonellau eraill. Dylai’r buddion mae’r elusen yn eu darparu fedru gwneud gwahaniaeth o ran goresgyn yr anfantais sy’n gysylltiedig â’r nodwedd warchodedig.
13.57 Nid yw’n ofynnol bod yn rhaid i elusen ddarparu buddion i’r grwpiau sydd fwyaf o dan anfantais neu asesu anfantais berthynol gwahanol grwpiau. Mae’r Ddeddf ond yn gofyn, os yw elusen yn darparu buddion i grŵp o bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig gan allgau eraill, mae’n rhaid iddo fedru dangos mai diben cyfyngu ar fuddion yn y modd hwn yw atal neu wneud yn iawn am anfantais a brofwyd gan aelodau o’r grŵp neu grwpiau dethol hynny.
13.59 Dylai elusennau y mae eu hamcanion yn cynnwys darparu buddion i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn unig barhau i adolygu eu hamcanion er mwyn sicrhau bod y cyfyngiadau’n parhau’n gyfreithiol o dan y Ddeddf.
13.61 Os yw elusen wedi, yn barhaus o ddyddiad cyn 18 Mai 2005, ei gwneud yn ofynnol i aelodau neu aelodau arfaethedig wneud datganiad sy’n cadarnhau neu awgrymu aelodaeth neu dderbyniad o grefydd neu gred, mae’r Ddeddf yn ei ganiatáu i barhau i wneud hynny (a.193(5) a (6)). Os yw elusen yn cyfyngu ar fynediad ei haelodau i fudd, cyfleuster neu wasanaeth i’r sawl sy’n gwneud datganiad o’r fath, caiff hyn ei drin fel gosod gofyniad o’r fath.
Gweithgarwch i gefnogi elusen
13.62 Nid yw’n doriad ar y Ddeddf, oherwydd ei fod yn berthnasol i wasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus, i atal cyfranogiad mewn gweithgareddau i bobl o un rhyw yn unig lle cynhelir y gweithgareddau hynny at ddiben hyrwyddo neu gefnogi elusen (a.193(7)). Enghraifft fyddai digwyddiad nofio noddedig i fenywod yn unig er mwyn codi arian i elusen.
Chwaraeon cystadleuol
13.63 Mae’r Ddeddf yn cynnwys tri math o eithriad a allai fod yn berthnasol mewn perthynas â chwaraeon cystadleuol, gêm neu weithgaredd gystadleuol arall (a.195).
Chwaraeon cystadleuol – rhyw ac ailbennu rhywedd
13.64 Nid yw’n doriad ar y Ddeddf os yw person yn trefnu digwyddiadau chwaraeon cystadleuol ar wahân i ddynion a menywod mewn amgylchiadau penodol (a.195(1) a (3)). Mae’r rhain lle byddai person arferol o un rhyw o dan anfantais fel cystadleuydd yn erbyn person arferol o’r rhyw arall yn sgil eu cryfder corfforol, stamina, neu eu corffoledd.
13.65 Golyga hyn bod trefnu digwyddiadau un rhyw neu’r ddau ryw ar wahân i ddynion a menywod yn cael ei ganiatáu mewn chwaraeon, gêm neu weithgaredd gystadleuol arall, lle bo person arferol o un rhyw o dan anfantais o gymharu â pherson arferol o’r rhyw arall, yn sgil gwahaniaethau mewn cryfder corfforol, stamina, neu gorffoledd. Lle nad oes anfantais yn sgil y ffactorau hyn, byddai trefnu digwyddiadau ar wahân yn anghyfreithlon.
13.67 Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i chwaraeon plant hefyd (a.195(4)). Fodd bynnag, mae’n rhaid i drefnwyr ystyried pa un ai bod gwahaniaethau sylweddol mewn cryfder corfforol, stamina a chorffoledd o ran oed a chyfnod datblygiadol y plant sy’n cystadlu yn y weithgaredd.
13.69 Mae’r Ddeddf yn caniatáu darparwyr gwasanaeth a’r sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i gyfyngu ar gyfranogaeth person traws mewn chwaraeon cystadleuol, gemau, neu weithgareddau eraill lle mae person arferol o un rhyw o dan anfantais o gymharu â pherson arferol o’r rhyw arall, yn sgil gwahaniaethau mewn cryfder corfforol, stamina, neu gorffoledd (a.195(2)).
13.70 Dim ond yn y gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff 13.65 y gellir atal person traws rhag cystadlu lle bo’n angenrheidiol i gyfyngu ar eu cyfranogaeth am resymau o gystadlu teg neu ddiogelwch cystadleuwyr. Gallai hyn gynnwys cyfyngu’n uniongyrchol ar gyfranogaeth, neu trwy weithredu polisïau sy’n gofyn am nodweddion ffisiolegol megis lefelau testosteron penodol, a allai effeithio yn anad dim ar bobl traws yn ymarferol.
13.71 Golyga hyn y gall trefnwyr atal pobl traws rhag cyfranogi mewn gweithgaredd chwaraeon un rhyw gyda phersonau o’r rhyw arall adeg geni, os yw’n angenrheidiol gwneud hynny oherwydd y gallai eu cyfranogiad achosi mantais neu anfantais cystadleuol, neu y gallai o bosibl roi eu diogelwch nhw eu hunain neu gyfranogwyr eraill mewn perygl. Lle nad yw’r ffactorau hyn yn berthnasol, ni ellir dibynnu ar yr eithriad a byddai unrhyw gyfyngiadau ar eu cyfranogaeth yn anghyfreithlon.
13.73 Yn aml gall fod yn angenrheidiol i sefydliadau ddatblygu polisïau cyffredinol er mwyn arwain a hysbysu eu penderfyniadau yn y maes hwn. Dylai polisïau gael eu cefnogi â sail resymegol a sylfaen dystiolaeth glir ac yn aml byddant yn dymuno tynnu o ganllawiau gan awdurdodau chwaraeon. Gallai ffactorau perthnasol gynnwys:
- pa un ai yw gweithgaredd yn anad dim yn gystadleuol neu gymdeithasol neu adlonnol a pha un ai ei fod yn elît neu ar gyfer cyfranogaeth dorfol. Gallai’r ffactorau hyn fod yn arwyddocaol wrth bennu’r pwys perthynol a roddir i gynhwysiant, tegwch a diogelwch
- pa un ai bod ffactorau risg penodol megis y rhai sy’n codi o gyswllt corfforol
- i ba raddau y ceir manteision cystadleuol sy’n codi o ffactorau megis cryfder corfforol, stamina neu gorffoledd
- pa un y gellir gostwng mantais gystadleuol yn ddigonol trwy ymyrraeth feddygol megis cyffuriau i ostwng lefelau o destosteron) er mwyn gwneud y gystadleuaeth yn deg
Chwaraeon cystadleuol – cenedligrwydd, man geni ayyb
13.75 Nid yw’r Ddeddf (a.195(5) i (6)) yn gwahardd unrhyw beth a wneir oherwydd cenedligrwydd neu fan geni person na pha mor hir mae’r person hwnnw wedi byw mewn ardal neu fan penodol, ac sy’n berthnasol er mwyn:
- ddewis un neu fwy o bobl i gynrychioli gwlad, lle neu ardal neu gymdeithas gysylltiedig mewn chwaraeon, gêm neu weithgaredd gystadleuol arall
- cydymffurfio â rheolau cymhwystra ar gyfer cyfranogi yn y weithgaredd hwnnw
Chwaraeon cystadleuol - oed
13.76 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail oed lle bo person yn gwneud unrhyw beth mewn perthynas â chyfranogaeth unigolyn mewn gweithgareddau cystadleuol sydd ‘wedi eu bandio yn ôl oed’ (a.195(7)).
13.77 Gall unrhyw unigolyn neu gorff sydd ynghlwm ag unrhyw agwedd o’r weithgaredd gystadleuol, er enghraifft, hyfforddi, dyfarnu, neu drefnu, ddefnyddio’r eithriad hwn.
13.78 Mae’n rhaid i’r camau gweithredu a gymerir gan yr unigolyn neu gorff mewn perthynas â chyfranogaeth unigolyn fod yn angenrheidiol er mwyn:
- sicrhau cystadleuaeth deg
- sicrhau diogelwch cystadleuwyr
- cydymffurfio â rheolau cystadleuaeth genedlaethol, neu ryngwladol
- cynyddu cyfranogaeth yn y weithgaredd hwnnw
Diffiniad o ‘weithgaredd wedi ei fandio yn ôl oed’
13.79 Golyga gweithgaredd wedi ei fandio yn ôl oed chwaraeon, gêm neu weithgaredd gystadleuol arall lle byddai cryfder corfforol neu feddyliol person, eu hystwythder, stamina, corffoledd, symudedd, aeddfedrwydd neu fedrusrwydd corfforol person yn eu rhoi o dan anfantais o gymharu â phobl arferol o grŵp oed arall pan yn cystadlu mewn digwyddiadau sy’n cynnwys y weithgaredd (a.195(8)). Mae hyn yn berthnasol i weithgareddau corfforol megis athletau yn ogystal â gweithgareddau nad ydynt yn bennaf yn rhai corfforol megis bridge neu wyddbwyll.
Gwasanaethau i grwpiau penodol
13.81 Mae’r Ddeddf yn cynnwys eithriadau penodol a drafodir isod sy’n galluogi darparwyr gwasanaethau ac, mewn achosion penodol, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus, i ddarparu gwasanaethau:
- ar wahân i fenywod a dynion
- i fenywod yn unig
- i ddynion yn unig
- dim ond i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig
- i bobl o grŵp oed penodol
13.82 Mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys eithriad sy’n caniatáu cymdeithasau i gyfyngu aelodaeth i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig. Trafodir hyn ym mharagraffau 12.66 i 12.72.
Yn ogystal, mae’r Ddeddf yn cynnwys eithriad sy’n caniatáu cymdeithasau i gyfyngu ar fynediad i lety cymunedol. Esbonnir hyn ym mharagraffau 13.124 i 129.
Gwasanaethau ar wahân i fenywod a dynion
13.83 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail rhyw lle bo darparwr gwasanaeth (yn cynnwys person sy’n darparu gwasanaeth trwy gyflawni swyddogaethau cyhoeddus) yn cynnig gwasanaethau ar wahân i ddynion a menywod mewn amgylchiadau penodol.
13.84 Mae hi ond yn gyfreithiol i ddarparu gwasanaeth rhyw ar wahân os:
- byddai gwasanaeth ar y cyd yn llai effeithiol, a
- bod darparu’r gwasanaeth ar wahân yn ddull cymesur o gyflawni nod dilys (At. 3 para 26))
13.85 Os nad yw’r amodau hyn yn berthnasol, mae’r ddarpariaeth o wasanaethau rhyw ar wahân yn debygol o fod yn wahaniaethu anghyfreithiol ar sawl rhyw.
13.86 Gallai’r nod dilys gynnwys sicrhau iechyd a diogelwch rhai neu’r holl bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Byddai’n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau fedru dangos bod eu gweithredu yn fodd cymesur o gyflawni’r nod hwnnw. Byddai hyn yn gofyn am gydbwyso’r effaith o ddarparu gwasanaethau ar wahân ar bawb sy’n defnyddio’r gwasanaethau.
13.88 Nid yw’r Ddeddf (At. 3 para 26(2)) ychwaith yn gwahardd gwahaniaethu ar sail rhyw lle bo darparwr gwasanaeth (yn cynnwys person sy’n darparu gwasanaeth trwy gyflawni swyddogaethau cyhoeddus (a.31(3)) yn darparu gwasanaethau ar wahân i bob rhyw mewn modd gwahanol, os:
- byddai gwasanaeth ar y cyd i’r ddau ryw yn llai effeithiol
- mae’r graddau y mae un rhyw yn dymuno’r gwasanaeth yn ei gwneud yn afresymol yn ymarferol i ddarparu’r gwasanaeth oni bai ei fod ar wahân ac yn wahanol i’r ddau ryw, a
- bod darpariaeth gyfyngedig y gwasanaeth yn fodd cymesur o gyflawni nod dilys
13.90 Nid yw’r Ddeddf ychwaith yn gwahardd gwahaniaethu ar sail rhyw lle bo person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn gwneud unrhyw beth mewn perthynas â darparu gwasanaethau ar wahân, neu wasanaethau a ddarperir yn wahanol i fenywod a dynion, am y rhesymau a amlinellir uchod (At. 3 para 26(3)).
Gwasanaethau un rhyw
13.92 Nid yw’r Ddeddf (At. 3 para 27)) yn gwahardd gwahaniaethu ar sail rhyw lle bo darparwr gwasanaeth (yn cynnwys person sy’n darparu gwasanaeth trwy gyflawni swyddogaethau cyhoeddus) yn darparu gwasanaeth i un rhyw yn unig, os yw gwneud hynny yn fodd cymesur o gyflawni nod dilys, a bod o leiaf un o'r amodau ym mharagraffau 13.93 i 13.103 yn berthnasol:
13.93 (1) Dim ond pobl o’r rhyw honno sydd eisiau gwasanaeth.
13.95 (2) Nid yw gwasanaeth a ddarperir ar y cyd i’r ddau ryw yn ddigon effeithiol heb ddarparu gwasanaeth ychwanegol ar gyfer un rhyw yn unig.
13.97 (3) Ni fyddai gwasanaeth a ddarperir i ddynion a menywod ar y cyd mor effeithiol, a bod y galw am y gwasanaethau yn ei gwneud yn afresymol yn ymarferol i ddarparu gwasanaethau ar wahân i bob rhyw.
13.99 (4) Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn ysbyty neu fan arall lle mae angen gofal, goruchwyliaeth neu sylw arbennig ar gleifion.
13.101 (5) Mae’r gwasanaeth ar gyfer, neu’n debygol o gael ei ddefnyddio gan, fwy nag un person ar yr un pryd, a gallai menyw wrthwynebu’n rhesymol presenoldeb dyn, neu fel arall.
13.103 (6) Mae’r gwasanaeth yn debygol o gynnwys cyswllt corfforol rhwng y defnyddiwr gwasanaeth a pherson arall a gallai’r person arall hwnnw wrthwynebu’n rhesymol os yw’r defnyddiwr o’r rhyw arall.
13.105 Mae’n rhaid i’r gwrthwynebiadau yn (5) ac (6) fod yn ‘rhesymol’. Nid yw cyswllt corfforol cyfyng nad yw’n bersonol yn debygol o gyfiawnhau darpariaeth ar wahân mewn perthynas ag (6) er enghraifft. Er enghraifft, mae’r ffaith y gall fod rhywfaint o gyswllt corfforol rhwng cyfranogwyr mewn dosbarthiadau hyfforddiant cymorth cyntaf yn annhebygol o gyfiawnhau darparu sesiynau un rhyw.
13.106 Yn yr un modd, lle bo person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn gwneud unrhyw beth mewn perthynas â darparu gwasanaethau un rhyw, bydd hyn yn gyfreithiol cyn belled â bod un o’r amodau (1) i (6) yn cael eu diwallu, a bod darpariaeth o’r fath o’r gwasanaeth yn fodd cymesur o gyflawni nod dilys.
13.107 Pa un eu bod yn darparu gwasanaethau rhyw ar wahân neu un rhyw, mae’n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau fedru arddangos ei fod yn fodd cymesur o gyflawni nod dilys. Mae cymesuredd yn gofyn eu bod yn cydbwyso effaith darparu gwasanaethau i un rhyw yn unig neu ddarparu gwasanaethau ar wahân neu’n wahanol i ddynion a menywod ar bob defnyddiwr gwasanaeth. Dylid cymhwyso polisïau’n hyblyg hefyd a dylasent ystyried lle ceir amgylchiadau penodol a allai gyfiawnhau ymadael â’r polisi.
13.109 Mae hi’n arfer dda cofnodi’r rhesymau pam i benderfyniad gael ei wneud i ddarparu gwasanaeth ar wahân neu un rhyw, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth gefnogi.
Gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd a gwasanaethau ar wahân ac un rhyw
13.111 Os yw darparwr gwasanaeth (yn cynnwys person sy’n darparu gwasanaeth trwy gyflawni swyddogaethau cyhoeddus) yn darparu gwasanaethau un rhyw neu ar wahân i fenywod a dynion, neu’n darparu gwasanaethau yn wahanol i fenywod a dynion, dylent ystyried eu hymdriniaeth o ddefnydd pobl traws o’r gwasanaeth (At. 3 para 28).
13.112 Dylai darparwyr nodi, at ddibenion y Ddeddf, bod ‘rhyw’ yn cyfeirio at ryw cyfreithiol [troednodyn 79]. Dyma ryw person fel y’i cofnodwyd naill ai ar eu tystysgrif geni, neu eu Tystysgrif Cydnabod Rhywedd.
13.113 Mae amgylchiadau lle gall darparwr gwasanaeth ar wahân neu un rhyw atal, cyfyngu ar, neu addasu mynediad pobl traws i’r gwasanaeth. Caiff hyn ei ganiatáu o dan y Ddeddf. Fodd bynnag, gallai cyfyngu ar neu addasu mynediad i, neu wahardd person traws rhag, y gwasanaeth ar wahân neu un rhyw ar gyfer y rhywedd a gyflwynant ynddo fod yn anghyfreithlon os na all y darparwr gwasanaeth ddangos bod gweithredu o’r fath yn fodd cymesur o gyflawni nod dilys. Mae hyn yn berthnasol pa un ai bod gan y person GRC ai peidio.
13.114 Mae pa un ai yw hyn yn gyfreithiol yn dibynnu ar natur y gwasanaeth a gallai fod yn gysylltiedig â’r rheswm pam bod angen y gwasanaeth ar wahân neu un rhyw. Gallai nod dilys fod yn ddiogelwch, preifatrwydd, neu urddas pobl eraill.
13.116 Mae’n rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddangos wedyn bod eu gweithred yn fodd cymesur o gyflawni’r nod hwnnw. Mae hyn yn gofyn eu bod yn ystyried effaith eu penderfyniad neu ymdriniaeth ar bob defnyddiwr gwasanaeth, yn enwedig y sawl a allai fod o dan anfantais.
13.117 Dylai darparwyr gydbwyso ac ystyried anghenion gwahanol grwpiau. Dylent ystyried a yw’r rheswm dros atal, cyfyngu ar neu addasu mynediad pobl traws i unrhyw wasanaeth yn gorbwyso unrhyw effeithiau gwahaniaethol yr ymdriniaeth (h.y. pa un ai bod yr effaith ar bobl traws yn cael ei orbwyso gan yr effaith ar bobl eraill pe cynhwysir pobl traws yn llawn).
13.118 Os nad yw’r cyfiawnhad dros gyfyngu ar neu atal mynediad person traws i’r gwasanaeth un rhyw ar gyfer eu rhywedd o ddewis yn gorbwyso’r effeithiau niweidiol posibl, mae’n debygol o fod yn anghyfreithlon gwneud hynny.
13.119 Os yw rheswm y darparwr gwasanaeth dros eu gweithredu yn gorbwyso’r effeithiau gwahaniaethol, mae’n debygol o fod yn gyfreithiol i allgau person traws o’r gwasanaeth un rhyw ar gyfer y rhywedd y cyflwynant ynddo, neu i addasu neu gyfyngu ar eu mynediad i’r gwasanaeth.
13.121 Bydd yn aml yn angen rheidiol i ddarparwyr gwasanaeth fod â pholisi sy’n amlinellu sut caiff gwasanaethau un rhyw eu darparu i bobl traws. Pan yn datblygu polisi, mae’n bwysig ystyried sut gellid ei gymhwyso’n hyblyg, ac y gallai rhai amgylchiadau penodol gyfiawnhau ymadael â’r polisi. Dylai unrhyw bolisi amlinellu meini prawf clir sy’n caniatáu darparwr i ystyried amgylchiadau penodol wrth iddynt godi.
13.122 Mae ystyriaethau priodol ynglŷn â pha un ai ei bod yn gymesur i wahardd, addasu neu gyfyngu ar fynediad pobl traws yn cynnwys lle bo gan ddarparwr gwasanaeth adnoddau cyfyng neu ddiffyg lle corfforol i addasu’r modd y darperir y gwasanaeth, neu os ydynt yn ymdrin â grwpiau ag anghenion penodol; er enghraifft, dioddefwyr ymosodiadau rhywiol.
13.123 Dylai darparwyr gwasanaethau, ym mhob achos, drin unigolion â pharch ac urddas, a dylent ystyried dull gweithredu sydd, cyn belled â bod modd, yn cydbwyso anghenion pob defnyddiwr gwasanaeth.
Llety cymunedol
13.124 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sawl rhyw neu wahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd lle bo person yn gwneud unrhyw beth mewn perthynas â derbyn pobl i lety cymunedol, neu ddarparu unrhyw fudd, cyfleuster neu wasanaeth sy’n gysylltiedig â’r llety (At. 23 para 3(1)). Mae’r eithriad hwn yn berthnasol os bodlonir y meini prawf a amlinellir isod ym mharagraffau 13.127 i 13.129.
13.125 ‘Llety cymunedol’ yw llety preswyl sy’n cynnwys ystafelloedd cysgu neu unrhyw lety cysgu arall a rennir a ddylai, am resymau preifatrwydd, ond gael ei defnyddio gan bobl o’r un rhyw (At. 23 para 3(5) i (6)). Gall hefyd gynnwys:
- llety cysgu wedi’i rannu i ddynion a menywod
- llety cysgu arferol
- llety preswyl, y dylai’r cyfan neu ran ohono gael ei ddefnyddio gan bobl o’r un rhyw yn unig oherwydd natur cyfleusterau glanweithdra’r llety
13.126 Mae budd, cyfleuster neu wasanaeth yn gysylltiedig â llety cymunedol os nad oes modd ei ddarparu’n iawn ac yn effeithiol oni bai i’r sawl sy’n defnyddio’r llety. Gellir ond ei wrthod i berson os oes modd gwrthod defnydd o’r llety yn gyfreithiol iddynt (At. 23 para 3(7)).
13.127 Mae’r eithriad hwn ond yn berthnasol os rheolir y llety cymunedol mewn modd sydd mor deg â phosibl i fenywod a dynion (At. 23 para 3(2)).
13.128 Pan yn gwahardd person rhag defnyddio llety cymunedol oherwydd rhyw neu ailbennu rhywedd, mae’n rhaid i’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas ystyried:
- pa un ei bod yn rhesymol a pha mor rhesymol yw disgwyl y dylid addasu’r llety neu ei wneud yn fwy neu y dylid darparu llety ychwanegol, ac
- amlder cymharol y galw am y llety gan bobl o’r ddau ryw (At. 23 para 3(3))
13.129 Bydd gwahardd person rhag defnyddio llety cymunedol oherwydd ailbennu rhywedd ond yn gyfreithiol os yw’n fodd cymesur o gyflawni nod dilys (At. 23 para 3(4)). Mae’r materion y dylai darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas eu hystyried yn debyg i’r rhai a amlinellir ym mharagraffau 13.112 i 13.115.
Gwasanaethau ar wahân neu un rhyw mewn perthynas â chrefydd
13.130 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail rhyw wrth ddarparu gwasanaethau neu gyflawni swyddogaethau cyhoeddus lle bo gweinidog crefyddol yn darparu gwasanaethau ar wahân neu un rhyw (At. 3 para 29(1)). Mae’r eithriad hwn yn berthnasol os:
- darparir y gwasanaeth at ddiben crefydd gyfundrefnol
- caiff ei ddarparu mewn man a ddefnyddir (yn barhaol neu dros dro) at y dibenion hyn, a
- mae’r ddarpariaeth gyfyngedig o’r gwasanaeth yn angenrheidiol i gydymffurfio ag athrawiaeth y grefydd, neu
- mae’r ddarpariaeth gyfyngedig o’r gwasanaeth at ddiben osgoi gwrthdaro â daliadau crefyddol cadarn nifer sylweddol o ddilynwyr y grefydd
13.131 Yn y cyd-destun hwn, mae gweinidog yn weinidog crefyddol neu berson arall sydd:
- yn perfformio swyddogaethau sy’n gysylltiedig â’r grefydd, ac
- yn dal swydd neu benodiad mewn sefydliad perthnasol mewn perthynas â chrefydd, neu sydd wedi ei achredu, ei gymeradwyo neu ei adnabod at ddibenion un (At. 3 para 29(2))
13.132 Sefydliad perthnasol yw un nad yw ei unig neu ei brif ddiben yn un masnachol, ac sy’n un o’r canlynol (At. 3 para 29(3) i (4)):
- ymarfer neu hyrwyddo’r grefydd
- addysgu ymarfer neu egwyddorion y grefydd
- galluogi pobl sy’n dilyn y grefydd i dderbyn buddion, neu ymwneud â gweithgareddau, o fewn fframwaith y grefydd
- meithrin neu gynnal perthnasau da rhwng pobl o wahanol grefyddol
13.134 Nid yw’r eithriad hwn yn berthnasol i weithredoedd o addoli, nad ydynt yn “wasanaethau” o fewn ystyr y Ddeddf, felly nid oes angen eithriad.
13.135 Nid yw’r eithriad hwn yn caniatáu aflonyddu neu erledigaeth, sy’n parhau wedi eu gwahardd o dan y Ddeddf.
Gwasanaethau a ddarperir yn gyffredinol i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig
13.136 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu mewn achosion penodol lle darparir gwasanaeth yn gyffredinol i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn unig (megis pobl hoyw neu bobl o darddiad ethnig penodol) (At. 3 para 30).
Mae’r eithriad hwn yn caniatáu darparwr gwasanaeth (yn cynnwys person sy’n darparu gwasanaeth wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus) sydd fel arfer yn darparu’r gwasanaeth i aelodau o’r grŵp hynny i:
- barhau i ddarparu’r gwasanaeth yn y modd hwnnw
- gwrthod darparu’r gwasanaeth i bobl nad ydynt yn aelodau o’r grŵp hwnnw, os yw’r darparwr gwasanaeth yn meddwl yn rhesymol nad yw’n ymarferol gwneud hynny
13.137 Nid yw’r ddarpariaeth hon yn golygu, os darperir gwasanaeth yn gyffredinol i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig, bod yn rhaid i bob darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth yn y modd cyfyngedig hwn. Golyga’n syml bod modd i ddarparwr gwasanaeth sydd fel arfer yn darparu gwasanaeth yn y modd hwnnw barhau i wneud hynny.
13.139 Nid yw’r ddarpariaeth yn berthnasol i’r sawl sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus nad yw’n darparu gwasanaeth, neu i gymdeithasau. Nid yw’n caniatáu aflonyddu neu erledigaeth, sy’n parhau wedi eu gwahardd o dan y Ddeddf.
Beichiogrwydd – iechyd a diogelwch
13.140 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu gan ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau mewn achosion penodol ar sail pryderon iechyd a diogelwch yn ymwneud â beichiogrwydd. Esbonnir yr eithriadau hyn mewn rhagor o fanylion isod.
Mae’r eithriadau yn berthnasol lle bo’r darparwr gwasanaeth, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas yn credu bod risg iechyd a diogelwch gwirioneddol neu bosibl i’r fenyw feichiog. Nid ydynt yn berthnasol i unrhyw risgiau o’r fath i ffetws heb ei eni. Yn ogystal, nid yw’r eithriadau yn caniatáu aflonyddu neu erledigaeth, sy’n parhau wedi eu gwahardd o dan y Ddeddf.
13.141 Pan yn esbonio’r eithriadau hyn defnyddiwn yr un iaith â’r Ddeddf, sy’n cyfeirio at wahaniaethu yn erbyn menywod ar sail beichiogrwydd a mamolaeth. Fel esbonnir ym mharagraff 4.54, mae dyn traws sy’n disgyn yn feichiog yn debygol o gael ei warchod o dan nodwedd warchodedig beichiogrwydd a mamolaeth [troednodyn 80].
13.142 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu gan ddarparwr gwasanaeth neu berson sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus pan yn gwrthod gwasanaeth i fenyw feichiog ar sail ei beichiogrwydd os ydynt:
- yn credu’n rhesymol y byddai darparu’r gwasanaeth yn achosi risg i iechyd a diogelwch y fenyw oherwydd ei beichiogrwydd, ac
- yn gwrthod darparu’r gwasanaeth i bobl â chyflyrau corfforol eraill oherwydd cred resymol y byddai darparu’r gwasanaeth yn creu risg i’w hiechyd a diogelwch (At. 3 para 14(1))
13.144 Yn yr un modd, nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu gan ddarparwr gwasanaeth neu berson sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus lle maent yn darparu, neu’n cynnig darparu, gwasanaeth amodol i fenyw feichiog ar sail ei beichiogrwydd os:
- bwriedir yr amodau er mwyn cael gwared ar neu leihau risg i’w hiechyd a diogelwch
- yw’r darparwr gwasanaeth neu’r person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn credu’n rhesymol y byddai darparu’r gwasanaeth heb yr amodau yn creu risg o’r fath i’w hiechyd a diogelwch, a
- bod y darparwr gwasanaeth neu’r person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn cyflwyno amodau ar ddarparu’r gwasanaeth i bobl â chyflyrau corfforol eraill oherwydd cred resymol y byddai darparu’r gwasanaeth heb amodau o’r fath yn creu risg i’w hiechyd a diogelwch (At. 3 para 14(2))
13.145 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu gan gymdeithas lle bo’n cymhwyso gwahanol delerau ar gyfer caniatáu menyw feichiog yn aelod neu aelod cyswllt, neu eu gwahodd fel ymwelydd (neu ganiatáu iddynt gael eu gwahodd fel ymwelydd) os:
- yw’r telerau yn cynnwys amod a fwriedir er mwyn cael gwared ar neu leihau risg i iechyd a diogelwch yr unigolyn
- yw’r gymdeithas yn credu’n rhesymol, heb yr amod, y byddai caniatáu mynediad i’r person yn achosi risg o’r fath, ac
- yw’r gymdeithas yn gosod telerau mynediad i bobl â chyflyrau corfforol eraill sy’n cynnwys amod a fwriedir i gael gwared ar neu leihau risg i’w hiechyd neu ddiogelwch, oherwydd cred resymol y byddai caniatáu mynediad iddynt heb amod o’r fath yn creu risg i’w hiechyd a diogelwch (At. 16 para 2(1) a (2))
13.146 Yn yr un modd, nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu gan gymdeithas lle mae’n amrywio telerau aelodaeth aelod beichiog neu’n amrywio hawliau aelod cyswllt beichiog, os:
- bwriedir yr amrywiad i’r telerau neu’r hawliau er mwyn cael gwared ar neu leihau risg i iechyd neu ddiogelwch yr unigolyn
- yw’r gymdeithas yn credu’n rhesymol y byddai peidio ag amrywio’r telerau neu’r hawliau yn creu risg o’r fath, a
- yw’r gymdeithas yn amrywio telerau neu hawliau pobl â chyflyrau corfforol eraill gyda’r bwriad o gael gwared ar neu leihau risg i’w hiechyd neu ddiogelwch, oherwydd cred resymol na fyddai gwneud hynny yn creu risg o’r fath (At. 16 para 2(5))
13.147 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu gan gymdeithas lle mae’n darparu mynediad i aelod, aelod cyswllt neu ymwelydd beichiog i fudd, cyfleuster neu wasanaeth mewn modd gwahanol (At. 16 para 2(3)), os:
- bwriedir y modd a ddefnyddir gan y gymdeithas i gael gwared ar neu leihau risg i iechyd neu ddiogelwch yr unigolyn
- yw’r gymdeithas yn credu’n rhesymol y byddai darparu mynediad mewn unrhyw ffordd arall yn creu risg o’r fath, ac
- yw’r gymdeithas yn darparu mynediad i bobl â chyflyrau corfforol eraill i fudd, cyfleuster neu wasanaeth mewn modd a fwriedir i gael gwared ar neu leihau risg i’w hiechyd neu ddiogelwch, oherwydd cred resymol y byddai darparu mynediad mewn unrhyw fodd arall yn creu risg o’r fath
13.148 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu gan gymdeithas pan fo’n gwrthod darparu mynediad i fenyw feichiog i fudd, cyfleuster neu wasanaeth (At. 16 para 2(4)), os:
- yw’r gymdeithas yn credu’n rhesymol, oherwydd bod yr unigolyn yn feichiog, y byddai caniatáu mynediad yn achosi risg i’w hiechyd neu ddiogelwch, ac
- yw’r gymdeithas yn gwrthod mynediad i’r budd, cyfleuster neu wasanaeth i bobl â chyflyrau corfforol eraill oherwydd cred resymol y byddai caniatáu mynediad iddynt yn achosi risg i’w hiechyd a’u diogelwch
Yswiriant a gwasanaethau ariannol eraill
13.150 Mewn rhai amgylchiadau nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu wrth ddarparu gwasanaethau a chyflawni swyddogaethau cyhoeddus lle defnyddir y ffaith bod rhywun yn anabl fel ffactor wrth benderfynu a ddylid darparu gwasanaethau yswiriant i’r person hwnnw ac, os felly, ar ba delerau (At. 3 para 20A a 21).
Nid yw’r Ddeddf ychwaith yn gwahardd gwahaniaethu mewn rhai amgylchiadau lle defnyddir oed person fel ffactor wrth ddarparu yswiriant a gwasanaethau ariannol eraill (Rh. 3 Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Diwygiad) 2012/2992). Esbonnir yr eithriadau hyn mewn rhagor o fanylion isod.
Ar gyfer contractau a luniwyd cyn 21 Rhagfyr 2012, nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail rhyw, ailbennu rhywedd a beichiogrwydd a mamolaeth.
Anabledd
13.151 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail anabledd mewn perthynas ag unrhyw beth sy’n ymwneud â busnes yswiriant (At. 3 para 21):
- fe'i gwneir yn seiliedig ar wybodaeth sy'n berthnasol i'r asesiad o'r risg sydd i'w hyswirio
- bod y wybodaeth o ffynhonnell ddibynadwy, a
- mae'n rhesymol gwneud hynny
Fodd bynnag, nid yw'r eithriad hwn yn caniatáu aflonyddu nac erledigaeth, sy'n dal i gael eu gwahardd o dan y Ddeddf.
13.152 Mae ‘busnes yswiriant’ yn golygu busnes sy’n cynnwys cyflawni neu weithredu contractau yswiriant. Mae hyn yn cynnwys prynu, gwerthu, tanysgrifio ar gyfer neu warantu contract yswiriant, neu gynnig neu gytuno i wneud hynny, a chyflawni contract yswiriant, fel penadur neu asiant (darllener a.22 ac Atodiad 2 Deddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000).
Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i unrhyw un sydd ynghlwm â ‘busnes yswiriant’ mewn unrhyw agwedd o werthu yswiriant neu ysgrifennu’r telerau lle gall person anabl gael ei yswirio yn erbyn risgiau penodol.
Mae'r eithriad hwn yn berthnasol i unrhyw un sy'n ymwneud â 'busnes yswiriant' mewn unrhyw agwedd ar werthu yswiriant neu ysgrifennu'r telerau ar gyfer yswirio person anabl rhag risgiau penodol.
13.153 Mae gwybodaeth a allai fod yn berthnasol i’r asesiad o’r risg i gael eu hyswirio yn cynnwys data actiwraidd neu ystadegol neu adroddiad meddygol.
Ni fyddai’r eithriad yn galluogi yswiriwr i ddibynnu ar ragdybiaethau, stereoteipiau neu gyffredinoliadau mewn perthynas â pherson anabl.
13.154 Gallai’r ffactorau ychwanegol canlynol fod yn berthnasol er mwyn pennu pa un ai yw’r wybodaeth yn dod o ffynhonnell y gellir dibynnu arni’n rhesymol:
- pa un ai yw’r wybodaeth yn gyfredol
- lle bo data yn y cwestiwn, bod y dull o’i gasglu yn addas
- pa un ai yw’r wybodaeth yn gynrychioladol
- pa un ai yw’r wybodaeth yn gredadwy (er enghraifft, caiff ei dderbyn yn gyffredinol gan y gymdeithas wyddonol neu actiwaraidd)
Yswiriant bywyd a diogelu incwm
13.156 Mae gan lywodraeth y DU, Cymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI) a’r British Insurance Brokers’ Association (BIBA) gytundeb gwirfoddol yn ei le sy’n berthnasol pan fydd darparwyr gwasanaethau yn gwrthod yswiriant salwch difrifol, diogelu incwm neu yswiriant bywyd i unigolyn oherwydd bod ganddynt gyflwr meddygol sy’n bodoli eisoes neu anabledd. Mae’r cytundeb yn ei gwneud yn orfodol i ddarparwyr gwasanaethau:
- gyfeirio’r unigolyn at gwmni arall a all helpu, neu
- gyfeirio’r unigolyn at system cyfeirio, a ddylai fedru adnabod darparwyr gwasanaethau mwy addas
13.157 Dyma wasanaeth cyfeirio BIBA.
13.158 Nid yw cyfeirio unigolyn yn golygu y bydd yswiriwr wedi cydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y Ddeddf, y byddant wedi eu cyfiawnhau wrth wrthod darparu gwasanaeth, na bod modd iddynt osgoi atebolrwydd am doriadau o’r Ddeddf.
Oed
13.159 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail oed mewn perthynas ag unrhyw beth mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth ariannol (At. 3 para 20A).
Byddai hyn yn cynnwys gwasanaethau o natur bancio, credyd, yswiriant, pensiwn personol, buddsoddiad neu daliadau. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys:
- morgeisi
- blwydd-daliadau
- cyfrifon cyfredol a chyfrifon cynilo
- gwasanaethau newid sieciau
- benthyciadau
- gorddrafftiau banciau
- cardiau credyd a chardiau cyfrifon
- cyngor ar ddyled a gwasanaethau rheoli dyled
- gwasanaethau e-arian
- rhyddhau ecwiti
- sgorio twyll a chredyd a ddefnyddir gan gwmnïau gwasanaethau ariannol
- gwasanaethau betio
- cyngor ar fuddsoddi
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
13.160 Fodd bynnag, lle bydd darparwr gwasanaethau ariannol yn cynnal asesiad risg sy’n ystyried oed y defnyddiwr gwasanaeth, bydd ond yn medru dibynnu ar yr eithriad hwn (At. 3 para 20A(2)) os:
- yw’r wybodaeth a ddefnyddir ar gyfer yr asesiad risg yn berthnasol, ac
- yw’r wybodaeth yn dod o ffynhonnell y gellir dibynnu arni’n rhesymol
13.161 Gallai hyn fod yn berthnasol, er enghraifft, wrth benderfynu pa bremiwm i’w godi ar gwsmer am yswiriant car neu deithio.
Mae gwybodaeth a allai fod yn berthnasol i’r asesiad risg yn cynnwys data actiwaraidd neu ystadegol, rhagolygon ar gyfer y dyfodol neu adroddiad meddygol. Ni all gynnwys rhagdybiaethau sydd heb eu profi, stereoteipiau na chyffredinoliadau mewn perthynas ag oed.
13.162 Amlinellir ffactorau ychwanegol a allai fod yn berthnasol ym mharagraff 13.151.
13.164 Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau a’r sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus. Nid yw’n caniatáu aflonyddu nac erledigaeth, sy’n anghyfreithlon bob amser.
Yswiriant teithio a cheir
13.166 Mae gan lywodraeth y DU, Cymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI) a’r British Insurance Brokers’ Association (BIBA) gytundeb gwirfoddol yn ei le sy’n berthnasol pan fydd darparwyr gwasanaeth yn gwrthod yswiriant teithio a cheir i unigolyn oherwydd bod eu hoed yn disgyn uwchben yr isafswm oed ar gyfer y cynnyrch hwn. Mae’r cytundeb yn ei gwneud yn orfodol i ddarparwyr gwasanaethau:
- gyfeirio’r unigolyn at gwmni arall a all helpu, neu
- gyfeirio’r unigolyn at system gyfeirio, a ddylai fedru adnabod darparwyr gwasanaethau mwy addas
13.167 Dyma wasanaeth cyfeirio BIBA.
13.168 Nid yw cyfeirio unigolyn yn golygu y bydd yswiriwr wedi cydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y Ddeddf, y byddant wedi eu cyfiawnhau wrth wrthod darparu gwasanaeth, na bod modd iddynt osgoi atebolrwydd am doriadau o’r Ddeddf.
Polisïau yswiriant sy’n bodoli eisoes
13.169 Mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys eithriad ar gyfer polisïau yswiriant a ddaeth i fodolaeth cyn i Atodlen 3 paragraff 23 ddod i rym (y cyfeirir ato isod fel ‘polisi yswiriant sydd eisoes yn bodoli’) (At. 3 para 23).
13.170 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu mewn perthynas ag unrhyw beth mewn cysylltiad â pholisi yswiriant sydd eisoes yn bodoli. Mae gan ‘busnes yswiriant’ yr un ystyr ag a esbonnir yn mharagraff 13.152.
13.171 Nid yw’r eithriad hwn, fodd bynnag, yn caniatáu aflonyddu neu erledigaeth, sy’n parhau wedi eu gwahardd o dan y Ddeddf.
13.172 Gall polisïau yswiriant sy’n bodoli eisoes barhau heb angen i’w newid hyd nes iddynt gael eu hadnewyddu trwy gontract newydd neu hyd nes adolygir eu telerau er mwyn diwygio contract sy’n bodoli eisoes [troednodyn 81], ar neu ar ôl 1 Hydref 2010. Ni fyddai’r eithriad hwn yn berthnasol bellach a byddai unrhyw wahaniaethu ond yn gyfreithiol pe diwellir yr amodau perthnasol a amlinellir ym mharagraffau 13.150 i 13.165.
Gwasanaethau ariannol a drefnir gan gyflogwr
13.173 Nid yw’n doriad ar y Ddeddf, gan ei fod yn berthnasol i wasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus, i ddarparu gwasanaethau ariannol penodol a drefnir gan gyflogwr (At. 3 para 20).
13.174 Mae’r eithriad hwn yn berthnasol os darperir y gwasanaethau ariannol yn unol â threfniant rhwng cyflogwr a darparwr gwasanaeth er mwyn darparu’r gwasanaeth i gyflogeion y cyflogwr o ganlyniad i’w cyflogaeth.
13.175 Y gwasanaethau ariannol yw:
- yswiriant neu wasanaeth ariannol perthnasol
- gwasanaeth sy’n berthnasol i aelodaeth o neu fuddion o dan gynllun pensiwn personol
13.176 Gallai cyflogwr barhau i fod yn atebol am dorri’r Ddeddf wrth ddarparu gwasanaethau ariannol o’r fath o dan Ran 5 lle bo’n briodol. Mae hyn y tu hwnt i gwmpas y Cod hwn.
Mewnfudo
13.177 Lle gwneir penderfyniadau mewnfudo penodol a lle gweithredir swyddogaethau mewnfudo a allai fod yn wahaniaethol, nid yw’r Ddeddf yn gwahardd (At. 3 Rhan 4):
- gwahaniaethu ar sail oed
- gwahaniaethu ar sail anabledd
- gwahaniaethu ar sail hil (mewn perthynas â chenedligrwydd a tharddiad ethnig neu genedlaethol yn unig)
- gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred
Mae gwahanol amodau yn berthnasol i bob math o wahaniaethu ac esbonnir y rhain mewn rhagor o fanylion isod. Nid yw’r eithriadau yn caniatáu aflonyddu neu erledigaeth, sy’n parhau wedi eu gwahardd o dan y Ddeddf.
13.178 Gallai’r eithriad mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail cenedligrwydd a awdurdodwyd gan statud neu’r weithrediaeth fod yn berthnasol hefyd mewn perthynas â swyddogaethau mewnfudo. Esbonnir hyn uchod ym mharagraffau 13.16 i 13.19.
Oed
13.179 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail oed lle bydd darparwyr gwasanaethau a phobl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn perfformio swyddogaethau mewnfudo penodol (At. 3 para 15A).
13.180 Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i unrhyw beth a wneir wrth gyflawni swyddogaethau perthnasol gan:
- Weinidog y Goron sy’n gweithredu’n bersonol
- person sy’n gweithredu’n unol ag awdurdodiad perthnasol
Yn y cyd-destun hwn, bydd Gweinidog y Goron sy’n ‘gweithredu’n bersonol’ fel arfer yn cynnwys gweithredu trwy eu swyddogion [troednodyn 82].
Mae ‘swyddogaethau perthnasol’ yn swyddogaethau sy’n weithredadwy yn rhinwedd darpariaethau penodol a amlinellir yn y Ddeddf ym mharagraff 15A(5) i (6) o Atodlen 3.
13.181 Mae ‘awdurdodiad perthnasol’ (At. 3 para 15A(4)) yn ofyniad a osodir neu’n awdurdodiad a roddir:
- mewn perthynas ag achos penodol neu ddosbarth o achos, gan Weinidog y Goron sy’n gweithredu’n bersonol
- mewn perthynas â dosbarth penodol o achos, gan neu o dan unrhyw swyddogaeth berthnasol
Anabledd
13.183 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail anabledd lle bo darparwyr gwasanaethau a phobl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn cyflawni swyddogaethau mewnfudo penodol (At. 3 para 16).
13.184 Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i unrhyw rai o’r penderfyniadau canlynol neu unrhyw beth a wneir at ddiben, neu yn unol â, unrhyw benderfyniad o’r fath, pa un ai yw’r penderfyniadau’n cael eu gwneud yn unol â rheolau mewnfudo ai peidio, cyn belled â bod penderfyniad o’r fath oherwydd ei fod yn angenrheidiol er lles y cyhoedd:
- gwrthod caniatâd mynediad
- gwrthod caniatâd i gael mynediad neu barhau yn y DU
- canslo caniatâd i gael mynediad neu barhau yn y DU
- amrywio caniatâd i gael mynediad neu barhau yn y DU
- gwrthod cais i amrywio caniatâd i gael mynediad neu barhau yn y DU
13.185 Nid yw’r Ddeddf ychwaith yn gwahardd gwahaniaethu ar sail anabledd mewn perthynas â phenderfyniad neu arweiniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol, na phenderfyniad a gymerir yn unol â chanllawiau gan yr Ysgrifennydd Gwladol, os yw’r penderfyniad neu’r arweiniad mewn cysylltiad ag unrhyw rai o’r penderfyniadau a amlinellir yn mharagraff 13.184.
Cenedligrwydd a tharddiadau ethnig neu genedlaethol
13.187 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail hil, gan ei fod yn berthnasol i genedligrwydd neu darddiadau ethnig neu genedlaethol, lle bydd darparwyr gwasanaethau a phobl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn cyflawni swyddogaethau mewnfudo penodol (At. 3 para 17).
Mae’r eithriad hwn yn cyd-fynd â’r un perthnasol mewn perthynas ag oed a drafodir ym mharagraffau 13.179 i 13.182. Nid yw’n berthnasol i wahaniaethu oherwydd lliw.
13.188 Mae’r eithriad yn berthnasol i unrhyw beth a wneir wrth gyflawni swyddogaethau perthnasol gan:
- Weinidog y Goron sy’n gweithredu’n bersonol
- person sy’n gweithredu’n unol ag awdurdodiad perthnasol
Yn y cyd-destun hwn, bydd Gweinidog y Goron sy’n ‘gweithredu’n bersonol’ fel arfer yn cynnwys gweithredu trwy eu swyddogion [troednodyn 83].
‘Swyddogaethau perthnasol’ yw swyddogaethau sy’n weithredadwy yn rhinwedd darpariaethau penodol a amlinellir yn y Ddeddf ym mharagraff 17(5) i (6) o Atodlen 3.
13.189 ‘Awdurdodiad perthnasol’ (At. 3 para 15A(4)) yw gofyniad a osodir neu awdurdodiad a roddir:
- mewn perthynas ag achos penodol neu ddosbarth o achos, gan Weinidog y Goron sy’n gweithredu’n bersonol
- mewn perthynas â dosbarth penodol o achos, gan neu o dan unrhyw swyddogaeth berthnasol
Crefydd neu gred
13.191 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred lle bo darparwyr gwasanaethau a phobl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn cyflawni swyddogaethau mewnfudo penodol (At. 3 para 18).
13.192 Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i benderfyniad a wnaed yn unol â rheolau mewnfudo, neu unrhyw beth a wneir at ddiben neu yn unol â phenderfyniad (At. 3 para 18(3)):
- i wrthod caniatâd mynediad neu ganiatâd i gael mynediad neu barhau yn y DU ar y sail bod gwrthod y person yn ffafriol i les y cyhoedd
- i amrywio caniatâd i gael mynediad neu barhau neu wrthod gwneud hynny ar y sail nad yw’n ddymunadwy i’r person barhau yn y DU
13.193 Mae’r eithriad hwn hefyd yn berthnasol i benderfyniad, neu unrhyw beth a wneir, at ddibenion neu’n unol â phenderfyniad, mewn perthynas â chais am ganiatâd mynediad neu ganiatâd i gael mynediad i neu barhau yn y DU, pa un ai y cymerir y penderfyniad yn unol â rheolau mewnfudo ai peidio, cyn belled â bod penderfyniad yn cael ei wneud oherwydd (At. 3 para 18(5) and (6)):
- bod y person yn dal swydd neu benodiad neu’n darparu gwasanaeth sy’n gysylltiedig â chrefydd neu gred
- bod un grefydd neu gred i gael ei thrin yn wahanol i eraill
- bod gwahardd person sy’n dal swydd neu benodiad neu’n darparu gwasanaeth mewn cysylltiad â chrefydd neu gred yn ffafriol i les y cyhoedd
13.194 Mae’r eithriad hwn hefyd yn berthnasol i benderfyniad a wneir, neu arweiniad a roddir, neu benderfyniad a wneir yn unol ag arweiniad a roddir, gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad ag unrhyw un o’r penderfyniadau ym mharagraff 13.192 a pharagraff 13.193 (At. 3 para 18(7)).
Gofal o fewn y teulu
13.196 Nid yw darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus y Ddeddf yn berthnasol lle bo person yn dwyn rhywun sydd angen gofal a sylw penodol i’w cartref ac yn eu trin fel aelod o’u teulu (At. 3 para 15).
13.197 Dyma’r achos pa un ai yw’r person sy’n dwyn y person arall i’w cartref eu hunain yn cael eu talu i wneud hynny ai peidio, er enghraifft er mwyn darparu gofal maethu.
Gwasanaethau gwaed
13.199 Nid yw’n doriad ar y Ddeddf, fel mae’n berthnasol i wasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus, i rywun sy’n gweithredu gwasanaeth meddygol ar gyfer casglu a dosbarthu gwaed dynol neu gydrannau gwaed i wrthod derbyn rhodd rhywun o waed (At. 3 para 13). Mae’r eithriad hwn yn berthnasol os:
- yw'r gwrthodiad oherwydd asesiad o’r risg i’r cyhoedd neu i’r person yn seiliedig ar ddata clinigol, epidemiolegol neu ddata arall o ffynhonnell dibynadwy a
- bod y gwrthodiad yn rhesymol
Eithriadau i wasanaethau cludiant penodol mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail anabledd
13.200 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail anabledd gan ddarparwyr gwasanaethau a phobl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus mewn perthynas â gwasanaethau cludiant penodol sy’n ymwneud â chludiant yn yr awyr neu gludiant ar y tir (At. 3 Rhan 9). Fel esbonnir ym mharagraff 3.31, nid yw’r Cod hwn yn cwmpasu’r darpariaethau hyn.
Eithriadau i deledu, radio a darlledu a dosbarthu ar-lein
13.201 Mae’r Ddeddf yn cynnwys eithriad a gynlluniwyd i ddiogelu annibyniaeth golygyddol darlledwyr pan yn darlledu neu ddosbarthu cynnwys, pa un ai ar y teledu, radio neu ar-lein (At. 3 para 31(1)).
13.202 Nid yw’n doriad ar y Ddeddf i ddarparwr gwasanaeth neu berson sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus wneud unrhyw beth mewn perthynas â darpariaeth gwasanaeth cynnwys (fel diffinnir yn a.32(7) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003). Mae hyn yn cwmpasu darlledu, dosbarthu ac amserlennu rhaglenni a chynnwys naill ai ar y teledu, radio neu ar-lein. Mae’n cynnwys penderfyniadau golygyddol ynglŷn â’r cynnwys yn ogystal â pha raglenni i’w comisiynu, amserlennu rhaglenni, neu bwy ddylai gymryd rhan mewn rhaglen benodol.
13.203 Nid yw’r eithriad hwn yn berthnasol i ddarpariaeth rhwydwaith cyfathrebiadau electronig, gwasanaeth cyfathrebiadau electronig neu gyfleuster cysylltiedig fel diffinnir yn a.32 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (At. 3 para 31 (2)). Golyga hyn nad yw gwahaniaethu, aflonyddu nac erledigaeth yn y weithgarwch o anfon signalau yn cael eu caniatáu o dan y Ddeddf, oherwydd bod yr eithriad ond yn berthnasol i gynnwys yr hyn sy’n cael ei ddarlledu.
Eithriadau i wasanaethau a ddarperir gan Ddarparwyr Gwasanaethau Cymdeithas Wybodaeth
13.205 Mae Darparwr Gwasanaeth Cymdeithas Wybodaeth (ISSP) yn ddarparwr sy’n darparu gwasanaethau o bell, y gofynnwyd amdanynt gan ddefnyddiwr, trwy ddulliau electronig, a ddarperir fel arfer am gydnabyddiaeth (darllener paragraff 11.77) (At. 25 para 7).
Mae rheolau arbennig ynglŷn â graddau tiriogaethol y Ddeddf pan fydd gwasanaeth o bell yn ISSP (darllener paragraffau 11.79 i 11.81).
13.206 Os yw gwasanaeth o bell yn ISSP a’i fod yn ddarostyngedig i’r Ddeddf, ni cheir eithriadau a allai barhau i fod yn berthnasol.
13.207 Y dair eithriad yw pan fo’r ISSP:
- yn gweithredu fel sianel yn unig
- yn storio gwybodaeth
- yn lletywr sy’n storio gwybodaeth
Esbonnir yr eithriadau hyn mewn rhagor o fanylion isod:
13.208 Nid yw’r Ddeddf yn berthnasol lle bo’r ISSP yn gweithredu fel sianel yn unig (At. 25 para 3). Mae sianel yn unig yn golygu nad yw’r ISSP:
- yn cychwyn y trosglwyddiad
- yn dewis y derbynnydd neu
- yn dewis neu addasu’r wybodaeth yn y darllediad
Mae gweithredu fel sianel yn unig yn cynnwys storio awtomatig, cyfryngol a dros dro o’r wybodaeth a drosglwyddir, cyn belled â’i fod ond wedi’i storio er mwyn cyflawni’r trosglwyddiad ac am gyfnod nad yw’n hirach nag sy’n rhesymol angenrheidiol.
13.210 Nid yw’r Ddeddf yn berthnasol lle bo’r ISSP yn storio yn unig (At. 25 para 4). Mae storio yn cyfeirio at strategaeth ISSP lle bo’r ISSP yn cadw copi o dudalen neu ddelwedd y mae defnyddiwr y rhwydwaith eisoes wedi cael mynediad iddi a’i gweld. Mae’r copi wedyn yn cael ei arddangos i’r defnyddiwr bob tro y bydd y defnyddiwr yn cyfeirio at yr un dudalen neu ddelwedd y mae eisoes wedi cael mynediad iddi a’i gweld. Caiff y copi ei arddangos i’r defnyddiwr bob tro y bydd yn cyfeirio at yr un dudalen neu ddelwedd yn hytrach na lawrlwytho’r ffeil gyfan eto. Mae storio yn cyflymu ymweliad nesaf y defnyddiwr â’r dudalen gwe. Gall ISSP ddibynnu ar eithriad storio’r Ddeddf pan:
- yn darparu storfa awtomatig, cyfyngol a dros dro o wybodaeth at ddiben galluogi ceisiadau yn y dyfodol am yr wybodaeth honno i gael ei darparu’n gynt
- storio’r wybodaeth yn unig at ddiben gwneud y broses o drosglwyddo’r wybodaeth ymhellach i dderbynwyr y gwasanaeth yn fwy effeithiol
- nad yw’n addasu’r wybodaeth honno, ac
- yn cydymffurfio ag unrhyw amodau mynediad i’r wybodaeth
Mae’r eithriad ond yn berthnasol os yw’r ISSP hefyd yn cael gwared â’r wybodaeth neu’n analluogi mynediad iddo yn fuan cyn gynted ag y bydd yr ISSP yn ymwybodol bod:
- yr wybodaeth yn ffynhonnell gychwynnol y trosglwyddiad wedi ei thynnu o’r rhwydwaith
- mynediad iddo wedi ei analluogi, neu
- llys neu awdurdod gweinyddol wedi gofyn i’r wybodaeth gael ei thynnu oddi ar y rhwydwaith neu i fynediad iddo gael ei analluogi.
13.212 Nid yw’r Ddeddf yn berthnasol lle bo’r ISSP yn lletya yn unig (At. 25 para 5). Mae lletya yn wasanaeth a ddarperir gan ISSP i ddefnyddiwr sy’n cynnig lleoliad ffisegol ar gyfer storio tudalennau gwe a ffeiliau y gellir eu gweld ar y rhyngrwyd. Nid yw’r Ddeddf yn berthnasol lle bo’r ISSP yn lletya gwybodaeth a ddarperir gan ddefnyddiwr gwasanaeth, os:
- nad oedd gan yr ISSP wybodaeth wirioneddol pan ddarparwyd yr wybodaeth bod ei ddarpariaeth yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf, neu
- pan ddaeth yr ISSP i wybod mewn gwirionedd bod y ddarpariaeth o’r wybodaeth yn anghyfreithlon, y cafodd wared yn syth â’r wybodaeth neu analluogi mynediad iddo.
Os yw’r defnyddiwr gwasanaeth yn gweithredu o dan reolaeth yr ISSP yna nid yw’r eithriad hwn yn berthnasol.
Eithriadau mewn perthynas â gweinyddu priodasau a chofrestru partneriaethau sifil
13.214 Ers i Ddeddf Priodas (Cyplau o’r Un Rhyw) 2013 yng Nghymru a Lloegr a Deddf Priodas a Phartneriaeth Sifil (Yr Alban) 2014 gael eu pasio, mae rhai enwadau crefyddol yn caniatáu i’w cynrychiolwyr briodi cyplau o’r un rhyw yn unol â’u defodau. Mae sefydliadau crefyddol penodol hefyd yn caniatáu i’w cynrychiolwyr gynnal bendithion neu ddefodau eraill yn dilyn seremonïau partneriaethau sifil ac, yn yr Alban, i gofrestru partneriaethau sifil i gyplau o’r un rhyw ac o ryw gwahanol.
13.215 Mae’r Ddeddf yn galluogi cynrychiolwyr crefyddol o’r enwadau a’r sefydliadau hyn i wrthod gweinyddu neu gymryd rhan fel arall mewn priodasau o’r un rhyw ac o ryw gwahanol mewn achoson penodol. Mae’r eithriadau hyn yn berthnasol lle bo’r gwrthodiad ar sail benodol, yr esbonnir mewn rhagor o fanylion isod.
13.216 Mae’r Ddeddf hefyd yn caniatáu cynrychiolwyr crefyddol mewn achosion penodol i wrthod cymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n dathlu llunio partneriaeth sifil, i gofrestru partneriaethau sifil yn yr Alban, ac i wrthod mynediad i’w mangreoedd at ddibenion o’r fath.
13.217 Gall cynrychiolwyr crefyddol hefyd wrthod, mewn achosion penodol, bendithio priodasau lle bo o leiaf un o’r bobl sy’n priodi yn draws, heb dorri gwaharddiad y Ddeddf ar wahaniaethu.
13.218 Mae’r eithriadau hyn yn berthnasol lle bo’r gwrthodiad ar seiliau penodol, yr esbonnir mewn rhagor o fanylion isod.
13.219 Fel esbonnir ym mharagraff 13.5, nid yw aflonyddu mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig crefydd a chred a chyfeiriadaeth rywiol wedi eu gwahardd o dan y Ddeddf yn y meysydd a gwmpesir gan y Cod hwn.
13.220 Yn ogystal nid yw aflonyddu mewn perthynas â’r nodweddion gwarchodedig a restrir ym mharagraff 13.5 wedi ei wahardd o dan y Ddeddf yn yr amgylchiadau a amlinellir isod. Defnyddir y term ‘aflonyddu’ i gyfeirio at aflonyddu mewn perthynas â’r nodweddion gwarchodedig hynny.
Priodasau cyplau o’r un rhyw
Cymru, Lloegr a’r Alban
13.221 Nid yw’n doriad ar y Ddeddf, fel sy’n berthnasol i wasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus, i unrhyw berson neu sefydliad crefyddol wrthod cynnal, hwyluso, mynychu neu gymryd rhan mewn seremoni briodas grefyddol i gyplau o’r un rhyw, neu gydymffurfio i’w gynnal (At. 3 para 25A).
Mae’r eithriad hwn yn berthnasol lle bo gwrthodiad y person neu’r sefydliad am y rheswm ei bod yn briodas cwpwl o’r un rhyw.
Yr Alban
13.222 Nid yw’n doriad ar y Ddeddf, fel sy’n berthnasol i wasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus, i:
- offeiriad cymeradwy wrthod bendithio priodas grefyddol neu gred yn yr Alban (At. 3 para (25B(1))
- unrhyw berson wrthod cymryd rhan mewn seremoni grefyddol neu gred sy’n ffurfio rhan o, neu sy’n gysylltiedig â, bendithio priodas yn yr Alban (At. 3 para 25B(3))
Mae’r eithriadau hyn yn berthnasol lle bo’r gwrthodiad am y rheswm ei bod yn briodas cwpwl o’r un rhyw.
13.223 ‘Offeiriad cymeradwy’ yw person a awdurdodwyd i fendithio priodas yn yr Alban (a.8(2)(a) Deddf Priodas (Yr Alban) 1977).
13.224 Mewn perthynas â sefydliadau crefyddol neu gred, nid yw’n doriad ar y Ddeddf:
- wrth ddarparu gwasanaethau a chyflawni swyddogaethau cyhoeddus i sefydliad ganiatáu i un o’i offeiriaid wrthod bendithio priodas yn y modd hwn (At. 23 para 2(9C))
- wrth ddarparu gwasanaethau, cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a gweithgareddau cymdeithasau, i sefydliad (neu berson neu grŵp ar ei ran) wrthod caniatáu mangre mae’n ei rheoli neu’n berchen arni i gael ei defnyddio i fendithio priodas am y rheswm ei bod yn briodas cwpwl o’r un rhyw (At. 23 para 2(9A)(a) a At. 23 para 2(9B)(a))
Partneriaethau sifil
Cymru, Lloegr a’r Alban
13.225 Nid yw’n doriad ar y Ddeddf, fel sy’n berthnasol i wasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus, i sefydliad crefyddol neu unigolion penodol:
- yng Nghymru a Lloegr, wrthod darparu, trefnu, hwyluso, cymryd rhan neu fod yn bresennol mewn seremoni neu ddigwyddiad i nodi llunio partneriaeth sifil (At. 3 para 25AA(1)(b)(ii))
- yn yr Alban i wrthod caniatáu mangreoedd crefyddol i gael eu defnyddio i gofrestru partneriaeth sifil (At. 3 para 25AA(1)(a) a (1)(b)(i))
- yn yr Alban i wrthod caniatáu mangreoedd crefyddol i gael eu defnyddio i gofrestru partneriaeth sifil (At. 3 para 25AA(1)(a) a (1)(b)(i))
13.226 Mae’r eithriadau hyn yn berthnasol lle bo’r gwrthodiad am y rheswm nad yw’r person neu’r sefydliad yn dymuno bo ynghlwm â gweithredoedd o’r fath, naill ai mewn perthynas â phartneriaethau sifil yn gyffredinol, neu’r rhai sy’n ymwneud â chyplau o’r un rhyw neu gyplau o ryw gwahanol.
13.227 Mae’r eithriadau hyn yn berthnasol i:
- sefydliadau crefyddol
- corff cyfansoddol neu ran o sefydliad crefyddol
- person sy’n gweithredu ar ran neu o dan nawdd sefydliad, corff neu ran ohono
Nid yw’r rhain yn berthnasol i gofrestrydd partneriaeth sifil (At. 3 para 25AA(3)).
Yr Alban
13.228 Mae’r Ddeddf yn cynnwys eithriadau pellach sy’n benodol i’r Alban, lle caniateir cofrestru partneriaethau sifil mewn mangreoedd crefyddol a chyda seremonïau crefyddol.
13.229 Nid yw’n doriad ar y Ddeddf, fel sy’n berthnasol i wasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus, i:
- offeiriad cymeradwy wrthod cofrestru partneriaeth sifil yn yr Alban (At. 3 para 25B(2))
- unrhyw berson wrthod cymryd rhan mewn seremoni grefyddol neu gred sy’n ffurfio rhan o, neu sy’n gysylltiedig â, cofrestru partneriaeth sifil yn yr Alban (At. 3 para 25B(4))
12.230 ‘Offeiriad cymeradwy’ yw person a awdurdodwyd i gofrestru partneriaethau sifil (a.94A(4)(a) Deddf Partneriaethau Sifil 2004).
13.231 Mae’r eithriadau hyn yn berthnasol lle bo’r gwrthodiad am y rheswm nad yw’r offeiriad (neu berson) cymeradwy yn dymuno cofrestru partneriaethau sifil (neu gymryd rhan mewn seremonïau partneriaethau sifil) yn gyffredinol, neu rai sy’n ymwneud â chwpwl o’r un rhyw neu gwpwl o ryw gwahanol.
13.232 Mewn perthynas â sefydliadau crefyddol neu gred, nid yw’n doriad ar y Ddeddf:
- wrth ddarparu gwasanaethau a chyflawni swyddogaethau cyhoeddus, i sefydliad ganiatáu i un o’i offeiriaid wrthod bendithio’r bartneriaeth sifil yn y modd hwn (At. 23 para 2(9C))
- wrth ddarparu gwasanaethau, cyflawni swyddogaethau cyhoeddus ac yng ngweithgareddau cymdeithasau, i sefydliad (neu berson neu grŵp ar ei ran) i wrthod caniatáu i fangre y mae’n berchen arni neu’n ei rheoli gael ei defnyddio i gofrestru partneriaeth sifil am y rheswm ei bod rhwng dau berson o’r un rhyw neu rhwng dau berson o ryw gwahanol (At. 23 para 2(9A)(b) ac At. 23 para 2(9B)(b))
Partnerships Priodas cyplau o ryw gwahanol a phartneriaethau sifil sy’n bodoli eisoes
Yr Alban
13.233 Mae’r Ddeddf yn cynnwys eithriadau pellach sy’n benodol i’r Alban mewn perthynas â phriodasau cyplau o ryw gwahanol lle bo’r cwpwl mewn partneriaeth sifil sy’n bodoli eisoes â’i gilydd.
13.234 Nid yw’n doriad ar y Ddeddf, fel sy’n berthnasol i wasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus, i:
- offeiriad cymeradwy wrthod bendithio priodas yn yr Alban (At. 3 para 25B(1A))
- unrhyw berson wrthod cymryd rhan mewn seremoni grefyddol neu gred sy’n ffurfio rhan o, neu sy’n gysylltiedig â, bendithio priodas yn yr Alban gan offeiriad cymeradwy (At. 3 para 25B(3A))
13.235 Mae’r eithriadau hyn yn berthnasol lle bo’n briodas rhwng dau berson o ryw gwahanol sydd mewn partneriaeth sifil â’i gilydd.
13.236 Mewn perthynas â sefydliadau crefyddol neu gred, nid yw’n doriad ar y Ddeddf:
- wrth ddarparu gwasanaethau a chyflawni swyddogaethau cyhoeddus, os yw sefydliad yn caniatáu un o’i offeiriaid i wrthod bendithio priodas yn yr Alban yn y modd hwn (At. 23 para 2(9C))
- wrth ddarparu gwasanaethau, cyflawni swyddogaethau cyhoeddus ac yng ngweithgareddau cymdeithasau, i sefydliad (neu berson neu grŵp ar ei ran) wrthod caniatáu mangre mae’n berchen arni neu’n ei rheoli i gael ei defnyddio i fendithio priodas yn yr Alban (At. 23 para 2(9A)(aa)) am y rheswm ei bod yn briodas rhwng dau berson o ryw gwahanol sydd mewn partneriaeth sifil â’i gilydd (At. 23 para 2(9B)(aa))
Eithriadau mewn perthynas ag ailbennu rhywedd
Cymru, Lloegr a’r Alban
13.237 Lle bo person yn credu’n rhesymol bod un aelod o gwpwl sy’n priodi yn berson traws sydd wedi caffael ei rywedd/ ei rhywedd o dan Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004, nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd wrth ddarparu gwasanaethau a chyflawni swyddogaethau cyhoeddus lle bo’r person yn gwrthod:
- bendithio priodas o’r fath mewn adeilad cofrestredig o dan adran 44(1) o Ddeddf Priodas 1949 (At. 3 para 24)
- bendithio priodas o’r fath yn unol â ffurf, defod neu seremoni corff o bobl sy’n cwrdd ar gyfer addoli crefyddol (At. 3 para 24(3) a (4))
Nid yw’r eithriad hwn yn caniatáu aflonyddu nac erledigaeth, sy’n parhau wedi eu gwahardd o dan y Ddeddf
13.238 Yng Nghymru a Lloegr, mae’r eithriad hwn yn berthnasol i’r sawl a awdurdodwyd gan Ddeddf Priodas 1949 i fendithio priodasau crefyddol (At. 3 para 24).
13.239 Yn yr Alban, mae’r eithriad hwn yn berthnasol i offeiriad cymeradwy a awdurdodwyd gan Ddeddf Priodas (Yr Alban) 1977 i fendithio priodas yn yr Alban (At. 3 para 25).
Yr Alban
13.240 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd lle bo offeiriad cymeradwy yn gwrthod cofrestru partneriaeth sifil yn yr Alban os credant yn rhesymol bod un aelod o’r cwpwl yn berson traws a’i fod wedi caffael ei rywedd/ ei rhywedd o dan Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004 (At. 3 para 25(3)).
13.241 ‘Offeiriad cymeradwy’ yw person a awdurdodir i gofrestru partneriaethau sifil (a.94A(4)(a) Deddf Partneriaethau Sifil 2004).
Eithriadau oed-benodol
13.242 Trafodir pedwar eithriad oed-benodol ym mharagraffau 13.242 i 13.296. At ddibenion yr holl eithriadau hyn, mae’r term ‘gwahaniaethu ar sail oed’ yn golygu gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oed a gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail oed yn unig. Nid yw’r eithriadau hyn yn berthnasol i aflonyddu nac erledigaeth, sy’n parhau wedi eu gwahardd o dan y Ddeddf.
Gwasanaethau consesiynol
13.243 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail oed lle bo darparwr gwasanaeth neu berson sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn rhoi consesiwn i bobl o oed penodol (At. 3 para 30A).
Beth yw consesiwn?
13.244 Consesiwn yw:
- budd, hawl neu fraint sy’n gwneud y modd y darperir y gwasanaeth yn fwy ffafriol na’r modd y caiff ei ddarparu i’r cyhoedd neu gyfran o’r cyhoedd fel arfer, neu
- budd, hawl neu fraint sy’n gwneud y telerau y darperir y gwasanaeth arnynt yn fwy ffafriol na’r modd y caiff ei ddarparu i’r cyhoedd neu gyfran o’r cyhoedd fel arfer (At. 3 para 30A(2))
13.245 Gall ‘budd’ gynnwys costau llai. Mae ‘hawliau a breintiau’ yn cwmpasu hawliadau yn ogystal ag ymdriniaeth ffafraethol o unigolion.
13.246 ‘Modd’ yw’r ffordd y darperir y gwasanaeth. Gallai enghraifft o gonsesiwn o’r fath gynnwys darpariaeth ‘y tu hwnt i oriau’ i grwpiau oed penodol, megis yn hwyrach nag arfer gyda’r nos, neu’n gynharach yn y bore.
13.247 Mae’r ‘telerau’ y darperir gwasanaeth arnynt yn cyfeirio at yr hyn y cytunir arno ynglŷn â darpariaeth y gwasanaeth rhwng y darparwr gwasanaeth neu berson sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a’r unigolyn sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Bydd y telerau yn cynnwys amodau’r gwasanaeth a’r gost i’r unigolyn.
13.248 Golyga hyn y gall darparwr gwasanaeth neu berson sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus gynnig triniaeth fwy ffafriol i bobl o grwpiau oed penodol. Nid oes angen dangos bod consesiwn yn fodd cymesur o gyflawni nod dilys, cyn belled â’i fod yn diwallu un o’r meini prawf a amlinellir uchod.
13.251 Gall darparwr gwasanaeth neu berson sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus roi ymdriniaeth ffafriol o’r fath i un grŵp oed y mae grŵp oed gwahanol fwy neu lai wedi’i wahardd rhag derbyn y gwasanaeth. Yn y sefyllfa hon, bydd yr eithriad ond yn berthnasol lle mai’r consesiwn yw’r rheswm dros yr ymdriniaeth.
13.253 Os yw’r ymdriniaeth gyfystyr ag aflonyddu neu erledigaeth ni fyddai’n cael ei ganiatáu gan yr eithriad i gonsesiynau ychwaith.
13.255 Dylai darparwyr gwasanaeth a’r sawl sy’n cyflawni dyletswyddau cyhoeddus fod yn ymwybodol y gallai consesiwn wahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig oni bai am oed. Mewn achos o’r fath, oni bai bod modd cyfiawnhau’r ymdriniaeth yn wrthrychol yna byddai’n anghyfreithiol.
Gwyliau pecyn
13.257 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail oed lle bo darparwr gwasanaeth neu berson sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn darparu ‘gwasanaeth gwyliau perthnasol’ i bobl o grŵp oed penodol (At. 3 para 30(B)).
13.258 Gallai cwmnïau gwyliau, gwestai, a pherchenogion ‘ asiantaethau gosod bythynnod/ cabanau gwyliau gael eu cwmpasu gan yr eithriad hwn os ydynt yn darparu ‘gwasanaethau gwyliau perthnasol’.
13.259 Gallai awdurdod lleol sy’n darparu gwyliau i grwpiau oed penodol ddisgyn o fewn yr eithriad hwn hefyd.
13.260 Os yw gwyliau yn disgyn y tu allan i’r eithriad hwn, gallai’r darparwr barhau i gyfiawnhau unrhyw wahaniaethu ar sail oed yn wrthrychol.
13.261 Oherwydd nad yw’r gwaharddiad ar wahaniaethu ar sail oed yn narpariaeth gwasanaethau yn estyn i blant o dan 18 oed, ni fydd allgau plant o wasanaethau gwyliau gyfystyr â gwahaniaethu ar sail oed yn erbyn y plant.
Pryd mae’r eithriad yn berthnasol?
13.262 Mae’r eithriad hwn ond yn caniatáu gwahaniaethu mewn perthynas â phenderfyniad ynglŷn â pha un ai y dylid darparu ‘gwasanaeth gwyliau perthnasol’ i berson ai peidio. Nid yw’n estyn i faterion perthnasol eraill megis y telerau y darperir y gwasanaeth arnynt neu benderfyniad i’w derfynu.
13.264 Mae ‘gwasanaeth gwyliau perthnasol’ yn golygu gwasanaeth lle:
- mae person yn talu pris sengl am o leiaf ddau o’r canlynol: teithio; llety; mynediad i wasanaethau sy’n ffurfio rhan arwyddocaol o’r gwasanaeth neu ei gost
- mae’r gwyliau am fwy na 24 awr neu’n cynnwys llety dros nos
- darperir y gwyliau i bobl mewn grŵp oed penodol yn unig, ac
- elfen hanfodol o’r gwyliau yw pontio pobl yn y grŵp oed hwnnw ynghyd gyda’r bwriad o hwyluso eu mwynhad o gyfleusterau neu wasanaethau a gynlluniwyd gan roi sylw penodol i bobl o’r grŵp oed hwnnw
- Esbonnir gwahanol elfennau y diffiniad hwn mewn rhagor o fanylion isod.
13.265 Bydd yr eithriad ond yn berthnasol os yw’r darparwr gwasanaeth neu’r person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn darparu’r unigolyn â datganiad ysgrifenedig cyn cychwyn y gwyliau er mwyn esbonio bod y gwasanaeth gwyliau ond ar gael i bobl o grŵp oed penodol.
13.266 Mae’n rhaid i’r darparwr gwasanaeth neu’r person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus ddarparu’r gwyliau i bobl o grŵp oed penodol yn unig.
13.268 Mae’n rhaid mai elfen hanfodol o’r gwyliau yw’r ffaith bod pobl yn yr un grŵp oed yn cael eu dwyn ynghyd:
- gyda’r bwriad o’u helpu i fwynhau cyfleusterau neu wasanaethau, ac
- mewn amgylchiadau lle mae’r cyfleusterau neu’r gwasanaethau hynny wedi eu cynllunio a’r grŵp oed hwnnw mewn golwg
13.270 Mae’n rhaid i bris y gwyliau gynnwys o leiaf dau o’r canlynol:
- teithio (hyd yn oed os oes opsiwn i’r defnyddiwr gwasanaeth wneud trefniadau teithio amgen)
- llety
- mynediad i weithgareddau neu wasanaethau nad ydynt yn ategol i deithio neu lety, sy’n ffurfio rhan arwyddocaol o’r gwasanaeth neu ei gost
13.272 Er mwyn dod o dan yr eithriad, mae’n rhaid i unigolyn dalu pris sengl am y gwyliau fel pecyn.
Gwasanaethau â chyfyngiad oed
13.274 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail oed lle bo darparwr gwasanaeth neu berson sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn gwrthod darparu gwasanaethau penodol â chyfyngiad oed yn ôl deddfwriaeth lle diwellir amodau penodol (At. 3 para 30C). Byddai hyn yn cynnwys gwerthu alcohol, sigaréts neu dân gwyllt.
13.275 Gall fod yn anodd asesu oed cwsmeriaid yn gywir. Am y rheswm hwn, dylai holl ddarparwyr gwasanaethau â chyfyngiadau oed sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r Ddeddf pan yn gofyn am wiriad o oed lle ymddengys iddyn nhw y gallai cwsmer fod o dan y cyfyngiad oed cyfreithiol.
13.276 Oherwydd nad yw’r gwaharddiad ar wahaniaethu ar sail oed wrth ddarparu gwasanaethau yn estyn i blant o dan 18 oed, ni fydd yn anghyfreithlon gwrthod gwasanaeth â chyfyngiad oed i blentyn. Fodd bynnag, lle bo cwsmer yn 18 oed neu hŷn ond gwrthodir gwasanaeth o’r fath iddo oherwydd ei fod yn ymddangos i’r darparwr gwasanaeth neu’r person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus fel pe baent yn iau nag 18, byddai’r darpariaethau gwahaniaethu ar sail oed yn berthnasol a byddai’r gwrthodiad yn anghyfreithiol oni bai bod yr eithriad yn berthnasol.
Pryd mae’r eithriad yn berthnasol?
13.277 Ni fydd yn wahaniaethu ar sail oed lle gwrthodir gwasanaeth â chyfyngiad oed i unigolyn o dan yr amgylchiadau canlynol:
- cafwyd rhybudd oed
- ymddengys i’r darparwr gwasanaeth (neu berson sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus), ei gyflogeion neu asiantwyr bod yr unigolyn o dan yr oed a nodwyd yn y rhybudd oed, a
- nid oes modd i’r unigolyn ddarparu dull adnabod boddhaol i brofi fel arall (At. 3 para 30C(2))
13.278 Mae ‘rhybudd oed’ yn golygu bod y darparwr gwasanaeth neu berson sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus wedi arddangos datganiad yn y man lle darperir y gwasanaeth â chyfyngiad oed. Mae’n rhaid i’r datganiad esbonio, yn absenoldeb dull adnabod boddhaol, na ddarperir y gwasanaeth â chyfyngiad oed i unigolion sy’n ymddangos i’r darparwr gwasanaeth, ei gyflogeion neu asiantwyr fel pe baent o dan yr oed a nodir yn y datganiad (At. 3 para 30C(1)(b)).
13.280 Mae’n arfer dda i ddarparwyr gwasanaeth neu berson sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus sicrhau bod yr arddangosfa yn hawdd i unigolion ei gweld mewn man cyhoeddus.
13.281 Os yw’r gwasanaeth â chyfyngiad oes yn berthnasol i fangreoedd trwyddedig o dan ystyr a.19A Deddf Trwyddedu 2003, yna mae dull adnabod boddhaol yn golygu dogfen adnabod ddilys sy’n cynnwys:
- ffotograff
- dyddiad geni, a
- marc holograffig person
Byddai pasbort neu drwydded yrru yn dod o dan y categori hwn (a.19A Deddf Drwyddedu 2003, Gorchymyn Y Ddeddf Drwyddedu 2003 (Amodau Trwyddedu Mandadol) 2010 Atodlen, para 3(3)).
13.282 Ym mhob achos arall, mae dull adnabod boddhaol yn golygu dogfen ddilys sy’n cynnwys ffotograff o’r person ac sy’n profi nad ydynt o dan oed. Byddai Cerdyn Dinesydd yn dod o dan y categori hwn (At. 3 para 30C(4)(b)(ii)).
13.283 Mae’r eithriad yn berthnasol i ddarpariaeth neu wrthodiad o wasanaeth neu ddarpariaeth o fynediad i wasanaeth. Nid yw’n estyn i faterion perthnasol eraill megis y modd y darperir y gwasanaeth (At. 3 para 30C(4)(a)).
13.285 Lle bo darparwr gwasanaeth neu berson sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn gofyn am ddilysiad o oed mewn amgylchiadau y tu hwnt i’r eithriad hwn, gallai barhau i fod yn bosibl iddynt gyfiawnhau unrhyw wahaniaethu ar sail oed yn wrthrychol.
Cartrefi symudol preswyl
13.286 Nid yw'r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail oed gan ddarparwr gwasanaeth neu berson sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus mewn rhai amgylchiadau sy'n ymwneud â chartrefi symudol preswyl (At. 3 para 30D).
Pryd mae'r eithriad yn berthnasol?
13.287 Mae’r eithriad yn berthnasol mewn perthynas â pherchenogion ‘safleoedd gwarchodedig’ o fewn ystyr Deddf Cartrefi Symudol 1983, lle bo rheolau’r safle yn manylu ynghylch cyfyngiad oed. Mae’n cwmpasu sefyllfaoedd lle dygir cartrefi symudol ar, neu lle’u prynir ar, safle gwarchodedig neu lle cânt eu rhentu allan gan berchennog y safle gwarchodedig.
13.288 ‘Safle gwarchodedig’ yw unrhyw safle sy’n gofyn am drwydded safle, oni bai lle bo’r drwydded (neu’r caniatâd cynllunio):
- yn caniatáu defnydd gwyliau yn unig, neu
- yn gwahardd lleoli cartrefi symudol at ddefnydd preswyl ar adegau penodol o’r flwyddyn
Yn ogystal, mae safleoedd awdurdodau lleol a safleoedd penodol i Sipsiwn a Theithwyr sydd at ddefnydd preswyl gydol y flwyddyn yn diwallu’r diffiniad o ‘safle gwarchodedig’ (er nad yw safleoedd o’r fath yn gofyn am drwydded).
13.289 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail oed lle bo perchennog safle gwarchodedig:
- yn cychwyn cytundeb cartref symudol â rhywun, lle bo rheol y parc yn nodi bod un o delerau’r cytundeb hwnnw ond yn caniatáu pobl sydd wedi cyrraedd oed penodol i leoli a phreswylio mewn cartref symudol ar y safle
- yn gwrthod caniatáu i berson ddynodi cytundeb cartref symudol i unrhyw un nad yw wedi cyrraedd oed penodol (At. 3 para 30D(1))
13.290 Mae ‘cytundeb cartref symudol’ yn golygu cytundeb y mae Deddf Cartrefi Symudol 1983 neu Ran 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn berthnasol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gytundeb sy’n caniatáu person i leoli cartref symudol ar ‘safle gwarchodedig’ ac i breswylio yn y cartref symudol fel eu hunig neu eu prif fan preswyl (At. 3 para 30D(5)).
13.291 Nid yw’r Ddeddf ychwaith yn gwahardd gwahaniaethu ar sail oed lle bo’r perchennog:
- yn cychwyn cytundeb rhentu cartref symudol gyda pherson sy’n gosod gofyniad mai ond pobl sydd wedi cyrraedd oed penodol all breswylio yn y cartref symudol o dan sylw, neu
- yn gwrthod caniatáu i berson ddynodi cytundeb rhentu cartref symudol i unrhyw un nad yw wedi cyrraedd oed penodol (At. 3 para 30D(3))
13.292 Mae ‘cytundeb rhentu cartref symudol’ yn golygu cytundeb sy’n galluogi person i breswylio mewn cartref symudol ar y ‘safle gwarchodedig’ fel eu man preswyl yn gyfnewid am dâl ariannol a chyflawniad rhwymedigaethau eraill. Gallai’r cytundeb fod am gyfnod penodedig neu am gyfnodau olynol o hyd penodol. Nid yw trefniant i breswylio mewn cartref symudol ar wyliau gyfystyr â chytundeb rhentu cartref symudol (At. 3 para 30D(5)).
13.293 Os yw’r perchennog yn dymuno dibynnu ar y naill neu’r llall o’r ddwy ddarpariaeth hyn, mae’n rhaid iddynt yn gyntaf ddarparu datganiad ysgrifenedig i’r person o dan sylw sy’n nodi mai dim ond pobl sydd wedi cyrraedd yr oed perthnasol sy’n cael preswylio yn y cartref symudol (At. 3 para 30D(4)).
13.294 Nid yw’r Ddeddf ychwaith yn gwahardd gwahaniaethu ar sail oed lle bo’r perchennog yn cyflwyno gofyniad yn rheolau’r parc mai dim ond pobl sydd wedi cyrraedd oed penodol sy’n cael preswylio mewn cartrefi symudol a leolwyd ar y safle ac a breswylir o dan gytundebau cartrefi symudol (At. 3 para 30D(2)).
13.295 Mae ‘rheolau’r parc’ yn cyfeirio at reolau (a wnaed yn unol â deddfwriaeth berthnasol) sy’n berthnasol i breswylwyr cartrefi symudol ar y safle gwarchodedig, ac sy’n rhaid eu goruchwylio o dan y cytundeb cartref symudol neu’r cytundeb rhentu cartref symudol (At. 3 para 30D(5)).
Pennod 13 troednodiadau
- Hampson v Yr Adran Addysg a Gwyddoniaeth [1991] 1 AC 171
- R (ar gais Cornerstone (North East) Adoption and Fostering Service Ltd) v Swyddfa Safonau Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau, [2020] EWHC 1679 (Gweinyddol)
- R (Z) v Hackney LBC [2020] 1 WLR 4327 (SC)
- Gofal Catholig (Esgobaeth Leeds) v Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr [2013] 1 WLR 2105 ac R (Cornerstone) v OFSTED [2021] EWCA Civ 1390
- R (Z) v Hackney LBC [2020] 1 WLR 4327 (SC)
- For Women Scotland v Gweinidogion yr Alban [2023] CSih 37 P578/22
- For Women Scotland v Gweinidogion yr Alban [2023] CSih 37 P578/22
- The Royal London Mutual Insurance Society Ltd [2018] EWHC 2215 (Ch) yn [33]-[59]
- Carltona Ltd v Comisiynwyr Gwaith ac Eraill [1943] 2 Pawb ER 560 ac R (ar gais Goloshvili ) v Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref (Liberty yn ymyrryd) [2019] EWHC 614 (Gweinyddol) yn [52]
- Carltona Ltd v Comisiynwyr Gwaith ac Eraill [1943] 2 Pawb ER 560 ac R (ar gais Goloshvili ) v Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref (Liberty yn ymyrryd) [2019] EWHC 614 (Gweinyddol) yn [52]
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
2 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf
2 Hydref 2024