Cyflwyniad
5.1 Mae’r bennod hon yn esbonio gwahaniaethu anuniongyrchol a ‘cyfiawnhad gwrthrychol’. Mae cyfiawnhad gwrthrychol yn berthnasol i wahaniaethu anuniongyrchol, gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd, gweithredu cadarnhaol ac i rai o’r eithriadau a ganiateir o dan y Ddeddf (a.19).
5.2 Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn berthnasol i’r holl nodweddion gwarchodedig oni bai am feichiogrwydd a mamolaeth (er y gallai gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw fod yn berthnasol mewn rhai sefyllfaoedd beichiogrwydd a mamolaeth).
5.3 Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn cyfeirio at reolau, arferion, polisïau a darpariaethau eraill sy’n ymddangos fel pe baent yn berthnasol i bawb yn yr un modd ond sydd, yn ymarferol, yn effeithio mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol grwpiau o bobl.
Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud
5.4 Gallai gwahaniaethu anuniongyrchol ddigwydd pan fydd darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn cymhwyso darpariaeth, maen prawf neu arfer (PCP) sy’n ymddangos yn niwtral sy’n rhoi personau sy’n rhannu nodwedd warchodedig o dan anfantais benodol (a.19(1), 19(2)).
5.6 Gall gwahaniaethu anuniongyrchol estyn bellach i’r sawl nad ydynt yn rhannu yr un nodwedd warchodedig â’r grŵp o dan anfantais, cyn belled â’u bod yn profi’n sylweddol yr un anfantais â’r grŵp. Adwaenir hyn fel gwahaniaethu anuniongyrchol ‘yr un anfantais’.
5.7 Bydd y bennod hon yn gyntaf yn ystyried gwahaniaethu anuniongyrchol ‘arferol’ (darllener paragraffau 5.8 i 5.58) ac yna’n ystyried gwahaniaethu anuniongyrchol ‘yr un anfantais’ (darllener paragraffau 5.59 i 5.61) (a.19A).
5.8 I grynhoi, er mwyn i wahaniaethu anuniongyrchol ‘arferol’ ddigwydd, mae’n rhaid i’r pedwar gofyniad canlynol gael eu diwallu (a.19).
- Mae darpariaeth, maen prawf neu arfer yn cael ei gymhwyso yn gyfartal: Mae’r darparwr gwasanaeth, y person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn cymhwyso, neu byddai’n cymhwyso, y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn gyfartal i bawb o fewn y grŵp perthnasol yn cynnwys unigolyn penodol (darllener paragraffau 5.9 i 5.18).
- Mae defnyddio dull cymharol yn dangos bod yno anfantais (y cyfeirir ato yn aml fel y gofyniad i ddangos ‘anfantais grŵp’): Mae’r ddarpariaeth, y maen prawf neu’r arfer yn rhoi, neu byddai’n rhoi, pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol yr unigolyn o dan anfantais benodol o gymharu â phobl sydd heb y nodwedd warchodedig honno (darllener paragraffau 5.19 i 5.41).
- Mae anfantais unigol: Mae’r ddarpariaeth, y maen prawf neu’r arfer yn rhoi, neu fe fyddai’n rhoi, yr unigolyn o dan yr anfantais honno (darllener paragraffau 5.42 i 5.45).
- Ni ellir cyfiawnhau’r ddarpariaeth, y maen prawf neu’r arfer: Ni all y darparwr gwasanaeth, y person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ddangos bod y ddarpariaeth, y maen prawf neu arfer wedi ei gyfiawnhau fel modd cymesur o gyflawni nod dilys (darllener paragraffau 5.46 i 5.58).
Mae darpariaeth, maen prawf neu arfer yn cael ei gymhwyso’n gyfartal
Yr hyn sydd gyfystyr â darpariaeth, maen prawf neu arfer
5.9 Y cam cyntaf wrth sefydlu gwahaniaethu anuniongyrchol yw adnabod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer perthnasol (a.19(1)). Ni ddiffinnir yr ymadrodd ‘darpariaeth, maen prawf neu arfer’ gan y Ddeddf ond dylid ei dehongli’n eang i gynnwys, er enghraifft, unrhyw bolisïau, rheolau, arferion, trefniadau, meini prawf, amodau, rhagamodau, cymwysterau neu ddarpariaethau ffurfiol neu anffurfiol. Nid yw’n angenrheidiol i fanylu a yw rhywbeth yn ddarpariaeth, maen prawf neu arfer, cyn belled â bod modd dweud yn iawn fod y polisi, rheol, arfer neu benderfyniad perthnasol yn un o, neu’n gyfuniad o, y tri pheth hynny [troednodyn 32].
5.10 Gallai darpariaeth, maen prawf neu arfer hefyd gynnwys penderfyniadau i wneud rhywbeth yn y dyfodol, megis polisi neu faen prawf nad yw wedi ei gymhwyso eto. Gall penderfyniad ‘untro’ neu benderfyniad yn ôl disgresiwn fod gyfystyr â darpariaeth, maen prawf neu arfer hefyd os, i ryw raddau, ei fod yn adlewyrchu’r modd y gwneir pethau’n gyffredinol neu y byddant yn cael eu gwneud, neu fod rhyw elfen o ailadrodd [troednodyn 33].
Ydy’r ddarpariaeth, maen prawf, neu arfer yn un niwtral?
5.12 Mae’n rhaid i’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer fod yn niwtral ar yr wyneb, sy’n golygu na alla fod ynglŷn â nodwedd neu nodweddion gwarchodedig penodol. Os nad yw’n niwtral, ac os yw’n arbennig yn berthnasol i bobl â nodwedd warchodedig benodol, mae’n debygol o gael ei gyfri yn wahaniaethu uniongyrchol.
Beth mae 'byddai'n ei roi' yn ei olygu?
5.15 Mae’n ofynnol o dan y Ddeddf bod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi neu y byddai’n rhoi pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yr unigolyn o dan anfantais benodol, o gymharu â phobl heb y nodwedd honno (a.19(2)(c)). Mae’r Ddeddf hefyd yn gofyn ei fod yn rhoi neu y byddai’n rhoi yr unigolyn penodol o dan yr anfantais honno. Mae hyn yn caniatáu heriadau i ddarpariaethau, meini prawf neu arferion nad ydynt wedi eu cymhwyso eto, ond a fyddai’n cael effaith wahaniaethol pe byddent.
5.16 Fodd bynnag, er mwyn i honiad o wahaniaethu anuniongyrchol lwyddo, rhaid i’r unigolyn ddangos y byddent yn profi anfantais pe byddai’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn cael ei gymhwyso iddyn nhw (darllener paragraff 5.42 ac enghraifft 5.43).
Anfantais a’r dull cymharol
5.19 Yr ail ofyniad mewn honiad o wahaniaethu anuniongyrchol yw sefydlu pa un ai yw’r ddarpariaeth, y maen prawf neu’r arfer yn rhoi, neu y byddai’n rhoi, unigolyn o dan anfantais penodol o gymharu ag eraill nad ydynt yn rhannu nodwedd warchodedig yr unigolyn. Er ein bod, er hwylustod, yn trafod anfantais a’r dull cymharol ar wahân isod, mae hi’n bwysig nodi nad yw’r rhain yn brofion ar wahân. Mae’r prawf yn un holistaidd; pa un ai yw’r unigolyn yn profi anfantais penodol mewn cymhariaeth â phersonau sydd heb y nodwedd honno. Mewn geiriau eraill, y cwestiwn yw a brofodd yr unigolyn anfantais gymharol, nid anfantais yn yr haniaethol.
Beth yw anfantais?
5.20 Ni ddiffinnir ‘anfantais’ gan y Ddeddf. Gallai gynnwys amddifadu o gyfle neu ddewis, atal, gwrthod neu wahardd. Mae’r llysoedd wedi canfod bod ‘niwed’, cysyniad tebyg, yn rhywbeth y byddai person rhesymol yn cwyno yn ei gylch. Ni fyddai synnwyr digyfiawnhad o gwyno yn gymwys. Nid oes rhaid i anfantais fod yn fesuradwy. Nid oes angen iddo ymwneud â cholled wirioneddol (economaidd neu fel arall). Mae’n ddigon bod person yn gallu dweud yn rhesymol y byddai’n well ganddynt pe byddent wedi cael eu trin yn wahanol.
Oes rhaid i’r person brofi’r rheswm dros yr anfantais?
5.21 Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn gofyn bod cysylltiad anffurfiol rhwng y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer a’r anfantais benodol a brofwyd gan y grŵp a’r unigolyn [troednodyn 34]. Nid oes rhaid i’r unigolyn sefydlu’r rheswm pam bod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn eu rhoi nhw neu’r grŵp o dan yr anfantais honno. Mae’n ddigon ei fod yn gwneud [troednodyn 35].
Anfantais grŵp ac unigolyn
5.22 Fel esbonnir ym mharagraff 5.15, mae’n rhaid i’r unigolyn ddangos bod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi neu y byddai’n rhoi pobl sy’n rhannu eu nodwedd warchodedig o dan anfantais penodol (‘anfantais grŵp’), a’i fod yn eu rhoi nhw yn bersonol o dan yr anfantais honno (‘anfantais unigol’).
Ydy’r grŵp yn cael ei roi o dan anfantais?
5.23 Weithiau, mae darpariaeth, maen prawf neu arfer yn hanfodol debygol o roi grŵp â nodwedd warchodedig benodol o dan anfantais. Ond nid yw’n ofynnol bod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi pob aelod o’r grŵp o dan anfantais. Mae’n nodwedd nodweddiadol o wahaniaethu anuniongyrchol na fydd rhai aelodau o’r grŵp yn profi’r anfantais benodol [troednodyn 36].
5.25 Fel esboniwyd uchod (darllener paragraff 5.21), nid yw’n ofynnol i ddangos pam bod darpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi un grŵp sy’n rhannu nodwedd warchodedig benodol o dan anfantais o gymharu ag eraill. Ond mae yn angenrheidiol i arddangos cysylltiad anffurfiol rhwng y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer a’r anfantais benodol a brofwyd. Y cwestiwn hanfodol yw pa un ai yw’r anfantais yn cael ei achosi gan y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer. Mewn rhai sefyllfaoedd, gallai’r cysylltiad anffurfiol rhwng y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer fod yn amlwg a’r amlwg; er enghraifft, gallai cod gwisg greu anfantais i unigolion â chredoau crefyddol penodol. Mewn sefyllfaoedd eraill, bydd yn llai amlwg sut mae’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi neu y byddai’n rhoi pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig o dan anfantais. Yn yr achos hwn, gallai ystadegau, tystiolaeth arbenigol neu dystiolaeth bersonol helpu i arddangos bod anfantais yn bodoli. Darllener paragraffau 5.36 i 5.41 am ragor o wybodaeth ynglŷn â chynnal ymarfer cymharu ffurfiol.
Y dull cymharol
5.27 Pan yn ystyried cymhariaeth rhwng unigolion sydd â’r nodwedd warchodedig a’r sawl sydd hebddo, mae’n rhaid i amgylchiadau’r ddau grŵp fod yn ddigon tebyg i wneud cymhariaeth (a.19(2)(b)) ac mae’n rhaid nad oes unrhyw wahaniaethau perthnasol yn eu hamgylchiadau (a.23(1)).
5.28 Mae hi’n bwysig bod yn glir pa nodwedd warchodedig sy’n berthnasol. Yn achos anabledd, ni fyddai hyn yn golygu pob person anabl, ond pobl anabl ag amhariad penodol, er enghraifft, amhariad gweledol cyfatebol. Gyda hil, byddai’n golygu pob person Affricanaidd neu ddim ond Somalïaid, er enghraifft.
Y ‘gronfa i’w chymharu’
5.30 Cyfeirir fel arfer at y bobl a ddefnyddir yn yr ymarfer cymharu fel y’ gronfa i’w chymharu’.
Yn gyffredinol, dylai’r gronfa gynnwys y grŵp mae’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn effeithio arno, neu y byddai’n effeithio arno, naill ai’n gadarnhaol neu’n negyddol, tra’n hepgor pobl nad ydynt wedi eu heffeithio ganddo, boed hynny’n gadarnhaol neu’n negyddol. Golyga hyn y bydd adnabod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer fel arfer yn golygu adnabod y gronfa i’w chymharu hefyd [troednodyn 37]. Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, mae’n debygol mai un gronfa briodol yn unig fydd, ond fe ellid bod amgylchiadau lle bydd mwy nag un gronfa. Os mai dyma’r achos, bydd y llys yn penderfynu pa gronfa sydd fwyaf addas i’w defnyddio er mwyn profi’n realistig ac effeithiol yr honiad o wahaniaethu anuniongyrchol a wneir [troednodyn 38].
Gwneud y gymhariaeth
5.33 Gan edrych ar y gronfa, rhaid i’r gymhariaeth gael ei gwneud wedyn rhwng effaith y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer ar bobl heb y nodwedd warchodedig berthnasol.
5.34 Gellir sefydlu a oes anfantais grŵp mewn honiad o wahaniaethu anuniongyrchol mewn sawl ffordd.
Er enghraifft:
- gall fod tystiolaeth ystadegol neu arall o anfantais
- gallai’r ffaith fod yno anfantais benodol awgrymu anfantais grŵp
- gallai’r anfantais fod yn hanfodol yn y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer o dan sylw
- gall fod ffactorau perthnasol, megis y proffil rhywedd mewn perthynas â chyfrifoldeb sylfaenol dros ofal plant, y bydd y llys yn eu cymryd i ystyriaeth [troednodyn 39]
5.35 Bydd y modd y cynhelir y gymhariaeth yn dibynnu ar yr amgylchiadau, yn cynnwys y nodwedd warchodedig o dan sylw (a.19(2)(c)). Fe allai, mewn rhai amgylchiadau, fod yn angenrheidiol i gynnal ymarfer cymharu ffurfiol gan ddefnyddio tystiolaeth ystadegol.
Cynnal ymarfer cymharu ffurfiol
5.36 Gall ystadegau ddarparu mewnwelediad i’r cysylltiad rhwng y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer a’r anfantais mae’n ei achosi. Gallai hefyd fod yn bosibl defnyddio ystadegau cenedlaethol neu ranbarthol er mwyn arddangos natur a graddau’r anfantais benodol.
5.37 Fodd bynnag, efallai nad yw dadansoddiad ystadegol yn briodol neu’n ymarferol, yn enwedig pan nad oes tystiolaeth ddigonol neu ddibynadwy, neu os yw’r niferoedd o bobl yn rhy isel i ganiatáu cymhariaeth ystadegol arwyddocaol. Yn y sefyllfa hon, gallai’r llys ei gweld yn ddefnyddiol i arbenigwr ddarparu tystiolaeth ar pa un ai bod unrhyw anfantais ac, os oes, natur yr anfantais.
5.38 Mae achosion eraill lle gallai fod yn ddefnyddiol i gael tystiolaeth (yn cynnwys, lle bo’n briodol, gan arbenigwr) i gynorthwyo’r llys i ddeall natur y nodwedd warchodedig neu ymddygiad y grŵp sy’n rhannu’r nodwedd – er enghraifft, tystiolaeth ynglŷn ag egwyddorion cred grefyddol benodol.
5.40 Yn ei hanfod, mae angen sefydlu bod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi cyfran uwch o’r sawl sydd â’r nodwedd warchodedig berthnasol o dan anfantais, o gymharu â’r gyfran o’r rheiny sydd heb y nodwedd warchodedig sydd o dan anfantais. Mae angen dangos bod y grŵp sydd â’r nodwedd warchodedig yn profi ‘anfantais benodol’ o gymharu ag eraill. Mae pa un ai yw gwahaniaeth yn arwyddocaol yn dibynnu ar y cyd-destun, megis maint y gronfa a’r niferoedd gwirioneddol y tu ôl i’r cymesureddau. Fel esboniwyd ym mharagraff 5.23, nid yw’n angenrheidiol dangos bod pawb, neu’r mwyafrif o’r rheiny o fewn y gronfa sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig, wedi eu gosod o dan anfantais.
Anfantais unigol
Ydy’r unigolyn o dan sylw yn cael ei roi o dan yr anfantais honno?
5.42 Nid yw’n ddigon bod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi, neu y byddai’n rhoi, grŵp o bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig o dan anfantais benodol. Mae’n rhaid iddo hefyd gael yr effaith honno (neu fedru cael yr effaith honno) ar yr unigolyn o dan sylw. Felly, nid yw’n ddigon bod unigolyn ond yn sefydlu eu bod yn aelod o’r grŵp perthnasol. Rhaid iddynt ddangos hefyd eu bod wedi profi yn bersonol (neu y gallent brofi) yr anfantais benodol fel unigolyn (darllener paragraff 5.15 a pharagraff 5.18). Fel gydag anfantais grŵp (darllener paragraff 5.21), nid oes rhaid i’r unigolyn brofi’r rheswm dros yr anfantais maen nhw’n ei phrofi yn bersonol; dim ond ei fod yn ganlyniad i gymhwysiad y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer.
Mae’r bwriad y tu ôl i’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn amherthnasol
5.44 Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn anghyfreithlon, hyd yn oed pan nad yw effaith wahaniaethol y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn fwriadol, oni bai bod modd ei gyfiawnhau yn wrthrychol (a.119(5)). Os yw darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn cymhwyso’r ddarpariaeth, maen prawf neu swyddogaeth gyhoeddus heb y bwriad o wahaniaethu yn erbyn yr unigolyn, gallai’r llys benderfynu peidio â gorchymyn iawndal (darllener Pennod 14 ar Orfodaeth) (a.119(6)).
Cyfiawnhad Gwrthrychol
Pryd gellir cyfiawnhau darpariaeth, maen prawf neu arfer yn wrthrychol?
5.46 Os gall y person sy’n cymhwyso’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer ddangos ei fod yn ‘ddull cymesur o gyflawni nod dilys’, yna ni fydd gyfystyr â gwahaniaethu anuniongyrchol (a.19(2)(d)). Adwaenir hyn yn aml fel y prawf ‘cyfiawnhad gwrthrychol’. Mae’r prawf yn berthnasol i wahaniaethu anuniongyrchol ‘yr un anfantais’ hefyd (darllener paragraffau 5.59 i 5.61) ac i feysydd eraill o gyfraith gwahaniaethu, er enghraifft gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd.
5.47 Pe caiff ei herio yn y llysoedd, lle darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yw cyfiawnhau’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer ac i gynhyrchu tystiolaeth i gefnogi eu honiad ei fod wedi ei gyfiawnhau. Ni fydd cyffredinoliadau yn ddigonol er mwyn darparu cyfiawnhad. Nid yw’n angenrheidiol i’r cyfiawnhad fod wedi ei amlinellu’n llawn adeg cymhwyso’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer. Pe caiff ei herio, gall y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas amlinellu’r cyfiawnhad wrth y llys.
5.48 Dylid mynd i’r afael â’r cwestiwn o pa un ai yw’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn ddull cymesur o gyflawni nod dilys mewn camau:
- Ydy nod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn gyfreithiol ac anwahaniaethol, ac yn un sy’n cynrychioli ystyriaeth real, wrthrychol?
- Os yw’r nod yn ddilys, ydy’r modd o’i gyflawni yn gymesur?
Beth yw nod dilys?
5.49 Ni ddiffinnir y cysyniad o ‘nod dilys’ gan y Ddeddf. Fodd bynnag, mae cyfraith achos wedi sefydlu y dylai nod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer, er mwyn bod yn ddilys, fod yn gyfreithiol, na ddylai fod yn wahaniaethol ohono’i hun, ac mae’n rhaid iddo gynrychioli ystyriaeth real, wrthrychol.
5.50 Er y gallai anghenion busnes rhesymol ac effeithlonrwydd economaidd fod yn nodau dilys, ni all darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas sydd â nod o leihau costau yn unig ddisgwyl bodloni’r prawf [troednodyn 40]. Er enghraifft, ni allant ddadlau yn unig fod gwahaniaethu yn rhatach na pheidio â gwahaniaethu.
5.51 Mae enghreifftiau o nodau dilys yn cynnwys:
- sicrhau bod gwasanaethau a buddion yn targedu’r sawl sydd eu hangen fwyaf
- gweithredu pwerau yn deg
- sicrhau iechyd a diogelwch, er enghraifft, iechyd a diogelwch y sawl sy’n defnyddio gwasanaeth neu sy’n cael mynediad i swyddogaeth gyhoeddus, cyn belled â bod risgiau wedi eu manylu’n benodol
- atal twyll neu ffurfiau eraill o gamdriniaeth a/neu ddefnydd amhriodol o wasanaethau neu swyddogaethau cyhoeddus
- sicrhau llesiant neu urddas aelodau o gymdeithas neu bobl sy’n defnyddio gwasanaeth neu sy’n cael mynediad i swyddogaeth gyhoeddus
Beth yw cymesur?
5.52 Hyd yn oed os yw’r nod yn un dilys, rhaid i’r modd o’i gyflawni fod yn gymesur.
5.53 Mae cymesuroldeb yn gofyn am ymarfer cydbwyso rhwng y nod y ceisir ei gyflawni a’r effaith wahaniaethol y gallai ei gael. Mae’n rhaid nad yw’r anfanteision a achosir yn anghymesur i’r nodau a geisir.
Mae’r llysoedd wedi torri hyn i lawr yn brawf pedwar cam. Er mwyn i fesur fod yn gymesur [troednodyn 41]:
- Mae’n rhaid i’r nod fod yn ddigon pwysig i gyfiawnhau cyfyngu ar hawl sylfaenol.
- Mae’n rhaid i’r mesur fod wedi ei gysylltu’n rhesymegol â’r nod a geisir. Golyga hyn bod disgwyl rhesymol i’w weithrediad gyfrannu at wireddu’r nod hwnnw [troednodyn 42].
- Mae’n rhaid nad yw’r modd a ddewiswyd yn fwy na’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni’r nod. Bydd y llys yn ystyried a ellid bod wedi defnyddio mesur llai ymwthiol heb gyfaddawdu cyflawniad y nod yn annerbyniol.
- Mae’n rhaid i effaith y tor-hawliau fod yn gymesur i fudd tebygol y mesur.
5.54 Ni all cost ariannol uwch defnyddio dull llai gwahaniaethol, ar ei ben ei hun, ddarparu cyfiawnhad dros gymhwyso darpariaeth, maen prawf neu arfer benodol [troednodyn 43]. Gellir ond ystyried cost fel rhan o gyfiawnhad y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas, os oes yna resymau da eraill dros ei fabwysiadu.
5.56 Mewn achos sy’n ymwneud ag anabledd, os nad yw’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol perthnasol, bydd yn anodd iddynt ddangos bod yr ymdriniaeth yn gymesur.
5.57 Po fwyaf difrifol yr anfantais a achosir gan y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer gwahaniaethol, y mwyaf argyhoeddiadol y mae’n rhaid i’r cyfiawnhad gwrthrychol fod.
Gwahaniaethu Anuniongyrchol: yr un anfantais
5.59 Gall gwahaniaethu anuniongyrchol ddigwydd hefyd pan fydd unigolyn sydd heb y nodwedd warchodedig berthnasol yn profi anfantais ochr yn ochr â phersonau sydd â’r nodwedd warchodedig berthnasol. Cyn belled ag y byddai’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer gwahaniaethol yn eu rhoi, neu y byddai’n eu rhoi, yn sylweddol o dan yr un anfantais â phobl sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig berthnasol [troednodyn 44], gallai unigolyn o’r fath ddwyn honiad o wahaniaethu anuniongyrchol ‘yr un anfantais’. Mae cyfiawnhad gwrthrychol yn berthnasol i wahaniaethu anuniongyrchol yr un anfantais (darllener paragraffau 5.46 i 5.58).
5.60 Er y cyfeirir weithiau at y math hwn o wahaniaethu anuniongyrchol fel ‘gwahaniaethu anuniongyrchol cysylltiadol’, nid yw’n angenrheidiol bod unrhyw berthynas neu gysylltiad rhwng y grŵp â’r nodwedd warchodedig berthnasol a’r unigolyn nad yw’n ei rhannu. Yn hytrach, mae’n rhaid i’r unigolyn sydd heb y nodwedd warchodedig berthnasol ddangos bod yr anfantais maen nhw’n ei phrofi yn ei hanfod yr un fath â’r hyn a brofir gan y grŵp sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig.
Awdurdodau cyhoeddus a chyfiawnhad o wahaniaethu anuniongyrchol
5.62 Lle bo awdurdod cyhoeddus yn ceisio cyfiawnhau gwahaniaethu anuniongyrchol, mae tystiolaeth ynghylch sut maen nhw wedi talu sylw i faterion effaith a chyfiawnhad gwahaniaethu posibl o dan eu dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn debygol o fod yn berthnasol.
Gwahaniaethu anuniongyrchol a’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl
5.64 Yn ogystal â bod â rhwymedigaeth i beidio â gwahaniaethu’n uniongyrchol yn erbyn pobl anabl, mae gan ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau ddyletswydd rhagddyfalus i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl. Rhoddir rhagor o fanylion ynglŷn â hyn ym Mhennod 7. Mae’r ddwy ddyletswydd hon yn gorgyffwrdd yn aml, ac mae’n synhwyrol eu hystyried gyda’i gilydd.
5.65 Pan yn cynllunio, bydd angen i ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau ystyried a yw eu harferion yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn pobl anabl. Os yw arfer yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn pobl anabl, yna mae’n rhaid i’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ystyried a oes modd cyfiawnhau’r arfer.
5.67 Os yw’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn cynllunio i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl ac yn gwneud yr addasiadau hynny, yna ni fydd angen iddynt newid yr arfer ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl, oni bai bod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn cael effaith wahaniaethol mewn perthynas â nodwedd warchodedig perthnasol arall.
5.68 Mewn nifer o achosion, pan fydd y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn ystyried a oes modd cyfiawnhau arfer er gwaethaf ei effaith ar bobl anabl, byddant yn dod o hyd i ffyrdd o wneud addasiadau rhesymol rhagddyfalus.
Pennod 5 troednodiadau
- Chief Constable of West Midlands Police and ors v Harrod and ors [2017] IRLR 539
- Ishola v Transport for London [2020] EWCA Civ 112
- Essop v Home Office [2017] UKSC 27
- Essop v Home Office [2017] UKSC 27
- Essop v Home Office [2017] UKSC 27
- Essop v Home Office [2017] UKSC 27
- Ministry of Defence v DeBique [2010] IRLR 471
- Dobson v North Cumbria Integrated Care NHS Foundation Trust [2021] IRLR 729
- Heskett v Secretary of State for Justice [2020] EWCA Civ 1487, Hill v Revenue Comrs [1999] ICR 48
- Bank Mellat [2013] UKSC 39; Akerman-Livingstone v Aster Communities Ltd [2015] 3 All ER 725)
- Bank Mellat [2013] UKSC 39
- Heskett v Secretary of State for Justice [2020] EWCA Civ 1487, Hill v Revenue Comrs [1999] ICR 48
- Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Diwygio) 2023 yn cadarnhau C-83/14 CHEZ Razpredeleine Bulgaria AD v Komisia za zashtita ot diskriminatsia (CHEZ)
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
2 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf
2 Hydref 2024