Cyflwyniad
7.1 Mae’r bennod hon yn esbonio’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl mewn perthynas â gwasanaethau i’r cyhoedd, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Mae Pennod 11 a Phennod 12 yn esbonio’r amgylchiadau pan fo’n anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn person anabl trwy beidio â gwneud addasiadau rhesymol, a geiriad penodol y ddyletswydd addasiad rhesymol mewn perthynas â’r tri maes hwn.
7.2 Mae gwasanaethau i’r cyhoedd yn cynnwys gwasanaethau i gyfran o’r cyhoedd a darpariaeth nwyddau a chyfleusterau, boed hynny am dâl ai peidio. Darllener paragraffau 11.4 i 11.9 am ragor o fanylion.
Mae swyddogaethau cyhoeddus yn swyddogaethau o natur gyhoeddus nad ydynt yn wasanaethau. Darllener paragraffau 11.13 i 11.16 am ragor o fanylion.
Mae cymdeithasau yn gyrff sydd ag o leiaf 25 o aelodau, sydd â meini prawf aelodaeth, ac sydd â phroses o ddewis aelodau. Darllener paragraffau 12.2 i 12.12 am ragor o fanylion.
7.3 Mae’r egwyddorion sy’n gysylltiedig â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol mewn perthynas â’r tri maes hwn yn debyg. Fodd bynnag, lle bo’r ddyletswydd yn wahanol rydym wedi darparu rhagor o fanylion yn y bennod hon.
7.4 Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn gofyn bod darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau yn cymryd camau cadarnhaol i sicrhau mynediad i bobl anabl. Mae hyn yn mynd yn bellach nag osgoi gwahaniaethu. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau i ystyried o flaen llaw anghenion pobl anabl a gwneud addasiadau rhesymol cyn darparu’r gwasanaeth, cyflawni’r swyddogaeth gyhoeddus, neu weithgareddau’r gymdeithas.
7.5 Pwrpas y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yw darparu mynediad i bobl anabl mewn perthynas â gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau, ac i’w profiad fod mor agos ag sy’n rhesymol bosibl i’r safon a gynigir i bobl nad ydynt yn anabl.
Beth yw’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol?
7.6 Mae un math o wahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn person anabl yn digwydd pan fydd darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol sy’n ofynnol ohono mewn perthynas â’r person anabl hwnnw (a.21(2)).
7.7 Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn cynnwys tri gofyniad.
7.8 Ar gyfer darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau, y gofynion yw:
- cymryd camau rhesymol i osgoi unrhyw anfantais sylweddol y gallai darpariaeth, maen prawf neu arfer ei greu i bobl anabl (a.20(3))
- cymryd camau rhesymol i osgoi unrhyw anfantais sylweddol mae nodwedd ffisegol yn ei achosi i bobl anabl, neu fabwysiadu dewis amgen rhesymol (a.20(4)), a
- darparu cymorth ategol lle byddai peidio â gwneud hynny yn rhoi pobl anabl o dan anfantais sylweddol (a.20(5))
Dylid ystyried yr anfantais sylweddol i bobl anabl ym mhob gofyniad mewn cymhariaeth ag unrhyw anfantais a achosir i bobl nad ydynt yn anabl.
7.9 Ar gyfer cymdeithasau, mae’r gofynion a amlinellir yn y paragraff uchod yn berthnasol mewn perthynas â
- mynediad i fudd-dal, cyfleuster neu wasanaeth
- aelodau neu gyfranogion yn cadw eu hawliau, neu’n osgoi eu cael nhw wedi eu hamrywio
- cael mynediad i aelodaeth neu gael eu gwahodd fel ymwelydd (At. 15)
Beth yw darpariaeth, maen prawf neu arfer?
7.10 Nid oes rhestr bendant o’r hyn yw darpariaeth, maen prawf neu arfer. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ym mharagraffau 5.9 i 5.11 yn y Cod hwn.
Pa anfantais sy’n achosi’r ddyletswydd?
7.11 Ar gyfer pob un o’r tri gofyniad a amlinellir yn 7.8, mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i’r anfantais fod yn sylweddol, sy’n cael ei ddiffinio fel mwy na bychan neu ddibwys (a.212(1)).
7.12 Yng nghyd-destun person sy’n destun niwed wrth i swyddogaeth gyhoeddus gael ei chyflawni, mae anfantais sylweddol (At. 2 para 2(5)(a) a (b)) yn golygu:
- cael eich rhoi o dan anfantais sylweddol mewn perthynas â derbyn budd-dal (megis derbyn grant), neu
- cael profiad afresymol o anffafriol pan yn destun niwed (er enghraifft, o gael eich harestio)
Mesurir yr anfantais a grëir gan y diffyg addasiad rhesymol mewn cymhariaeth â phrofiad person nad yw’n anabl [troednodyn 53].
7.13 Ar gyfer darparwyr gwasanaethau a’r sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus, y cwestiwn yw pa un ai yw pobl anabl yn gyffredinol yn cael eu rhoi o dan anfantais sylweddol yn sgil darpariaeth, maen prawf neu arfer (At. 2(2)). O ganlyniad, dylid edrych ar yr effaith y mae’n debygol o’i gael ar bobl ‘sy’n anabl yn yr un modd’ yn hytrach nag ar yr unigolyn eu hunain yn unig [troednodyn 54]. Hyd yn oed os yw darpariaeth, maen prawf neu arfer yr un mor berthnasol i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, os yw’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer hwnnw yn fwy tebygol o roi person anabl o dan anfantais sylweddol yn sgil eu hanabledd, byd yna ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol [troednodyn 55].
A oes unrhyw gyfyngiadau ar y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol?
7.15 Lle bo’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn codi, ni all darparwr gwasanaeth, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas gyfiawnhau methiant i wneud addasiad rhesymol. Fodd bynnag, mae’r Ddeddf yn gosod cyfyngiadau penodol ar y ddyletswydd.
7.16 Ni fydd yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth (yn cynnwys person sy’n darparu gwasanaeth wrth gyflawni swyddogaeth gyhoeddus) gymryd unrhyw gamau a fyddai’n newid yn sylfaenol natur y gwasanaeth neu natur crefft neu broffesiwn y darparwr (At. 2 para 2(7)).
7.17 Ni fydd yn ofynnol i’r sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus gymryd unrhyw gamau sydd y tu hwnt i’w pwerau (At. 2 para 2(8)).
7.18 Ni fydd yn ofynnol i gymdeithasau gymryd unrhyw gamau sy’n newid natur y budd-dal, cyfleuster neu wasanaeth, neu natur y gymdeithas ei hun (At. 15 para 2(7)).
7.19 Lle bo cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn nhai aelodau neu gymdeithion cymdeithasau, nid yw’n ofynnol i’r aelodau neu’r cymdeithion hynny wneud addasiadau i unrhyw nodwedd ffisegol o’u cartref. Darllener Pennod 12 am ragor o fanylion (At. 15 para 2(8)).
I bwy mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn ddyledus?
7.20 Mewn perthynas â gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus, mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn ddyledus i bobl anabl yn gyffredinol (At. 2 para 2(2)). Nid yw’n syml yn ddyletswydd a gymhwysir mewn perthynas â phob person anabl unigol sy’n dymuno cael mynediad i wasanaethau neu a effeithir gan gyflawniad swyddogaeth gyhoeddus.
7.21 Mewn perthynas â chymdeithasau, mae’r gronfa o bobl anabl y mae’r ddyletswydd yn ddyledus iddynt yn llai, ond mae’n parhau i gynnwys aelodau, y sawl sy’n ceisio aelodaeth, cymdeithion a gwesteion, yn ogystal â’r sawl a allai ddymuno dod yn aelodau a’r sawl sy’n debygol o fod yn westeion (At. 15 para 2(2)).
Dyletswydd rhagddyfalus: y pwynt pan fydd y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn codi
7.22 Mewn perthynas â’r tri maes (gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau) mae’r ddyletswydd yn rhagddyfalus (At. 2 ac At. 15). Golyga hyn ei bod yn gofyn am ystyriaeth o, a gweithredu mewn perthynas â, rhwystrau sy’n atal pobl ag un neu ragor math o anabledd cyn i unigolyn anabl geisio defnyddio gwasanaeth, elwa o neu fod yn destun swyddogaeth, neu gymryd rhan yng ngweithgareddau cymdeithas.
7.23 Felly ni ddylai darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau aros hyd nes y bydd person anabl yn dymuno defnyddio gwasanaeth, elwa o neu fod yn destun swyddogaeth, neu gymryd rhan yng ngweithgarwch cymdeithas cyn iddynt ystyried eu dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. Fe ddylent ragddyfalu gofynion pobl anabl a’r addasiadau y gellid bod angen eu gwneud ar eu cyfer. Gallai methiant i ragddyfalu’r angen am addasiad achosi cost ychwanegol neu beri iddi fod yn rhy hwyr i gydymffurfio â’r ddyletswydd i wneud yr addasiad. Fodd bynnag, mae’n bosibl na fyddai rhagddyfalu’r angen am addasiad ohono’i hun yn darparu amddiffyniad yn erbyn honiad o fethiant i wneud addasiad rhesymol.
A yw’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn berthnasol hyd yn oed os nad yw’r darparwr gwasanaeth, y person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu’r gymdeithas yn gwybod bod y person yn anabl?
7.25 Oherwydd bod y ddyletswydd yn rhagddyfalus, mae’n berthnasol waeth a yw’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas yn gwybod bod person penodol yn anabl ai peidio neu pa un ai bod ganddo, er enghraifft, gwsmeriaid neu aelodau anabl.
7.26 Pan fydd person anabl yn ceisio defnyddio gwasanaeth, elwa o neu fod yn destun swyddogaeth, neu gymryd rhan yng ngweithgareddau cymdeithas, mae’n rhaid bod y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas eisoes wedi cymryd pob cam rhesymol i ddarparu mynediad.
A oes angen i ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau ragddyfalu pob rhwystr?
7.27 Nid oes disgwyl i ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau ragddyfalu anghenion pob unigolyn a allai ddefnyddio gwasanaeth, elwa o neu fod yn destun swyddogaeth, neu gymryd rhan yng ngweithgareddau cymdeithas. Mae gofyn iddynt feddwl am a chymryd camau rhesymol i oresgyn rhwystrau a allai atal pobl â gwahanol fathau o anableddau. Er enghraifft, gallai pobl â dementia, cyflyrau iechyd meddwl neu amhariadau symudedd wynebu gwahanol fathau o rwystrau.
7.28 Mae pobl anabl yn grŵp amrywiol sydd â gwahanol ofynion – er enghraifft, bydd pobl ag amhariad ar y golwg sy’n defnyddio cŵn tywys yn cael eu hatal rhag defnyddio gwasanaethau â pholisi ‘dim cŵn’, tra nad yw’r polisi yn effeithio ar bobl ag amhariad ar y golwg sydd ond yn defnyddio ffyn gwyn. Bydd y ddyletswydd yn parhau’n ddyledus i aelodau’r ddau grŵp. O ganlyniad, bydd angen i ddarparwr gwasanaeth yn yr achos hwn ragddyfalu sut y gellid bod angen addasu ei wasanaethau ar gyfer y ddau grŵp.
7.29 Unwaith y bydd darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas wedi dod yn ymwybodol o ofynion person anabl penodol gallai fod yn rhesymol bryd hynny i gymryd cam penodol i ddiwallu’r anghenion hynny. Mae hyn yn arbennig o wir lle bo person anabl wedi amlygu’r anhawster a wynebant wrth gael mynediad neu os ydynt wedi awgrymu datrysiad rhesymol i’r anhawster hwnnw.
7.31 Felly, mae dwy gydran i’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol: y ddyletswydd i wneud addasiadau rhagddyfalus ar gyfer dosbarth o bobl, yn ogystal â’r ddyletswydd barhaus i wneud addasiadau mewn achosion unigol [troednodyn 56].
Pa mor hir mae’r ddyletswydd yn para?
7.32 Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn ddyletswydd barhaus. Dylai darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau adolygu’r ddyletswydd a’r ffyrdd maent yn diwallu’r ddyletswydd yn barhaus, gan ystyried eu profiad gyda phobl anabl sy’n dymuno cael mynediad. Yn hyn o beth mae’n ddyletswydd sy’n esblygu, ac nid rhywbeth i’w ystyried unwaith yn unig a’i anghofio. Efallai nad yw’r hyn a ystyriwyd yn wreiddiol yn gam rhesymol bellach yn ddigonol, ac efallai y bydd yn rhaid ystyried darparu addasiadau pellach neu addasiadau gwahanol.
7.34 Yn yr un modd, gallai cam a allai fod wedi bod yn un afresymol i ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas ei gymryd cyn hynny ddod, o ganlyniad, yn gam rhesymol o ystyried amgylchiadau a newidiwyd. Er enghraifft, gallai datblygiadau technolegol ddarparu datrysiadau newydd neu well i broblemau gwasanaethau anhygyrch.
Beth mae camau ‘rhesymol’ yn ei olygu?
7.36 Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn gosod darparwyr gwasanaeth, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau o dan gyfrifoldeb i gymryd camau sy’n gyfrifol i’w cymryd yn yr holl amgylchiadau. Nid yw’r Ddeddf yn manylu y dylid ystyried unrhyw ffactorau penodol. Mae’r hyn sy’n gam rhesymol i ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas ei gymryd yn dibynnu ar holl amgylchiadau’r achos. Bydd yn amrywio yn ôl:
- y math o wasanaeth sy’n cael ei ddarparu, swyddogaeth gyhoeddus sy’n cael ei chyflawni neu weithgaredd cymdeithas
- natur y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas, ei faint a’i adnoddau, ac
- effaith yr anabledd ar yr unigolyn anabl
7.37 Mae’r canlynol yn enghreifftiau nad ydynt yn gynhwysfawr o’r ffactorau y gellid eu hystyried pan yn asesu’r hyn sy’n rhesymol:
- pa un ai y byddai cymryd unrhyw gamau penodol yn effeithiol er mwyn goresgyn yr anfantais sylweddol mae pobl anabl yn ei wynebu wrth gael mynediad
- i ba raddau y mae’n ymarferol i’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas i gymryd y camau
- y costau ariannol neu arall o wneud yr addasiad
- graddau unrhyw amhariad y byddai cymryd y camau yn ei achosi
- graddau adnoddau ariannol ac arall y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas
- swm unrhyw adnoddau sydd eisoes wedi eu gwario ar wneud addasiadau
- rgaeledd cymorth ariannol neu arall
7.39 Mae’n fwy tebygol o fod yn rhesymol i ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas ag adnoddau ariannol sylweddol orfod gwneud addasiad â chost sylweddol nag y byddai i gorff o’r fath â llai o adnoddau.
7.41 Dylid ystyried yr adnoddau sydd ar gael i’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas yn ei gyfanrwydd, yn ogystal â gofynion eraill ar yr adnoddau hynny. Lle bo adnoddau’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas wedi eu rhannu rhwng mwy nag un uned fusnes neu ganolfan elw, mae’r gofynion arnynt yn debygol o gael eu hystyried wrth asesu rhesymoldeb.
7.43 Mae’r cwestiwn o resymoldeb addasiad yn un gwrthrychol i’r llysoedd ei bennu.
7.44 Dylai darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau ddeall nad oes atebion pendant na therfynol. Efallai na fydd gweithrediad a allai arwain at gyflawni mynediad rhesymol i rai pobl anabl o anghenraid yn effeithiol i eraill.
7.46 Pwrpas cymryd camau yw sicrhau nad yw pobl anabl yn cael eu gosod o dan anfantais sylweddol o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl pan yn defnyddio gwasanaeth, yn elwa o neu’n destun swyddogaeth gyhoeddus neu’n cymryd rhan yng ngweithgarwch cymdeithas. Lle bo addasiad y gallai’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ei roi yn ei le yn rhesymol, ac a fyddai’n cael gwared ar neu’n lleihau’r anfantais sylweddol, nid yw’n ddigonol iddynt gymryd cam gwahanol pe byddai hynny’n llai effeithiol wrth ddarparu gwasanaeth.
7.47 Yn yr un modd, ni fydd darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas wedi cymryd camau rhesymol os yw’n ceisio darparu cymorth neu wasanaeth cynorthwyol nad yw’n ymarferol yn darparu mynediad i bobl anabl.
7.48 Ym mhob achos mae’n bwysig defnyddio, cyn belled ag y bo’n rhesymol, modd o gyfathrebu sydd ohono’i hun yn hygyrch i bobl anabl.
7.50 Mewn rhai amgylchiadau, bydd cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn golygu achosi anghyfleustra i bobl nad ydynt yn anabl [troednodyn 57].
7.52 Os, ar ôl ystyried y mater yn drylwyr, nad oes unrhyw gamau rhesymol y gall darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas eu cymryd er mwyn sicrhau mynediad i bobl anabl, mae’n annhebygol ei fod yn torri’r gyfraith os nad yw’n gwneud unrhyw newidiadau. Mae achos o’r fath yn debygol o fod yn brin.
Costau darparu addasiadau rhesymol
7.53 Mae’r Ddeddf yn gwahardd darparwyr gwasanaeth, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau sydd o dan ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer person anabl rhag gofyn i’r unigolion hynny dalu unrhyw gostau sydd ynghlwm â gwneud yr addasiadau hynny (a.20(7)). Fel esboniwyd uchod, gallai cost gwneud unrhyw addasiad penodol effeithio i ba raddau mae’r cam hwnnw’n un rhesymol i ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithasau ei gymryd.
Beth sy’n digwydd os na chydymffurfir â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol?
7.55 Lle nad yw darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas yn cydymffurfio â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn yr amgylchiadau a amlinellir ym Mhennod 11 a Phennod 12, bydd yn cyflawni gweithred o wahaniaethu anghyfreithlon. Bydd modd i berson anabl wneud hawliad yn seiliedig ar hyn (darllener Pennod 14 am ragor o fanylion ynglŷn â hawliadau).
7.56 Mae angen i hawlydd unigol sy’n ceisio iawndal am wahaniaethu sy’n deillio o dorri’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ddangos iddynt ddioddef rhywfaint o niwed o ganlyniad i’r tor-ddyletswydd [troednodyn 58].
Baich Profi
7.57 Unwaith y bydd hawlydd unigol wedi dangos eu bod o dan anfantais sylweddol a’u bod wedi adnabod yr angen am un neu ragor o addasiadau rhesymol posibl yna mae’r baich o brofi nad yw’n addasiad rhesymol i orfod gwneud yn trosglwyddo i’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas. Er mwyn i’r baich drosglwyddo mae angen manylion digonol ynglŷn ag addasiad rhesymol posibl er mwyn galluogi darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas i ymgysylltu â pha un ai y gellid gwneud yr addasiad yn rhesymol. Nid oes angen i’r unigolyn fod wedi adnabod addasiad rhesymol posibl ar yr adeg y dylai fod wedi ei wneud ond mae angen iddynt fod wedi gwneud erbyn yr achos [troednodyn 59].
Beth yw’r ddyletswydd i newid darpariaeth, maen prawf neu arfer?
7.58 Gall fod gan ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni dyletswydd gyhoeddus neu gymdeithas ddarpariaeth, maen prawf neu arfer sydd – yn anfwriadol, o bosibl – yn gosod pobl anabl o dan anfantais sylweddol wrth ddefnyddio ei wasanaethau, elwa o neu fod yn destun swyddogaeth gyhoeddus neu gymryd rhan yng ngweithgarwch cymdeithas. Mewn achos o’r fath, ac fel disgrifir ym mharagraff 7.8 a pharagraff 7.9, mae’n rhaid i’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas gymryd y camau sy’n rhesymol iddynt orfod eu cymryd, yn yr holl amgylchiadau, i newid y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer fel nad yw bellach yn achosi anfantais sylweddol. Gallai hyn yn syml olygu cyfarwyddo staff i hepgor maen prawf, addasu arfer i ganiatáu eithriadau, neu ymwrthod ag ef yn llwyr. Yn aml, nid yw newid o’r fath yn golygu llawer mwy nag ymestyn y cwrteisi y mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaeth eisoes yn ei ddangos i’w cwsmeriaid.
Darparu gwybodaeth: darpariaeth, maen prawf neu arfer
7.59 Mae’r Ddeddf yn nodi, lle bo darpariaeth, maen prawf neu arfer yn gosod person anabl o dan anfantais sylweddol, a bod hyn yn berthnasol i ddarpariaeth gwybodaeth, mae’r camau sy’n rhesymol i’w cymryd yn cynnwys camau i sicrhau bod yr wybodaeth yn cael ei darparu mewn fformat hygyrch (a.20(6)).
Cymorthyddion neu Wasanaethau Cynorthwyol
Beth yw’r ddyletswydd i ddarparu cymorthyddion neu wasanaethau cynorthwyol?
7.61 Mae’n rhaid i ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol iddynt eu cymryd er mwyn darparu cymorthyddion neu wasanaethau cynorthwyol fel disgrifir ym mharagraffau 7.8 ac uchod (ac, i gymdeithasau, paragraff 7.9), er mwyn cael gwared ar yr anfantais a brofir gan bobl anabl.
7.62 Dylai darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau sicrhau bod unrhyw gymorthyddion cynorthwyol a ddarperir ganddynt wedi eu cynnal yn briodol. Cynghorir hefyd bod ganddynt drefniadau wrth gefn yn eu lle, rhag ofn i gymorth cynorthwyol fethu â gweithio yn annisgwyl. Gallai methiant i sicrhau bod y cymorth cynorthwyol yn gweithio fod gyfystyr â methiant i wneud addasiad.
Beth yw cymorth neu wasanaeth cynorthwyol?
7.63 Cymorth neu wasanaeth cynorthwyol yw unrhyw beth sy’n darparu cefnogaeth neu gymorth ychwanegol i berson anabl. Mae enghreifftiau yn cynnwys:
- darn arbennig o offer
- darpariaeth o ddehonglydd iaith arwyddion, darllenydd gwefusau neu gyfathrebydd byddar-dall
- cymorth staff ychwanegol i bobl anabl
- gwasanaeth cymryd nodiadau electronig neu ar bapur
- dolen gynefino neu system ddarlledu isgoch
- ffonau fideo
- larymau tân clyweledol
- darllenwyr i bobl ag amhariadau ar y golwg
- cymorth â thywys
- gwasanaethau ffôn er mwyn cyflenwi gwybodaeth ychwanegol
Darparu gwybodaeth: Cymorthyddion Cynorthwyol
7.65 Mae’r Ddeddf yn nodi, lle bo absenoldeb cymorth neu wasanaeth cynorthwyol yn gosod person anabl o dan anfantais sylweddol, a bod hyn yn berthnasol i ddarpariaeth gwybodaeth, bod y camau sy’n rhesymol i ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas eu cymryd yn cynnwys camau i sicrhau bod yr wybodaeth yn cael ei darparu mewn fformat hygyrch (a.20(6)).
7.67 Nid yw’n ofynnol o dan y Ddeddf i ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas ddarparu cymorth neu wasanaeth cynorthwyol i’w ddefnyddio at ddibenion personol nad ydynt yn gysylltiedig â’r gwasanaeth, swyddogaeth neu weithgaredd neu i’r person anabl eu cymryd i ffwrdd ar ôl eu defnyddio.
7.69 Nid yw’r Ddeddf yn nodi pa gymorthyddion neu wasanaethau cynorthwyol penodol y gellid eu darparu mewn amgylchiadau penodol. Mae’n parhau yn ddyletswydd ar y darparwr gwasanaeth, y person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas i bennu pa gamau rhesymol y gall fod angen iddo eu cymryd.
Nodweddion ffisegol
Beth yw’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i nodweddion ffisegol?
7.70 Mae’n rhaid i ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas gymryd pa bynnag gamau sy’n rhesymol i osgoi rhoi pobl anabl o dan anfantais sylweddol a achosir gan nodwedd ffisegol.
Osgoi anfantais sylweddol
7.71 Mae'r Ddeddf (a.20(9), At. 2 para 1 a 2 ac At. 15 para 1, 2(3) a 2(5) i 2(8)) yn nodi bod osgoi anfantais sylweddol a achosir gan nodwedd ffisegol yn cynnwys:
- cael gwared ar y nodwedd ffisegol o dan sylw
- ei addasu, neu
- darparu modd rhesymol o’i osgoi
Cael gwared ar y nodwedd ffisegol
7.72 Gallai cael gwared ar y nodwedd ffisegol fod yn gam rhesymol, a’r cam mwyaf effeithiol, i ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ei gymryd.
Addasu’r nodwedd ffisegol
7.74 Gallai addasu’r nodwedd ffisegol fel nad yw’n achosi anawsterau mynediad sylweddol i bobl anabl fod yn gam rhesymol i ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas eu cymryd hefyd.
Darparu modd rhesymol o osgoi’r nodwedd ffisegol
7.76 Gallai darparu modd rhesymol o osgoi’r nodwedd ffisegol fod yn gam rhesymol i ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas eu cymryd.
7.79 Mae’n ofynnol o dan y Ddeddf bod yn rhaid i unrhyw fodd o osgoi’r nodwedd ffisegol fod yn un ‘rhesymol’. Gallai ystyriaethau perthnasol yn y cyd-destun hwn gynnwys a yw darpariaeth y gwasanaeth, cyflawniad y swyddogaeth neu weithgarwch y gymdeithas yn y modd hwn yn tramgwyddo urddas pobl anabl yn sylweddol ac i ba raddau y mae’n achosi anghyfleustra neu bryder i bobl anabl.
Darparu dull amgen rhesymol o gael mynediad
7.81 Lle nad oes modd osgoi’r anfantais sylweddol a achosir gan nodwedd ffisegol, dylai darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus a chymdeithasau ystyried a oes dull amgen rhesymol o ddarparu mynediad i bobl anabl (At. 2 para 2(3)(b)) ac At. 15 para 2(3)(b)). Mae’n ofynnol o dan y Ddeddf bod unrhyw ddull amgen o ddarparu mynediad yn un ‘rhesymol’. Gallai ystyriaethau perthnasol yn y cyd-destun hwn gynnwys pa un ai yw darpariaeth y gwasanaeth, cyflawniad y swyddogaeth neu weithgarwch y gymdeithas yn tramgwyddo urddas pobl anabl yn sylweddol ac i ba raddau y mae’n achosi anghyfleustra i bobl anabl.
7.83 Lle ceir rhwystr ffisegol, dylai nod y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas fod i wneud ei wasanaethau, swyddogaethau neu weithgareddau yn hygyrch i bobl anabl a sicrhau bod eu profiad mor agos ag sy’n rhesymol bosibl i’r safon a gynigir i unigolion nad ydynt yn anabl.
Pan yn ystyried pa opsiwn i’w fabwysiadu, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau gydbwyso a chymharu’r opsiynau amgen sydd ar gael trwy ystyried bwriad y Ddeddf sef, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, darparu yr un mynediad i bobl anabl ag i bobl nad ydynt yn anabl.
7.84 Pe byddai darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas yn penderfynu darparu mynediad trwy ddull amgen, a bod person anabl yn dwyn honiad yn ei erbyn am fethu â gwneud addasiadau rhesymol, byddai modd i’r llys sy’n pennu’r hawliad ystyried yr opsiynau eraill y gellid bod wedi eu mabwysiadu er mwyn osgoi yr anfantais sylweddol i’r person anabl. Er enghraifft, byddai trefnu darparu gwasanaeth wyneb yn wyneb i berson anabl yn rhithiol yn sgil problemau hygyrchedd ond yn ddewis amgen rhesymol os nad oedd ffordd resymol o ddarparu mynediad corfforol i’r gwasanaeth i’r person anabl [troednodyn 60].
Beth yw 'nodwedd gorfforol'?
7.86 Mae nodweddion ffisegol adeilad neu eiddo yn cynnwys:
- unrhyw nodwedd sy’n deillio o gynllun neu adeiladwaith adeilad
- unrhyw nodwedd ar yr eiddo o unrhyw lwybr at, allanfa o, neu fynediad i adeilad
- ac unrhyw osodion, addurniadau, dodrefn, celfi, offer (neu eiddo symudadwy arall yn yr Alban) yn neu ar yr eiddo
- unrhyw elfen neu rinwedd ffisegol arall
Mae’r holl nodweddion hyn wedi eu cwmpasu gan y ddyletswydd, waeth a yw’r nodwedd o dan sylw yn un dros dro neu barhaol. Mae adeilad yn golygu adeilad neu strwythur o unrhyw fath.
7.87 Mae nodweddion ffisegol yn cynnwys:
- grisiau a staerau
- palmantau, arwynebeddau allanol a phafin
- ardaloedd parcio
- mynedfeydd ac allanfeydd adeiladau (yn cynnwys llwybrau dianc mewn argyfwng)
- drysau mewnol, drysau allanol a gatiau
- cyfleusterau tai bach ac ymolchi
- cyfleusterau cyhoeddus (megis ffonau, cownteri neu ddesgiau gwasanaeth)
- goleuadau a systemau awyru
- lifftiau a grisiau symudol
- gorchuddion lloriau, arwyddion, dodrefn, ac eitemau dros dro neu symudadwy (megis offer a raciau arddangos)
- graddfa eiddo (er enghraifft, maint canolfan siopa)
Nid yw hon yn rhestr holl gynhwysfawr.
7.89 Lle bo nodweddion ffisegol o fewn ffiniau eiddo darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas yn gosod pobl anabl o dan anfantais sylweddol, yna bydd y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn berthnasol (a.20(4) ac At. 2 para 1 ac At. 15 para 1). Dyma fydd yr achos hyd yn oed os yw’r nodweddion ffisegol y tu allan – er enghraifft, y llwybrau a’r mannau eistedd mewn gardd tafarn (a.20(10)).
7.90 Mae nodwedd ffisegol yn cynnwys nodweddion a ddygwyd gan, neu ar ran, y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas ar eiddo nad yw fel arfer yn ei feddiannu (At. 2 para 2(6) ac At. 15 para 2(6)).
Lesoedd, rhwymedigaethau rhwymol ac addasiadau rhesymol
Beth sy’n digwydd os yw les yn dweud nad oes modd gwneud newidiadau penodol i eiddo?
7.92 Mae darpariaethau arbennig yn berthnasol lle bo darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas yn meddiannu eiddo o dan les neu gytundeb tenantiaeth, y mae ei delerau yn eu hatal rhag gwneud addasiad i’r eiddo (At. 21 para 3).
7.93 Mewn amgylchiadau o’r fath, os yw’r addasiad yn un y mae’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas yn cynnig eu gwneud yn cydymffurfio â dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol, mae’r Ddeddf yn galluogi’r les i gael darllen fel pe bai’n darparu:
- bod y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas yn gwneud cais ysgrifenedig i’r landlord am y cydsyniad hwnnw
- nad yw’r landlord yn cadw’r cydsyniad yn ôl yn afresymol
- bod modd i’r landlord roi cydsyniad yn ddibynnol ar amgylchiadau rhesymol, a
- bod y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas yn gwneud yr addasiad gyda chydsyniad ysgrifenedig y landlord
7.94 Os yw’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas yn methu â gwneud cais ysgrifenedig i’r landlord am gydsyniad i’r addasiad, ni fydd modd i’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas ddibynnu ar y ffaith fod telerau’r les yn eu hatal rhag gwneud addasiadau i’r eiddo er mwyn amddiffyn ei fethiant i wneud addasiad. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’n rhaid i unrhyw beth yn y les sy’n atal yr addasiad rhag cael ei wneud gael ei anwybyddu wrth benderfynu a oedd yn rhesymol i’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas fod wedi gwneud yr addasiad.
7.95 Bydd pa un ai yw landlord sy’n dal cydsyniad yn ôl yn rhesymol ai peidio yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Er enghraifft, os yw addasiad penodol yn debygol o arwain at ostyngiad parhaol sylweddol yng ngwerth buddsoddiad y landlord yn yr eiddo, mae’r landlord yn debygol o fod yn ymddwyn yn rhesymol wrth ddal cydsyniad yn ôl. Mae’r landlord hefyd yn debygol o fod yn ymddwyn yn rhesymol os yw’n dal cydsyniad yn ôl oherwydd y byddai addasiad yn achosi tarfu neu anghyfleustra sylweddol i denantiaid eraill (er enghraifft, lle bo’r eiddo yn cynnwys nifer o unedau sydd wedi eu cysylltu).
7.96 Byddai rheswm dibwys neu fympwyol bron yn sicr yn afresymol. Ni fyddai nifer o addasiadau rhesymol i eiddo yn niweidio buddsoddiad y landlord ac felly byddai’n gyffredinol afresymol i ddal cydsyniad ar eu cyfer yn ôl.
7.97 Os yw’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas wedi ysgrifennu at y landlord i ofyn am gydsyniad i wneud addasiad a bod y landlord wedi gwrthod cydsynio neu wedi atodi amodau i’w gydsyniad, gall y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas neu berson anabl sydd â chysylltiad â’r addasiad arfaethedig gyfeirio’r mater at lys sirol (neu, yn yr Alban, at y Siryf) (At. 21 para 4). Bydd y llys yn penderfynu pa un ai yw gwrthodiad y landlord, neu unrhyw rai o’r amodau, yn afresymol hefyd. Os yw’n penderfynu eu bod, gallai’r llys wneud datganiad priodol neu awdurdodi’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas i wneud yr addasiad o dan orchymyn llys a gallai gyflwyno amodau.
7.98 Mewn unrhyw achos cyfreithiol mewn perthynas â honiad sy’n ymwneud â methiant i wneud addasiad rhesymol, gall y person anabl o dan sylw, neu’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas, ofyn i’r llys gyfarwyddo bod y landlord yn cael ei wneud yn barti i’r achos (At. 21 para 5). Bydd y llys yn caniatáu’r cais hwnnw os caiff ei wneud cyn i’r gwrandawiad ddechrau. Gallai wrthod y cais os caiff ei wneud ar ôl i’r gwrandawiad ddechrau. Ni chaniateir y cais os caiff ei wneud ar ôl i’r llys benderfynu’r honiad.
7.99 Lle bo’r landlord wedi ei wneud yn barti i’r gwrandawiad, gall y llys bennu pa un ai yw’r landlord wedi gwrthod cydsynio, neu wedi cydsynio i’r addasiad yn ddibynnol ar amod. Yn naill achos a’r llall gall benderfynu a oedd y gwrthodiad neu’r amod yn afresymol.
7.100 Os yw’r llys yn canfod bod y gwrthodiad neu’r amod yn afresymol, gall:
- wneud datganiad priodol
- gwneud gorchymyn yn awdurdodi’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas i wneud addasiad penodedig
- gorchymyn y landlord i dalu iawndal i’r person anabl
7.101 Os yw’r llys yn gorchymyn y landlord i dalu iawndal, ni all hefyd orchymyn y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas i wneud hynny.
Beth sy’n digwydd os yw rhwymedigaeth rwymol heblaw am les yn atal adeilad rhag cael ei addasu?
7.102 Gall y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas fod yn rhwym o dan delerau cytundeb neu rwymedigaeth arall sy’n eu rhwymo’n gyfreithiol (er enghraifft, morgais, cyfrifoldeb neu gyfamod cyfyngol neu, yn yr Alban, trefniadaeth ffiwdal), sy’n datgan nad oes modd iddo addasu’r eiddo heb gydsyniad rhywun arall.
7.103 O dan yr amgylchiadau hynny, mae’r Ddeddf yn datgan ei bod bob amser yn rhesymol i’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas orfod gwneud cais am y cysyniad hwnnw, ond nad yw byth yn rhesymol iddynt orfod gwneud addasiad cyn sicrhau’r cydsyniad hwnnw (At. 21 para 2).
Beth am yr angen i sicrhau cydsyniad statudol am rai newidiadau i adeiladau?
7.104 Gall fod angen i ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas sicrhau cydsyniad statudol cyn gwneud addasiadau sy’n cynnwys newidiadau i eiddo. Mae cydsyniadau o’r fath yn cynnwys caniatâd cynllunio, cydsyniad o reoliadau adeiladu neu warant adeiladu yn yr Alban, cydsyniad adeilad rhestredig, cydsyniad heneb restredig neu gydsyniad rheoliadau tân. Nid yw’r Ddeddf yn diystyru’r angen i sicrhau cydsyniadau o’r fath.
7.105 Dylai darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau gynllunio ar gyfer, a rhagddisgwyl, yr angen i sicrhau cydsyniad ar gyfer gwneud addasiad penodol. Gallai gymryd amser i sicrhau cydsyniad o’r fath, ond gallai fod yn rhesymol i wneud addasiad interim neu amgen nad yw’n gofyn am gydsyniad yn y cyfamser.
7.106 Bydd yr angen i sicrhau cydsyniadau statudol yn un ffactor sy’n bwydo i’r asesiad o resymoldeb pan yn ystyried y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. Fodd bynnag, ni fydd y ffactor hwn o anghenraid yn troi’r fantol, oni bai bod cysyniadau angenrheidiol yn cael eu gwrthod [troednodyn 61].
Dylai darparwyr gwasanaeth, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau gofio, hyd yn oed pan na roddir cydsyniad i gael gwared ar neu addasu nodwedd ffisegol, ei bod yn parhau’n ddyletswydd arnynt i ystyried darparu mynediad trwy ffyrdd amgen rhesymol.
Darpariaethau arbennig mewn perthynas â cherbydau cludiant
7.107 Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn berthnasol i’r defnydd o gerbydau cludiant penodol. Fel esboniwyd ym mharagraff 3.31, nid yw’r Cod hwn yn cwmpasu’r darpariaethau hyn (At. 2 para 3).
Addasiadau Rhesymol ar Waith
7.108 Pan fydd darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas yn ystyried gwneud addasiadau rhesymol, mae’r mesurau canlynol gyfystyr ag arfer da a allai fod o gymorth er mwyn osgoi gweithredoedd o wahaniaethu. Mewn rhai amgylchiadau, fe allent naill ai fod yn fodd o adnabod addasiadau rhesymol neu fod gyfystyr ag addasiadau rhesymol eu hunain:
- cynllunio o flaen llaw ar gyfer anghenion pobl anabl ac adolygu’r addasiadau rhesymol sydd yn eu lle
- cynnal archwiliadau mynediad ar eiddo
- gofyn i bobl anabl am eu safbwyntiau ynglŷn ag addasiadau rhesymol
- trafod â grwpiau anabledd lleol a chenedlaethol
- tynnu sylw pobl anabl at addasiadau rhesymol perthnasol fel eu bod yn gwybod y gallant ddefnyddio gwasanaeth, elwa o neu fod yn destun swyddogaeth, neu gymryd rhan yng ngweithgareddau cymdeithas
- cynnal cymorthyddion cynorthwyol yn briodol a rhoi cynlluniau wrth gefn yn eu lle rhag ofn i gymorth cynorthwyol fethu
- hyfforddi cyflogeion sut i ymateb i geisiadau am addasiadau rhesymol
- annog cyflogeion i ddatblygu sgiliau ychwanegol ar gyfer pobl anabl (er enghraifft, cyfathrebu â phobl ag amhariad ar y clyw)
- sicrhau bod cyflogeion yn ymwybodol o’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ac yn deall sut i gyfathrebu â phobl anabl fel bod modd adnabod a gwneud addasiadau rhesymol
7.109 Cynghorir darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau i gadw cofnod o unrhyw gamau a gymerant mewn perthynas â’r uchod.
Pennod 7 troednodiadau
- Griffiths v Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau [2015] EWCA Civ 1265 yn §§41, 47 a 58
- R (VC) v Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref [2018] EWCA Civ 57 yn §153 a R (Rowley) v Gweinidog Swyddfa’r Cabinet [2022] 1 WLR 1179 yn §24
- Griffiths v Secretary of State for Work and Pensions at §58
- R (VC) v Secretary of State for the Home Department
- First Group plc v Paulley [2017] UKSC 4
- Finnigan v Prif Gwnstabl Heddlu Northumbria [2013] EWCA Civ 1191
- Latif v Project Management Institute [2007] IRLR 579
- Royal Bank of Scotland Group plc v Allen [2009] EWCA Civ 1213
- Plummer v Royal Herbert Freehold Limited [2018] 5 WLUK 5
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
2 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf
2 Hydref 2024