Cyflwyniad
6.1 Mae’r bennod hon yn esbonio’r ddyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau i beidio â thrin pobl anabl yn anffafriol am reswm sy’n gysylltiedig ag anabledd (a.15). Mae amddiffyniad rhag y math hwn o wahaniaethu, a adwaenir fel ‘gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd’, ond yn berthnasol i bobl anabl (a.15).
Beth yw gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd?
Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud
6.2 Mae’r Ddeddf yn dweud bod ymdriniaeth o berson anabl gyfystyr â gwahaniaethu os diwallir yn amodau canlynol (a.15).
- Mae darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn trin y person anabl yn anffafriol.
- Mae’r ymdriniaeth hon oherwydd rhywbeth sy’n deillio o ganlyniad i anabledd y person anabl.
- Ni ellir dangos bod yr ymdriniaeth hon yn fodd cymesur o gyflawni nod dilys.
Nid yw ymdriniaeth gyfystyr â gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd os nad yw’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn gwybod, ac nad oes disgwyl rhesymol iddynt wybod, bod gan y person anabledd (a.15(2)).
Sut mae’n wahanol i wahaniaethu uniongyrchol?
6.4 Mae gwahaniaethu uniongyrchol yn digwydd pan fydd darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn trin rhywun yn llai ffafriol oherwydd anabledd ei hun. Gyda gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd, y cwestiwn yw a yw’r person anabl wedi cael ei drin yn anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n deillio o ganlyniad i’w anabledd.
Sut mae’n wahanol i wahaniaethu anuniongyrchol?
6.6 Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan mae person anabl (neu pan fyddai) o dan anfantais oherwydd darpariaeth, maen prawf neu arfer nad oes modd ei gyfiawnhau sy’n berthnasol i bawb, sy’n rhoi (neu a fyddai’n rhoi) pobl sy’n rhannu anabledd y person anabl o dan anfantais benodol o gymharu ag eraill, ac sy’n rhoi (neu fyddai’n rhoi) y person anabl o dan yr anfantais honno (darllener paragraff 5.4).
6.7 Mewn cyferbyniad, mae gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd ond yn gofyn bod y person anabl yn dangos eu bod wedi profi ymdriniaeth anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n gysylltiedig â’u hanabledd. Fodd bynnag, fel gyda gwahaniaethu anuniongyrchol, gallai’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas osgoi gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd os oes modd cyfiawnhau’r ymdriniaeth yn wrthrychol fel modd cymesur o gyflawni nod dilys (darllener paragraff 6.18).
Oes angen cymharydd?
6.8 Mae ymarfer cymharu yn ofynnol gyda gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol (darllener Pennod 4 a Phennod 5). Pan yn ystyried gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd nid oes angen cymharu’r ymdriniaeth o berson anabl â’r ymdriniaeth o berson arall. Mae hi ond yn angenrheidiol arddangos bod yr ymdriniaeth anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n deillio o ganlyniad i’w hanabledd.
Beth yw ymdriniaeth anffafriol?
6.10 Er mwyn i wahaniaeth sy’n deillio o anabledd ddigwydd, mae’n rhaid bod person anabl wedi ei drin yn ‘anffafriol’ (a.15(1)(a)). Golyga hyn bod yn rhaid eu bod wedi eu rhoi o dan anfantais. Yn aml, bydd yr anfantais yn amlwg, a bydd hi’n glir i’r ymdriniaeth fod yn anffafriol. Er enghraifft, gallai person fod wedi ei amddifadu o wasanaeth neu gallai fod wedi derbyn gwasanaeth salach. Mae cael eu hamddifadu o ddewis neu eu cau allan o gyfle hefyd yn debygol o fod yn ymdriniaeth anffafriol. Weithiau gallai’r ymdriniaeth anffafriol fod yn llai amlwg. Hyd yn oed os yw darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn meddwl eu bod yn gweithredu er budd y person anabl, gallent fod yn trin y person hwnnw’n anffafriol.
6.11 Os yw person yn cwyno nad ydynt wedi cael eu trin yn ddigon ffafriol, efallai na fydd hyn yn disgyn o fewn cwmpas ymdriniaeth ‘anffafriol’ ac felly efallai na fyddai’n anghyfreithlon [troednodyn 45].
Beth mae ‘rhywbeth sy’n deillio o ganlyniad i anabledd’ yn ei olygu?
6.13 Mae’n rhaid i’r ymdriniaeth anffafriol fod oherwydd rhywbeth sy’n deillio o ganlyniad i anabledd (a.15(1)(a)). Golyga hyn bod yn rhaid bod cysylltiad rhwng beth bynnag arweiniodd at yr ymdriniaeth anffafriol a’r anabledd.
6.14 Mae canlyniadau anabledd yn cynnwys unrhyw beth sy’n ganlyniad neu effaith anabledd person. Bydd y canlyniadau’n amrywiol ac yn dibynnu ar effaith unigol anabledd ar berson. Gallai rhai canlyniadau fod yn amlwg, megis anallu i gerdded heb gymorth. Efallai nad yw rhai eraill mor amlwg, megis anallu i ddeall goblygiadau cytundeb ariannol.
6.15 Er mwyn pennu a yw ymdriniaeth anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n deillio o ganlyniad i anabledd, mae’n bwysig ystyried y mater mewn dau gam. Yn gyntaf, a yw anabledd person yn achosi, neu’n arwain at, ‘rhywbeth’? Yn ail, a gafodd y person ei drin yn anffafriol oherwydd y ‘rhywbeth’ hwnnw [troednodyn 46]? Nid oes rhaid mai’r ‘rhywbeth’ yw’r unig reswm dros yr ymdriniaeth anffafriol, ond mae’n rhaid iddo fod yn rheswm arwyddocaol, neu o leiaf yn fwy na rheswm dibwys [troednodyn 47].
Pryd y gellir cyfiawnhau gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd?
6.18 Ni fydd ymdriniaeth anffafriol gyfystyr â gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd os gall y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ddangos bod yr ymdriniaeth yn ‘ddull cymesur o gyflawni nod dilys’ (a.15(1)(b)). Esbonnir y prawf ‘cyfiawnhad gwrthrychol’ ym mharagraffau 5.46 i 5.58.
6.19 Os oes methiant i wneud addasiad rhesymol, a fyddai wedi atal neu leihau’r ymdriniaeth anffafriol, bydd hi’n anodd iawn dangos bod yr ymdriniaeth wedi ei chyfiawnhau yn wrthrychol at ddiben honiad o wahaniaethu sy’n deillio o anabledd [troednodyn 48]. Esbonnir hyn ym mharagraffau 5.56 i 5.57 a pharagraffau 6.35 i 6.36.
6.20 Lle’r darparwr gwasanaeth, y person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yw cyfiawnhau’r ymdriniaeth. Mae’n rhaid iddynt gynhyrchu tystiolaeth i gefnogi eu honiad ei fod wedi ei gyfiawnhau a pheidio â dibynnu ar gyffredinoliadau.
Beth os nad yw’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn gwybod bod y person yn anabl?
6.22 Os gall y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ddangos nad oeddent yn gwybod bod gan y person anabl yr anabledd o dan sylw, ac nad oedd disgwyl rhesymol iddynt wybod, yna nid yw’r ymdriniaeth anffafriol gyfystyr â gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd (a.15(2)).
6.23 Does ond angen iddynt wybod ynglŷn â ffeithiau amhariad yr unigolyn i fod yn gymwys am wahaniaethu sy’n deillio o anabledd. Nid oes angen iddynt sylweddoli bod y ffeithiau penodol hynny yn diwallu’r diffiniad cyfreithiol o anabledd [troednodyn 49]. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r diffiniad o anabledd, darllener paragraffau 2.18 i 2.34.
6.24 Nid oes angen iddynt wybod ychwaith bod y ‘rhywbeth’ a arweiniodd at yr ymdriniaeth anffafriol yn ganlyniad i’r anabledd [troednodyn 50].
6.25 Nid yw’n ddigon bod y darparwr gwasanaeth, y sawl sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn dangos nad oeddent yn gwybod bod gan y person anabl anabledd. Rhaid iddynt ddangos hefyd nad oedd disgwyl rhesymol iddynt fod wedi gwybod amdano.
6.26 Pan yn penderfynu a yw unigolyn yn debygol o gael eu hystyried yn anabl, rhaid i’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ffurfio’u barn eu hunain. Dylent ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol, a allai gynnwys barn cynghorydd meddygol. Fodd bynnag, ni ddylent dderbyn yn ddi-gwestiwn barn cynghorydd meddygol fel penderfynydd o pa un ai yw unigolyn yn anabl [troednodyn 51].
6.28 Mae’n rhaid i ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas wneud popeth y mae disgwyl rhesymol iddynt wneud er mwyn dod i wybod a oes gan berson anabledd. Mae’r hyn sy’n rhesymol yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Mae hwn yn asesiad gwrthrychol. Nid yw’n angenrheidiol gwneud pob ymholiad lle ceir ychydig neu ddim sylfaen ar gyfer gwneud hynny [troednodyn 52]. Pan yn gwneud ymholiadau ynglŷn ag anabledd, dylid ystyried materion urddas a phreifatrwydd a rhaid ymdrin â gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol.
6.29 Lle bo gan ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas berthynas barhau â pherson anabl – er enghraifft, darpariaeth gwasanaethau bancio ar gyfer casglu treth cyngor – dylent gymryd camau i ddarganfod os oes gan berson anabledd, er enghraifft, trwy wirio ffurflen gofrestru cwsmer.
6.31 Lle nad oes perthynas barhaus, dylid parhau i ystyried a oes gan unigolyn anabledd. Gallai hyn fod cyn symled â rhoi’r cyfle i berson ddatgelu ei hanabledd trwy ofyn iddynt a oes unrhyw reswm eu bod yn ymddwyn mewn ffordd benodol.
6.33 Os yw cyflogai, asiant neu aelod yn ymwybodol o anabledd unigolyn, ni fydd y darparwr gwasanaeth, person sy’n darparu swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas fel arfer yn gallu honni nad oeddent yn gwybod am yr anabledd. Byddai felly’n anodd iddynt ddadlau nad oeddent wedi gwneud yr unigolyn yn destun gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd.
All darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus a chymdeithasau drin person anabl yn fwy ffafriol?
6.34 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd trin person anabl yn fwy ffafriol na pherson nad yw’n anabl mewn perthynas â gwahaniaethu uniongyrchol. Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i bobl anabl yn unig. Felly, nid yw’n wahaniaethu uniongyrchol os yw darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau yn trin person anabl yn fwy ffafriol na pherson nad yw’n anabl.
Perthnasedd addasiadau rhesymol
6.35 Yn aml gall darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau atal ymdriniaeth anffafriol a fyddai gyfystyr â gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd trwy weithredu’n ddi-oed i adnabod a chyflwyno addasiadau rhesymol (darllener Pennod 7).
6.36 Lle bo darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus a chymdeithas wedi gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer person anabl, gallent barhau i wneud person anabl yn destun gwahaniaethu anghyfreithlon sy’n deillio o anabledd. Mae hyn yn debygol o fod yn berthnasol lle, er enghraifft, nad yw’r addasiad yn gysylltiedig â’r ymdriniaeth benodol y gwnaed cwyn amdani. Fodd bynnag bydd yn anodd iawn dangos bod ymdriniaeth wedi ei chyfiawnhau yn wrthrychol lle ceir methiant i wneud addasiad rhesymol.
Pennod 6 troednodiadau
- Trustees of Swansea University Pension Scheme v Williams [2019] 1 WLR 93; McCue v Glasgow City Council [2023] UKSC 1
- Basildon and Thurrock NHS Foundation Trust v Weerasinghe [2016] ICR 305; York City Council v Grosset [2018] EWCA Civ 1105
- Charlesworth v Dransfields Engineering Services Ltd [2007] UKEAT/0197/16; Pnaiser v NHS England [2015] UKEAT/0137/15
- City of York Council v Grosset [2018] EWCA Civ 1105
- Gallop v Newport City Council [2013] EWCA Civ 1583
- City of York Council v Grosset [2018] EWCA Civ 1105
- Gallop v Newport City Council [2013] EWCA Civ 1583
- A Ltd v Z [2020] ICR 199
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
2 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf
2 Hydref 2024