1 Cynhwysir yr Atodiad hwn i egluro pwy sydd â nodwedd warchodedig anabledd o dan y Ddeddf yn y meysydd a gwmpesir gan y Cod hwn.
Pryd mae person yn anabl?
2 Mae gan berson anabledd os oes ganddynt amhariad corfforol neu feddyliol, sy’n cael effaith niweidiol sylweddol a hir dymor ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd arferol(a.6(1)).
Fodd bynnag, mae rheolau arbennig yn berthnasol i bobl â rhai cyflyrau megis cyflyrau cynyddol (darllener paragraff 24) a chaiff rhai pobl eu hystyried yn anabl yn awtomatig at ddibenion y Ddeddf (darllener paragraff 21).
Beth am bobl sydd wedi gwella o anabledd?
3 Mae pobl sydd wedi bod ag anabledd o dan y diffiniad yn y Ddeddf wedi eu diogelu rhag gwahaniaethu ac aflonyddu hyd yn oed os ydynt wedi gwella ers hynny, er nad yw’r sawl oedd ag anableddau yn y gorffennol wedi eu cwmpasu mewn perthynas â Rhan 12 (cludiant) ac adran 190 (gwelliannau i dai preswyl) (a.6(4)).
Beth mae 'nam' yn ei gynnwys?
4 Mae’n cwmpasu amhariadau corfforol neu feddyliol. Mae hyn yn cynnwys amhariadau synhwyraidd, megis y rhai sy’n effeithio ar olwg neu glyw (a.6(1)).
A yw pob nam meddyliol yn cael ei gynnwys?
5 Bwriedir y term ‘amhariad meddyliol’ i gwmpasu ystod eang o amhariadau mewn perthynas â gweithredu meddyliol, yn cynnwys anableddau dysgu.
Beth os nad oes gan berson ddiagnosis meddygol?
6 Nid oes angen i berson sefydlu achos â diagnosis meddygol dros eu hamhariad. Yr hyn sy’n bwysig i’w ystyried yw effaith yr amhariad, nid yr achos [troednodyn 85].
Beth yw effaith niweidiol ‘sylweddol’?
7 Mae effaith niweidiol sylweddol yn rhywbeth sy’n fwy nag effaith fechan neu ddibwys (a.212). Os yw’r amhariad yn cael mwy nag effaith fechan neu ddibwys ar alluoedd y person o gymharu â’r rheini a fyddai ganddynt heb yr amhariad, yna mae’r effaith yn sylweddol [troednodyn 86].
8 Pan yn ystyried pa un ai yw effaith yn fwy nag effaith fechan neu ddibwys, dylid ystyried, er enghraifft: yr amser a gymerir i gyflawni gweithgaredd; effaith gyffredinol amhariad lle bo’r cyflwr yn effeithio ar nifer o weithgareddau; effaith mwy nag un amhariad; a pha un ai yw person yn osgoi gwneud pethau sydd, er enghraifft, yn achosi poen, blinder, neu gywilydd cymdeithasol sylweddol, neu oherwydd diffyg egni neu ysgogiad.
9 Efallai nad yw amhariad yn atal rhywun yn uniongyrchol rhag cyflawni un neu ragor o weithgareddau bob dydd arferol, ond gallai barhau i gael effaith niweidiol hirdymor sylweddol ar sut mae ef neu hi yn cyflawni’r gweithgareddau hynny. Er enghraifft, lle bo amhariad yn achosi poen neu flinder wrth gyflawni gweithgareddau bob dydd arferol, efallai bod gan y person y capasiti i wneud rhywbeth ond eu bod yn dioddef poen wrth wneud hynny, neu gallai’r amhariad achosi i’r weithgaredd fod yn fwy blinedig nag arfer fel nad oes modd i’r person ailadrodd y dasg dros gyfnod parhaus o amser.
10 Gall effaith amhariad fod yn uniongyrchol neu anuniongyrchol. Cyn belled â bod cysylltiad llac rhwng yr amhariad a’i effaith, nid oes gwahaniaeth bod cam yn y canol rhwng y ddau [troednodyn 87].
Beth yw effaith 'hirdymor'?
12 Mae effaith hirdymor amhariad yn un:
- sydd wedi para o leiaf 12 mis, neu
- lle mae cyfanswm y cyfnod y mae’n para yn debygol o fod yn o leiaf 12 mis, neu
- sy’n debygol o bara am weddill bywyd y person a effeithir (At. 1 para 2(1))
Byddai effeithiau nad ydynt yn rhai hirdymor felly yn cynnwys colli symudedd oherwydd torri asgwrn sy’n debygol o wella o fewn 12 mis, ac effeithiau heintiau dros dro, y byddai person yn debygol o wella ohonynt o fewn 12 mis.
Beth os bydd yr effeithiau yn mynd a dod dros gyfnod o amser?
13 Os yw amhariad wedi cael effaith niweidiol sylweddol ar weithgareddau bob dydd arferol ond bod yr effaith honno’n dod i ben, caiff yr effaith sylweddol ei thrin fel pe bai’n parhau os yw’n debygol o ailgodi (At. 1 para 2(2)). Os yw effaith niweidiol yn ailgodi o bryd i’w gilydd, gallai hyn fod yn arwydd y gallai achos arall ddigwydd, er nad dyna fydd yr achos bod amser. Felly, er enghraifft, lle bo digwyddiad penodol yn achosi effaith niweidiol, a bod y digwyddiad hwnnw’n annhebygol o barhau neu ailgodi, gallai’r effaith niweidiol fod yn annhebygol o ailgodi [troednodyn 88].
Beth yw gweithgareddau bob dydd arferol?
14 Maent yn weithgareddau sy’n cael eu cyflawni gan y rhan fwyaf o bobl ar sail reolaidd ac aml.
15 Mae gweithgareddau bob dydd yn cynnwys – ond nid ydynt yn gyfyngedig i – weithgareddau megis cerdded, gyrru, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, coginio, bwyta, codi a chario gwrthrychau bob dydd, teipio, ysgrifennu (a sefyll arholiadau), mynd i’r tŷ bach, siarad, gwrando ar sgyrsiau neu gerddoriaeth, darllen, cymryd rhan mewn rhyngweithio cymdeithasol arferol neu ffurfio perthnasau cymdeithasol, meithrin neu ofalu am yr hunan.
16 Mae gweithgareddau bob dydd arferol hefyd yn cynnwys unrhyw weithgaredd sy’n berthnasol i gyfranogiad effeithiol person ym myd gwaith, megis cyfweliad am swydd [troednodyn 89]. Pan yn ystyried gweithgaredd benodol, dylid ei diffinio’n eang [troednodyn 90]. Er enghraifft, gall gweithgareddau bob dydd ym myd gwaith gynnwys sefyll am gyfnodau hir [troednodyn 91] neu godi a symud eitemau trymion [troednodyn 92].
17 Ni fwriedir y term i gynnwys gweithgareddau sy’n arferol i berson penodol neu grŵp penodol o bobl yn unig, megis chwarae offeryn cerddorol, neu wneud chwaraeon i safon broffesiynol. Fodd bynnag, byddai rhywun sydd wedi ei effeithio mewn modd mor arbenigol ond sydd hefyd wedi ei effeithio mewn gweithgareddau arferol bod dydd wedi ei gwmpasu gan y rhan hon o’r diffiniad.
Effaith triniaeth neu fesurau eraill ar y diffiniad o anabledd
18 Gall rhywun ag amhariad fod yn derbyn triniaeth feddygol neu’n cymryd mesurau eraill sy’n lliniaru neu’n cael gwared ar yr effeithiau (ond nid yr amhariad). Mewn achosion o’r fath, caiff y driniaeth neu’r mesurau eu hanwybyddu ac ystyrir bod yr amhariad yn cael yr effaith y byddai wedi ei chael heb driniaeth neu fesurau eraill o’r fath (At. 1 para 5(1)). Nid yw hyn yn berthnasol os nad yw effeithiau niweidiol sylweddol yn debygol o ailgodi hyd yn oed os daw’r driniaeth neu’r mesurau eraill i ben (hynny yw, os yw’r amhariad wedi gwella yn dilyn triniaeth).
Ydy hyn yn cynnwys pobl sy’n gwisgo sbectol?
19 Na. Yr unig eithriad i’r rheol yn ymwneud ag anwybyddu effeithiau triniaeth neu fesurau eraill yw gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd. Yn yr achos hwn, dylid ystyried yr effaith tra bo’r person yn gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd (At. 1 para 5(3)).
A yw pobl ag anffurfiadau wedi eu cwmpasu?
20 Mae pobl ag amhariadau difrifol wedi eu cwmpasu gan y Ddeddf. Nid oes angen iddynt arddangos bod yr amhariad yn cael effaith sylweddol niweidiol ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd arferol. Fodd bynnag, mae angen iddynt ddiwallu’r gofyniad hirdymor (At. 1 para 3(1)).
Oes unrhyw bobl eraill sy’n cael eu trin yn anabl yn awtomatig o dan y Ddeddf?
21 Mae unrhyw un sydd â HIV, canser neu sglerosis ymledol yn cael eu trin yn anabl yn awtomatig o dan y Ddeddf (At. 1 para 6(1)). Mewn rhai amgylchiadau, caiff pobl sydd ag amhariad ar y golwg eu trin yn anabl yn awtomatig o dan Reoliadau a wneir o dan y Ddeddf (Rheoliadau Anabledd 2010, SI 2010/212, rh 7).
A yw Covid Hir yn cael ei gwmpasu?
22 Mae Covid Hir yn salwch newydd a gododd yn ystod y pandemig Covid-19. Gall Covid Hir bara unrhyw le rhwng rhai misoedd a rhai blynyddoedd a gall yr effeithiau fod yn gyson neu’n anwadal. Mae symptomau’n amrywio a gallant gynnwys blinder, cyfog a symptomau anadlol.
23 Gall symptomau Covid Hir gael effaith hirdymor sylweddol a allai ddisgyn o fewn y diffiniad o anabledd yn y Ddeddf. Bydd y llysoedd yn edrych ar symptomau ar sail achos wrth achos. Bydd angen i hawlwyr arddangos bod eu hamhariadau yn bodloni’r prawf cyfreithiol.
Beth am bobl sy’n gwybod bod eu cyflwr yn mynd i waethygu dros amser?
24 Mae cyflyrau cynyddol yn gyflyrau sy’n debygol o newid a datblygu dros amser. Cymerir bod gan bobl â chyflyrau cynyddol amhariad sy’n cael effaith niweidiol sylweddol, cyn iddo gael yr effaith honno mewn gwirionedd, os:
- oes ganddynt gyflwr cynyddol
- yw eu cyflwr yn arwain at amhariad sy’n cael (neu sydd wedi cael) effaith ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd arferol
- nad yw’r effaith (neu os nad oedd yr effaith) yn cael effaith niweidiol sylweddol eto, ac
- yw’r cyflwr yn debygol o arwain at amhariad sy’n cael effaith niweidiol sylweddol ar yr unigolyn (At. 1 para 8)
Bydd unigolion wedi eu cwmpasu gan y Ddeddf o dan yr amgylchiadau hyn, cyn belled â bod yr effaith yn diwallu gofyniad hirdymor y diffiniad.
A yw’r Menopos yn cael ei gwmpasu?
25 Gall symptomau’r menopos fod yn ddifrifol a gallant gael effeithiau niweidiol sylweddol a hirdymor ar allu menyw i gyflawni gweithgareddau bob dydd arferol. O dan yr amgylchiadau hyn, gall symptomau’r menopos ddisgyn o dan y diffiniad o anabledd yn y Ddeddf, ond bydd angen i hawlwyr arddangos bod eu hamhariad yn bodloni’r prawf cyfreithiol.
I fenywod eraill, gellir rheoli symptomau’r menopos yn rhwydd, heb lawer o effaith ar eu bywyd bob dydd. Yn yr achosion hyn, mae symptomau’r menopos yn annhebygol o ddisgyn o dan y diffiniad o anabledd yn y Ddeddf.
Atodiad troednodiadau
- J v DLA Piper UK [2010] IRLR 936
- Elliott v Dorset City Council [2021] IRLR 880
- Sussex Partnership NHS Foundation Trust v Norris [2012] EqLR 1068
- Sullivan v Bury Street Capital Ltd [2021] EWCA Civ 1694
- Sobhi v Commissioner of the Police of the Metropolis [2013] EqLR 785
- Banaszczyk v Booker [2016] IRLR 273
- Aderemi v London and South Eastern Railway Ltd [2013] EqLR 198
- Banaszczyk v Booker [2016] IRLR 273
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
2 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf
2 Hydref 2024