Pwrpas Deddf Cydraddoldeb 2010
1.1 Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn cwmpasu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth oherwydd oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, a chyfeiriadaeth rywiol. Adwaenir y naw chategori hyn yn y Ddeddf fel ‘nodweddion gwarchodedig’.
1.2 Un o ddibenion pwysig y Ddeddf yw uno’r gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth oed eisoes wedi datblygu ac a oedd yn gwahardd gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth yn erbyn pobl â gwahanol nodweddion gwarchodedig, lle bo’n briodol.
1.3 Mae gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth yn y rhan fwyaf o feysydd gweithgarwch yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf, ag eithriadau penodol. Mae’r meysydd gweithgarwch hyn yn cynnwys:
- cyflogaeth a meysydd gwaith eraill
- addysg
- tai
- darpariaeth gwasanaethau
- gweithredu swyddogaethau cyhoeddus
- aelodaeth o gymdeithasau
1.4 Cwmpesir gwahanol feysydd gweithgarwch o dan wahanol rannau o’r Ddeddf.
Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn ymwneud â gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth yn narpariaeth gwasanaethau a gweithrediaeth swyddogaethau cyhoeddus.
Mae Rhan 4 yn ymwneud â gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth wrth werthu, gosod, rheoli ac anheddu mangreoedd.
Mae Rhan 5 yn ymwneud â chyflogaeth a sefyllfaoedd eraill yng nghyd-destun gwaith.
Mae Rhan 6 yn ymwneud ag addysg yn cynnwys ysgolion, addysg bellach, addysg uwch a chyrff cymwysterau cyffredinol.
Mae Rhan 7 yn ymwneud â gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth gan gymdeithasau sy’n aelodau.
Gall person fod â dyletswyddau o dan fy nag un Rhan o’r Ddeddf, er enghraifft, lle maen nhw’n cyflogi pobl ac yn darparu gwasanaethau i gwsmeriaid.
Statws y Cod
1.5 Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (yr EHRC) wedi paratoi a chyhoeddi’r cod hwn (y cyfeirir ato fel y ‘Cod’) yn seiliedig ar ei bwerau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Mae’n god statudol. Golyga hyn ei fod wedi ei gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’i osod yn ffurfiol gerbron y Senedd.
Nid yw’r cod yn gosod goblygiadau cyfreithiol. Nid yw ychwaith yn osodiad awdurdodol o’r gyfraith: dim ond y llysoedd a’r tribiwnlysoedd all ddarparu awdurdod o’r fath. Fodd bynnag, gellir defnyddio’r Cod mewn tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol sy’n cael eu dwyn o dan y Ddeddf. Rhaid i lysoedd a thribiwnlysoedd ystyried unrhyw ran o’r Cod sy’n ymddangos yn berthnasol i unrhyw gwestiynau sy’n codi mewn achosion o’r fath.
Os yw darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n gweithredu swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau yn dilyn y canllawiau yn y Cod, fel gallai eu helpu i osgoi penderfyniad niweidiol gan lys mewn achosion o’r fath.
Cwmpas y Cod
1.6 Mae’r Cod hwn yn cwmpasu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth mewn gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus fel amlinellir yn Rhan 3 o’r Ddeddf. Mae hefyd yn cwmpasu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth gan gymdeithasau, fel amlinellir yn Rhan 7.
1.7 Mae Rhan 3 y Ddeddf yn seiliedig ar yr egwyddor na ddylai pobl â’r nodweddion gwarchodedig a amlinellir yn y Ddeddf brofi gwahaniaethu, aflonyddu nac erledigaeth wrth ddefnyddio unrhyw wasanaeth a ddarperir yn gyhoeddus neu’n breifat. Mae hyn yn wir pa un ai bod y gwasanaeth hwnnw’n cael ei roi am dâl ai peidio. Nid yw hyn o anghenraid yn golygu y dylai darparwyr gwasanaethau drin pawb yn yr un ffordd; mewn rhai amgylchiadau bydd angen i ddarparwr gwasanaeth ddarparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol i ddiwallu anghenion pobl. Er enghraifft, mae’r rhannau o’r Ddeddf sy’n ymwneud â gweithredu cadarnhaol, gwasanaethau un rhyw ac addasiadau rhesymol i bobl anabl yn gwneud darpariaeth am hyn. Mae’r camau y dylai darparwyr gwasanaethau eu cymryd i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu, aflonyddu nac erlid yn cael eu hesbonio yn y Cod hwn.
1.8 Mae awdurdodau lleol sy’n gweithredu ‘swyddogaethau cyhoeddus’ hefyd wedi eu cwmpasu gan Rhan 3 o’r Ddeddf, ac fe esbonnir eu dyletswydd hwy i beidio â gwahaniaethu, aflonyddu nac erlid wrth gyflawni’r swyddogaethau hyn ei esbonio yn y Cod hwn. Mae sefydliadau eraill yn y sectorau preifat neu wirfoddol hefyd wedi eu cwmpasu gan yr un darpariaethau yn y Ddeddf pan fyddant yn cyflawni swyddogaethau cyhoeddus. Diffinnir ‘swyddogaethau cyhoeddus’ fel yn Neddf Hawliau Dynol 1998 ac yn aml fe’u cyflawnir o dan bŵer neu ddyletswydd statudol, megis plismona, trwyddedu neu bennu’r fframwaith ar gyfer yr hawl i fudd-daliadau.
1.9 Caiff cymdeithasau sy’n aelodau eu cwmpasu yn y Cod hwn hefyd oherwydd bod y sefydliadau hyn yn gyffredinol yn darparu gwasanaethau neu fuddion eraill i’w haelodau, cyfranogion neu aelodau. Mae’r darpariaethau sy’n ymwneud â chymdeithasau i’w gweld yn Rhan 7 y Ddeddf. O dan y Ddeddf, mae cymdeithasau yn gyrff sydd ag o leiaf 25 o aelodau, sydd â meini prawf aelodaeth, ac sydd â phroses o ddewis aelodau. Dim ond cymdeithasau sy’n diwallu’r meini prawf hyn sydd â rhwymedigaethau o dan y rhan hon o’r Ddeddf. Bydd hyn yn cynnwys nifer o glybiau preifat a phleidiau gwleidyddol.
1.10 Mae’r Cod yn gymwys i Gymru, Lloegr a’r Alban (darllener paragraffau 3.19 i 3.24 am ragor o wybodaeth ar gwmpas tiriogaethol y Ddeddf).
Oed fel nodwedd warchodedig
1.11 I wasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus (Rhan 3 o’r Ddeddf), mae amddiffyniad yn erbyn gwahaniaethu ar sail oed ac aflonyddu mewn perthynas ag oed wedi ei gyfyngu i’r sawl sy’n 18 oed a hŷn. I gymdeithasau (Rhan 7 o’r Ddeddf), mae’r amddiffyniad yn cwmpasu unigolion o unrhyw oed. Mae nifer o eithriadau yn briodol (darllener paragraffau 13.244 i 13.299).
Priodas a Phartneriaeth Sifil
1.12 Nid yw’r Ddeddf yn darparu amddiffyniad yn erbyn gwahaniaethu oherwydd priodas a phartneriaeth sifil yn y meysydd a gwmpesir gan y Cod hwn (Rhannau 3 a 7 o’r Ddeddf). Felly, nid yw’r Cod hwn yn cwmpasu gwahaniaethu oherwydd y nodwedd warchodedig hon yn narpariaeth gwasanaethau, gweithredu swyddogaethau cyhoeddus na chan gymdeithasau.
Pwrpas y Cod
1.13 Prif bwrpas y Cod hwn yw darparu esboniad manwl o’r Ddeddf. Bydd hyn yn cynorthwyo llysoedd pan yn dadansoddi’r gyfraith ac yn helpu cyfreithwyr, cynghorwyr ac eraill sydd angen cymhwyso’r gyfraith a deall ei fanylion technegol.
1.14 Mae’r EHRC hefyd wedi cynhyrchu canllawiau ymarferol i ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n gweithredu swyddogaethau cyhoeddus, cymdeithasau ac aelodau o’r cyhoedd gan dybio nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth am y gyfraith. Gallai hyn fod yn fwy hygyrch ac yn fwy o gymorth i bobl sydd angen cyflwyniad i’r Ddeddf. Gellir ei lawrlwytho o wefan yr EHRC.
1.15 Bydd y Cod hwn, ar y cyd â’r canllaw ymarferol a gynhyrchwyd gan yr EHRC, yn:
- helpu darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n gweithredu swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau sy’n aelodau i ddeall eu cyfrifoldebau a helpu i osgoi cwynion a chyhuddiadau o wahaniaethu
- helpu aelodau o’r cyhoedd i ddeall y gyfraith a’r hyn y gallan nhw ei wneud os ydyn nhw’n credu eu bod wedi bod yn destun gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth
- helpu cyfreithwyr a chynghorwyr eraill i gynghori eu cleientiaid
- rhoi tystiolaeth i’r llysoedd ar faterion sydd wedi eu cynllunio i sicrhau neu hyrwyddo cydymffurfiaeth â’r Ddeddf
Hawliau Dynol
1.16 Mae’n ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (HRA) i beidio â gweithredu yn anghydnaws â hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar gyfer Diogelu Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol (y Confensiwn) (a.6 Deddf Hawliau Dynol 1998). Mae’r swyddogaethau cyhoeddus a gwmpesir gan y Cod hwn yn swyddogaethau o natur gyhoeddus fel diffinnir yn yr HRA.
1.17 Mae Erthygl 14 o’r Confensiwn yn gwahardd gwahaniaethu wrth fwynhau hawliau’r Confensiwn. Felly, os yw awdurdod cyhoeddus neu unrhyw gorff arall yn gwahaniaethu gan dorri ar y Ddeddf Cydraddoldeb wrth gyflawni swyddogaeth o natur gyhoeddus, lle bydd hyn yn ymwneud â hawl y Confensiwn gallai hefyd olygu torri ar y Confensiwn. Yn yr un modd, gallai gwahaniaethu o dan Erthygl 14 hefyd olygu torri’r Ddeddf Cydraddoldeb lle bo’n seiliedig ar nodwedd sydd wedi’i gwarchod o dan y Ddeddf.
1.18 Mae’n ddyletswydd ar lysoedd a thribiwnlysoedd i ddehongli deddfwriaeth sylfaenol (yn cynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010) a deddfwriaeth eilaidd mewn modd sy’n gydnaws â hawliau’r Confensiwn, oni bai ei bod yn amhosibl gwneud hynny (a.3 Deddf Hawliau Dynol 1998). Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol mewn unrhyw hawliad a gyflwynir o dan y Ddeddf, pa un ai bod awdurdod cyhoeddus ynghlwm â’r achos ai peidio, a hyd yn oed os yw’r achos yn ymwneud â rhywbeth oni bai am weithredu swyddogaeth gyhoeddus. Golyga hyn, mewn unrhyw gyhuddiad o wahaniaethu a gyflwynir o dan y Ddeddf, bod yn rhaid i’r llys neu’r tribiwnlys sicrhau ei fod yn dehongli’r Ddeddf yn unol â hawliau’r Confensiwn, lle bo’n bosibl.
1.19 Oherwydd y berthynas agos rhwng hawliau dynol a chydraddoldeb, mae’n arfer dda i’r sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i ystyried cydraddoldeb a hawliau dynol ar y cyd wrth lunio polisïau cydraddoldeb neu hawliau dynol.
Darparwyr gwasanaethau mawr a bach
1.20 Er bod gan bob darparwr gwasanaeth yr un dyletswyddau cyfreithiol o dan Rhan 3 o’r Ddeddf, gallai’r modd mae’r dyletswyddau hyn yn cael eu gweithredu amrywio. Gall darparwyr gwasanaethau bach a mawr gydymffurfio â’u dyletswyddau mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft, gall darparwyr gwasanaethau bach fod ag arferion mwy anffurfiol, llai o bolisïau ysgrifenedig a gallent fod wedi eu cyfyngu fwy gan adnoddau ariannol. Fodd bynnag, nid oes yr un darparwr gwasanaeth wedi ei eithrio o ddyletswyddau o dan Rhan 3 oherwydd maint.
Sut i Ddefnyddio’r Cod
1.21 Mae Pennod 1 (y bennod hon) yn cyflwyno’r Cod.
Mae Pennod 2 yn esbonio nodweddion gwarchodedig oed, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, a chyfeiriadaeth rywiol. Fel esbonnir uchod, ni chwmpesir nodwedd priodas a phartneriaeth sifil gan y Cod hwn.
Mae Pennod 3 yn esbonio pwy sydd â rhwymedigaethau o dan Rhan 3 a Rhan 7 o’r Ddeddf. Mae’n esbonio sut mae rhai gwasanaethau, megis gwasanaethau cyflogaeth, wedi eu cwmpasu gan rannau eraill o’r Ddeddf ac wedi eu cynnwys mewn gwahanol Godau Ymarfer Statudol.
Mae Pennod 4 yn esbonio gwahaniaethu uniongyrchol, yn cynnwys gwahanu (mewn perthynas â hil). Mae hefyd yn esbonio pryd mae’n anghyfreithlon i drin menyw yn anffafriol oherwydd ei beichiogrwydd neu famolaeth.
Mae Pennod 5 yn esbonio gwahaniaethu anuniongyrchol.
Mae Pennod 6 yn esbonio gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd.
Mae Pennod 7 yn esbonio’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i bobl anabl, yn cynnwys y ddyletswydd i newid darpariaeth, maen prawf neu arfer; y ddyletswydd i ddarparu cymorthyddion neu wasanaethau cynorthwyol, a’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i nodweddion corfforol.
Mae Pennod 8 yn esbonio’r tri math o aflonyddu, yn cynnwys aflonyddu rhywiol.
Mae Pennod 9 yn esbonio gweithredoedd anghyfreithlon eraill, yn bennaf erledigaeth a chyfarwyddo, achosi, ysgogi, neu gynorthwyo gwahaniaethu.
Mae Pennod 10 yn esbonio’r darpariaethau gweithredu cadarnhaol fel eu bod yn berthnasol i Ran 3 a Rhan 7 o’r Ddeddf. Mae’n esbonio’r mesurau mae’r Ddeddf yn caniatáu sefydliadau i’w cymryd a allai olygu trin grwpiau yn wahanol er mwyn mynd i’r afael ag anfantais, diwallu gwahanol anghenion, neu wella lefelau isel o gyfranogiad.
Mae Pennod 11 yn esbonio darpariaethau Rhan 3 fel eu bod yn berthnasol i wasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus. Mae’n esbonio yr hyn a olygir gan ‘gwasanaeth’ a ‘swyddogaeth gyhoeddus’ a sut mae gwahaniaethu (neu ymddygiad arall sydd wedi ei wahardd) yn edrych yn ymarferol. Mae hefyd yn amlinellu’r gwasanaethau a’r swyddogaethau cyhoeddus hynny nad yw Rhan 3 yn berthnasol iddynt.
Mae Pennod 12 yn esbonio Rhan 7 y Ddeddf sy’n gosod rhwymedigaethau ar gymdeithasau. Mae’n esbonio’r hyn a olygir gan gymdeithas ac yn amlinellu pryd y gall cymdeithasau gyfyngu ar eu haelodaeth i bersonau sy’n rhannu nodwedd benodol. Mae’n cynnwys y darpariaethau sy’n berthnasol i bleidiau gwleidyddol.
Mae Pennod 13 yn esbonio eithriadau sy’n caniatáu ymddygiad a fyddai fel arall yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf.
Mae Pennod 14 yn ymdrin â gorfodaeth o Ran 3 a Rhan 7 gan y llysoedd sifil.
Mae Atodiad yn cynnwys gwybodaeth bellach ynglŷn ag ystyr anabledd yn y Ddeddf.
Enghreifftiau yn y Cod
1.22 Mae enghreifftiau o arfer da, cyfraith achos a sut mae'r Ddeddf yn debygol o weithio mewn gwahanol sefyllfaoedd wedi eu cynnwys. Eu bwriad yw esbonio’r egwyddorion a’r cysyniadau a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth a dylid eu darllen yn y cyd-destun hwnnw. Mae’r enghreifftiau yn defnyddio cymaint o wahanol nodweddion gwarchodedig â phosibl, mewn amrywiaeth o gyd-destunau mewn perthynas â gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus, a chymdeithasau, er mwyn arddangos ehangder a chwmpas y Ddeddf.
Cyfeiriadau yn y Cod
1.23 Yn y Cod hwn, mae ‘y Ddeddf’ yn golygu Deddf Cydraddoldeb 2010. Dangosir cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni’r Ddeddf ar yr ymyl, wedi ei dalfyrru yn ‘a’ ac ‘At’ yn y drefn honno. O bryd i’w gilydd, cyfeirir at ddeddfwriaeth neu reoliadau eraill hefyd ar yr ymyl. Lle gwneir hynny, mae teil llawn y ddeddfwriaeth neu’r rheoliadau wedi ei gynnwys.
Cyfeiriadau at fathau o 'wahaniaethu'
1.24 O dan y Ddeddf (a.25), ar gyfer pob nodwedd warchodedig ac eithrio anabledd a beichiogrwydd a mamolaeth, mae ‘gwahaniaethu’ sy’n ymwneud â darparwyr gwasanaethau, personau sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau yn golygu:
- gwahaniaethu uniongyrchol
- gwahaniaethu anuniongyrchol
Ar gyfer nodwedd warchodedig anabledd, o dan y Ddeddf (a.25(2)) mae 'gwahaniaethu' hefyd yn golygu:
- gwahaniaethu yn deillio o anabledd
- methiant i wneud addasiad rhesymol
Mae gwahaniaethu oherwydd nodwedd warchodedig beichiogrwydd a mamolaeth yn cael ei ddiffinio ar wahân o dan y Ddeddf (a.17).
Trafodir y mathau hyn o wahaniaethu yn:
- Pennod 4 - Gwahaniaethu uniongyrchol
- Pennod 5 – Gwahaniaethu anuniongyrchol
- Pennod 6 - Gwahaniaethu yn deillio o anabledd
- Pennod 7 – Pobl anabl: addasiadau rhesymol
Yn y Cod hwn, oni bai y mynegir yn benodol fel arall, defnyddir y term ‘gwahaniaethu’ yn yr un modd ag yn y Ddeddf. Er enghraifft, byddai ‘gwahaniaethu ar sail hil’ yn cynnwys gwahaniaethu uniongyrchol ar sail hil a gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail hil.
Newidiadau i’r gyfraith
1.25 Mae’r Cod hwn yn cyfeirio at y darpariaethau yn y Ddeddf Cydraddoldeb sy’n cael eu gweithredu adeg cyhoeddi.
Gallai fod newidiadau i’r Ddeddf mewn perthynas â’r meysydd a gwmpesir gan y Cod hwn. Gallai deddfwriaeth arall effeithio ar y dyletswyddau a esbonnir yn y Cod.
Gallai penderfyniadau’r llysoedd wrth gymhwyso a dehongli’r Ddeddf egluro darpariaethau penodol.
Bydd angen i ddarllenwyr y Cod hwn gadw wedi eu diweddaru ag unrhyw ddatblygiadau sy’n effeithio ar ddarpariaethau’r Ddeddf ac fe ddylent fod yn ymwybodol hefyd o’r codau statudol eraill a gyhoeddwyd gan EHRC. Ceir rhagor o wybodaeth o wefan EHRC.
Gwybodaeth bellach
1.26 Gellir prynu copïau o'r Ddeddf a'r rheoliadau a wnaed oddi tani o'r Llyfrfa. Gellir gweld y Ddeddf ar-lein. Mae codau ar wahân sy'n ymwneud ag agweddau eraill ar y Ddeddf hefyd ar gael o'r Llyfrfa. Gellir gweld testun holl godau'r EHRC (gan gynnwys y Cod hwn) a chanllawiau sy'n ymwneud â'r codau ar wefan y EHRC.
1.27 Gellir e-bostio cwestiynau, sylwadau neu wybodaeth am fformatau amgen i correspondence@equalityhumanrights.com.
Cyngor a chefnogaeth
Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .
Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Ffôn: 0808 800 0082
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
2 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf
2 Hydref 2024