Arweiniad

Pennod 14 - Gorfodaeth

Wedi ei gyhoeddi: 2 Hydref 2024

Diweddarwyd diwethaf: 2 Hydref 2024

Dyma ein Cod ymarfer wedi’i ddiweddaru ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Rydym yn cynnal ymgynghoriad ar ein diweddariadau, ac rydym angen eich adborth.

Ewch i'n tudalen ymgynghoriad Cod Ymarfer i roi adborth.

Cyflwyniad

14.1 Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o orfodaeth gan y llysoedd sifil yng Nghymru, Lloegr a’r Alban o Ran 3 o’r Ddeddf (sy’n berthnasol i wasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus) a Rhan 7 (sy’n berthnasol i gymdeithasau) (a.113 i 119 ac a.136 i 144).

14.2 Yn y bennod hon mae ‘llysoedd sifil’ yn golygu llysoedd Cymru a Lloegr a llys y siryf yn yr Alban oni bai y mynegir i’r gwrthwyneb.

Ymdrinnir â hawliadau ar gyfer adolygiad barnwrol fel pwnc ar wahân isod.

14.3 Ni fwriedir y bennod hon fel arweiniad gweithdrefnol i gyflwyno hawliad i’r llysoedd sifil. Caiff gweithdrefn y llysoedd ei chynnwys yn Rheolau Gweithdrefnau Sifil 1998 yng Nghymru a Lloegr ac yn Rheolau Gweithdrefnau Sifil Llys y Siryf, sy’n cynnwys y Rheolau Achos Cyffredin a Rheolau Gweithdrefnau Syml, yn yr Alban.

14.4 Caiff person sy’n dwyn achosion yng Nghymru a Lloegr ei adnabod fel yr hawlydd a caiff person y dygir achosion yn ei erbyn ei adnabod fel y diffynnydd.

14.5 Caiff y person sy’n dwyn achosion yn yr Alban ei adnabod fel yr erlynydd mewn hawliadau Achos Cyffredin, a’r hawlydd mewn hawliadau Gweithdrefn Syml. Caiff y person y dygir achosion yn eu herbyn yn yr Alban ei adnabod fel yr amddiffynnydd mewn hawliadau Achos Cyffredin a’r ymatebydd mewn hawliadau Gweithdrefn Syml. I fod yn gryno, yn y bennod hon defnyddiwn y termau erlynydd ac amddiffynnwr mewn Achos Cyffredin a Gweithdrefn Syml.

Pa weithredoedd anghyfreithlon y gellir eu hunioni gan y llysoedd sifil o dan y Ddeddf?

14.6 Gall person sy’n credu iddynt ddioddef gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth anghyfreithlon yn narpariaeth gwasanaethau, cyflawniad swyddogaethau cyhoeddus neu weithredoedd cymdeithasau ddwyn achosion sifil.

14.7 Mae’r achosion hynny fel arfer yn digwydd yn y llys sirol yng Nghymru a Lloegr a llys y siryf (yn yr Alban). Ceir eithriadau i hyn a esbonnir yn y bennod hon.

14.8 Mae’r gweithredoedd anghyfreithlon y gall y llysoedd sifil eu hunioni yn cynnwys:

  • gwahaniaethu uniongyrchol
  • gwahaniaethu anuniongyrchol
  • gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth
  • gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd
  • methiant i wneud addasiadau rhesymol i bobl anabl
  • aflonyddu 
  • erledigaeth

14.9 Esbonnir y ffurfiau hyn o ymddygiad anghyfreithlon yn:

Er mwyn bod yn gryno, cyfeirir at y rhain i gyd fel 'gweithredoedd anghyfreithlon' yn y bennod hon.

14.10 Cyn cychwyn ar achosion, dylai person sicrhau bod darpariaethau perthnasol rheolau’r llysoedd sifil yn cael eu cadw. Yng Nghymru a Lloegr, mae hyn yn cynnwys ystyriaeth o Gyfarwyddyd Ymarfer Rheolau’r Weithdrefn Sifil ar ymddygiad a phrotocolau cyn gweithredu, sy’n amlinellu gofynion ar gyfer gohebiaeth cyn gweithredu.

Aseswyr mewn achosion o dan y Ddeddf

14.11 Mewn achosion yn ymwneud â gweithredoedd anghyfreithlon, bydd yn rhaid i farnwr neu siryf (yn yr Alban) apwyntio ‘asesydd’ i’w cynorthwyo fel arfer. Mae pobl â sgiliau a phrofiad mewn materion o wahaniaethu yn helpu i werthuso’r dystiolaeth. Mae’r Ddeddf yn dweud bod yn rhaid iddynt apwyntio asesydd, oni bai bod y barnwr neu’r siryf yn fodlon bod rhesymau da dros beidio â gwneud hynny (a.114(7) ac (8); Hefyd a. 63(1) o Ddeddf Llysoedd Sirol 1984; rheol 44.3 o At. 1 i Ddeddf Llys y Siryf (Yr Alban) 1907).

14.12 Gall y sawl sy’n barti i achosion wrthwynebu yn ysgrifenedig i’r llys ynglŷn â phenodiad asesydd.

Cyfyngiadau amser

14.13 Rhaid i weithredu’r llys gael ei ddechrau o fewn chwe mis namyn un diwrnod o’r weithredu anghyfreithlon honedig (a.118). Gall y llys ymestyn y cyfyngiad amser hwn cyn belled â’i fod yn ‘gyfiawn a theg’ gwneud hynny (a.140AA). Esbonnir hyn ymhellach isod.

14.14 Gellir ymestyn y cyfyngiad amser o chwe mis mewn rhai anghydfodau contractiol penodol lle bo gweithdrefn datrysiad anghydfod amgen nad yw’n rhwymol (ADR) wedi cychwyn, gyda Darparwr Datrysiad Anghydfod Amgen. Mae’r estyniad hwn yn berthnasol lle bo’r weithdrefn ADR wedi cychwyn o fewn y cyfyngiad amser chwe mis neu o fewn cyfyngiad amser estynedig os yw wedi ei ymestyn gan y llysoedd. Os yw hawlydd neu erlynydd (yn yr Alban) yn diwallu’r amodau hyn, bydd ganddynt hyd at wyth wythnos o’r dyddiad pan fydd y datrysiad anghydfod yn dod i ben i gychwyn eu hawliad yn y llys.

Pryd mae’r cyfnod ar gyfer cyflwyno’r hawliad yn dechrau?

14.15 Mae’r Ddeddf yn dweud bod y cyfnod ar gyfer cyflwyno hawliad yn dechrau gyda dyddiad y weithred anghyfreithiol. Yn gyffredinol, dyma fydd y dyddiad pan ddigwyddodd y weithred anghyfreithiol honedig. Er enghraifft, y dyddiad pan wrthodwyd mynediad i berson i siop ar sail anghyfreithiol fyddai dechrau’r cyfnod ar gyfer cyflwyno hawliad ynglŷn â’r gwrthodiad hwnnw.

14.16 Weithiau, fodd bynnag, mae’r weithred anghyfreithlon yn fethiant ar ran y darparwr gwasanaeth i wneud rhywbeth. Mae’r Ddeddf yn dweud bod methiant i wneud rhywbeth yn digwydd pan benderfynodd y person beidio â’i wneud (a.118(6)(b)). Yn absenoldeb tystiolaeth i’r gwrthwyneb, caiff person ei drin fel pe bai’n penderfynu peidio â gwneud rhywbeth:

  1. pan fyddant yn cyflawni gweithred sy’n anghyson â gwneud y peth, neu
  2. ar derfyn y cyfnod pan fyddai disgwyl rhesymol iddynt fod wedi gwneud y peth (s.118(7))

14.17 Mae’r cwestiwn o pryd y gellid bod wedi disgwyl yn rhesymol i ddiffynnydd neu amddiffynnydd (yn yr Alban) fod wedi gweithredu i gael ei ystyried o safbwynt yr hawlydd neu’r erlynydd gan roi ystyriaeth i’r ffeithiau sy’n wybyddus neu y dylent fod wedi bod yn rhesymol wybyddus i’r hawlydd neu’r erlynydd ar yr adeg berthnasol [troednodyn 84].

14.18 Mae’r Ddeddf yn nodi, lle bo ymddygiad yn ymestyn dros gyfnod, y dylid ei drin fel pe bai wedi ei gyflawni ar ddiwedd y cyfnod hwnnw at ddibenion cyfrifo pryd ddigwyddodd y weithred anghyfreithlon (a.118(6)(a)).

14.19 Os oes gan ddarparwr gwasanaeth bolisi, rheol, neu arfer (boed yn ffurfiol neu anffurfiol) yn unol â pha benderfyniadau a gymerir o bryd i’w gilydd, gallai hyn fod gyfystyr ag ‘ymddygiad sy’n ymestyn dros gyfnod’.

14.20 Os gwahaniaethir yn erbyn person ar nifer o achosion, yna mae’r cyfnod ar gyfer cyflwyno hawliad yn dechrau pan ddigwyddodd y weithred olaf o wahaniaethu.

14.21 Os yw polisi anghyfreithlon yn arwain at wahaniaethu yn erbyn person ar sail barhaus, yna mae’r cyfnod yn dechrau pan nad yw’r polisi yn cael ei gymhwyso bellach.

14.22 Gallai sefyllfa barhaus sy’n cynnwys cyfres o weithredoedd sy’n gysylltiedig â’i gilydd fod gyfystyr ag ymddygiad sy’n ymestyn dros gyfnod hefyd, hyd yn oed os nad yw’r gweithredoedd cysylltiedig o ganlyniad i unrhyw ‘bolisi’ neu ‘reol’, a hyd yn oed os nad yw’r gweithredoedd unigol wedi eu cyflawni gan bobl wahanol ac mewn llefydd gwahanol. Fodd bynnag, pan fydd gan weithred anghyfreithiol unigol neu untro ganlyniadau parhaus, bydd y cyfyngiad amser er mwyn cyflwyno hawliad yn dechrau o ddyddiad y weithred anghyfreithiol honno, ac nid o ddyddiad ei chanlyniadau.

Enghraifft

14.23 Mae staff diogelwch mewn clwb yn gwrthod mynediad i ddyn hoyw dro ar ôl tro gan ddefnyddio amrywiaeth o resymau nad yw’r un ohonynt yn ymddangos yn gredadwy iddo. Fodd bynnag, ar ôl y pumed tro mae’r staff ar y drws yn dweud wrtho yn blaen ei fod yn cael ei wrthod oherwydd ei fod yn hoyw, o dan gyfarwyddyd y perchennog. Er bod hyn wedi bod yn digwydd ers dros flwyddyn, gallai’r llys drin yr holl achosion hyn fel rhan o sefyllfa barhaus lle mae’r dyn hoyw wedi cael ei drin yn llai ffafriol na phobl eraill. Os felly, gall gyflwyno hawliad mewn perthynas â’r holl achosion. Ni fyddai gwahaniaeth pe byddai amrywiaeth o staff drws ynghlwm â’r digwyddiadau neu pe byddai wedi ei wrthod gan bob un o gadwyn o glybiau o dan yr un berchnogaeth. Byddai ganddo sail hefyd i ddadlau y byddai’n deg a chyfiawn i ymestyn cyfyngiadau amser pe na fyddai wedi medru adnabod bod y rhesymau cynharaf dros ei wrthod yn wahaniaethol.

Beth sy’n digwydd os yw’r hawliad yn cael ei gyflwyno y tu hwnt i’r cyfyngiad amser cywir?

14.24 Lle cyflwynir hawliad y tu hwnt i’r cyfyngiadau amser y cyfeirir atynt uchod, mae gan y llysoedd y disgresiwn i glywed yr achos os ydynt yn fodlon ei bod yr un mor deg i wneud hynny (a.118(1)(b)).

14.25 Pan fydd llys yn ystyried pa un ai y dylai weithredu ei ddisgresiwn ‘teg a chyfiawn’, bydd yn ystyried holl amgylchiadau perthnasol yr achos. Bydd hyn bron bob amser yn cynnwys hyd yr oedi a’r rhesymau drosto, a’r effaith a’r rhagfarn ar y partïon os clywir yr hawliad, ac os na chlywir yr hawliad, allan o amser. Gallai’r llys ystyried hefyd:

  • i ba raddau mae cryfder y dystiolaeth yn debygol o gael ei effeithio
  • i ba raddau mae’r diffynnydd neu’r amddiffynnydd (yn yr Alban) wedi cydweithio ag unrhyw geisiadau am wybodaeth
  • pa mor gyflym y gweithredodd yr hawlydd neu’r erlynydd (yn yr Alban) unwaith iddynt wybod o’r ffeithiau oedd yn sail i’r hawliad
  • y camau a gymerwyd gan y person hwnnw i gaffael cyngor cyfreithiol priodol unwaith iddynt wybod am y posibilrwydd o gymryd camau gweithredu

Nid oes gofyn i lysoedd fynd trwy bob un o’r rhestrau uchod o ffactorau. Yr unig ofyniad yw nad ydynt yn diystyru ffactor arwyddocaol.

Baich prawf

14.26 Gall hawlydd neu erlynydd (yn yr Alban) (a.136) sy’n honni iddynt brofi gweithred anghyfreithiol brofi’r ffeithiau y gallai llys eu defnyddio er mwyn penderfynu, yn absenoldeb unrhyw esboniad arall, bod gweithred o’r fath wedi digwydd.

14.27 Os yw hawlydd neu erlynydd wedi profi ffeithiau y gallai llys eu defnyddio er mwyn dod i’r casgliad bod gweithred anghyfreithiol wedi digwydd, yna mae’r baich prawf yn symud i’r diffynnydd neu’r amddiffynnydd (yn yr Alban). Er mwyn amddiffyn hawliad yn llwyddiannus, bydd yn rhaid i’r diffynnydd neu’r amddiffynnydd brofi, yn ôl yr hyn sy’n debygol, na wnaethant weithredu yn anghyfreithlon. Os yw’r diffynnydd neu’r amddiffynnydd yn methu â gwneud hynny, mae’n rhaid i’r llys ganfod bod y weithred yn anghyfreithiol.

Enghraifft

14.28 Mae Teithiwr Gwyddelig yn ceisio llogi neuadd ar gyfer digwyddiad. Mae’r perchennog yn cytuno i ddechrau, ond ar ôl dysgu am eu tarddiad ethnig, mae’n amharod i adael i’r person logi’r neuadd. Gall y person ddangos bod y perchennog yn barod i adael i berson arall sydd o darddiad ethnig gwahanol logi’r neuadd. Os yw’r perchennog am osgoi canfyddiad o wahaniaethu uniongyrchol ar sail hil, mae’n rhaid iddynt esbonio eu gwrthodiad. Mae’n rhaid i’r esboniad hwn ddangos nad oedd hil y Teithiwr Gwyddelig yn rhan o’r penderfyniad i wrthod.

14.29 Lle nad oes dadl ynglŷn â’r ffeithiau sylfaenol, gallai llys ystyried yn syml a yw’r diffynnydd neu’r amddiffynnydd yn medru profi, yn ôl yr hyn sy’n debygol, na chyflawnodd y weithred anghyfreithiol.

14.30 Nid yw’r rheolau uchod yn ymwneud â baich prawf yn berthnasol i achosion yn dilyn toriad ar y Ddeddf sy’n sail i drosedd (a.136(5)).

Setlo cwynion heb droi at y llys

14.31 Does dim yn y Ddeddf sy’n atal y partïon rhag setlo hawliad neu hawliad arfaethedig cyn i’r llysoedd sifil benderfynu arno. Gall setliad o’r natur hwn gynnwys unrhyw delerau y mae’r partïon yn cytuno arnynt (gyda chymeradwyaeth y llys os yw’r achos wedi cychwyn) a gall gwmpasu iawndal, gweithredoedd y diffynnydd neu’r amddiffynnydd (yn yr Alban) yn y dyfodol, cytundeb ar gostau, a materion cyfreithlon eraill.

Cymodi

14.32 Nid oes gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) rym penodol bellach i ddarparu gwasanaethau cymodi. Cafodd y grym, o dan adran 27 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006, ei ddiddymu gan adran 64(1)(b) Deddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 gydag effaith o 25 Mehefin 2013. Fodd bynnag, ar gyfer rhai mathau o achosion yng Nghymru a Lloegr, mae gwasanaethau cyfryngu ar gael trwy’r gwasanaeth llysoedd a gallai gwasanaethau cyfryngu eraill fod ar gael yn yr Alban. Gellir defnyddio’r rhain yn lle aros i achos gael ei glywed gan farnwr. Mae gan gyfryngu’r fantais o leihau costau yn gyffredinol a gallai setlo hawliad yn llwyddiannus heb yr angen am wrandawiad heriol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am wasanaethau cyfryngu ar dudalennau gwe llywodraethau’r Alban a’r DU.

Caffael gwybodaeth

14.33 Hyd nes fis 6 Ebrill 2014, roedd a138 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi y gallai unigolyn ddilyn gweithdrefn statudol i ddefnyddio holiadur i holi person y credant sydd wedi tramgwyddo’r Ddeddf. Roedd y cwestiynau a’r atebion yn dderbyniol fel tystiolaeth mewn achosion llys neu dribiwnlysoedd. Diddymwyd y weithdrefn hon ar 6 Ebrill 2014 gan Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (Cychwyn Rhif.6, Darpariaethau ac Arbedion Trosiannol) Gorchymyn 2014.

14.34 Mae’n parhau yn arfer dda i bobl sy’n meddwl efallai iddynt fod yn destun gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth anghyfreithlon o dan y Ddeddf i chwilio am wybodaeth berthnasol cyn gwneud hawliad trwy’r llysoedd sifil (ac yng Nghymru a Lloegr, dylid dilyn y protocol cyn gweithredu Rheolau Gweithdrefnau Sifil (darllener paragraff 14.37). Gallai hyn osgoi gadael i’r gŵyn ddatblygu yn gŵyn cyfreithiol ffurfiol.

Defnydd o adolygiad barnwrol

14.35 Os yw’r gŵyn o dan y Ddeddf yn ymwneud â chyfreithlondeb penderfyniad, gweithred, neu fethiant i weithredu ar ran awdurdod cyhoeddus neu berson preifat sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus, gallai’r person sy’n gwneud y gŵyn ddwyn achos gerbron adolygiad barnwrol (a.113(3)(a)).

14.36 Mae rhwymedïau a allai fod ar gael trwy weithredu adolygiad barnwrol yng Nghymru a Lloegr ac yn yr Alban yn cynnwys:

  • datganiad o hawliau a chyfrifoldebau’r partïon i’r hawliad
  • gorchymyn gwahardd, sy’n atal corff cyhoeddus rhag gwneud penderfyniad anghyfreithiol neu ymddwyn mewn modd a fyddai’n anghyfreithlon
  • gorchymyn mandadol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff cyhoeddus weithredu mewn modd penodol neu wneud penderfyniad o fewn cyfnod penodol o amser
  • gorchymyn diddymu, y gall y llys ei ddefnyddio er mwyn gosod penderfyniad neu weithred weinyddol awdurdod cyhoeddus i’r neilltu   

Mae rheolau arbennig yn berthnasol lle honnir y gallai gorchymyn mandadol achosi rhagfarn i achos troseddol (darllenwch baragraff 14.53 a pharagraff 14.54).

14.37 Mae’n rhaid i weithredu i’w adolygu’n farnwrol gael ei gyflwyno yn yr Uchel Lys yng Nghymru a Lloegr neu Lys y Sesiwn yn yr Alban. Mae’n rhaid i hawlydd neu ddeisebydd (yn yr Alban) gael caniatâd gan yr Uchel Lys neu Lys y Sesiwn.  Mae’n rhaid i gais am ganiatâd gael ei wneud yn ddi-oed ac, mewn unrhyw achos, dim hwyrach na thri mis wedi i’r sail am adolygiad barnwrol godi yn y lle cyntaf, oni bai bod unrhyw eithriadau statudol penodol yn berthnasol sy’n lleihau’r cyfyngiad amser. Yng Nghymru a Lloegr rhestrir rhai eithriadau yn y Rheolau Gweithdrefnau Sifil (CPR 54.5). Mae esboniad manwl o’r rheolau gweithdrefnau sifil y tu hwnt i gwmpas y Cod hwn. Bydd y Llys yn disgwyl yn gyffredinol bod unrhyw fecanweithiau aelio yn erbyn y penderfyniad wedi eu harchwilio cyn caniatáu adolygiad barnwrol. Mae adolygiad barnwrol yn rwymedi yn niffyg dim arall.

Achosion mewnfudo

14.38 Gwrandewir ar achosion yn ymwneud â gweithredoedd anghyfreithlon mewn perthynas â phenderfyniadau penodol a wnaed o dan y darpariaethau mewnfudo perthnasol gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu gan swyddog mewnfudo neu swyddog ac sy’n berthnasol i hawl person i gael mynediad i neu barhau yn y Deyrnas Unedig gan Dribiwnlys yr Haen Gyntaf sy’n ymdrin ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau mewnfudo (a.115; Rhan 5, Deddf y Comisiwn Arbennig Apeliadau Mewnfudo 1997; Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2002).

14.39 Gall Tribiwnlys yr Haen Gyntaf bennu pa un ai bod gweithred anghyfreithlon o dan y Ddeddf wedi ei chyflawni ond nid oes ganddo awdurdodaeth i ddyfarnu iawndal. Os yw’n canfod bod gweithred anghyfreithlon wedi ei chyflawni, yna gellid cyflwyno’r cais am rwymedi sy’n deillio o’r canfyddiad hwnnw o flaen y llysoedd sifil.

14.40 Mae’r canfyddiad a wneir gan Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn rhwymol ac ni ellir ei herio o flaen y llys sifil. Mae awdurdodaeth y llys yn gyfyngedig i roi rhwymedi i’r person ar gyfer y weithred o wahaniaethu.

14.41 Mae cyfyngiadau amser arbennig ar gyfer hawliadau yn ymwneud â gwahaniaethu yng nghyd-destun penderfyniadau mewnfudo yn y llysoedd sifil (a.118(5)). Yn ystod y cyfnod pan fydd apêl yn erbyn y penderfyniad mewnfudo yn bosibl, nid yw’n bosibl cyflwyno hawliad o wahaniaethu yn y llysoedd sifil. Os yw’r tribiwnlys yr Haen Gyntaf yn penderfynu bod yr awdurdod mewnfudo wedi torri’r Ddeddf, yna unwaith y bydd y cyfnod apelio hwnnw wedi ei gwblhau mae gan yr hawlydd chwe mis i gyflwyno hawliad am wahaniaethu yn y llysoedd sifil.

Diogelwch gwladol

14.42 Mae’r Ddeddf yn cynnwys y posibilrwydd o gymhwyso rheolau arbennig i weithdrefnau at ddiben diogelu diogelwch gwladol (a.117). Darllener paragraff 13.20 i 13.23.

14.43 Mae rheolau’r llys yn caniatáu i’r llys wahardd yr hawlydd neu’r erlynydd (yn yr Alban) o ran neu’r holl achos, lle ystyria’r llys ei fod yn hwylus er budd diogelwch gwladol. Gallai’r llys hefyd wahardd eu cynrychiolydd a’i hasesydd yn yr achos os yw’n ystyried hynny’n angenrheidiol.

14.44 Gall y llys gymryd camau i gadw rhan neu’r holl resymau dros ei benderfyniad yn gyfrinach.

14.45 Gall Twrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr neu Adfocad Cyffredinol yr Alban benodi person i gynrychioli buddiannau hawlydd neu erlynydd mewn achosion o’r fath. Fodd bynnag, nid yw’r cynrychiolydd hwnnw yn gyfrifol i’r person y maent wedi eu penodi i gynrychioli eu buddiannau.

Rhwymedïau

14.46 Yng Nghymru a Lloegr, mae gan y llys sirol y grym i ddyfarnu’r holl rwymedïau y gall yr Uchel Lys eu dynodi yn achosion y gyfraith gamweddau (megis mewn hawliad am esgeulustra) neu mewn hawliad am adolygiad barnwrol (a.119(2)). Yn yr Alban, mae gan lys y siryf y grym i wneud unrhyw orchymyn y gellid ei wneud gan Lys y Sesiwn mewn achosion gwneud iawn neu mewn deiseb am adolygiad barnwrol (a.119(3)). Gallai’r rhain gynnwys:

  • gwaharddeb neu waharddiad (yn yr Alban). Gwaharddeb yw gorchymyn i gyflawni, neu beidio â chyflawni, gweithred benodol.
  • iawndal i wneud yn iawn am unrhyw golled a ddioddefwyd
  • costau cyfreithiol neu dreuliau (yn yr Alban)
  • unrhyw rai o’r gorchmynion eraill y gallai llys eu gwneud mewn hawliad am adolygiad barnwrol (darllener paragraff 14.35)

Iawndal

14.47 Gallai iawndal gynnwys iawndal am anafiadau i deimladau (waeth a yw’n cynnwys iawndal ar unrhyw sail arall ai peidio) (a.119(4)).

14.48 Gall dyfarniad o iawndal gynnwys iawndal am unrhyw golled mae’r hawlydd neu’r erlynydd (yn yr Alban) wedi ei ddioddef.

14.49 Yng Nghymru a Lloegr, lle bo diffynnydd yn ymddwyn yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf, gall y llysoedd, yn achlysurol iawn, ddyfarnu iawndal ‘cosbedigaethol’, sy’n gosbedigol. Nid yw’r iawndal hwn ar gael yn yr Alban.

14.50 Yn ôl disgresiwn y llys, gellir dyfarnu iawndal cosbedigaethol mewn dwy sefyllfa:

  • am weithredu gormesol, mympwyol neu anghyfansoddiadol gan weision y llywodraeth
  • lle bo’r diffynnydd wedi cyfrifo bod eu hymddygiad yn debygol o wneud elw iddyn nhw eu hunain sy’n fwy nad unrhyw iawndal y gallai fod yn rhaid iddynt ei dalu yn ddiweddarach am eu camymddwyn  

Iawndal am gwynion o wahaniaethu anuniongyrchol

14.51 Lle bo’r llys sifil yn gwneud canfyddiad o wahaniaethu anuniongyrchol ond ei fod yn fodlon nad yw’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer wedi ei gymhwyso â’r bwriad o wahaniaethu yn erbyn yr hawlydd neu’r erlynydd (yn yr Alban) (s.119(5)), rhaid iddo beidio â dyfarnu iawndal oni bai ei fod yn ystyried yn y lle cyntaf a ddylid diddymu’r achos trwy ddarparu rhwymedi arall, megis datganiad neu orchymyn gwaharddedig (s.119(6)).

14.52 Bydd gwahaniaethu anuniongyrchol yn fwriadol lle roedd y diffynnydd neu’r amddiffynnydd (yn yr Alban) yn gwybod y byddai canlyniadau penodol yn dilyn o’u gweithredoedd, ac roeddent eisiau i’r canlyniadau hynny ddilyn. Nid yw cymhelliad o hyrwyddo effeithlonrwydd busnes, er enghraifft, yn golygu bod y weithred o wahaniaethu anuniongyrchol yn anfwriadol.

Effaith ar faterion troseddol

14.53 Mae’n rhaid i lysoedd sifil ystyried a blaenoriaethu osgoi’r risg o ragfarn i ymchwiliadau ac achosion troseddol a ddaw i’w sylw. Fodd bynnag, gallant barhau ag achosion troseddol os ydynt yn fodlon na achosir unrhyw ragfarn i faterion troseddol.

14.54 Mae’n rhaid i’r llysoedd sifil beidio â dyfarnu gwaharddeb neu waharddedigaeth interim (yn yr Alban) oni bai eu bod yn fodlon na fyddai unrhyw fater troseddol yn destun rhagfarn o wneud hynny (a.114(6)(a)). Fodd bynnag, lle bo’r llysoedd sifil yn canfod sail i ragfarn i fater troseddol, rhaid iddynt ddyfarnu ataliad neu sist (yn yr Alban) i achosion (lle atelir achosion) oni bai eu bod yn fodlon na fydd rhagfarn yn erbyn y mater (s.114(6)(b)).

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

14.55 Mae gan yr EHRC bwerau gorfodi mewn perthynas â’r Ddeddf, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 (a.20 i 33; Deddf Cydraddoldeb 2006), sy’n cynnwys pwerau i:

  • gynnal ymchwiliadau
  • gyflwyno hysbysiadau gweithredoedd anghyfreithlon                       
  • cytuno ar gynlluniau gweithredu
  • ymrwymo i gytuniadau
  • ceisio gwaharddebau neu waharddedigaethau (yn yr Alban)
  • ymgymryd ag asesiadau dyletswydd y sector gyhoeddus
  • cyhoeddus hysbysiadau cydymffurfio dyletswydd y sector cyhoeddus.

Gellir dod i fanylion am y rhain ar wefan yr EHRC.

14.56 Mae gan yr EHRC y grym hefyd i ddarparu cymorth cyfreithiol am hawliadau o wahaniaethu a wneir o dan y Ddeddf (Deddf Cydraddoldeb 2006 a.28). Gall hyn gynnwys cynrychiolaeth gyfreithiol a gall ymestyn i achosion o wahaniaethu ag iddynt elfen o hawliau dynol. Fodd bynnag, nid yw’r grym hwn yn caniatáu cymorth mewn achosion sydd ond yn codi materion hawliau dynol.

14.57 Mae gan yr EHRC y grym hefyd i:

  • ddwyn achosion cyfreithiol yn ei enw ei hun
  • ymyrryd mewn achosion cyfreithiol sy’n cael eu dwyn gan eraill (Deddf Cydraddoldeb 2006 a.30)

Pennod 14 troednodiadau

  1. Virdi v Commissioner of Police of the Metropolis [2007 ] IRLR 24 yn §25; a British Gas Services Ltd v McCaull [2001] IRLR 60. Gallai’r dyddiad pan ddaw hawlydd yn ymwybodol bod gweithred anghyfreithlon wedi digwydd fod yn berthnasol i ddisgresiwn i ymestyn amser: Mensah v Royal College of Midwives UKEAT/124/94

Diweddariadau tudalennau