Erthygl

Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (ICCPR)

Wedi ei gyhoeddi: 12 Mawrth 2020

Diweddarwyd diwethaf: 11 Mawrth 2024

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae ICCPR yn gytuniad hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd ym 1966. Cytunodd y DU i ddilyn ICCPR ym 1976. Mae’n galluogi pobl i fwynhau ystod eang o hawliau dynol, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â:

  • rhyddid rhag artaith a thriniaeth neu gosb arall greulon, annynol neu ddiraddiol
  • hawliau treial teg
  • rhyddid meddwl, crefydd a mynegiant
  • preifatrwydd, bywyd cartref a theuluol
  • cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu

Traciwr hawliau dynol: chwiliwch ein traciwr hawliau dynol i ddod o hyd i holl argymhellion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer ICCPR a chytundebau eraill. Mae gan dudalen ICCPR wybodaeth benodol ar sut y caiff ei fonitro ac a yw'r DU yn bodloni safonau rhyngwladol.

Sut mae'r DU yn dod ymlaen

Archwiliodd y Cenhedloedd Unedig ddiwethaf pa mor dda y mae’r DU yn gweithredu ICCPR ym mis Mehefin 2015 a chyhoeddodd ei argymhellion ym mis Awst 2015. Mae archwiliad nesaf y Cenhedloedd Unedig o’r DU wedi’i drefnu ar gyfer mis Mawrth 2024.

Roedd yr argymhellion ar gyfer y DU o 2015 yn cynnwys:

  • gwneud yn siŵr bod unrhyw ddeddfwriaeth a basiwyd i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 yn cryfhau amddiffyniadau ar gyfer hawliau dynol yn y DU
  • cynnal cydbwysedd digonol rhwng diogelwch cenedlaethol ac atebolrwydd am droseddau hawliau dynol yr honnir iddynt gael eu cyflawni gan Luoedd Prydain dramor
  • cryfhau ymdrechion i atal hiliaeth a senoffobia
  • cryfhau mesurau i atal trais yn erbyn menywod a merched
  • cymryd camau i atal marwolaethau hunan-achosedig a hunan-niweidio oedolion a phobl ifanc sydd yng ngofal y wladwriaeth
  • sefydlu terfyn amser ar gadw mewnfudwyr, a sicrhau bod diwygiadau i’r system llwybr carlam dan gadwad yn cydymffurfio’n llawn â chyfraith hawliau dynol rhyngwladol
  • adolygu’r cyfreithiau gwyliadwriaeth fel bod unrhyw ymyrraeth â’r hawl i breifatrwydd yn gyfreithiol, yn gymesur ac yn angenrheidiol

Ein gwaith ar ICCPR

Mae’r gwaith rydym wedi’i gynhyrchu fel rhan o’n gwaith monitro ICCPR yn cynnwys:

Diweddariadau tudalennau