I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Cytuniad hawliau dynol rhyngwladol yw ICESCR a fabwysiadwyd ym 1966. Cytunodd y DU i ddilyn ICESCR ym 1976.
Mae’n sicrhau mwynhad o hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, gan gynnwys yr hawliau i:
- addysg
- amodau gwaith teg a chyfiawn
- safon byw ddigonol
- y safon iechyd uchaf y gellir ei chyrraedd
- nawdd cymdeithasol
Ein gwaith ar ICESCR
Gwaith hŷn
Mae gwaith arall yr ydym wedi’i gynhyrchu fel rhan o’n gwaith monitro ICESCR yn cynnwys:
- adroddiad ar gynnydd hawliau economaidd-gymdeithasol ym Mhrydain Fawr (Mawrth 2018)
- ein cyflwyniad wedi'i ddiweddaru ar weithrediad y DU o ICESCR (Ebrill 2016)
- ein datganiad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (Hydref 2015)
- ein cyflwyniad i Bwyllgor y CU ar hawliau economaidd-gymdeithasol yn y DU (Awst 2015)
- cyfres o diwtorialau fideo (YouTube) ar y cyd â Phrifysgol Nottingham a deunyddiau ysgrifenedig (gwefan Prifysgol Nottingham) i godi ymwybyddiaeth o hawliau economaidd-gymdeithasol
- llythyr at yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, yn annog y llywodraeth i weithredu arsylwadau terfynol y Cenhedloedd Unedig. Cawsom ymateb gan Syr Oliver Heald QC AS (Ionawr 2017)
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
28 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf
28 Hydref 2019