I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Mae CRC yn gytundeb hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd ym 1989 . Cytunodd y DU i’w ddilyn ym 1991.
Drwy ddilyn CRC, mae’r DU yn cytuno bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried lles gorau’r plentyn wrth wneud unrhyw beth sy’n effeithio ar blant. Mae CRC yn amddiffyn hawliau plant ym mhob rhan o’u bywyd, gan gynnwys eu hawliau i:
- bywyd, goroesiad a datblygiad
- rhyddid rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod
- mynegi eu barn ar faterion sy’n effeithio arnynt, gan gynnwys mewn achosion cyfreithiol
- addysg
- safon byw ddigonol
Ein gwaith ar CRC
Mae’r gwaith diweddaraf yr ydym wedi’i gynhyrchu fel rhan o’n gwaith monitro CRC yn cynnwys:
- cyflwyniad i Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn mewn ymateb i Restr y DU o Faterion Cyn Adrodd (Ionawr 2023)
- cyflwyniad i Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn i hysbysu Rhestr Materion y DU Cyn Adrodd (Tachwedd 2020)
- cyflwyniad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (Ebrill 2016) - fersiwn Gymraeg
- adroddiad dilynol ar adolygiad Pwyllgor y CU o’r DU (Awst 2015)
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
20 Tachwedd 2020
Diweddarwyd diwethaf
24 Mehefin 2022