Erthygl

Confensiwn yn erbyn Artaith a Thriniaeth Creulon, Annynol neu Ddiraddiol Arall (CAT)

Wedi ei gyhoeddi: 25 Chwefror 2021

Diweddarwyd diwethaf: 25 Chwefror 2021

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae CAT yn gytuniad hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd ym 1984. Cytunodd y DU i’w ddilyn ym 1988.

Drwy ddilyn CAT, mae’r DU yn cytuno i atal gweithredoedd o artaith mewn cysylltiad â gweithgareddau sy’n cynnwys:

  • dychwelyd, diarddel neu estraddodi rhywun i wlad arall lle mae sail wirioneddol i gredu y bydd ef neu hi yn wynebu artaith
  • arestio, cadw a charcharu
  • holi
  • hyfforddi’r heddlu (sifil neu filwrol), staff meddygol, swyddogion cyhoeddus ac unrhyw un arall a allai fod yn gysylltiedig ag arestio, cadw a holi person

Traciwr hawliau dynol: chwiliwch ein traciwr hawliau dynol i ddod o hyd i holl argymhellion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer CAT a chytuniadau eraill. Mae'r dudalen CAT yn cynnwys gwybodaeth benodol am sut y caiff ei monitro ac a yw'r DU yn bodloni safonau rhyngwladol.

Sut mae'r DU yn dod ymlaen

Archwiliodd y Cenhedloedd Unedig ddiwethaf pa mor dda y mae’r DU yn gweithredu CAT a chyhoeddodd argymhellion ym mis Mai 2019. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • amddiffyn pobl sy'n ceisio lloches, dioddefwyr masnachu mewn pobl a chamfanteisio, cleifion, carcharorion a phobl sy'n cael eu hatal
  • atal trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin plant yn rhywiol a throseddau casineb
  • ymateb i honiadau bod Prydain yn ymwneud â cham-drin carcharorion tramor
  • sicrhau bod pobl sydd mewn perygl o gael eu cam-drin yn gallu cael cymorth cyfreithiol
  • lleihau gorlenwi a gwella amodau mewn carchardai
  • datblygu ein strategaeth gwrthderfysgaeth
  • ymgorffori CAT i gyfraith ddomestig y DU

Diweddariadau tudalennau