I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRI), rydym yn monitro cydymffurfiaeth y DU â saith cytuniad hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig (CU) y mae wedi cytuno i'w dilyn.
Mae’r hawliau yn y cytuniadau hyn yn cynrychioli rhwymedigaethau rhwymol mewn cyfraith ryngwladol. Mae hynny’n golygu bod y DU wedi addo sicrhau bod ei chyfreithiau a’i pholisïau domestig yn cydymffurfio â nhw.
Rydym yn cyflwyno adroddiadau cysgodol ar y cynnydd a wneir gan y DU i Bwyllgorau perthnasol y Cenhedloedd Unedig, sy’n penderfynu a yw’r DU yn cydymffurfio â’r cytuniadau.
Mae Comisiwn Hawliau Dynol yr Alban a Chomisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon hefyd yn cyflwyno adroddiadau ar faterion hawliau dynol datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gall sefydliadau cymdeithas sifil hefyd gyflwyno adroddiadau cysgodol i Bwyllgorau'r Cenhedloedd Unedig. Rydym yn cefnogi cymdeithas sifil i ddeall a defnyddio’r cytuniadau i wella atebolrwydd y llywodraeth.
Saith cytundeb y Cenhedloedd Unedig
- Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (ICCPR)
- Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR)
- Confensiwn Rhyngwladol ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD)
- Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW)
- Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CRPD)
- Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn (CRC)
- Confensiwn yn erbyn Artaith a Thriniaeth Creulon, Annynol neu Ddiraddiol Arall (CAT)
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
14 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf
14 Hydref 2019