Erthygl

Confensiwn ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW)

Wedi ei gyhoeddi: 4 Tachwedd 2019

Diweddarwyd diwethaf: 4 Tachwedd 2019

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae CEDAW yn gytundeb hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd ym 1979. Cytunodd y DU i’w ddilyn ym 1986.

Drwy ddilyn CEDAW, mae’r DU yn cytuno i gymryd camau i sicrhau bod menywod yn mwynhau hawliau dynol yn llawn ar sail gyfartal â dynion, gan gynnwys:

  • dileu rolau ystrydebol ar gyfer menywod a dynion
  • sicrhau cyfranogiad cyfartal menywod mewn bywyd cyhoeddus
  • cydraddoldeb o flaen y gyfraith
  • dileu gwahaniaethu mewn cyflogaeth

Traciwr hawliau dynol: chwiliwch ein traciwr hawliau dynol i ddod o hyd i holl argymhellion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer CEDAW a chytuniadau eraill. Mae gan dudalen CEDAW wybodaeth benodol am sut y caiff ei monitro ac a yw'r DU yn bodloni safonau rhyngwladol.

 

Sut mae'r DU yn dod ymlaen

Archwiliodd y Cenhedloedd Unedig ddiwethaf pa mor dda y mae’r DU yn gweithredu CEDAW ym mis Chwefror 2019 a chyhoeddodd ei argymhellion ym mis Mawrth 2019. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • ymgorffori CEDAW mewn cyfraith ddomestig a chreu mecanwaith cenedlaethol i oruchwylio ei weithrediad
  • sicrhau bod hawliau menywod yn cael eu hamddiffyn yn ystod y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd
  • cadarnhau Confensiwn Istanbul, a chymryd pob cam angenrheidiol i amddiffyn menywod a merched rhag trais ar sail rhywedd
  • asesu effaith gwariant cyhoeddus, diwygiadau treth a lles ar hawliau menywod, a chymryd camau i leihau a datrys unrhyw effeithiau negyddol
  • cymryd camau i roi terfyn ar stereoteipiau rhywedd negyddol a hyrwyddo cynrychioliadau cadarnhaol ac amrywiol o rywedd mewn ysgolion, ymgyrchoedd cyhoeddus a’r cyfryngau
  • ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr amddiffyn menywod rhag aflonyddu rhywiol yn y gweithle

Ein gwaith ar CEDAW

Mae’r gwaith diweddaraf yr ydym wedi’i gynhyrchu fel rhan o’n gwaith monitro CEDAW yn cynnwys:

Diweddariadau tudalennau