Newyddion

Y Swyddfa Gartref yn gwneud gwelliannau sy'n weddill yn dilyn cytundeb gyda'r Comisiwn

Wedi ei gyhoeddi: 24 Chwefror 2025

Cadarnhaodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) heddiw fod y Swyddfa Gartref wedi gwneud yr holl welliannau angenrheidiol i fodloni’r cytundeb cyfreithiol a wnaeth gyda’r adran yn 2021.

Y llynedd, cyhoeddodd yr EHRC diwedd ar ei gamau gorfodi yn erbyn y Swyddfa Gartref, gan nodi bod angen amser ychwanegol ar yr adran i gwblhau rhai camau gweithredu yn llawn. Mae'r camau gweithredu hyn oedd yn weddill bellach wedi'u cwblhau.

 

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

"Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Swyddfa Gartref ers iddynt arwyddo cytundeb gyda ni yn 2021. Mae'r adran wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y cyfnod hwnnw wrth fynd i'r afael â'n pryderon. Rydym yn falch bod y Swyddfa Gartref bellach wedi cwblhau'r holl ofynion a osodwyd gennym, sy'n golygu bod yr argymhellion a wnaethom bellach wedi'u hymgorffori'n llawn."

"Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn ofyniad cyfreithiol, ac am reswm da. Rhaid i gyrff cyhoeddus fod yn deg, yn effeithiol ac yn gynrychioliadol o'r holl gymunedau ar draws Prydain. Rydym yn falch bod y Swyddfa Gartref wedi ymrwymo i gynnal y PSED."