Newyddion

Barnwr yn pennu bod gofalwyr maeth yn gallu cyflwyno hawliadau gwahaniaethu a chwythu'r chwiban

Wedi ei gyhoeddi: 13 Chwefror 2025

Mae barnwr wedi dyfarnu y dylai tri gofalwr maeth gael yr hawl i ddwyn hawliadau gwahaniaethu a hawliau chwythu'r chwiban fel gweithwyr.

Os caiff ei gadarnhau, mae’n bosibl y bydd y dyfarniad yn agor y ffordd i fwy na 57,000 o ofalwyr maeth yn y DU gyflwyno hawliadau gwahaniaethu a chwythu’r chwiban mewn tribiwnlys cyflogaeth. Roedd y Barnwr Crosfill o'r farn y gallai plant mewn gofal maeth elwa pe bai gofalwyr maeth yn gallu siarad heb ofni ôl-effeithiau personol.

Cefnogodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yr achos, a gyflwynwyd gan y gofalwyr maeth Pauline Oni, Paulette Dawkins ac Angela Reid.

 

Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

Fe wnaethom gefnogi’r achos hwn i roi cyfle i’r tribiwnlys egluro maes llwyd sylweddol o ran hawliau gofalwyr maeth.

"Mae gofalwyr maeth yn darparu gwasanaeth allweddol, gan gynnig cartref cariadus i'r plant sydd ei angen fwyaf. Maen nhw'n cael eu talu'n iawn am y gwaith hanfodol maen nhw'n ei wneud.

“Rwy’n gobeithio bod y dyfarniad hwn yn rhoi tawelwch meddwl i ofalwyr maeth nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain os ydyn nhw’n cael eu cam-drin, a bod llwybr posib bellach ar ffurf cyfreithiol.

Roedd Oni wedi codi pryderon chwythu’r chwiban bod ei hiechyd a’i diogelwch personol mewn perygl a chwynodd fod Waltham Forest wedi rhoi’r gorau i roi plant yn ei gofal o ganlyniad. Roedd Dawkins wedi gwneud cwynion nad oedd Cyngor Bromley yn diwallu anghenion plant o leiafrifoedd ethnig, ac arweiniodd hyn at derfynu ei chymeradwyaeth fel gofalwr maeth. Honnodd Reid fod Cyngor Haringey wedi tynnu plant o'i gofal oherwydd gwahaniaethu ar sail oed.

Yn hanesyddol nid yw gofalwyr maeth wedi gallu mynd ar drywydd hawliadau gwahaniaethu neu chwythu'r chwiban yn y tribiwnlys cyflogaeth oherwydd nad ydynt yn cael eu hystyried yn 'weithwyr'. Roedd achos Llys Apêl ym 1998 (W v Essex) wedi dyfarnu nad oedd perthynas gytundebol rhwng gofalwr maeth a’i awdurdod lleol.

Clywodd y tribiwnlys dystiolaeth ym mis Mehefin 2023 a mis Chwefror 2024. Yno dadleuodd yr hawlwyr fod gwrthod yr amddiffyniadau hyn yn torri eu hawliau dynol ac yn eu gadael heb ateb cyfreithiol digonol. Roeddent yn dibynnu ar yr hawliau i fywyd preifat a theuluol (Erthygl 8) ac i ryddid mynegiant (Erthygl 10), ynghyd ag amddiffyniad rhag gwahaniaethu (Erthygl 14). Cytunodd y Barnwr Cyflogaeth Crosfill fod gwahardd yr hawlwyr rhag mynd ar drywydd eu hawliadau gwahaniaethu a chwythu'r chwiban yn gyfystyr ag ymyrraeth anghyfiawn â'u hawliau dynol.

Wrth fynd i’r afael â honiadau y byddai’r dyfarniad hwn yn arwain plant i weld gofalwyr maeth fel gweithwyr yn hytrach na rhieni, dywedodd y Barnwr Crosfill: “Nid wyf yn cytuno bod bodolaeth yr hawliau penodol hyn yn anghyson â gallu gofalwr maeth i ddarparu cartref teuluol cariadus”. Roedd y barnwr o’r farn bod “darparu dull effeithiol o wneud iawn yn debygol o hybu gofal plant gan ofalwyr maeth.”

Cefnogwyd yr hawlwyr gan Undeb Cenedlaethol y Gofalwyr Maeth Proffesiynol. Cawsant eu cynrychioli gan Jacqueline McGuigan o Gyfreithwyr TMP a Rachel Crasnow CB a Chris Milsom o Siambrau Cloisters.