Chwythu'r chwiban

Wedi ei gyhoeddi: 8 Ebrill 2022

Diweddarwyd diwethaf: 8 Ebrill 2022

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Os ydych yn weithiwr sy'n pryderu bod eich cyflogwr yn torri cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol, gallwch roi gwybod i ni am eich pryderon.

Os yw'r wybodaeth a roddwch yn bodloni meini prawf penodol, efallai y cewch eich diogelu gan gyfraith chwythu'r chwiban. Mae hyn yn golygu na ddylech gael eich trin yn annheg neu golli eich swydd oherwydd i chi roi gwybod amdano.

Byddwn yn delio â’ch pryder yn unol â’r polisi hwn.

Beth yw chwythwr chwiban?

Rydych chi'n chwythwr chwiban os ydych chi'n weithiwr ac rydych chi'n riportio rhai mathau o ddrwgweithredu. Fel arfer bydd hyn yn rhywbeth rydych chi wedi'i weld yn y gwaith - ond nid bob amser.

Rhaid i'r camwedd a ddatgelir gennych fod er budd y cyhoedd. Bydd p’un a yw er budd y cyhoedd yn dibynnu ar:

  • nifer y bobl yr effeithir arnynt
  • natur ac effaith y camwedd
  • pwy yw'r drwgweithredwr

Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r pryder gael effaith ehangach nag amgylchiadau personol un gweithiwr.

Fel chwythwr chwiban cewch eich diogelu gan y gyfraith. Ni ddylech gael eich trin yn annheg na cholli'ch swydd oherwydd eich bod yn 'chwythu'r chwiban'.

Pwy sy'n cael ei warchod gan y gyfraith?

Efallai y cewch eich diogelu os ydych yn weithiwr. Er enghraifft, rydych chi'n:

  • gweithiwr
  • hyfforddai, fel myfyriwr nyrsio
  • gweithiwr asiantaeth
  • aelod o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)

Mynnwch gyngor os nad ydych chi'n siŵr eich bod wedi'ch diogelu.

Nid yw cymal cyfrinachedd neu ‘gymal cau’ mewn cytundeb setlo yn ddilys os ydych yn chwythwr chwiban ac mae’n ceisio eich atal rhag gwneud datgeliad gwarchodedig.

Gall penderfynu a yw datgeliad wedi’i ddiogelu fod yn gymhleth a dim ond Tribiwnlys Cyflogaeth all wneud y penderfyniad hwnnw.

Os ydych wedi gwneud cytundeb gyda’ch cyflogwr sy’n cynnwys cyfyngiad ar yr hyn y gallwch ei drafod am y mater yr ydych am ei godi, dylech geisio cyngor annibynnol ar delerau’r cytundeb hwnnw ac a yw’n debygol y bydd eich datgeliad yn cael ei ddiogelu cyn gwneud y datguddiad i ni.

Pryderon sy'n cyfrif fel chwythu'r chwiban

Mae’n bosibl y cewch eich diogelu gan y gyfraith os byddwch yn rhoi gwybod am unrhyw un o’r canlynol:

  • trosedd, er enghraifft twyll
  • iechyd a diogelwch rhywun mewn perygl
  • risg neu ddifrod gwirioneddol i'r amgylchedd
  • camweinyddiad cyfiawnder
  • mae’r cwmni’n torri’r gyfraith – er enghraifft, nid oes ganddo’r yswiriant cywir
  • rydych chi'n credu bod rhywun yn cuddio camwedd

Mynnwch gyngor os nad ydych chi'n siŵr eich bod wedi'ch diogelu.

Pryderon nad ydynt yn cyfrif fel chwythu'r chwiban

Oni bai bod eich achos penodol er budd y cyhoedd, nid yw cwynion personol yn dod o dan gyfraith chwythu’r chwiban.

Rhowch wybod am y rhain o dan bolisi cwynion eich cyflogwr.

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) am gymorth a chyngor ar ddatrys anghydfod yn y gweithle.

Pwy i ddweud

Gallwch ddweud wrth eich cyflogwr – efallai bod ganddo bolisi chwythu’r chwiban sy’n dweud wrthych beth i’w ddisgwyl os byddwch yn rhoi gwybod iddynt am eich pryder. Gallwch roi gwybod iddynt am eich pryder o hyd os nad oes ganddynt bolisi.

Gallwch gael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr , neu geisio cymorth gan wasanaeth cynghori.

Gallwch ddweud wrth berson neu gorff rhagnodedig. Os dywedwch wrth berson neu gorff rhagnodedig, rhaid i chi sicrhau ei fod yn un sy'n delio â'r mater yr ydych yn ei godi.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff rhagnodedig ar gyfer chwythu’r chwiban ynghylch achosion o dorri cyfraith cydraddoldeb neu hawliau dynol. Os yw eich pryder yn ymwneud â thorri cyfraith cydraddoldeb neu hawliau dynol, gallwch ddweud wrthym.

Cofiwch mai dim ond os yw'r camwedd y byddwch yn ei adrodd er budd y cyhoedd y cewch eich diogelu gan gyfraith chwythu'r chwiban. Bydd p’un a yw er budd y cyhoedd yn dibynnu ar:

  • nifer y bobl yr effeithir arnynt
  • natur ac effaith y camwedd
  • pwy yw'r drwgweithredwr

Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r pryder gael effaith ehangach nag amgylchiadau personol un gweithiwr.

Cyn rhoi gwybod am bryder

Ni allwn ddweud wrthych a yw eich pryder wedi'i ddiogelu gan gyfraith chwythu'r chwiban. Os ydych yn ansicr, dylech geisio cyngor cyn rhoi gwybod amdano.

Adrodd yn ddienw neu'n gyfrinachol

Nid oes rhaid i chi roi eich enw na'ch manylion cyswllt i ni, ond mae'n ddefnyddiol os gwnewch hynny.

Os byddwch yn rhoi gwybod am bryderon yn ddienw, efallai y bydd yn ei gwneud yn anos i ni ymchwilio i'ch pryder neu gynnal unrhyw ymholiadau.

Byddwn yn dal i gofnodi'r datgeliad yn ein hadroddiad blynyddol a, hyd yn oed os na allwn weithredu, gallai fod o gymorth gyda'n cynlluniau ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

Ni allwn warantu y bydd eich hunaniaeth yn parhau i gael ei diogelu. Fodd bynnag, byddwn yn trin y wybodaeth a roddwch yn gyfrinachol ac ni fyddwn yn ei datgelu heb reswm dilys fel y nodir yn y gyfraith. Dylech fod yn ymwybodol, hyd yn oed os ydych wedi cysylltu â ni’n ddienw, os bydd angen i ni rannu gwybodaeth y gallai’r amgylchiadau penodol eich adnabod o hyd.

Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth

Mae eich gwybodaeth yn ein helpu i benderfynu a ddylid edrych yn agosach ar gydymffurfiaeth sefydliad â chyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol.

Os ydych wedi rhoi e-bost neu gyfeiriad cyswllt i ni, byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth ein bod wedi derbyn eich pryder. Fel arfer byddwn yn rhoi cydnabyddiaeth o fewn 10 diwrnod gwaith.

Byddwn yn gwneud cofnod o'ch pryder ac yn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau yn ei gylch. Wrth wneud hyn, byddwn yn ystyried ein cynllun busnes a pholisi ymgyfreitha a gorfodi.

Rydym yn annhebygol o gysylltu â chi eto oni bai ein bod angen rhagor o wybodaeth. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom a'ch bod wedi rhoi eich manylion cyswllt i ni, byddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio'r manylion a ddarparwyd gennych, oni bai eich bod wedi nodi nad ydych am i ni gysylltu â chi.

Hyd yn oed os na fyddwch yn clywed gennym, neu os na fyddwn yn gweithredu ar unwaith, byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd gennych yn ein gwaith. Er enghraifft, i'n helpu i gynllunio'r hyn y byddwn yn ei wneud yn y dyfodol. Rydym yn cymryd pob pryder o ddifrif ac yn ymdrin â hwy fesul achos.

Ni fydd gennych lais yn y ffordd yr ydym yn delio â'ch pryder ac efallai na fyddwn yn gallu rhoi llawer o fanylion i chi os bydd yn rhaid i ni gadw hyder pobl eraill. Gall Adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006 hefyd gyfyngu ar yr hyn y gallwn ei rannu â chi am unrhyw gamau a gymerwn.

Rhannu gwybodaeth

Mae rhai amgylchiadau lle gall fod angen i ni rannu’r wybodaeth rydych wedi’i darparu ag eraill. Er enghraifft, i ymchwilio i'r pryderon a godwyd gennych, am resymau diogelu neu i atal trosedd difrifol.

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi sut rydym yn trin, storio, defnyddio a rhannu eich gwybodaeth bersonol.

Ffynonellau cymorth eraill

Ni allwn roi cyngor i chi ar eich sefyllfa bersonol, gan gynnwys:

  • a yw unrhyw ddatgeliad a wnewch yn debygol o gael ei ddiogelu
  • a allai fod gennych unrhyw hawliadau cydraddoldeb, hawliau dynol neu gyflogaeth

Fodd bynnag, efallai y bydd y ffynonellau cyngor canlynol yn ddefnyddiol i chi:

Gall y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) roi cymorth a chyngor i chi ar ddatrys anghydfod yn y gweithle.

Mae Protect (a elwid gynt yn Public Concern at Work) yn elusen chwythu’r chwiban annibynnol sy’n gallu esbonio’r mathau o ddrwgweithredu y gallwch roi gwybod amdanynt, eich hawliau, a’r camau nesaf y gallwch eu cymryd.

Mae'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn elusen annibynnol sy'n gallu rhoi cyngor i chi ar eich hawliau cyflogaeth.

Gall y Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) eich cynghori ar faterion yn ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol.

Rhowch wybod i ni am eich pryder

Rhowch wybod am eich pryder:

cwblhewch y ffurflen ar-lein

Mae’r arolwg yn rhwydd i’w gwblhau ac yn sicrhau bod gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i ystyried eich datgeliad.

Ffyrdd eraill o godi eich pryderon

Gallwch e-bostio eich pryderon i: whistleblowing@equalityhumanrights.com

Os hoffech godi eich pryderon dros y ffôn, gallwch anfon e-bost atom neu gysylltu â’n tîm Derbynfa ar 0161 829 8100 i drefnu galwad.

Gallwch anfon e-bost atom i ofyn am ganllaw Hawdd ei Ddarllen am y wybodaeth sydd ei hangen arnom gennych chi: whistleblowing@equalityhumanrights.com.

Adroddiad chwythu’r chwiban: i gael rhagor o wybodaeth am y camau chwythu’r chwiban rydym wedi’u cymryd, darllenwch ein hadroddiad diweddaraf ar chwythu’r chwiban.

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon

Gwybodaeth berthnasol ar wefannau eraill

Cysylltwch ag Acas am ragor o wybodaeth

Os ydych yn rhan o anghydfod cyflogaeth neu’n ceisio gwybodaeth am hawliau a rheolau cyflogaeth, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas):

Rhadffôn: 0300 123 1100 (8am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am i 1pm ar ddydd Sadwrn)

Gwasanaeth Cyfnewid Testun: 18001 0300 123 1100.

Ewch i wefan Acas