Heddiw lansiodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) arolwg i ddysgu pa gamau y mae cyflogwyr wedi’u cymryd i gefnogi eu cyflogeion sy’n profi menopos.
Ym mis Chwefror 2024 cyhoeddodd rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain adnoddau i helpu cyflogwyr i ddeall eu rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Rhoddodd yr adnoddau gyngor ymarferol i gyflogwyr ar wneud addasiadau rhesymol a meithrin sgyrsiau cadarnhaol am fenopos gyda’u gweithwyr.
Flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r EHRC yn annog cyflogwyr i gwblhau ei arolwg, i gael mewnwelediad i ba mor effeithiol y bu’r adnoddau wrth sicrhau nad yw cyflogeion dan anfantais yn y gweithle oherwydd menopos.
Mae llawer o fenywod yn adrodd eu bod wedi profi effeithiau negyddol symptomau menopos yn y gweithle, gyda rhai hyd yn oed yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i adael eu swyddi o ganlyniad.
Yn 2022 canfu Cymdeithas Fawcett fod un o bob deg o ferched sydd wedi gweithio yn ystod menopos wedi gadael swydd oherwydd eu symptomau. Er bod ymchwil a gynhaliwyd gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn 2023 wedi canfod bod dwy ran o dair (67%) o fenywod sy’n gweithio rhwng 40 a 60 oed sydd â phrofiad o symptomau menopos yn dweud eu bod wedi cael effaith negyddol ar y cyfan arnynt yn y gwaith.
Dylai cyflogwyr ystyried canllawiau’r EHRC yn ofalus ac addasu eu polisïau a’u harferion yn unol â hynny, er mwyn sicrhau tegwch a chynhwysiant yn y gweithle.
Bydd yr arolwg yn cau am 5yh ddydd Llun 24 Mawrth 2025.