Arweiniad

Sut mae ymarfer eich hawliau dynol

Wedi ei gyhoeddi: 3 Mai 2016

Diweddarwyd diwethaf: 17 Mehefin 2021

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Os ydych yn teimlo bod eich hawliau dynol wedi’u torri ac rydych am wneud rhywbeth amdano, nid oes unrhyw ffordd sengl neu ‘gywir’ o ddelio ag ef. Mae’n dibynnu ar y cyd-destun a’ch amgylchiadau arbennig.

Dysgwch ragor ynghylch sut a ble gallwch gael help a chyngor cychwynnol.

Efallai byddwch yn gallu datrys y broblem heb ddwyn achos cyfreithiol. Mae’n bosibl y bydd trafod y mater â’r person neu sefydliad sydd o bosibl wedi torri ar eich hawliau’n ddigon. Os na ellir ei datrys yn anffurfiol, gallwch wneud cwyn ffurfiol.

Dylech gofio bod terfynau amser llym ar gyfer dwyn achos. Gall y terfynau amser hyn olygu bod angen ichi ddwyn achos cyfreithiol yn eithaf cyflym fel na chollwch eich hawliau. Gall terfynau amser fod yn gymhleth, ond mewn rhai achosion efallai bydd rhaid ichi ‘gychwyn achos’ yn y llys o fewn tri mis neu’n llai.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ymgynghori â chynghorydd neu gyfreithiwr ag enw da ym maes hawliau dynol cyn cychwyn ag unrhyw achos cyfreithiol.

Dysgwch ragor ynghylch dwyn achos heb fynd i’r llys.

Dysgwch ragor ynghylch dwyn achos cyfreithiol.

Cyn ichi ddwyn achos

Os ydych yn teimlo bod eich hawliau dynol wedi’u torri ac rydych am weithredu, bydd angen ichi:

  • fod yn siŵr bod y Ddeddf Hawliau Dynol yn gymwys i’r unigolyn neu sefydliad sy’n eich trin yn annheg – dysgwch ragor ynghylch i bwy mae’r Ddeddf yn gymwys
  • nodi pa hawl neu hawliau dynol rydych yn ystyried eu bod wedi’u torri – bydd ein gwybodaeth ar yr hawliau unigol yn y Ddeddf Hawliau Dynol yn eich helpu ynglŷn  â hyn.

Diweddariadau tudalennau