Arweiniad

Dwyn achos cyfreithiol i ddiogelu’ch hawliau dynol

Wedi ei gyhoeddi: 4 Mai 2016

Diweddarwyd diwethaf: 4 Mai 2016

Gallwch ddwyn achos i’r llys o dan y Ddeddf Hawliau Dynol os ydych yn honni bod awdurdod cyhoeddus, megis awdurdod lleol, yr heddlu neu’r GIG wedi torri ar un neu ragor o’ch hawliau dynol. Hefyd mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais yn erbyn cyrff eraill sy’n cynnal swyddogaethau cyhoeddus. Dysgwch ragor ynghylch i bwy mae’r Ddeddf yn gymwys.

Gall dwyn achos yn y llys fod yn broses hir ac ingol. Hefyd gall fod yn ddrud. Ond weithiau dyna’r unig ffordd ymlaen. Cofiwch – mae’r llysoedd a thribiwnlysoedd yno i bawb eu defnyddio a mae miloedd o bobl yn eu defnyddio’n llwyddiannus ar eu hunain bob blwyddyn.

Ble ddylwn i ddechrau?

Ai dwyn achos cyfreithiol yw’r ffordd orau ymlaen? Dylech ystyried opsiynau eraill yn gyntaf – gweler sut allwch ddiogelu’ch hawliau dynol heb ddwyn achos yn y llys. Cofiwch, fodd bynnag, fod terfynau amser llym ar gyfer dwyn achos cyfreithiol (gweler isod). Beth bynnag a wnewch, y peth gorau yw gweithredu cyn gynted â phosibl.

Os ydych yn ystyried dwyn achos yn y llys, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol. Mae’r gost yn peri pryder i lawer o bobl, ond os ydych yn derbyn budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael cyfreithiwr ar gymorth cyfreithiol.

Dysgwch ble gallwch gael help a chyngor ar gymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr a’r Alban.


Pwy all ddwyn achos o dan y Ddeddf Hawliau Dynol?

Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn datgan mai dim ond ‘dioddefwr’ toriad ar hawliau dynol all dwyn achos cyfreithiol o dan y Ddeddf. Gallech fod yn ddioddefwr fel unigolyn, carfan o bobl, cwmni neu sefydliad arall. Ni all grwpiau buddiant ac elusennau ddwyn achos cyfreithiol eu hunain oni bai eu bod yn diwallu’r ‘prawf dioddefwr’. Ond gallant eich helpu os ydych chi’n dwyn cais.

Os ydych yn wynebu achos cyfreithiol gan rywun arall, efallai byddwch yn gallu defnyddio’r Ddeddf Hawliau Dynol i’ch amddiffyn eich hunan (er enghraifft yn y llysoedd troseddol). 


Beth allaf ei ddisgwyl os enillaf fy achos?

Mae’r ffordd y bydd llys yn gorfodi’ch hawl (sy’n hysbys fel ‘rwymedi’) yn dibynnu ar y math o achos llyw rydych yn ei ddwyn.

Mae’r rwymedïau mwyaf cyffredin yn cynnwys:

  • digollediad neu iawndal ariannol,
  • datganiad bod eich hawliau wedi’u torri,
  • gorchymyn yn gwrthdroi’r penderfyniad rydych wedi cwyno amdano – gelwir hwn yn orchymyn dileu yng Nghymru a Lloegr a gostyngiad yn yr Alban, a
  • gorchymyn y dylai’r awdurdod cyhoeddus wneud rhywbeth – gelwir hwn yn orchymyn gorfodi yng Nghymru a Lloegr ac yn berfformiad penodol yn yr Alban.

Ni fydd llys yn gorchymyn iawndal ariannol fel mater o drefn hyd yn oed os yw’n penderfynu bod eich hawliau dynol wedi’u torri. Mae hyn yn dibynnu ar a ydych wedi dioddef colled mae’r llys yn ystyried y dylech gael eich digolledi amdano. Fel arfer mae gwerth iawndal mewn achosion hawliau dynol yn gymharol isel.


Beth yw’r terfynau amser ar gyfer dwyn eich achos i’r llys?

Fel arfer mae’n rhaid ichi gychwyn yr achos o fewn un flwyddyn o’r toriad posibl ar eich hawliau dynol. Ond efallai bydd terfynau amser llymach gan ddibynnu ar y math o achos llys rydych yn bwriadu ei ddwyn, a gall hyn fod mor fyr â thri mis (neu hyd yn oed yn llai mewn rhai achosion). Gall y llys ganiatáu ichi ddwyn achos wedi cyfnod hwy os yw’n ystyried bod hyn yn deg, ond mae hyn yn brin.

Diweddariadau tudalennau