Arweiniad
Diogelu’ch hawliau cyfreithiol heb fynd i’r llys
Wedi ei gyhoeddi: 3 Mai 2016
Diweddarwyd diwethaf: 3 Mai 2016
Mae llawer o gŵynion ynghylch hawliau dynol ym Mhrydain nad ydynt byth yn cyrraedd y llys. Mae rhai awdurdodau cyhoeddus yn gallu ymateb yn bositif, a maent yn gwneud hynny, pan ofynnir iddynt adolygu eu penderfyniadau neu weithredoedd yng ngolau eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Hawliau Dynol.
Yn aml y peth gorau yw ymchwilio i opsiynau eraill cyn ystyried dwyn achos. Mae dulliau anffurfiol a ffurfiol sy’n rhoi cyfle i awdurdod cyhoeddus wella’r ffordd maent yn eich trin.
Ond peidiwch ag anghofio, pa gam gweithredu bynnag a gymerwch, gwnewch ef yn gynnar. Os oes rhaid ichi ddibynnu ar ddwyn achos ar ryw adeg, mae terfynau amser llym ar gyfer gwneud hyn. Gweler Sut mae ymarfer eich hawliau dynol.
Sut allaf wneud cwyn anffurfiol?
Gallai cwyn anffurfiol olygu galwad ffôn neu sgwrs wyneb yn wyneb. Mae’n syniad da i gynnwys y pwyntiau dilynol yn eich trafodaeth:
- disgrifiad byr o’r hyn a ddigwyddodd
- yr hawl neu hawliau dynol penodol a dorrwyd
- enwau a theitlau swydd y bobl dan sylw
- dyddiad ac amser y digwyddiad
- disgrifiad o sut mae’r digwyddiad wedi effeithio arnoch
- beth rydych am i’r sefydliad ei wneud nawr – er enghraifft, adolygu penderfyniad neu gynnig gwasanaeth gwell, a
- phryd rydych yn disgwyl ymateb.
Cadwch gofnod o’r sgwrs a gwneud nodyn o’r dyddiad. Hefyd mae’n syniad da i ddilyn y sgwrs â llythyr yn cofnodi’r hyn a drafodwyd.
Sut allaf wneud cwyn ffurfiol?
Os na fydd ymagwedd anffurfiol yn gweithio, gallwch wneud cwyn ffurfiol. Mae gan y mwyafrif o awdurdodau cyhoeddus eu gweithdrefnau cwynion eu hunain. Os oes un, fel arfer dylech ei dilyn (ond cofiwch y terfynau amser llym ar gyfer dwyn achos i’r llys os ydych yn ystyried gwneud hynny).
Os nad oes gweithdrefn gŵynion, dylech gwyno mewn ysgrifen a chynnwys y pwyntiau a restrir uchod o dan ‘Sut allaf wneud cwyn anffurfiol’, gyda’ch enw a’ch manylion cyswllt.
Os yw cynghorydd yn eich helpu â’r cwyn ac rydych am iddynt eirioli ar eich rhan, cynhwyswch eu henw a manylion cyswllt yn eich cwyn ysgrifenedig. Hefyd dylech atodi llythyr o awdurdodiad, wedi’i lofnodi gennych, i esbonio bod y cynghorydd yn gweithredu ar eich rhan. Cadwch gopi o’r llythyr neu’r neges e-bost cwyno.
Pwy arall all fy helpu?
Os bydd dulliau anffurfiol neu ffurfiol yn methu â datrys y broblem, opsiwn arall fydd cwyno wrth berson neu sefydliad allanol.
Os ydych yn ystyried mae dwyn achos yn y llys yw’r unig ffordd o ddatrys y broblem, gweler ein cyngor ar ddwyn achos cyfreithiol.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
3 Mai 2016
Diweddarwyd diwethaf
3 Mai 2016