Cael help a chyngor

Wedi ei gyhoeddi: 3 Mai 2016

Diweddarwyd diwethaf: 3 Mai 2016

Os ydych yn ystyried bod eich hawliau dynol wedi’u torri mae’n syniad da i gael cyngor arbenigol ynghylch y mater cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu ar y ffordd orau i weithredu. Efallai byddwch yn canfod nad yw eich problem yn ymwneud â  hawliau dynol mewn gwirionedd, neu ei fod yn fater cyfun â  hawliau dynol a gwahaniaethu. Gallai berthyn i ran gwahanol o’r gyfraith yn gyfangwbl hyd yn oed.

Cael cyngor ar ddwyn eich achos i’r llys

Mae’n arbennig o bwysig i gael cyngor da os ydych yn ystyried dwyn achos cyfreithiol. Gall dwyn achos o dan y Ddeddf Hawliau Dynol fod yn gymhleth. Bydd arnoch angen cyngor cyfreithiol arbenigol ar gryfder eich achos, ac yna i’ch arwain trwy’r broses os ewch i’r llys.

Sefydliadau gwybodaeth a chyngor

Dyma rai o’r sefydliadau sy’n cynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth ymarferol am ddim ar faterion ynghylch hawliau dynol.

Mae’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) yn rhedeg llinell gymorth sy’n cynnig help a chyngor ar faterion ynghylch cydraddoldeb a hawliau dynol ledled Lloegr, yr Alban a Chymru.

Gwefan: https://www.equalityadvisoryservice.com/

Rhadffôn: 0808 800 0082

Ffôn Testun: 0808 800 0084

Mae’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor annibynnol a chyfrinachol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol) a gall eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr. Gallwch gyrchu help trwy eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol (gallwch ei chanfod trwy’r manylion cyswllt isod), neu drwy gysylltu â swyddfa wybodaeth eich awdurdod lleol yn eich neuadd y dref agosaf.

Cyngor ar Bopeth, Cymru a Lloegr

Gwefan: https://www.citizensadvice.org.uk/

Ffôn: 03444 111 444 (Lloegr) 03444 77 20 20 (Cymru)

Cyngor ar Bopeth  yr Alban

Gwefan:  http://www.cas.org.uk/

Ffôn: 0808 800 9060 (ar gyfer gwybodaeth ar ddod o hyd i Ganolfan Cyngor ar Bopeth leol – nid ar gyfer cyngor cyffredinol).

Mae’r  Law Centres Federation [Ffederasiwn Canolfannau Cyfraith] yn cydgysylltu rwydwaith cenedlaethol o ganolfannau cyfraith wedi’u seilio yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae canolfannau cyfraith yn darparu cyngor a chynrychiolaeth annibynnol arbenigol am ddim i bobl sy’n  byw neu’n gweithio yn eu dalgylchoedd. Nid yw’r Ffederasiwn ei hunan yn darparu cyngor cyfreithiol, ond gallwch chwilio am fanylion ynghylch eich canolfan gyfraith agosaf ar eu gwefan.

Gwefan: www.lawcentres.org.uk

Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn cynrychioli cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr. Mae gan eu gwefan gyfeiriadur ar-lein o gwmnïau cyfraith a chyfreithwyr. Nid yw’r Gymdeithas yn darparu cyngor cyfreithiol.

Gwefan: www.lawsociety.org.uk

Ffôn: 020 7320 5650 (i gael help ynghylch defnyddio’r gwasanaeth ‘Canfod Cyfreithiwr’ ar eu gwefan.

Mae’r Scottish Legal Aid Board [Bwrdd Cymorth Cyfreithiol yr Alban] yn gyfrifol am reoli cymorth cyfreithiol yn yr Alban. Nid yw’n cynnig cyngor cyfreithiol, ond gallwch ddefnyddio’r llinell gymorth neu’r wefan i gael gwybod a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, dod o hyd i gyfreithiwr lleol sy’n cynnig cymorth cyfreithiol neu archebu eu taflenni i gael rhagor o wybodaeth.

Gwefan: www.slab.org.uk

Ffôn: 0131 226 7061 (llinell gymorth ar gyfer cymorth cyfreithiol)

Mae’r Scottish Association of Law Centres [Cymdeithas Canolfannau Cyfraith yr Alban] (SALC) yn cynrychioli canolfannau cyfraith cymunedol a chanolfannau cyfraith a reolir gan ddefnyddwyr yn yr Alban. Mae’r safle’n darparu dolenni i ganolfannau sy’n cynnig cyngor annibynnol am ddim ar ystod eang o bynciau.

Gwefan: http://www.govanlc.com/salc

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar yr holl faterion ynghylch hawliau cyflogaeth. Mae eu gwefan yn cynnig llawer o wybodaeth ar faterion ynghylch cysylltiadau cyflogaeth.

Gwefan: http://www.acas.org.uk/

Ffôn: 0300 123 1100

Mae AdviceUK yn rhwydwaith cymorth ar gyfer asiantaethau cynghori annibynnol. Nid ydynt yn cynghori’r cyhoedd yn uniongyrchol, ond gallwch chwilio am ganolfannau cynghori ar eu gwefan.

Gwefan: http://www.adviceuk.org.uk/

Mae Liberty yn sefydliad annibynnol ar gyfer hawliau sifil a hawliau dynol sy’n rhedeg gwasanaeth cynghori ar gyfer aelodau’r cyhoedd ag ymholiadau ynghylch hawliau dynol. Mae gan eu gwefan lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar y Ddeddf Hawliau Dynol.

Gwefan: www.liberty-human-rights.org.uk

Ffôn: 0845 123 2307 / 020 3145 0461 (advice line)

Mae Rights of Women yn sefydliad gwirfoddol penodedig ar gyfer hawliau menywod. Maent yn gweithredu llinell gynghori gyffredinol a phedair llinell gymorth arbenigol (cyfraith teulu, cyfraith trosedd, menywod yn Llundain a chyfraith mewnfudo a lloches.

Gwefan: www.rightsofwomen.org.uk

Ffôn: 020 7251 6575 (llinell gyffredinol)

Mae Press for Change yn ymgyrchu i gyflawni hawliau a rhyddidau sifil cyfartal ar gyfer holl bobl draws y DU trwy ddeddfwriaeth a newid cymdeithasol. Mae gan y sefydliad arbenigedd neilltuol ym maes gweithredu cyfraith Hawliau Dynol.

Gwefan: www.pfc.org.uk

Ffôn: 08448 708 165 (llinell gynghori)

 

Diweddariadau tudalennau