Arweiniad

I bwy mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gymwys?

Wedi ei gyhoeddi: 3 Mai 2016

Diweddarwyd diwethaf: 3 Mai 2016

Os ydych yn cael eich trin yn annheg ac rydych yn ystyried y gallai fod yn fater ynghylch hawliau dynol, mae’n bwysig deall a yw’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gymwys i’r unigolyn neu’r sefydliad sy’n achosi’r broblem.

Mae’r Ddeddf yn berthnasol i:

  • bob awdurdod cyhoeddus, a
  • phob corff arall, ai’n gyhoeddus neu breifat, sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus

Mae awdurdodau cyhoeddus yn cynnwys:

  • adrannau’r llywodraeth
  • llysoedd a thribiwnlysoedd
  • awdurdodau lleol
  • yr heddlu, swyddogion carchar a mewnfudo
  • ysgolion, os y’i hariennir yn cyhoeddus
  • ombwdsmyn
  • erlynwyr cyhoeddus
  • ymddiriedolaethau, byrddau iechyd ac ysbytai GIG, a
  • llawer o sefydliadau eraill a sefydlwyd gan y gyfraith, megis Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a’r Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus megis ysbytai GIG neu’r heddlu ddilyn y Ddeddf Hawliau Dynol ym mhoopeth maent yn ei wneud. Mae hyn hefyd yn cynnwys agweddau preifat eu busnes, megis gwneud contractau cyflogaeth.

Gallai sefydliadau preifat neu elusennau sy’n cynnal swyddogaethau cyhoeddus gynnwys, er enghraifft:

  • cyfleustodau wedi’u preifateiddio megis cwmnïau dŵr, Nwy Prydain a Network Rail
  • cwmni diogelwch yn rhedeg carchar preifat
  • cymdeithasau tai sy’n gweithredu fel landlordiaid cymdeithasol
  • cartrefi gofal preifat yn darparu gofal ar ran awdurdod lleol, ac
  • ysbytai preifat yn darparu gofal ar ran y GIG.

Rhaid i sefydliadau preifat neu elusennau ddilyn y Ddeddf Hawliau Dynol dim ond pan maent yn cynnal eu swyddogaethau cyhoeddus.

Cyfarwyddyd ar gyfer awdurdodau cyhoeddus

Os ydych yn gweithio mewn awdurdod cyhoeddus, mae angen ichi wybod eich cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Hawliau Dynol. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cynhyrchu Hawliau Dynol: Bywydau Dynol, ganllaw i’ch helpu i ddeall sut mae’r Ddeddf yn perthyn i’r gwasanaethau rydych yn eu darparu. Mae’r canllaw yn cynnwys:

  • gwybodaeth ar wreiddiau, nodau a chwmpas y Ddeddf Hawliau Dynol
  • esboniadau o bob hawl a sut maent yn berthnasol i wahanol awdurdodau cyhoeddus
  • enghreifftiau ac astudiaethau achos bywyd go iawn yn dangos hawliau dynol mewn ymarfer
  • ‘Deall y Jargon’ ac atebion i gwestiynau cyffredin, ac
  • Dangos y ffordd i wybodaeth bellach a chysylltiadau defnyddiol.

Diweddariadau tudalennau