Arweiniad

Cwyno wrth berson neu sefydliad allanol

Wedi ei gyhoeddi: 4 Mai 2016

Diweddarwyd diwethaf: 4 Mai 2016

Os ydych yn ystried bod eich hawliau dynol wedi’u torri ac os na allwch ddatrys y broblem gyda’r awdurdod cyhoeddus dan sylw, gallech ystyried cwyno wrth berson neu sefydliad allanol.

Gallwch gyflwyno’ch cwyn i’ch cynghorydd lleol neu’ch AS. Os yw’r mater yn perthyn i hawliau plant, gallech gysylltu ag un o’r Comisiynwyr plant:

Gan ddibynnu ar natur eich problem, efallai bydd sefydliad (a elwir yn gomisiwn neu’n ombwdsmon yn aml) ei swyddogaeth yw ymchwilio i gŵynion ynghylch math arbennig o ddarparwr gwasanaeth. Gweler y rhestr o sefydliadau isod.

Gallech hyd yn oed ystyried cyfwyno’ch stori i’r cyfryngau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol, neu ymgysylltu â rhyw fath arall o ymgyrchu. Ond meddyliwch yn ofalus iawn cyn gwneud hyn ac ymgynghorwch â ffrindiau a theulu’n gyntaf.

Sefydliadau sy’n archwilio cwynion

Ni fydd unrhyw un o’r sefydliadau isod yn codi tâl arnoch i ymchwilio i’ch achos. Fodd bynnag, nid oes rhaid iddynt ymchwilio i’r holl gŵynion maent yn eu derbyn. Byddant yn gwneud felly dim ond os ydynt yn credu bod gennych gŵyn dilys ac os yw’n ffitio o fewn eu maes cyfrifoldeb.

Ombwdsmyn llywodraeth leol

Mae ombwdsmyn llywodraeth leol ar wahân ar gyfer Lloegr, Cymru a’r Alban. Maent yn ymchwilio i gŵynion yn erbyn awdurdodau lleol a sefydliadau penodol eraill. Maent yn cwmpasu cwynion ynghylch y mwyafrif o faterion yn ymwneud ag awdurdodau lleol, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol ac addysg. Mae’n rhaid ichi roi cyfle i’r awdurdod dan sylw ddelio â’ch achos cyn bydd yr ombwdsmon yn ei ystyried.

Ombwdsmon Llywodraeth Leol Lloegr
www.lgo.org.uk
Ffôn: 0300 061 0614

Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru
www.ombudsman-wales.org.uk Ffôn: 0300 790 0203

Ombwdsmon Llywodraeth Leol yn yr Alban
www.spso.org.uk
Ffôn: 0800 377 7330

Y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC)

Y Comisiwn Ansawdd Gofal yw’r rheoleiddiwr  iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer Lloegr. Maent yn sicrhau bod pob gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn diwallu safonau’r llywodraeth ynghylch ansawdd a diogelwch.

www.cqc.org.uk

Ffôn: 03000 616161

Yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd

Mae’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd yn ymchwilio i gŵynion ynghylch adrannau’r llywodraeth, eu hasiantaethau a rhai awdurdodau cyhoeddus eraill yn y DU (gan gynnwys y GIG yn Lloegr). Mae gwybodaeth ynghylch sut mae gwneud cwyn ar eu gwefan.

E-bost: phso.enquiries@ombudsman.org.uk
Gwefan: www.ombudsman.org.uk

Llinell gymorth gŵynion: 0345 015 4033
 

Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (Cymru a Lloegr)

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn goruchwylio system gŵynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr ac yn gosod y safonau y dylai’r heddlu drafod cwynion yn ei hôl.

www.ipcc.gov.uk

The Police Investigations and Review Commissioner [Comisiynydd Ymchwilio ac Adolgyu’r Heddlu] (Yr Alban)

Mae’r Comisiynydd yn adolygu’r ffordd y trafodir cwynion yn erbyn heddluoedd, awdordodau heddlu neu asiantaethau plismona.

pirc.scotland.gov.uk/

Ffôn: 0808 178 5577

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)

Mae’r ICO yn hyrwyddo mynediad i wybodaeth swyddogol ac yn diogelu gwybodaeth bersonol. Mae’n gwneud hyn trwy hyrwyddo arferion da, dyfarnu ar gŵynion cymwys, darparu gwybodaeth i unigolion a sefydliadau, a chymryd camau gweithredu priodol pan yw’r gyfraith yn cael ei thorri.

ico.org.uk

Ffôn: 0303 123 1113

Diweddariadau tudalennau