Erthygl

Sut rydym yn penderfynu a ddylid defnyddio ein pwerau

Wedi ei gyhoeddi: 10 Ionawr 2023

Diweddarwyd diwethaf: 25 Mehefin 2021

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Fel rheoleiddiwr, rydym yn dilyn Cod y Rheoleiddwyr mewn perthynas â'n holl swyddogaethau perthnasol. Fel sefydliad hawliau dynol cenedlaethol, rydym yn dilyn Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig mewn perthynas â Statws Sefydliadau Cenedlaethol ('Egwyddorion Paris').

O dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, rydym wedi ymrwymo i roi 'sylw priodol' i'r angen i:

  • dileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei wahardd
  • cynyddu cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl eraill
  • meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl eraill.

Blaenoriaethau yn ein cynllun strategol ar gyfer 2022 i 2025

 

Mae ein cynllun strategol ar gyfer 2022 i 2025 yn nodi ein blaenoriaethau ymgyfreitha a gorfodi a'r rhesymau drostynt.

Ein chwe blaenoriaeth, sy'n darparu fframwaith cyffredinol ar gyfer y gwaith cyfreithiol a wnawn, yw:

  • cydraddoldeb mewn gweithle sy'n newid
  • cydraddoldeb i blant a phobl ifanc
  • cynnal hawliau a chydraddoldeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol
  • mynd i'r afael ag effaith hawliau dynol a chydraddoldeb gwasanaethau digidol a deallusrwydd artiffisial
  • meithrin perthynas dda a hyrwyddo parch rhwng grwpiau
  • sicrhau fframwaith cyfreithiol effeithiol i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol.

Ystyriaethau eraill

Os yw mater yn ymwneud ag un o'n meysydd blaenoriaeth, neu'n her sylweddol, newydd sy'n dod i'r amlwg i gydraddoldeb a hawliau dynol yr ydym yn eu blaenoriaethu, mae gennym nifer o ystyriaethau eraill sy'n llywio ein penderfyniadau.

Byddwn yn ystyried:

  • a yw'r effaith debygol y byddwn yn ei chael yn cyfiawnhau faint o adnoddau y bydd eu hangen arnom i'w chyflawni;
  • a oes ffyrdd mwy effeithiol o gyflawni'r canlyniad a ddymunir;
  • ai ni sydd yn y sefyllfa orau i weithredu ac, os felly, a ddylem wneud hynny mewn partneriaeth ag eraill (megis rheoleiddwyr eraill, arolygiaethau neu sefydliadau cymdeithas sifil) i gyflawni'r canlyniad a ddymunir;
  • a fyddai gweithredu yn cyd-fynd â'n gwaith arall, er mwyn cynyddu ein heffaith.

Byddwn bob amser yn gweithredu'n gymesur, gan gydbwyso graddfa a difrifoldeb y broblem yn erbyn maint ac adnoddau'r sefydliad dan sylw.

Yn ogystal, wrth ystyried defnyddio ein pwerau ymgyfreitha, rydym yn:

  • ystyried a fydd canlyniad llwyddiannus yn cadw neu'n cryfhau dehongli neu gymhwyso cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol, neu'n peryglu gosod cynsail niweidiol;
  • cynnal asesiad cadarn o rinwedd gyfreithiol yr achos a'r tebygolrwydd o gyflawni'r newid rydym am ei weld;
  • defnyddio ein pŵer i ymyrryd dim ond os ydym yn fodlon y byddwn yn ychwanegu gwerth i'r achos ac yn cynorthwyo'r llys yn ei benderfyniad;
  • ystyried ai ni yw'r sefydliad mwyaf priodol i ariannu achos ac a oes ffynonellau eraill o arian ar gael (er enghraifft, cymorth cyfreithiol).

Byddwn yn ystyried y ffactorau canlynol wrth benderfynu a ddylid defnyddio ein pwerau cyfreithiol ai peidio.

 

Maint y broblem

Po fwyaf yw maint y broblem, ar draws unrhyw rai neu'r holl ystyriaethau hyn, y mwyaf tebygol yr ydym o ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol.

Byddwn yn ystyried y:

  • maint (y nifer o bobl sy'n cael eu heffeithio);
  • difrifoldeb (difrifoldeb y broblem ar berson neu grŵp, gan gynnwys a yw'n effeithio ar y rhai yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus);
  • parhad (pa mor hir mae'r broblem wedi para);
  • cyffredinrwydd (a yw'r un mater neu rai tebyg yn effeithio ar bobl ar draws nifer o sefydliadau neu sectorau).

Yr effaith y byddwn yn ei chael

Po fwyaf yr effaith y caiff ein gweithred, y mwyaf tebygol yr ydym o ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol.

Byddwn yn ystyried pa effaith y byddwn yn ei chael ar y mater drwy nodi:

  • y newid rydym am ei weld yn gyffredinol;
  • pa un o'n pwerau y gallem ei ddefnyddio i sicrhau'r newid hwnnw;
  • pa un o'n pwerau fydd y ffordd fwyaf effeithiol a chymesur o'i gyflawni;
  • i ba raddau y bydd defnyddio ein pwerau cyfreithiol yn gwneud iddo ddigwydd, gan ystyried camau y gellid eu cymryd gan eraill.

Byddwn yn asesu pa effaith bosib y bydd unrhyw fater rydym yn ei ystyried yn ei chael yng Nghymru, Lloegr a'r Alban fel sy'n berthnasol. Os yw mater ond yn cael effaith mewn un genedl, ni fydd hynny'n rheswm i ni beidio â gweithredu. Byddwn yn ystyried graddfa ac effaith ym mhob cenedl, ac efallai y byddwn yn penderfynu gweithredu mewn un genedl ond nid y lleill.

Tystiolaeth gan randdeiliaid allanol

Wrth benderfynu a ddylid defnyddio ein pwerau cyfreithiol, byddwn yn ystyried tystiolaeth briodol gan randdeiliaid perthnasol; er enghraifft:

  • cyrff cytuniad y Cenhedloedd Unedig
  • pwyllgorau seneddol
  • mudiadau cymdeithas sifil yng Nghymru, Lloegr a'r Alban

 

Ein Cynllun Cymorth Cyfreithiol

O dan ein Cynllun Cymorth Cyfreithiol, rydym weithiau'n gosod prosiectau penodol ar fater sy'n ymwneud â'n meysydd blaenoriaeth. Mae hyn yn caniatáu i ni:

  • gwella mynediad at gyfiawnder i bobl sy'n cael eu heffeithio gan fater penodol;
  • sicrhau bod y rhai yr ydym yn eu rheoleiddio yn gwybod eu dyletswyddau cyfreithiol, yn deall canlyniadau peidio â chyflawni'r dyletswyddau hynny, ac yn cymryd camau i wella eu harfer;
  • datblygu sylfaen dystiolaeth i'n helpu i wella ein dealltwriaeth o'r materion sy'n effeithio ar bobl mewn ardal benodol;
  • nodi materion y gallwn weithio arnynt y tu hwnt i'r cynllun cymorth cyfreithiol i gyflawni newid cadarnhaol ehangach.

Rydym yn cyhoeddi meini prawf penodol ar gyfer gwahanol gynlluniau, yn dibynnu ar eu ffocws, ond rydym yn dilyn y dull cyffredinol canlynol wrth benderfynu a ddylid cynorthwyo gydag achos.

Byddwn:

  • yn asesu teilyngdod yr achos, ac ni fyddwn fel arfer yn cynorthwyo os yw'r gobaith o lwyddiant yn llai na 50 y cant;
  • fel arfer dim ond yn rhoi cymorth lle credwn y bydd yn helpu rhywun i gael mynediad at gyfiawnder mewn amgylchiadau lle efallai na fyddent yn gallu gwneud hynny fel arall e.e. lle na all unigolion gael mynediad at fathau eraill o gyllid (megis cymorth cyfreithiol, neu gan undebau neu yswiriant);
  • fel arfer, ond ddim yn gyfan gwbl, yn cynnig cymorth ar gyfer achosion achos cyntaf.

Byddwn hefyd yn:

  • casglu gwybodaeth a deallusrwydd am yr achosion rydym yn cynorthwyo â nhw i nodi'r hyn sy'n atal pobl rhag cael mynediad at gyfiawnder, a natur ac ehangder unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon;
  • defnyddio unrhyw ddeallusrwydd a gasglwn i lywio ein gwaith polisi a chydymffurfio;
  • ystyried camau gorfodi yn erbyn sefydliadau y canfuwyd eu bod wedi gwahaniaethu'n anghyfreithlon.

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon

Gweithwyr cyfreithiol proffesiynol

Gall cynrychiolwyr cyfreithiol ffonio'r Llinell Gymorth Gyfreithiol (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Lloegr: 0161 829 8190

Cymru: 029 2044 7790

Gellir cysylltu â'r Llinell Gymorth Gyfreithiol hefyd yn legalrequest@equalityhumanrights.com