Erthygl

Cysylltu â ni am fater cyfreithiol

Wedi ei gyhoeddi: 3 Mawrth 2020

Diweddarwyd diwethaf: 3 Mawrth 2020

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Os ydych am ofyn i ni am gymorth gyda mater, yna mae sut i wneud hyn yn dibynnu ar bwy ydych chi.

Cymorth i unigolion

Dylai unigolion sy'n dymuno i'w mater gael ei asesu ffonio'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Mae’r EASS yn derbyn galwadau gan unigolion ac yn gweithio gydag asiantaethau cynghori a sefydliadau eraill sy’n atgyfeirio ato.

Mae’n darparu gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth (ond nid cyngor na chynrychiolaeth gyfreithiol) i unigolion ledled Cymru, Lloegr a’r Alban ynghylch materion gwahaniaethu a hawliau dynol a’r gyfraith.

Os bydd EASS yn gweld y ffeithiau fel rhai sydd o ddiddordeb i ni, byddant yn cyfeirio'r mater atom i'w gwmpasu ymhellach. Yna byddwn yn penderfynu a ydym am gynnig cymorth. Fel arall, gallai EASS eich cyfeirio at asiantaeth arall a allai fod mewn gwell sefyllfa i'ch helpu.

Mae’n bwysig cysylltu â’r EASS cyn gynted ag y byddwch yn teimlo y gallai fod gennych broblem, gan y bydd yn cymryd amser i benderfynu a oes gennych fater cyfreithiol o ddiddordeb. Gan fod gan lysoedd a thribiwnlysoedd derfynau amser llym, gallai unrhyw oedi arwain at ganlyniadau difrifol.

Cymorth i weithwyr cyfreithiol proffesiynol

Dylai cynrychiolwyr cyfreithiol ffonio'r Llinell Gymorth Gyfreithiol (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Lloegr: 0161 829 8190

Cymru: 029 2044 7790

Gellir cysylltu â'r Llinell Gymorth Gyfreithiol hefyd yn legalrequest@equalityhumanrights.com

Cofiwch y bydd sicrhau cymorth fel arfer yn cymryd mwy na phedair wythnos, felly gofynnwn i chi gysylltu â ni cyn gynted ag y gallwch.

Byddai o gymorth i ni pe gallech edrych drwy ein cynllun busnes a’n polisi ymgyfreitha a gorfodi cyn cysylltu â ni ynglŷn ag achos.

Gweithwyr cyfreithiol proffesiynol: gofynnwch am help ar-lein

Mae'r ffurflenni hyn ar gyfer gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn unig. Os ydych yn aelod o’r cyhoedd, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwahoddwch un o'n cyfreithwyr i fynychu neu siarad mewn digwyddiad

Cwblhewch y ffurflen ar-lein i wahodd un o’n cyfreithwyr i fynychu neu siarad yn eich digwyddiad.

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082