Erthygl

Ein polisi ymgyfreitha a gorfodi

Wedi ei gyhoeddi: 9 Ionawr 2023

Diweddarwyd diwethaf: 23 Awst 2022

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Os ydych yn gynrychiolydd cyfreithiol neu'n gweithio i sefydliad cyfreithiol, bydd y pynciau yn y polisi hwn yn eich helpu i benderfynu a ddylid cysylltu â ni ynghylch un o'ch achosion neu fater cyfreithiol arall yn unol â'n cynllun strategol ar gyfer 2022 i 2025.

Sut i gysylltu â ni am eich achos neu fater

Gall cynrychiolwyr a sefydliadau cyfreithiol gysylltu â ni'n uniongyrchol gyda cheisiadau i ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol drwy e-bostio legal.request@equalityhumanrights.com (ar gyfer Cymru a Lloegr) neu legalrequestscotland@equalityhumanrights.com (ar gyfer yr Alban).

Pan fyddwch yn gwneud eich cais, dywedwch wrthym:

  • eich enw, eich sefydliad a'ch manylion cyswllt
  • yr hyn rydych am i ni ei wneud (er enghraifft, ymyrryd mewn achos cyfreithiol neu ymchwilio i weithred anghyfreithlon)
  • prif fanylion a ffeithiau eich achos neu fater, gan gynnwys unrhyw derfynau amser pwysig
  • sut mae eich cais yn ymwneud â chwe maes blaenoriaeth ein cynllun strategol ar gyfer 2022 hyd at 2025
  • pam y dylem ddefnyddio ein pwerau ar y mater hwn (gan ystyried sut rydym yn penderfynu a ddylid defnyddio ein pwerau, fel y nodir yn y polisi hwn)

Bydd ein tîm Hyb Rheoleiddio yn adolygu eich cais ac yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad.

Cyngor i unigolion

Nid ydym yn rhoi cyngor ar faterion hawliau dynol na gwahaniaethu. Os oes angen cymorth neu arweiniad arnoch ar fater hawliau dynol neu wahaniaethu sydd wedi effeithio arnoch, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Ni allwn ymateb i ymholiadau unigol.

Chwythu'r Chwiban

Os ydych yn weithiwr sy'n credu y gallai eich cyflogwr fod yn torri cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol, gallwch adrodd eich pryderon i ni. Gelwir hyn yn chwythu'r chwiban.

I ddysgu sut i roi adroddiad chwythu'r chwiban i ni, darllenwch ein polisi chwythu'r chwiban. Mae hefyd yn egluro sut rydym yn penderfynu gweithredu ar adroddiadau gan chwythwyr chwiban.

Yr iaith a ddefnyddiwn yn y polisi hwn

Rydym yn defnyddio'r term 'sefydliad' i gyfeirio at sefydliadau ac unigolion.

Ystyr 'camau gorfodi' yw cymryd camau cyfreithiol gan ddefnyddio unrhyw un o'n pwerau gorfodi a restrir yn y polisi hwn.

Ystyr 'ymgyfreitha strategol' yw camau cyfreithiol gan ddefnyddio unrhyw un o'n pwerau ymgyfreitha a restrir yn y polisi hwn.

Ystyr 'pwerau cyfreithiol' yw pwerau gorfodi ac ymgyfreitha.

Am ein pwerau

Ni yw rheoleiddiwr cydraddoldeb a hawliau dynol Prydain. Mae ein pwerau hawliau dynol yn yr Alban yn ymestyn i faterion a gedwir yn ôl, ac mae ein gwaith hawliau dynol yn cael ei wneud gyda chytundeb Comisiwn Hawliau Dynol yr Alban.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 yn rhoi ystod o bwerau i ni er mwyn gorfodi Deddf Cydraddoldeb 2010 a gwarchod hawliau dynol.

Ein pwerau gorfodi

Mae ein pwerau gorfodi yn caniatáu i ni:

  • ymchwilio i sefydliad neu unigolyn yr ydym yn amau sydd wedi torri cyfraith cydraddoldeb
  • ymrwymo i gytundeb ffurfiol, sy'n gyfreithiol rwymol, gyda sefydliad neu unigolyn i atal gwahaniaethu yn y dyfodol

Dysgwch ragor am ein pwerau gorfodi.

Ein pwerau ymgyfreitha

Mae gennym bwerau ymgyfreitha hefyd. Mae'r pwerau hyn yn gadael i ni:

  • darparu cymorth cyfreithiol i unrhyw un sy'n gwneud hawliadau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • cymryd, neu gymryd rhan mewn, achosion a fydd yn cryfhau cyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol

Rydym hefyd yn defnyddio ein pwerau ymgyfreitha fel rhan o'n Cynllun Cymorth Cyfreithiol.

Dysgwch ragor am ein pwerau ymgyfreitha.

Diweddariadau tudalennau

Gweithwyr cyfreithiol proffesiynol

Gall cynrychiolwyr cyfreithiol ffonio'r Llinell Gymorth Gyfreithiol (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Lloegr: 0161 829 8190

Cymru: 029 2044 7790

Gellir cysylltu â'r Llinell Gymorth Gyfreithiol hefyd yn legalrequest@equalityhumanrights.com