Newyddion

Corff gwarchod cydraddoldeb yn penodi aelodau newydd i Bwyllgor Cymru

Wedi ei gyhoeddi: 8 Gorffenaf 2024

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi cyhoeddi penodiad dau aelod newydd i’w Bwyllgor Cymru.

Mae’r Pwyllgor yn rhoi cyngor diduedd i’r Comisiwn, ei Fwrdd a Llywodraeth Cymru, ar amrywiaeth o faterion cydraddoldeb a hawliau dynol cymhleth sy’n ymwneud â Chymru, gan sicrhau bod y Comisiwn yn cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â materion a gadwyd yn ôl a materion datganoledig.

Dau aelod newydd y pwyllgor yw:

  • John Williams
  • Lauren McEvatt

Dywedodd Cadeirydd Dros Dro Pwyllgor Cymru y Comisiwn, Martyn Jones YH DR:

“Rydym yn falch iawn o groesawu ein dau aelod pwyllgor newydd yn dilyn eu penodiad yr wythnos diwethaf.

“Maen nhw’n dod â chyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd gyda nhw, a fydd yn cryfhau Pwyllgor Cymru ymhellach fel cynghorydd arbenigol a diduedd ar anghenion a blaenoriaethau pobl ledled Cymru.

“Ddiwedd 2023, cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei adroddiad diweddaraf 'A yw Cymru'n Decach?', archwiliad cynhwysfawr o'r dirwedd cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Ynghyd â staff EHRC Cymru, bydd y Pwyllgor yn parhau i weithio gyda’n rhanddeiliaid ledled y wlad i wneud Cymru’n lle tecach, drwy fynd i’r afael â’r heriau penodol a nodwyd yn yr adroddiad.”

Nodiadau i olygyddion

Bywgraffiadau

  • Mae John Williams yn Athro Emeritws y Gyfraith yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth. Mae John hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Age Cymru, ac yn aelod o ymchwiliad Comisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon i Gartref Gofal Dunmurry. Ar hyn o bryd mae'n ymchwilio i bynciau pobl hŷn a'r gyfraith, gan gyfeirio at hawliau dynol.
  • Mae Lauren McEvatt yn gyn-aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a lansiodd ei adroddiad terfynol ar 18 Ionawr 2024. Mae Lauren yn gyn Gynghorydd Arbennig Ceidwadol Llywodraeth y DU i Swyddfa Cymru o Weinyddiaeth y Glymblaid. Mae Lauren wedi gweithio i sawl llywodraeth ar draws Dwyrain Affrica a'r Caribî, gan gynnwys llywodraeth Tiriogaeth Dramor Brydeinig. Ar hyn o bryd mae Lauren yn gweithio ym materion llywodraeth ryngwladol gan gwmpasu ymgysylltiad y sector cyhoeddus a phreifat â sefydliadau amlochrog a sefydliadau datblygu.