Erthygl

Am y Comisiwn yng Nghymru

Wedi ei gyhoeddi: 22 Rhagfyr 2021

Diweddarwyd diwethaf: 22 Rhagfyr 2021

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Cymru

Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru

Mae’r Comisiwn yng Nghymru yn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb, gan weithio i ddileu gwahaniaethu, lleihau anghydraddoldeb, amddiffyn hawliau dynol a meithrin cysylltiadau da, gan wneud yn siŵr bod gan bawb gyfle teg i gymryd rhan mewn cymdeithas.

Ein diben yw gwneud yn siŵr bod prosesau llunio polisïau’r Comisiwn ym Mhrydain Fawr yn adlewyrchu anghenion Cymru a chyflawni ein rhaglen waith yng Nghymru.

Mae gennym ddau bwyllgor statudol, sydd yma i wneud yn siŵr bod gwaith y Comisiwn yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau Cymru a’r Alban.

Dysgwch fwy am Bwyllgor Cymru .

Bydd y Comisiwn yng Nghymru yn:

  • gweithio gyda Phwyllgor Cymru i sicrhau bod anghenion Cymru yn cael eu hystyried yng nghynllun busnes Prydain Fawr a gweithredu rhaglen waith sy’n briodol i Gymru
  • cydlynu pob agwedd ar waith y Comisiwn yng Nghymru i gael yr effaith fwyaf, lleihau risg ac ychwanegu gwerth at strategaeth Prydain Fawr
  • adeiladu sylfaen dystiolaeth gref sy’n galluogi’r Comisiwn i siarad yn awdurdodol ar faterion polisi ac yn eglur ynghylch yr hyn sydd angen ei newid
  • dod o hyd i'r synergedd rhwng agendâu'r Comisiwn ac agendâu'r Llywodraeth a datblygu strategaethau dylanwadu i gyflawni amcanion y Comisiwn yng Nghymru
  • cyfleu amcanion y Comisiwn yn argyhoeddiadol i ymgysylltu â rhanddeiliaid a chynhyrchu camau gweithredu
  • defnyddio pwerau cyfreithiol y Comisiwn i wella mynediad at gyfiawnder a hyrwyddo cymdeithas deg a chyfiawn

Safonau’r Gymraeg

Rydym yn deall pa mor bwysig yw hi bod siaradwyr Cymraeg yn cael yr un mynediad i wasanaethau cyhoeddus â siaradwyr Saesneg. Dysgwch fwy am sut rydym yn cydymffurfio â safonau’r Gymraeg .

Ein manylion cyswllt

Cyfeiriad gohebiaeth Swyddfa Cymru:

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Tŷ'r Cwmnïau (llawr 1af)
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3U

Map: map Google swyddfa Caerdydd

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb iddo yn Gymraeg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg.

Ffôn: 02920 447710 (galwadau nad ydynt yn llinell gymorth yn unig)
Ffacs: 02920 447712

E-bost: wales@equalityhumanrights.com

Ymholiadau cyfryngau

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau ac yn dymuno siarad â swyddfa’r wasg, ffoniwch 02920 44 77 10.

Diweddariadau tudalennau