Mae John Kirkpatrick wedi’i benodi’n Brif Weithredwr newydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), yn dod i rym ar unwaith.
Cyn ymuno â’r EHRC fel Dirprwy Brif Weithredwr ym mis Hydref 2023, roedd John yn Gyfarwyddwr Cyflawni Ymchwiliadau yn yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach, yn gyfrifol am ymchwilio i’r angen am dariffau mewnforio ôl-Brexit. Cyn hynny bu’n uwch gyfarwyddwr yn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA), yn gweithio ar faterion rheoleiddio mewn addysg, trafnidiaeth ac iechyd, ac yn arwain swyddogaeth sganio’r gorwel a dealltwriaeth y CMA.
Yn dilyn gyrfa gynnar yn yr Adran Gyflogaeth a'r Adran Addysg, bu'n gweithio yn y Comisiwn Cystadleuaeth, y Comisiwn Archwilio ac yn yr ymgynghorydd McKinsey & Company. Mae'n eistedd ar Bwyllgor Sicrhau Ansawdd y Swyddfa Myfyrwyr.
Mae John wedi gwasanaethu fel Prif Weithredwr Dros Dro y Comisiwn ers Ebrill 2024.
Wrth groesawu’r penodiad , dywedodd Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, y Farwnes Kishwer Falkner:
“Roedd profiad rheoleiddio helaeth John, ynghyd â'i arweinyddiaeth sicr o'r EHRC yn y misoedd diwethaf, yn ei wneud yn ymgeisydd amlwg ar gyfer y rôl.
“Gyda’n gilydd, byddwn yn cyflwyno cynllun strategol newydd a fydd yn ein gosod ni fel rheoleiddiwr mwy ystwyth ac effeithiol ar gydraddoldeb a hawliau dynol i Brydain.”
Dywedodd John Kirkpatrick , Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Dyletswydd y Comisiwn yw hyrwyddo a chynnal cydraddoldeb a hawliau dynol, ac rwy’n falch iawn o gael y cyfle i’w arwain. Rwy'n falch o'r gwaith yr ydym eisoes wedi'i gyflawni yn fy amser yma, sydd wedi rhoi gwerthfawrogiad cynhwysfawr i mi o ehangder ein cyfrifoldebau a'r disgwyliadau sylweddol sydd arnom.
“Eisoes eleni rydym wedi lansio ymchwiliad i driniaeth rhai hawlwyr budd-dal anabl, wedi helpu cyflogwyr i ddeall eu cyfrifoldeb i amddiffyn staff sy'n profi'r menopos, wedi dwyn parc gwyliau poblogaidd i gyfrif am eu harferion gwahaniaethol ac wedi cadw ein hachrediad fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol 'Statws A'.
“Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda phawb a all helpu i sicrhau cynnydd tuag at Brydain decach drwy ddefnyddio ein pwerau a’n hadnoddau i wneud y gwahaniaeth mwyaf posibl i fywydau pobl.”