Mae’r gwaith o roi cynllun gweithredu ar waith i fynd i’r afael â gwahaniaethu yn erbyn Teithwyr Gwyddelig yn Pontins wedi dechrau heddiw.
Mae'r cynllun gweithredu, a ddatblygwyd gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), yn nodi'r camau y mae'n rhaid i Pontins eu cymryd i fynd i'r afael â'i bolisïau gwahaniaethol.
Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd yr EHRC ymchwiliad i Pontins a chyflwynodd hysbysiad gweithred anghyfreithlon i weithredwr y parc gwyliau. Datgelodd yr ymchwiliad systemau ac arferion cwmni gyda’r nod o wahardd Teithwyr Gwyddelig o’u parciau gwyliau rhwng 2013 a 2018.
Canfu ymchwiliad yr EHRC 11 o weithredoedd anghyfreithlon a oedd yn gwahaniaethu yn erbyn Teithwyr Gwyddelig. Roedd yr arferion gwahaniaethol yn cynnwys:
- monitro galwadau o fewn ei ganolfan gyswllt a gwrthod neu ganslo unrhyw archebion a wnaed gan bobl ag acen neu gyfenw Gwyddelig;
- rhestr o gyfenwau Gwyddelig, a gyhoeddwyd ar ei dudalen fewnrwyd, o'r enw 'gwesteion annymunol' a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i staff rwystro unrhyw ddarpar gwsmeriaid â'r enwau hynny rhag archebu; a
- cyflwyno gofyniad cofrestr etholiadol yn ei delerau ac amodau archebu fel math cudd o wahaniaethu yn erbyn y gymuned Teithwyr.
Bydd y cynllun gweithredu, y cytunwyd arno rhwng Pontins a’r EHRC, yn cyflwyno agwedd dim goddefgarwch tuag at wahaniaethu. Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar delerau'r gofrestr etholiadol gydag ymrwymiad i beidio ag ailgyflwyno'r term.
Er mwyn mynd i’r afael â’r gweithredoedd anghyfreithlon a ddatgelwyd gan y Comisiwn, bydd y camau y cytunwyd arnynt yn canolbwyntio ar fonitro polisïau archebu, cyflwyno mesurau diogelu mewn systemau a phrosesau, cynllun gweithredu chwythu’r chwiban ac ymgysylltu â chymunedau Teithwyr.
Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Ni ddylai hil ac ethnigrwydd byth fod yn rhwystr i fynd ar wyliau.
“Heddiw mae Pontins wedi ymddiheuro i’r gymuned Teithwyr Gwyddelig y gwahaniaethodd yn ei herbyn ac mae wedi dechrau ar y gwaith o gyflwyno mesurau diogelu llym a gwarantu ymagwedd dim goddefgarwch tuag at wahaniaethu.
“Rwy’n gobeithio y bydd y rhai yr effeithir arnynt yn dawel eu meddwl pan fydd y Comisiwn yn dod o hyd i dystiolaeth o wahaniaethu mor amlwg, ein bod yn gweithredu i ddwyn y rhai sy’n gyfrifol i gyfrif.
“Dylai’r sector gwyliau ehangach sicrhau nad yw eu polisïau a’u gweithdrefnau yn torri Cyfraith Cydraddoldeb. Argymhellodd adroddiad ein hymchwiliad ddileu telerau ac amodau'r gofrestr etholiadol ar draws y sector."
Drwy gyhoeddi ymddiheuriad ffurfiol i’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, mae Pontins yn rhoi cam cyntaf y cynllun gweithredu ar waith.
Dywedodd llefarydd ar ran Pontins:
"Ar ran y perchnogion, y cyfarwyddwyr, yr uwch reolwyr a phob un ohonom yma yn Pontins, hoffem ailadrodd ein hymddiheuriadau am y materion difrifol a godwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn eu hadroddiad. Yn benodol rydym am ymddiheuro'n uniongyrchol i'r gymuned teithwyr a sipsiwn. Roedd gwrthod caniatáu i westeion aros yn ein parciau oherwydd ein bod yn amau eu bod yn Deithwyr Gwyddelig yn amlwg yn anghywir.
“Rydym yn derbyn natur ddifrifol y materion a godwyd yn yr adroddiad. Yr ydym yn gresynu’n fawr am unrhyw drallod a achoswyd, yn enwedig i aelodau o’r cymunedau teithwyr a sipsiwn yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol.
“Gan weithio gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan weithredu dull dim goddefgarwch tuag at wahaniaethu o bob ffurf a meithrin amgylchedd cynhwysol a chroesawgar i’n holl westeion.
“Rydym wedi adolygu’r pwyntiau a godwyd gan y Comisiwn ac wedi datblygu ac ymrwymo i gynllun gweithredu blwyddyn, a fydd yn cael ei fonitro gan y Comisiwn, i sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â Deddf Cydraddoldeb 2010.”
Bydd y Comisiwn yn monitro gweithrediad y cynllun gweithredu.
Nodiadau i olygyddion
- Mae rhagor o wybodaeth am ymchwiliad yr EHRC i Pontins ar gael yma.
- Mae camau gweithredu allweddol o'r cynllun gweithredu y cytunwyd arno yn cynnwys
- Ymddiheuriad wedi'i anfon i'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yr effeithiwyd arnynt gan y materion yn yr adroddiad.
- Rhaglen ymgysylltu â'r Gymuned Sipsiwn a Theithwyr, gan gynnwys hyfforddiant gyda Chyfeillion, Teuluoedd, Teithwyr (FTT) a chyfarfod lefel Cyfarwyddwr wyneb yn wyneb gyda FTT i drafod materion a wynebir gan GTC a ffyrdd y gall Pontins wella.
- Dileu telerau ac amodau’r gofrestr etholiadol (wedi’u dileu eisoes) gydag ymrwymiad i beidio ag ailgyflwyno’r telerau hynny.
- Ymrwymiad i ddim goddefgarwch i wahaniaethu o bob math a chyfathrebu â staff yn amlinellu'r ymrwymiad hwnnw.
- Cynllun gweithredu chwythu’r chwiban i gryfhau amddiffyniadau ar gyfer chwythwyr chwiban, i gynnwys rhaglen hyfforddi i staff, diweddaru polisïau a gweithdrefnau.
- Adolygu a diweddaru polisïau a gweithdrefnau i sicrhau bod mesurau diogelu priodol yn bodoli ynghylch y broses gwrthod dychwelyd, canslo parciau a chwynion gwesteion.
- Rhaglen hyfforddi ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, i gynnwys rhwymedigaethau Pontins fel darparwr gwasanaeth o dan Ran 3 o Ddeddf Cydraddoldeb (Gwasanaethau) 2010.
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com