Newyddion

Datganiad EHRC ar newidiadau i gymhwysedd Taliad Tanwydd Gaeaf

Wedi ei gyhoeddi: 13 Medi 2024

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau’r llywodraeth roi sylw dyledus i sut mae eu polisïau a’u penderfyniadau’n effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig.

“Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, rydym wedi ysgrifennu at Drysorlys Ei Fawrhydi i’w hatgoffa o’u rhwymedigaeth i ystyried effaith cydraddoldeb newidiadau i gymhwysedd ar gyfer Taliadau Tanwydd Gaeaf, ac i allu dangos tystiolaeth eu bod wedi gwneud hynny.