Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb

Wedi ei gyhoeddi: 11 Medi 2019

Diweddarwyd diwethaf: 11 Medi 2019

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) yn wasanaeth cynghori annibynnol, nad yw’n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Mae’r gwasanaeth wedi’i anelu at unigolion sydd angen gwybodaeth, cyngor a chymorth ar faterion gwahaniaethu a hawliau dynol a’r gyfraith berthnasol, yn enwedig pan fo hyn yn fwy nag y gall asiantaethau cynghori a sefydliadau lleol eraill ei ddarparu.

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

Manylion cyswllt y gwasanaeth yw:

Ffôn: 0808 800 0082

Gallwch anfon e-bost gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.

Hefyd ar gael trwy'r wefan mae dehongliad BSL, gwasanaethau gwe-sgwrs a ffurflen cysylltu â ni.

Post:
RHADBOST
LLINELL GYMORTH EASS
FPN6521

Oriau agor:

9yb i 7yp o ddydd Llun i ddydd Gwener
10yb i 2yp dydd Sadwrn
ar gau ar y Sul a Gwyliau Banc

Ynghylch yr EASS

Comisiynir EASS gan y llywodraeth ac mae'n gweithio gyda sefydliadau cynghori eraill a chyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ni all y Comisiwn ymateb i ymholiadau unigol am gyngor a chymorth gan mai dyma rôl EASS. Os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth y mae EASS wedi'i ddarparu, dilynwch broses gwyno EASS.

Gall yr EASS:

  • rhoi cyngor pwrpasol i unigolion ar draws Prydain Fawr gyfan ar faterion gwahaniaethu
  • esbonio hawliau cyfreithiol a rhwymedïau o fewn deddfwriaeth gwahaniaethu, ar draws y tair gwlad
  • esbonio opsiynau ar gyfer datrysiad anffurfiol a helpu pobl i fynd ar eu trywydd
  • cyfeirio pobl na allant neu nad ydynt yn dymuno dilyn y trywydd hwn at wasanaethau cymodi neu gyfryngu
  • helpu pobl sydd angen neu sydd eisiau dod o hyd i ateb cyfreithiol trwy helpu i sefydlu cymhwyster ar gyfer cymorth cyfreithiol ac, os nad ydynt yn gymwys, i ddod o hyd i wasanaeth cyfreithiol hygyrch neu i baratoi a chyflwyno hawliad eu hunain

Ond ni all:

  • darparu cyngor cyfreithiol
  • darparu cynrychiolaeth mewn unrhyw achos cyfreithiol
  • darparu cyngor ar weithdrefnau llys neu dribiwnlys ar ôl i hawliad gael ei gyhoeddi
  • cynghori ar gryfder achos neu'r dystiolaeth sydd ei hangen i brofi achos
  • darparu cyngor i gyflogwyr
  • darparu cyngor i gyfreithwyr a chynghorwyr proffesiynol eraill

Diweddariadau tudalennau

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082