I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Disgwylir i'n staff drin unigolion â chwrteisi, parch a thegwch. Yn yr un modd, disgwyliwn i'n staff gael eu trin yn yr un modd.
Mae gennym ddyletswydd i ddiogelu lles a diogelwch staff. Lle mae unigolion yn ymddwyn yn annerbyniol neu'n afresymol, byddwn yn cyfeirio at y polisi hwn.
Ymddygiad annerbyniol
Rydym yn deall y gall pobl ymddwyn yn groes i’w cymeriad ar adegau o drallod neu oherwydd rhwystredigaeth. Fodd bynnag, os try'r rhwystredigaeth honno'n ymosodol neu'n gamdriniaeth tuag at ein staff, ni fyddwn yn derbyn hynny.
Mae gan ein staff yr hawl i wneud eu gwaith yn rhydd o ymddygiad ymosodol neu gamdriniaeth a disgwyliwn iddynt gael eu trin â chwrteisi a pharch. Gall ymddygiad ymosodol neu gamdriniol gynnwys:
- bygythiadau o niwed corfforol neu niwed corfforol gwirioneddol
- ymddygiad neu iaith (llafar neu ysgrifenedig) a all achosi i staff deimlo’n sarhaus, yn ofnus, dan fygythiad neu’n cael eu cam-drin
- iaith sarhaus neu ddiraddiol
- gwrthwynebiadau personol tuag at rai staff
- gwneud honiadau difrifol yn erbyn staff heb unrhyw dystiolaeth
Efallai y byddwn hefyd yn penderfynu bod sylwadau sydd wedi’u hanelu nid atom ni ond at drydydd partïon yn annerbyniol oherwydd yr effaith y gallai gwrando arnynt neu eu darllen ei chael ar ein staff.
Gofynion afresymol
Gall gofyniad fod yn afresymol os gallai ei drin gymryd gormod o amser staff. Fel sefydliad a ariennir yn gyhoeddus, gydag adnoddau cyfyngedig i ymateb, gallai hyn atal cwynion eraill rhag cael eu trin mewn pryd.
Mae’n bosibl y byddwn yn penderfynu bod gofyniad yn afresymol os ydych, er enghraifft:
- mynnu ymatebion o fewn amserlen afresymol
- mynnu gweld neu siarad â rhywun uwch neu aelod penodol o staff pan nad yw hynny’n bosibl
- parhau i newid yr hyn y mae eich cwyn yn ymwneud ag ef
- parhau i godi pryderon newydd neu anghysylltiedig
Amlder neu hyd cyswllt afresymol
Gall y nifer o weithiau y byddwch yn cysylltu â ni, neu hyd pob cyswllt, achosi problemau i'n staff.
Gall lefel y cyswllt ddod yn annerbyniol pan fydd yr amser a dreulir yn siarad ag unigolyn dros y ffôn, neu'n ymateb i, adolygu a ffeilio e-byst neu ohebiaeth ysgrifenedig, yn golygu ein bod yn cael trafferth delio â'r gŵyn honno, neu â chwynion pobl eraill.
Sut rydym yn rheoli ymddygiad annerbyniol ac afresymol
Os teimlwn fod ymddygiad yn annerbyniol neu’n afresymol, gallwn gymryd unrhyw un o’r camau canlynol:
- cyfyngu neu derfynu cyswllt ar y mater
- cyfyngu cyswllt ar bob mater
- gofyn i bob cyswllt yn y dyfodol gael ei wneud drwy eiriolwr trydydd parti
- terfynu cyswllt yn gyfan gwbl am gyfnod o amser
- adrodd am ddigwyddiadau i’r heddlu (er enghraifft, os yw trais wedi’i fygwth)
- cymryd unrhyw gamau eraill sy’n briodol yn ein barn ni (mewn achosion eithafol, gall hyn gynnwys rhwystro galwadau a dychwelyd gohebiaeth)
Lle mae staff yn ystyried yr uchod neu wedi gorfod gweithredu ar unwaith (er enghraifft, dod â galwad ffôn i ben), dylent drafod hyn gyda’u rheolwr a/neu Gyfraith a Llywodraethu Corfforaethol. Bydd Cyfraith a Llywodraethu Corfforaethol wedyn yn ystyried gyda staff pa gamau sy'n briodol (os o gwbl). Byddwn yn rhoi gwybod i'r unigolyn am y camau yr ydym yn eu cymryd a'r rheswm dros hynny. Gall hyn gynnwys pa mor hir y bydd cyfyngiadau ar waith.
Wrth wneud ein penderfyniad, efallai y byddwn yn ystyried:
- sut mae'n effeithio ar ein staff
- sut mae’n effeithio ar yr unigolyn (gan gynnwys ei amgylchiadau personol ac unrhyw addasiadau rhesymol)
- i ba raddau y gallwn ymgysylltu neu gynorthwyo
- i ba raddau y mae'r broses neu'r pwnc wedi'i ddihysbyddu
Gall y broses hon gael ei hailystyried gennym ni os yw’r unigolyn yn ymrwymo i ymddwyn gyda chwrteisi, parch a thegwch ac :
- mae peth amser wedi mynd heibio
- mae dewis arall mwy addas ar gael
- rydym yn derbyn tystiolaeth bod rhesymau eithriadol dros yr ymddygiad
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
23 Tachwedd 2021
Diweddarwyd diwethaf
23 Tachwedd 2021