Polisi cwynion

Wedi ei gyhoeddi: 27 Hydref 2023

Diweddarwyd diwethaf: 27 Hydref 2023

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae'r polisi hwn yn ymdrin â sut yr ydym yn ymdrin â chwynion am safon ein gwasanaeth ac ymddygiad ein staff wrth ddarparu'r gwasanaeth hwnnw.

Rydym yn cyfeirio at y cwynion hyn fel 'cwynion gwasanaeth'.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bawb rydym yn delio â nhw. I wneud hyn mae angen i chi roi unrhyw sylwadau i ni am ein gwasanaeth, a dweud wrthym pan fyddwn yn cael pethau'n anghywir. Rydym am eich helpu i ddatrys eich cwyn cyn gynted â phosibl.

Rydym yn trin fel cwyn unrhyw fynegiant o anfodlonrwydd gyda'n gwasanaeth sy'n galw am ymateb. Rydym yn gwrando ar eich cwynion, yn eu trin o ddifrif, ac yn dysgu oddi wrthynt fel y gallwn wella ein gwasanaeth yn barhaus.

Cwrteisi a pharch

Gallwch ddisgwyl cael eich trin â chwrteisi, parch a thegwch bob amser. Disgwyliwn y byddwch hefyd yn trin ein staff sy'n delio â'ch cwyn gyda'r un cwrteisi, parch a thegwch

Ni fyddwn yn goddef ymddygiad bygythiol, difrïol neu afresymol gan unrhyw achwynydd. Mae sefyllfaoedd o’r fath yn brin, fodd bynnag, pe baent yn digwydd, byddwn yn rhoi’r gorau i gyfathrebu â’r achwynydd ar unwaith yn unol â’n polisi ymddygiad annerbyniol ac afresymol .

Addasiadau rhesymol

Ein nod yw gwneud ein polisi cwynion gwasanaeth yn hawdd ei ddefnyddio ac yn hygyrch i bawb. Byddwn yn cymryd camau i wneud unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen i gael mynediad at y polisi hwn, neu unrhyw geisiadau i ddarparu ymatebion mewn fformatau eraill.

Os na allwch gysylltu â ni yn ysgrifenedig oherwydd anabledd a bod angen addasiad rhesymol arnoch, ffoniwch ni ar: 0161 829 8327.

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau