Newyddion

Prifysgol Bryste v Abrahart: corff gwarchod cydraddoldeb yn ymateb i ddyfarniad mewn achos nodedig

Wedi ei gyhoeddi: 14 Chwefror 2024

Heddiw (14 Chwefror 2024) dyfarnodd yr Uchel Lys fod Prifysgol Bryste wedi methu â gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer myfyrwraig 20 oed a ddioddefodd bryder cymdeithasol.

Penderfynodd y llys hefyd y gwahaniaethwyd yn anuniongyrchol yn ei herbyn ac y gwahaniaethwyd yn ei herbyn ar sail anabledd.

Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, croesawyd ymyrraeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn yr achos trasig hwn gan y barnwr.

Cododd yr achos, Prifysgol Bryste v Dr Robert Abrahart , o apêl y Brifysgol yn erbyn dyfarniad Mai 2022 gan Lys Sirol Bryste bod y Brifysgol wedi cyfrannu at farwolaeth Natasha Abrahart, drwy wahaniaethu yn ei herbyn ar sail anabledd yn groes i’r Deddf Cydraddoldeb 2010.

Roedd gan Natasha hanes hysbys o bryder cymdeithasol ac roedd staff yn ymwybodol ei bod wedi methu neu wedi cael trafferth cymryd rhan mewn sawl asesiad llafar yn ystod y flwyddyn academaidd honno.

Roedd y Brifysgol hefyd yn ymwybodol ei bod wedi ceisio triniaeth feddygol ar gyfer ei hiechyd meddwl.

Yn anffodus, cymerodd Natasha ei bywyd ei hun ym mis Ebrill 2018, ar y bore roedd hi i fod i roi cyflwyniad i gyd-fyfyrwyr a darlithwyr.

Roedd y Comisiwn yn gallu ymyrryd yn yr achos hwn o dan a30 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006.

Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Rydym yn croesawu’r dyfarniad hwn a heddiw mae ein meddyliau’n gadarn gydag anwyliaid Natasha.

“Fel y rheoleiddiwr cydraddoldeb, fe wnaethom gynorthwyo’r llys i benderfynu sut y dylai prifysgolion ymdrin â’u dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol, gan gofio natur ragweladwy y ddyletswydd honno.

“Er y byddwn yn cymryd amser i ystyried dyfarniad heddiw yn llawn, mae’n rhoi eglurder ar y dull y dylai prifysgolion ei fabwysiadu mewn perthynas â pha rannau o arholiad neu asesiad ddylai fod yn gyfystyr â safonau cymhwysedd.

“Bydd yr achos hwn yn helpu i sicrhau bod prifysgolion yn elwa ar ganllawiau cliriach ar eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, pan fyddant yn codi, a lle gellir cymhwyso’r eithriad safon cymhwysedd.

“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd myfyrwyr anabl presennol a darpar fyfyrwyr anabl yn teimlo eu bod wedi’u grymuso gan y dyfarniad hwn, sy’n rhoi eglurder iddynt ynghylch yr hyn y dylent ei ddisgwyl gan eu prifysgol.”

Nodiadau i Olygyddion