Newyddion

Rheoleiddiwr cydraddoldeb yn briffio ASAau ar ddiwygio cydnabod rhywedd

Wedi ei gyhoeddi: 14 Tachwedd 2022

Mae rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, wedi cynghori llywodraethau’r Alban a’r DU ar oblygiadau’r Bil Cydnabod Rhywedd (yr Alban) ar gyfer gweithredu Deddf Cydraddoldeb 2010.

Er mwyn cynorthwyo ASAau wrth iddynt ystyried manylion y Bil yng Nghyfnod 2 o'r broses Seneddol, rydym wedi darparu briff ar y Bil a'i welliannau arfaethedig.

Mae’r papur briffio’n egluro prif oblygiadau’r Bil i’r Alban a rhannau eraill o Brydain, ac effaith y gwelliannau a gynigir gan ASAau, gan gynnwys mewn perthynas â’r gostyngiad arfaethedig yn yr oedran y gall person ifanc newid ei ryw cyfreithlon o 18 i 16 oed, y mae gennym bryderon penodol yn eu cylch.

Rydym yn cydnabod mai 16 yw oedran gallu cyfreithiol yn yr Alban ac rydym yn llwyr gefnogi hawliau pobl ifanc i archwilio eu hunaniaeth rhywedd yn rhydd ac yn ddiogel. Fodd bynnag, mae gennym bryderon efallai na fydd gan bobl ifanc yn yr Alban, fel yng ngweddill Prydain, fynediad at yr wybodaeth angenrheidiol a chymorth proffesiynol i’w harwain drwy broses o gydnabod rhywedd yn gyfreithiol na mynediad at gymorth dilynol.

Dywedodd y Farwnes Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y broses barhaus o graffu seneddol yn Holyrood yn mynd i’r afael â’r pwyntiau rydyn ni wedi’u codi yn ein sesiwn friffio ar gyfer ASAau, ac yn ein gohebiaeth â llywodraethau’r Alban a’r DU.

“Bydd cymryd amser i gael y gyfraith yn gywir a datrys goblygiadau cael prosesau gwahanol ar gyfer cael cydnabyddiaeth gyfreithiol o’r rhywiau o fudd i bawb, gan gynnwys pobl draws yn yr Alban, Lloegr a Chymru, yn ogystal ag ysgolion, colegau a phrifysgolion, cyflogwyr, busnesau a sefydliadau eraill. 

“Lle mae newidiadau i’r gyfraith yn creu ansicrwydd am yr amddiffyniadau yn y Ddeddf Cydraddoldeb, mae’n ddyletswydd arnom i godi llais er mwyn sicrhau bod pawb ym Mhrydain yn cael eu trin yn deg a bod y gyfraith yn glir ac yn orfodadwy.”

Darllenwch ein papur briffio ar gyfer ASAau (cyhoeddwyd 14 Tachwedd 2022):

Darllenwch ein cyngor i lywodraethau’r Alban a’r DU (cyhoeddwyd 5 Hydref 2022):

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com