Newyddion

Datganiad ar achos gwahaniaethu ar sail hil Rico Quitongo

Wedi ei gyhoeddi: 24 Tachwedd 2022

Mae’r pêl-droediwr Rico Quitongo wedi bod yn aflwyddiannus yn ei hawliad gwahaniaethu ar sail hil yn erbyn ei gyn glwb a chyfarwyddwr clwb.

Roedd yr honiad yn dilyn digwyddiad honedig o hiliaeth yn erbyn Mr Quitongo gan gefnogwr yn ystod gêm ym mis Medi 2021, a ddeilliodd o’r ffordd yr ymdriniwyd â’r mater wedi hynny gan Airdrieonians FC.

Cyd-ariannodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) ac undeb y pêl-droedwyr proffesiynol yn yr Alban (PFA Scotland) achos Mr Quitongo.

Gyda’i gilydd mae’r CCHD a PFA Scotland yn siomedig bod tribiwnlys cyflogaeth wedi dyfarnu nad oedd gweithredoedd y clwb a’i gyfarwyddwr yn gyfystyr â thorri Deddf Cydraddoldeb 2010.

Mae Cymdeithas Bêl-droed yr Alban wedi cychwyn eu hymchwiliad eu hunain i honiadau Mr Quitongo o wahaniaethu ar sail hil.

Dywedodd y Farwnes Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Does dim lle i hiliaeth mewn chwaraeon nac unrhyw ran arall o gymdeithas.

“Cefnogodd y CCHD yr achos hwn drwy ein cynllun cymorth cyfreithiol, sy’n ceisio gwella canlyniadau i ddioddefwyr gwahaniaethu hiliol ac aflonyddu. Gobeithiwn fod hwn yn gyfle i glybiau pêl-droed ledled Prydain ddeall yn well eu dyletswydd i amddiffyn eu gweithwyr a thrin honiadau yn unol â’r gyfraith.

“Mae gan chwaraeon ran bwysig i’w chwarae wrth ddod â’n cymunedau ynghyd, hyrwyddo dealltwriaeth a meithrin parch at wahaniaeth.

“Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn barod i weithio gyda phêl-droed yr Alban i helpu i ddileu gwahaniaethu o’r gêm hardd.”

Dywedodd Margaret Gribbon, cyfreithiwr gyda Bridge Employment Solicitors yn cynrychioli Rico Quitongo:

“Rydym yn ystyried yn ofalus ddyfarniad 130 tudalen y tribiwnlys cyflogaeth sydd yn amlwg wedi peri gofid a siom i Rico.

“Roedd Rico wedi ymrwymo’n gryf i fynd ar drywydd yr hawliad cyfreithiol hwn er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw bêl-droediwr arall yn profi’r hyn a brofwyd ganddo. Mae'n hynod ddiolchgar i dystion a roddodd dystiolaeth o'u profiadau eu hunain o hiliaeth ac a ddywedodd wrth y tribiwnlys iddynt ei glywed yn cael ei gam-drin yn hiliol.

“Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i Rico a’i deulu, gan ei fod wedi delio ag effaith bersonol a phroffesiynol yr hyn a brofodd.

“Dymuna Rico ddiolch i PFA Scotland a’r CCHD am eu cefnogaeth.”

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Mae PFA Scotland hefyd wedi cyhoeddi datganiad mewn ymateb i ddyfarniad y tribiwnlys cyflogaeth, sydd ar gael yma .
  2. Bydd dyfarniad llawn y tribiwnlys cyflogaeth, yn achos Rico Quitongo (Hawliwr) -v- Airdrieonians FC Ltd (“R1”) a Mr Paul Anthony Hetherington (“R2”), yn cael ei gyhoeddi yma.
  3. Ariannodd y CCHD ac undeb PFA Scotland yr achos hwn ar y cyd. Ariannodd y CCHD yr achos hwn yn rhannol trwy ei gynllun cymorth cyfreithiol, sy'n ceisio gwella canlyniadau i ddioddefwyr gwahaniaethu hiliol ac aflonyddu trwy dalu costau cymryd camau cyfreithiol.
  4. Gall unigolion ag achos gwahaniaethu ar sail hil gael cyllid drwy'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS). Fel arall, gall ymarferwyr cyfreithiol wneud cais am gymorth tuag at achosion eu cleientiaid. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalen cynllun cymorth cyfreithiol.
  5. Mae gwybodaeth am yr hyn sy'n gyfystyr ag aflonyddu ac erledigaeth o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar gael ar ein gwefan yma .