Newyddion

Comisiynydd newydd wedi'i benodi i'r CCHD

Wedi ei gyhoeddi: 17 Ionawr 2023

Mae Joanne Cash wedi’i phenodi’n Gomisiynydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD), fel y cyhoeddwyd gan Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth (16 Ionawr).

Yn gyn-fargyfreithiwr ac yn gynghorydd i’r llywodraeth, daw Joanne â chyfoeth o arbenigedd cyfreithiol, busnes ac ariannol i’r Comisiwn.

Daw penodiad Joanne yn dilyn y cyhoeddiad diweddar fod Arif Ahmed MBE a Kunle Olulode MBE wedi’u penodi’n ddau Gomisiynydd newydd.

Dywedodd y Farwnes Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Rwy’n falch iawn o groesawu Joanne i’r CCHD ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi, Arif a Kunle i barhau a datblygu ein gwaith pwysig.

“Bydd ei gwybodaeth a’i phrofiad fel bargyfreithiwr hawliau dynol a chynghorydd i’r llywodraeth ar gyfraith a pholisi hawliau dynol yn dod â gwerth mawr i lywodraethiant a chyfeiriad y Comisiwn.

“Mae’r CCHD yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo a chynnal cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Yn dilyn y penodiadau diweddar hyn rwy’n hyderus y bydd amrywiaeth ein Bwrdd yn sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni’r ymrwymiad hwn.”

 

Nodiadau i Olygyddion:

  • Penodiadau cyhoeddus a wneir gan y Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldeb yw Comisiynwyr y Comisiwn.
  • Mae ein llawlyfr llywodraethu yn nodi’n fanwl rolau a chyfrifoldebau’r Bwrdd Comisiynwyr, ein pwyllgorau statudol ac anstatudol, uwch reolwyr a swyddogion.
  • Mae ein perthynas â’r llywodraeth, a sut mae’r Comisiwn yn gweithredu fel corff annibynnol hyd braich wedi’i nodi mewn dogfen fframwaith y Llywodraeth-Comisiwn .

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com