Newyddion

Comisiynwyr newydd wedi'u penodi i'r CCHD

Wedi ei gyhoeddi: 4 Rhagfyr 2022

Mae dau Gomisiynydd newydd wedi’u penodi i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD), fel y cyhoeddwyd gan Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth heddiw (dydd Sul 4 Rhagfyr).

Gan ddod â chyfoeth o sgiliau a phrofiad, mae’r Comisiynwyr newydd fel a ganlyn:

  • Arif Ahmed MBE
  • Kunle Olulode MBE

Dywedodd y Farwnes Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Rydym yn llongyfarch Arif a Kunle ar eu penodiad ac yn falch iawn o’u croesawu i’r CCHD.

“Bydd eu harbenigedd a’u harweinyddiaeth gyfunol ar draws addysg uwch, cymdeithas sifil a’r sector cyhoeddus yn dod â budd mawr i’n gwaith yn diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol ledled Prydain.

“Ochr yn ochr â phrofiad a hanes y Comisiynwyr presennol, rwy’n hyderus bod gan y Comisiwn yn awr un o’i Fyrddau mwyaf amrywiol erioed. Edrychaf ymlaen at weithio gydag Arif a Kunle i barhau â’n gwaith pwysig.”

Nodiadau i Olygyddion:

  • Penodiadau cyhoeddus a wneir gan y Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldeb yw Comisiynwyr y Comisiwn.
  • Mae ein llawlyfr llywodraethu yn nodi’n fanwl rolau a chyfrifoldebau’r Bwrdd Comisiynwyr, ein pwyllgorau statudol ac anstatudol, uwch reolwyr a swyddogion.
  • Mae ein perthynas â’r llywodraeth, a sut mae’r Comisiwn yn gweithredu fel corff annibynnol hyd braich wedi’i nodi mewn dogfen fframwaith y Llywodraeth-Comisiwn .

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com