Newyddion

CCHD yn cyhoeddi cynllun i fynd i’r afael â’r heriau cydraddoldeb a hawliau dynol mwyaf ym Mhrydain heddiw

Wedi ei gyhoeddi: 31 Mawrth 2022

Mae dileu arfer gwahaniaethol yn y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ac ar-lein ymhlith blaenoriaethau strategaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw i fynd i’r afael â’r heriau cydraddoldeb a hawliau dynol mwyaf arwyddocaol sy’n wynebu Prydain fodern.

Mae cynllun strategol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2022 i 2025 yn nodi chwe maes blaenoriaeth i wella bywydau pawb yn y wlad wrth i ni ddod allan o bandemig Covid-19, sef:

  • cydraddoldeb mewn gweithle sy'n newid
  • cydraddoldeb i blant a phobl ifanc
  • cynnal hawliau a chydraddoldeb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
  • mynd i’r afael ag effaith gwasanaethau digidol a deallusrwydd artiffisial ar gydraddoldeb a hawliau dynol
  • meithrin perthynas dda a hybu parch rhwng grwpiau
  • sicrhau fframwaith cyfreithiol effeithiol i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol

Mae’r blaenoriaethau hyn wedi’u llywio gan farn pobl a sefydliadau ledled Prydain, yn ogystal ag asesiad trylwyr y CCHD o’r data a’r dystiolaeth.

Am y tro cyntaf, bydd y Comisiwn yn archwilio'r goblygiadau i hawliau pobl yn ein cymdeithas gynyddol ddigidol. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw arferion gwahaniaethol mewn systemau sy'n seiliedig ar algorithmau, boed hynny wrth recriwtio, gwasanaethau cyhoeddus neu addysg, yn cael eu nodi a'u herio.

Bydd y Comisiwn hefyd yn gweithio i feithrin cysylltiadau da rhwng gwahanol grwpiau, yn enwedig lle gall dadl ymrannol atgyfnerthu rhagfarnau neu leihau cydlyniant cymdeithasol.

Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, cadeirydd y CCHD:

Mae ein strategaeth newydd yn darparu map ffordd ar gyfer gwaith y Comisiwn dros y tair blynedd nesaf, gan gyfeirio at y meysydd pwysig y byddwn yn canolbwyntio ein sylw ac adnoddau arnynt.

Mae’r strategaeth wedi’i llywio gan farn pobl a sefydliadau ledled y wlad, felly rydym yn gwybod ei bod yn adlewyrchu pryderon cymdeithasol ehangach ynghylch blaenoriaethau cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain.

Byddwn yn canolbwyntio ar ble y gallwn wneud gwahaniaeth parhaol, cadarnhaol i fywydau pobl, tra'n cadw'r gallu i ymateb i heriau sy'n dod i'r amlwg.

Byddwn yn ddi-ofn wrth ddefnyddio ein pwerau i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, gwella canlyniadau cydraddoldeb, ac amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n partneriaid ledled Prydain – llywodraethau, rheoleiddwyr, cymdeithas sifil a phobl o bob cefndir – i gyflawni’r blaenoriaethau hyn.

Nodiadau i olygyddion

Mae’r strategaeth, a osodwyd gerbron y Senedd yr wythnos hon ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus, yn nodi sut y byddwn yn adeiladu ar waith presennol i sicrhau ein bod yn rheoleiddiwr cryf sy’n effeithiol wrth orfodi cydymffurfiaeth â chyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol.

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com