Newyddion

Adroddiad wedi'i gyhoeddi yn dilyn gradd 'statws A' y Comisiwn

Wedi ei gyhoeddi: 9 Tachwedd 2022

Yn dilyn y newyddion y mis diwethaf ein bod wedi cadw ein statws A fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol, mae Cynghrair Byd-eang y Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol (GANHRI) bellach wedi cyhoeddi ei adroddiad llawn ar yr holl sefydliadau a adolygodd y sesiwn hon.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys yr argymhellion a wnaed ym mhob adolygiad cyfnodol i gryfhau gwaith pob sefydliad a aseswyd.

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd y Farwnes Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Rydym yn falch iawn o gael ein hail-achredu fel sefydliad ‘statws A’ ac yn croesawu’r adroddiad hwn a’r argymhellion a gyhoeddwyd gan GANHRI heddiw.

“Mae’n rhoi cydnabyddiaeth glir o’n statws fel amddiffynwr annibynnol dros hawliau dynol ac yn dangos ein bod yn gosod esiampl bwerus ar y llwyfan byd-eang.

“Mae amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol wrth wraidd popeth a wnawn. Dyna pam rwy’n falch o weld yr argymhellion yn ein gwahodd i barhau â’n gwaith craidd, ceisio cryfhau ein pwerau a’n sefydliad ymhellach, a pharhau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.”

Nodiadau i Olygyddion:

  • I grynhoi, maent yn gwahodd y CCHD i:
    • Ehangu ein mandad amddiffyn hawliau dynol
    • Parhau i fynd i'r afael â materion hawliau dynol ar draws yr holl feysydd perthnasol
    • Cydweithio â sefydliadau cymdeithas sifil
    • Sicrhau plwraliaeth ac amrywiaeth yn ein haelodaeth bwrdd
    • Eiriol dros ffurfioli proses ddethol a phenodi ein Comisiynwyr
    • Eiriol dros ddiwygiadau ynghylch y darpariaethau ar gyfer diswyddo Comisiynwyr
    • Eiriol dros fwy o ymreolaeth ariannol oddi wrth y llywodraeth ganolog
  • O bryd i'w gilydd mae GANHRI yn adolygu ac yn achredu Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRIs) bob rhyw bum mlynedd. Cafodd y CCHD ei ailachredu ddiwethaf fel NHRI ‘statws A’ yn 2015, a chyn hynny yn 2008.
  • Asesir NHRI yn erbyn Egwyddorion Paris. Mae'r rhain yn gofyn iddynt:
    • Bod yn gymwys i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol
    • Bod â mandad cyfansoddiadol a deddfwriaethol eang, clir
    • Cyflwyno cyngor ar faterion hawliau dynol i'r llywodraeth a'r Senedd
    • Cydweithredu â'r Cenhedloedd Unedig a sefydliadau rhyngwladol eraill i amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol
    • Hyrwyddo addysg hawliau dynol mewn ysgolion, prifysgolion a chylchoedd proffesiynol
    • Mynd i'r afael â phob math o wahaniaethu drwy gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o hawliau dynol
    • Sicrhau cynrychiolaeth luosog yn ei benodiadau
    • Cael cyllid digonol
    • Bod yn annibynnol wrth wneud penderfyniadau a gweithredu
    • Mae rhagor o wybodaeth am Egwyddorion Paris ar gael ar wefan y Cenhedloedd Unedig
  • Mae dwy lefel o achrediad, gan raddio cydymffurfiaeth NHRI ag Egwyddorion Paris:
    • 'A' – cydymffurfio'n llawn
    • 'B' – cydymffurfio'n rhannol
    • Mae NHRI nad ydynt yn cydymffurfio yn cael eu graddio fel rhai 'heb eu hachredu'.