Newyddion

Masnachfreintiau McDonald's wedi'u rhybuddio gan reoleiddiwr cydraddoldeb i gydymffurfio â dyletswyddau cyfreithiol neu wynebu camau gorfodi

Wedi ei gyhoeddi: 14 Mawrth 2025

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at bob masnachfraint McDonald's ym Mhrydain i'w hatgoffa o'u dyletswyddau cyfreithiol a chanlyniadau methu â'u cyflawni.

Roedd y llythyrau, a gyrhaeddodd gyda masnachfreintiau ar 14eg Mawrth, yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i bob bwyty ei wneud i gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac atal gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth ar eu gweithwyr. Mae’r EHRC yn rhybuddio masnachfreintiau y bydd unrhyw fethiant i gydymffurfio yn eu gadael “mewn perygl o gamau gorfodi.”

Llofnododd McDonald's Restaurants Limited (MRL), yr enw y mae McDonald's yn masnachu ym Mhrydain Fawr oddi tano, gytundeb cyfreithiol-rwym gyda'r EHRC i atal aflonyddu rhywiol yn y bwytai y mae'n eu gweithredu yn 2023. Nid yw masnachfreintiau unigol yn bartïon i'r cytundeb. Mae’r llythyr a anfonwyd ddoe yn egluro, er y gallai masnachfreintiau fod yn gweithio ochr yn ochr â’r rhiant-gwmni MRL i fynd i’r afael â’r materion ac efallai eu bod eisoes wedi cymryd rhai camau, eu cyfrifoldeb hwy eu hunain yw cydymffurfio’n llawn â’r gyfraith.

Daw ymyrraeth ddiweddaraf y rheoleiddiwr cydraddoldeb ar ôl i honiadau newydd o aflonyddu a gwahaniaethu mewn bwytai McDonald’s gael eu datgelu gan y BBC ym mis Ionawr. Yn dilyn hynny cyfeiriodd Prif Swyddog Gweithredol y cwmni Alistair Macrow at yr honiadau mewn tystiolaeth lafar a roddwyd i Bwyllgor Busnes a Masnach Tŷ’r Cyffredin.

Dywedodd John Kirkpatrick, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Rhaid i bob busnes ym Mhrydain, boed yn fach neu’n fawr, gydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb. Nid yw perchnogion masnachfreintiau McDonald's yn eithriad ac rydym wedi ysgrifennu atynt yn uniongyrchol i egluro eu rhwymedigaethau.

“Rydyn ni’n gwybod y gallai rhai perchnogion busnes fod yn ansicr pa gamau y mae angen iddyn nhw eu cymryd, a dyna pam rydyn ni wedi creu canllawiau clir a hawdd eu dilyn sy’n esbonio sut gall busnesau fodloni eu dyletswyddau cyfreithiol. Mae hwn ar gael ar ein gwefan ac rydym wedi ei rannu â holl fasnachfreintiau McDonald's felly nid oes esgus i beidio â chydymffurfio.

“Ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau rheoleiddio priodol os ydym yn credu bod busnes yn torri cyfraith cydraddoldeb.

“Ymhellach i’r ymyriad hwn, rydym yn gweithio’n ddiwyd gyda McDonald’s Restaurants Limited i gryfhau ein cytundeb cyfreithiol parhaus gyda nhw yng ngoleuni’r honiadau difrifol a godwyd gan weithwyr.”

Beth mae'r llythyr yn ei ddweud?

Mae’r llythyr yn egluro bod yn rhaid i gyflogwyr, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sicrhau nad yw gweithwyr yn destun gwahaniaethu neu aflonyddu anghyfreithlon ar sail unrhyw un o’r naw nodwedd warchodedig a nodir yn y Ddeddf. Bydd cyflogwyr yn atebol am unrhyw weithredoedd o wahaniaethu neu aflonyddu y mae eu gweithwyr yn eu cyflawni, oni bai bod y cyflogwr yn gallu dangos eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol i atal y gweithredoedd anghyfreithlon hynny.

Ers mis Hydref 2024, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cynnwys dyletswydd newydd ar gyflogwyr i gymryd camau rhesymol i atal gweithwyr rhag wynebu aflonyddu rhywiol (a elwir hefyd yn ddyletswydd ataliol). Mae'r ddyletswydd hon yn cynnwys atal aflonyddu nid yn unig gan gydweithwyr, ond hefyd gan drydydd partïon fel cyflenwyr a chwsmeriaid. Mae'n ofynnol i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i osgoi aflonyddu ac ni ddylent aros nes bod cwyn o aflonyddu rhywiol cyn gweithredu.

Gallai camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol gynnwys asesiadau risg rheolaidd, sicrhau bod gweithwyr iau neu fwy agored i niwed yn cael eu diogelu'n briodol, a sicrhau yr ymdrinnir â chwynion yn sensitif ac yn effeithiol trwy weithdrefn sefydledig.

Beth fydd yn digwydd os nad yw masnachfreintiau yn cydymffurfio?

Mae’r rheoleiddiwr cydraddoldeb yn nodi’r ystod o bwerau gorfodi statudol sydd ar gael iddynt, gan gynnwys y gallu i gynnal ymchwiliadau ffurfiol lle mae’n amau bod gweithred anghyfreithlon wedi digwydd.

Os na chymerir camau rhesymol gan fasnachfreintiau i atal aflonyddu rhywiol, gall yr EHRC gymryd camau gorfodi hyd yn oed os nad oes unrhyw aflonyddu rhywiol wedi digwydd mewn gwirionedd.